Yn ystod Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr yn 2022, mae Art UK yn dathlu'r cyfraniadau a wnaed gan wirfoddolwyr ein prosiect cerflunio.
Yn dilyn degawdau lawer o wasgu botwm fy nghamera fel ffotograffydd amatur (gyda rhai llwyddiannau), roeddwn i'n pendroni i le y byddai fy nhaith ffotograffig yn fy nghymryd wedi i mi ymddeol. Yna gwelais wahoddiad i gymryd rhan mewn prosiect cerflunio newydd i Art UK.
Gwirfoddolais ac yn ddiarwybod i mi, roedd un o fy ffrindiau lleol, Dainis, wedi gwirfoddoli hefyd. Aethom i'r diwrnod hyfforddi gyda'n gilydd a'r lleoliad a roddwyd i ni oedd… Cymru! Cawsom ein hesgusodi rhag tynnu lluniau'r Cymoedd ac arfordir y de (o leiaf ar y dechrau). Er hynny, roedd hon yn dasg enfawr oedd yn cynnwys deg sir a 6,600 milltir sgwâr o gefn gwlad.
Ein man cychwyn oedd cronfa ddata (heb ei diweddaru) Prosiect Cofnodi Cenedlaethol y Gymdeithas Cofebion a Cherfluniau Cyhoeddus oedd ag o leiaf 330 o wrthrychau gwahanol i ni ddod o hyd iddynt a thynnu eu lluniau. Wedi hynny, deuthum o hyd i lawer mwy drwy wneud gwaith ymchwil ein hunain a digwydd dod ar draws rhai. Cytunodd Dainis a minnau rannu'r gwaith yn ddaearyddol; cymerodd Dainis siroedd y de a chymerais innau'r rhai gogleddol. Felly, dechreuodd yr antur.
Yn y fan yma, hoffwn ddiolch i'm partner druan, Judith, am ei sgiliau llywio a'i llawenydd diddiwedd mewn pob math o sefyllfaoedd rhwystredig, ac am rannu'r boddhad gyda mi ar ddiwedd y diwrnodau llwyddiannus.
Roedd y dasg yn ymddangos yn ddigon syml – roedd y gronfa ddata'n dweud wrthym lle'r oedd y gwrthrych felly y cwbl oedd angen i ni ei wneud oedd gyrru yno a thynnu ei lun. Syml? Newidiodd ein barn yn fuan iawn! Dim ond chwe digid oedd y cyfeirnod grid a, hyd yn oed pan oedd yn gywir (oedd yn beth prin iawn), roeddem yn crwydro ar lwybrau drwy goedwigoedd ac ar draws caeau neu'n gyrru i fyny ac i lawr strydoedd pentref cul. Gallai codau post cefn gwlad gyfeirio at ardaloedd oedd yn mesur nifer o filltiroedd sgwâr. Ac roedd disgrifiadau'r gwrthrychau'n ddigon tila yn aml iawn.
Ond beth am y bobl leol? Mae'n siŵr y bydden nhw'n barod i helpu? 'Yn syth ar ôl yr ail fryncyn ar y dde' – doedd hynny ddim yn llawer o gymorth yn nhirwedd fryniog Cymru! Rhoddodd y postmon lleol gyfarwyddiadau i ni'n hyderus am ei fod yn adnabod yr ardal fel cefn ei law. Ar ôl awr aflwyddiannus, gwelsom y postmon eto a chyfaddefodd yntau nad oedd yn siŵr o leoliad y gwrthrych mewn gwirionedd. (Daethom o hyd i'r gwrthrych yn y diwedd, obelisg torredig, a sylweddoli ein bod wedi gyrru heibio iddo nifer o weithiau – roedd ynghudd yn erbyn coed a dim ond o un ongl benodol y gellid ei weld!).
Roedd y sefyllfa hon yn un nodweddiadol. Yn nodweddiadol hefyd oedd y cwpwl oedd heb sylwi ar gerflun tal ar lwyfan oedd yn sefyll tua 100 metr o'r fan lle'r oedden nhw wedi byw ers blynyddoedd lawer!
Er gwaethaf hyn i gyd, a'r milltiroedd a gerddwyd gennym, drwy law ac eira yn aml iawn a llaid hyd ein fferau weithiau, roedd yn hwyl. Yn heriol mewn pob math o ffyrdd, ond yn hwyl.
Roedd ein rhan fechan ni yn y prosiect hwn yn wobrwyol iawn i ni'n dau. Cawsom gyfarfod â nifer o gymeriadau diddorol a pharod i helpu a chlywed eu straeon a'u hanesion. Cawsom ymweld â nifer o bentrefi y byddem wedi gyrru'n syth drwyddynt heb feddwl ddwywaith fel arall – pentrefi na allem ynganu eu henwau (mae'n ddrwg gen i, rwy'n Sais!). Cawsom ddysgu cymaint o hanes, yn hynafol a modern, a thynnu lluniau cerfluniau o'r teulu brenhinol Prydeinig, tywysogion Cymru a gwleidyddion cenedlaethol y gorffennol.
Hefyd cawsom dynnu lluniau gwrthrychau oedd yn ymddangos yn ddigon diflas, fel cafnau dŵr a ffynhonnau yfed, ond roedd gan bob un hanes cyfoethog ac roeddent oll yn haeddu eu lle yn y cofnod.
Hoffwn ddweud hanes un lleoliad yn unig, am ei fod yn ymgorffori'r nodweddion a welwyd, yn rhannol, mewn cynifer o leoedd eraill – Treffynnon yn Sir y Fflint, tref sydd â chwedl gyfareddol a cherfluniau hardd, ond sy'n agos at safle treftadaeth lle cofir am orffennol tywyll.
Yn yr ardal i gerddwyr yng nghanol y dref mae cerflun mawr hardd o ddur gloyw wedi weldio, o'r enw Y Wyrth (The Miracle). Gofynnais i rywun lleol am leoliad y cerflun a dywedodd ei fod yn 'wastraff o £36,000 o arian y dreth gyngor'. Dyna un farn yn sicr, ond os cewch chi gyfle i'w weld, byddwn yn argymell hynny. Cafodd argraff arnaf i!
Mae'r cerflun yn coffáu'r Santes Gwenffrwd, merthyres a gwyryf a ddienyddiwyd gan Caradog, tywysog lleol yn y ddeuddegfed ganrif, am ei bod hi wedi ei wrthod. Cododd ffynnon o'r tir lle syrthiodd ei phen ond rhoddwyd bywyd yn ôl iddi yn ddiweddarach gan ei hewythr, Sant Beuno. Yn ôl y chwedl, gallai dŵr y ffynnon wneud gwyrthiau i iechyd pobl. Mae'r ffynnon hon yno hyd heddiw a gelwir Treffynnon yn 'Lourdes Cymru'.
Dyna chwedl hardd, lawn ysbrydoliaeth, ond dim ond dwy filltir i ffwrdd ar yr Afon Dyfrdwy mae hanes llawer mwy tywyll sy'n gwrthgyferbynnu â'r stori hon. Mae'r hanes hwn i'w gael ar Safle Treftadaeth Parc Maes Glas sydd werth ymweld ag o. Yno byddwch yn gweld cerfluniau ac ambell i fosäig hardd, ond hefyd res ddigon dinod ac anghyffredin iawn o frics yn isel ar y llawr. Gofynnais i un o'r staff beth oedden nhw a dywedwyd wrthyf eu bod yn cynrychioli'r rholiau copr oedd yn arfer cael eu cynhyrchu ar y safle diwydiannol.
Iawn, dyna i ni ddarn o hanes diwydiannol, ond roedd mwy o stori iddynt na hynny. Dywedwyd wrthyf fod mwyn copr o Fôn yn cael ei gludo yma ar longau lle cawsai ei doddi a'i rolio'n ddalennau copr. Yna byddai'r dalennau'n cael eu defnyddio i wneud breichledi copr gloyw a fyddai'n cael eu cludo i Affrica lle byddai un freichled yn prynu un caethwas Affricanaidd.
Cawsai'r bobl gaeth eu cludo i India'r Gorllewin lle cawsent eu gwerthu neu eu cyfnewid am gotwm. Cawsai'r cotwm ei gludo yn ôl i'r Afon Dyfrdwy lle cawsai ei brosesu ar yr un safle, a byddai'r cylch proffidiol hwn yn dechrau eto. Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi cael fy effeithio'n fawr gan y stori hon fel y cafodd ei hadrodd i mi.
Mae'n rhaid i mi gloi gydag ychydig o gasgliadau. Cawsom ddysgu cymaint am hanes Cymru a'r cymeriadau a'r digwyddiadau sy'n cael eu cofio gan gannoedd o gerfluniau. Gwelsom rannau hardd o Gymru na fyddem wedi cael rheswm fel arall i ymweld â nhw. Roedd yn waith caled yn aml iawn, ond roedd yn wobrwyol ar y cyfan,
Yn fwy na dim efallai, roeddem yn ymwybodol ein bod yn rhan o dîm oedd yn gyfrifol am greu cronfa ddata o luniau a fyddai ar gael i gyfeirio atynt mewn degawdau i ddod. Roeddem yn ddiolchgar am y cyfle hwnnw.
Tony Bennett, Gwirfoddolwr i Art UK
Mae Art UK yn diolch i bob un o'r gwirfoddolwyr a gyfranodd eu hamser i greu cofnod gwych o gerfluniau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Gallwch weld rhagor o ffotograffau gan wirfoddolwyr y prosiect cerflunio yn Curations: Oriel Ffotograffwyr Gwirfoddol Art UK.
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru