Ymgartrefais ar arfordir gogledd Cymru yn 2021, gan gyfnewid golygfa o foryd yr Humber am olygfa o Fôr Iwerddon pan oedd cyfyngiadau'r pandemig yn dechrau codi'n araf yng Nghymru. Mae gweithio fel curadur cymunedol mewn ardaloedd arfordirol a gwledig wedi effeithio'n ddirfawr ar fy ffordd o feddwl. Mae fy amser yma wedi deffro diddordeb ynof mewn dysgu sut mae diwylliannau'n ffurfio drwy ein cyrff, a'r berthynas a gawn gyda'r mannau lle'r ydym yn byw.
Yn draddodiadol, mae gogledd Cymru wedi ei phortreadu yn y celfyddydau gweledol drwy dirluniau bugeiliol, portreadau urddasol o bwysigion y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed, a golygfeydd rhamantus o ffermwyr yn gweithio ar y tir.
Ond mae cymunedau yng ngogledd Cymru heddiw yn wynebu'r realiti llym o argyfwng costau byw ochr yn ochr â thoriadau cyllid cymdeithasol. Mae hyn wedi cyfrannu at drafnidiaeth gyhoeddus sy'n aml yn ddrud ac yn aneffeithiol , straen ar y gwasanaethau cymdeithasol, a mannau diwylliannol a chymunedol sydd mewn perygl o gau. O gyfuno hynny gyda'i 6172 cilomedr sgwar o arfordir, cefnwlad a mynyddoedd eang, mae'r argyfyngau hyn yn effeithio fwyaf ar y rhai sydd mewn tlodi neu sy'n ynysig.
Dechreuais ar y stori hwn drwy chwilio am artistiaid y mae eu gwaith yn gwrthbwyso'r darluniadau gor-ramantus o ogledd Cymru. Drwy gyfrwng fy ymchwil, cefais hyd i dri artist yng nghasgliad STORIEL – Susan Adams, Michael Cullimore a Dan Llywelyn Hall – sy'n defnyddio'r ‘erchyll' yn eu gwaith, term newydd i mi a ddysgais wrth sgwrsio gyda Helen Gwerfyl, Curadur STORIEL.
Susan Adams: ffin ar ymylon y byd
Mae cyfres Susan Adams Waiting for Something 1–30 yn tarfu ar yr heddwch drwy ddangos pennau wedi eu torri o'u cyrff, pyped arswydus a cherrig wedi eu hysgythru â negeseuon dirfodol gan Santes Isiona ddychmygol.
Cynhyrchwyd y 30 paentiad, a wnaed dros 30 diwrnod, yn ystod cyfnod preswyl yr artist ar Ynys Enlli yn 2002 – sef Ynys yr Ugain Mil o Saint – sydd i'w gweld ger pen arfordirol Penrhyn Llŷn. Mae'r safle Cristnogol pwysig hwn yn denu pobl sy'n chwilio am heddwch, deffroad ysbrydol, antur a dealltwriaeth.
Mewn ffilm sy'n cyd-fynd â hwn, A Deep Breath, mae menyw ifanc yn disgrifio'r ynys fel lle tenau, rhyw fath o ffin rhwng nefoedd a daear, wrth i Adams ofyn i'r trigolion am y berthynas rhwng lle ac ysbrydolrwydd. 'Dydw i ddim yn chwilio am unrhyw beth' meddai archeolegydd wrth barhau i naddu'r ddaear a'r esgyrn. 'Dw i wedi darganfod sgerbydau cannoedd o bobl yma.' Claddfa yw Ynys Enlli, sy'n cynnal y byw a'r meirw fel ei gilydd.
Crëwyd Waiting for Something pan oedd adfywiad yn digwydd yn y mudiadau newid hinsawdd ar ddechrau'r 2000au. Mae'n datgelu sut mae cymuned, diwylliant a hanes sydd ynghlwm wrth ymylon daearyddol yn agored i lach y systemau ecolegol. Mewn sgwrs a gefais gyda'r artist Catrin Menai, oedd hefyd wedi byw ar yr ynys, datgelwyd bod cerrynt aflonydd y môr a thywydd garw'n gwneud y teithio i'r tir mawr yn anodd, ac mae prinder bwyd a dŵr o hyd yn fygythiad. Beth fyddai hynt artist sy'n creu gwaith ar yr ynys heddiw, wrth i'r hinsawdd ddod yn fwy peryglus ac anodd ei ragweld?
Michael Cullimore: cyrff dan draul
Mae gwaith Michael Cullimore Jonah – 16 astudiaeth yn cyflwyno delweddau o gyrff wedi eu plygu'n boenus, a'u peintio ar 16 panel bychan mewn olew, o fewn grid pedair wrth bedair. Mae'r astudiaethau hyn yn cyfleu stori Jona a'r morfil o'r Beibl, lle mae Jona yn cael ei ddal mewn storm, ei lyncu, ei dreulio a'i chwydu'n ôl yn fyw gan forfil.
Mae gwaith Cullimore yn canolbwyntio ar enydau o newid, gweddnewidiad, genedigaeth, pydredd a marwolaeth. Peintiodd hwn pan oedd yn 35 oed, yn ystod ei gyfnod fel addysgwr a churadur yn amgueddfa ac oriel gelf Prifysgol Bangor. Mae hi'n gyfres sy'n cysylltu nôl i draddodiad weledol o weithiau sy'n darlunio trawma a phobl yn cael eu bwyta, fel gwaith Goya Sadwrn yn Bwyta ei Fab a dehongliadau diwylliant pop cyfoes fel Ymosodiad ar Titan (Shingeki no Kyojin mewn Japaneg).
Wedi i Cullimore briodi gwraig o ogledd Cymru, ymgartrefodd y ddau yma ac adnewyddu bwthyn oedd yn mynd yn adfeilion. Cafodd y ddau bedwar o blant, ynghyd â moch, ieir a buwch Jersey fach. Mae ysgrif goffa Cullimore, ychydig dros ddegawd ar ôl y gweithiau hyn, yn datgelu ei fod wedi ei orfodi i ymddeol oherwydd iechyd gwael yn 47 oed, ac ymadawodd â Chymru i ddychwelyd adref i Wiltshire. Yn hwyrach ymlaen yn ei fywyd roedd poen osteoporosis yn lliwio ei ddyddiau, a chafodd ei gofrestru'n ddall. Fodd bynnag, parhaodd i beintio a gweithio yn ei stiwdio hyd ei farwolaeth yn 2021.
Mae corff Jona, sydd yn ymddangos wedi ei gnoi ac yn arnofio yn y dyfroedd gwelw yn y gyfres hon, yn teimlo fel proffwydoliaeth am salwch Cullimore – efallai y cafodd y gweithiau hyn eu paentio wrth i symptomau cyflwr Cullimore ddechrau dod i'r amlwg. Os byddwn ni'n darllen y stori hon o safbwynt y Model Cymdeithasol o Anabledd – sy'n nodi mai'r rhwystrau mewn cymdeithas sy'n ein hanablu ni, nid diffygion ein cyrff – mae hyn yn awgrymu nad oedd ei gyflogwr, na'r ffaith yr oedd Cullimore yn byw yng nghefn gwlad Cymru, yn creu sefyllfa oedd yn gefnogol o'i anghenion wrth i'w iechyd ddirywio.
Mae llynciad Jona yn ein rhybuddio ein bod ni'n fregus. Mae cyrff sydd wedi dod yn fwyfwy anabl oherwydd ynysu gwledig ac anghyfartalwch rhanbarthol yn arbennig o fregus, gan fod gofal meddygol a chymdeithasol yn aml yn rhy bell i ffwrdd.
Dan Llywelyn Hall: craith yn y tir
Ym mhaentiad Dan Llywelyn Hall o dirwedd Cambria, mae tarian gron bomiwr Canberra'r Awyrlu Prydeinig yn pipian allan ymysg y gweddillion, wedi i'r awyren daro llethrau Carnedd Llewelyn yn 1957.
Bu farw aelodau'r criw, William Albert Bell (31) a Charles Frederick Shelley (27) yn y gwrthdrawiad, a achoswyd gan fethiant y peiriant oherwydd rhew. Ar un adeg, yr enw ar yr ardal oedd ‘Y Fynwent' am fod cynifer o awyrennau wedi cael gwrthdrawiad yno – mae cymylau yn aml yn cuddio copaon y mynyddoedd.
Mae paentiad Hall yn dangos gwrthdrawiad llythrennol pobl â'r tir: mae'r gwrthrychau rhyfelgar wedi ei grafu i mewn i'r tirlun mewn paent. Am fod canolfannau awyr yn y Bermo ac ar Ynys Môn, mae awyrennau rhyfel yn hedfan yn aml dros gopaon Eryri wrth hyfforddi, gan atgoffa rhywun efallai o hanes cymhleth Cymru o dan ffiwdaliaeth ac imperialaeth Brydeinig.
Mae nifer o gymunedau Cymru'n dal i deimlo effeithiau canrifoedd o ddarostyngiadau, ymgeisiadau i chwalu ein diwylliant, ac ecsbloetiaeth ein gweithwyr, ein tir a'n cymunedau. Mae'r straeon treisgar hyn yn rhan o hanes hir o ddominyddu'r cymunedau dosbarth gweithiol gan wladwriaeth Prydain; a gwladychiaeth dramor yr oedd Cymru hefyd yn cyfranogi'n weithredol ynddi.
Caf fy nenu'n hawdd i feirniadu'r sefydliadau grymus hyn, ond ni ddylem golli empathi â'r peilotiaid ifanc a gollodd eu bywydau. Mae'r dinistr yn dyst iddyn nhw hefyd.
Rhagolygon llwm i ganfod llwybrau newydd
Mae pynciau a chyd-destunau anfoddog gwaith Adams, Cullimore a Hall yn archwilio sut mae'r ‘erchyll' yn ein tirwedd a'n diwylliannau – yn werthfawr.
Mae celf yn erfyn grymus ar gyfer dweud straeon ystyrlon, gan gynnwys rhai am brinder, anhygyrchedd a thrasiedi. Y cymunedau ynysig, fel y rhai sydd wedi eu gwasgaru ledled ardaloedd anghysbell gogledd Cymru, heb isadeiledd digonol, yw'r rhai sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan argyfyngau ecolegol, economaidd a chymdeithasol a'u sgil-gynhyrchion (fel rhyfel). Diogelu'r rhai sydd ar yr ymylon yw'r peth a fydd efallai'n dod ag achubiaeth gymdeithasol ehangach.
Efallai y gall yr artistiaid sy'n dod â'r erchyll i mewn i'w gwaith ddysgu rhywbeth i ni, a deffro synnwyr o argyfwng ynom ni a'n darbwyllo ein bod eisiau gweld newid.
David Cleary, curadur a hyrwyddwr
Cyfiethiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru