Yn aml fe ystyrir cerfluniau yn ddarnau o gelf hir-barhaol, yn enwedig y rhai sy'n sefyll yn ein mannau cyhoeddus ac sy'n rhan o'n casgliadau cyhoeddus. Cymharol ychydig o gerfluniau modern Prydeinig sydd o bobl o'r mwyafrif byd-eang. Mae'r rhai a fodolai cyn yr ugeinfed ganrif fel arfer yn tynnu sylw at nodweddion corfforol y person Du a bortreadir – naill ai fel dull o adloniant neu i dynnu sylw at gyflogaeth y person.
Yn y cyfnod modern, mae'r gynrychiolaeth o'r mwyafrif byd-eang wedi mynd trwy gyfnod o ddiwygio, fel y dengys gan y cerflun efydd o 1985, Darn Platfform 1.
Mae artistiaid yn aml yn ceisio cyfleu 'ysbryd' unigolyn mewn ffurf solet, ac roedd y cerflunwyr Jacob Epstein a Ronald Moody – fel Paul Robeson – yn rhyddfrydol, yn radical ac yn drugarog yn eu hagwedd ac yn eu celf.
Ganwyd Paul Robeson ym 1898 yn Princeton, New Jersey, UDA. Bu farw ym 1976, yn 77 oed, yn Philadelphia. Roedd e'n adnabyddus fel artist bas-bariton ac roedd hefyd yn gyfreithiwr, yn actor ffilm a llwyfan, yn chwaraewr pêl-droed proffesiynol, ac yn actifydd gwleidyddol enwog ledled y byd, gydag arbenigedd mewn dros ddwsin o ieithoedd.
Fe adawodd waddol eang, sy'n cynnwys elfennau o'i fywyd artistig, gwleidyddol, personol ac athletaidd. Mae Robeson yn aml yn cael ei weld fel artist a ddefnyddiodd ei gelf i gyfrannu at y chwyldro cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol. Roedd e'n ymgorffori'r syniad o ddyn y Dadeni ond yn hanesyddol mae e wedi'i hepgor, i raddau helaeth, o sylw cyhoeddus.
Cafodd fywyd personol a chymdeithasol Robeson ei ddylanwadu gan ei brofiadau o ryfel, o foderniaeth Americanaidd a'r gwaith tuag at ddad-drefedigaethu'r UDA. Fe ddaeth e'n artist ac actifydd llawn amser ar ôl rhoi'r gorau i'w yrfa fel cyfreithiwr yn sgil yr hiliaeth a brofodd yn y proffesiwn.
Llywiwyd yr ymateb cyhoeddus i Robeson yr actifydd gan wleidyddiaeth hiliol ac ymerodrol y cyfnod. Fe esblygodd ei ideoleg wleidyddol dros gyfnod o sawl blwyddyn, yn sgil effaith digwyddiadau byd-eang megis y Rhyfel Sino-Japaneaidd a'r mudiad hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau.
Ar ôl profi derbyniad personol yn Rwsia Gomiwnyddol, dwedodd Robeson 'Rwyf gartref… Fan hyn nid Negro ydw i ond dyn, a hynny am y tro cyntaf yn fy mywyd... cerddaf gydag urddas dynol llawn.'
Mae'r mynegiant hwn o ddynoliaeth a chydraddoldeb yn debyg i safwbwynt yr actifydd ac Arlywydd Du cyntaf De Affrica, Nelson Mandela.
Artist a anwyd yn America oedd Jacob Epstein, ac fe greodd gelfyddyd a fyddai'n aml yn ysgogi dadleuon; cafodd rai o'i gerfluniau cyhoeddus eu fandaleiddio a'u torri, wrth iddo frwydro i gyfleu dynoliaeth lawn y bobl a bortreadodd.
Ymgartrefodd Epstein ym Mhrydain; fe ddaeth a'i brofiadau fel ymfudwr i'w waith yma, ac fe ddefnyddiodd ei statws fel dieithryn i ddadansoddi a chyflwyno ffyrdd newydd o weld y sin celfyddydol ym Mhrydain ar gychwyn yr ugeinfed ganrif.
Fe greodd Epstein ei gerflun cyntaf o Robeson ar ôl ymweliad i Efrog Newydd ym 1927.
Mae cerflun efydd Epstein yn portreadu Robeson yn edrych i fyny ac yn syth ymlaen – osgo sy'n nodweddiadol o lawer o benddelwau'r artist.
Roedd Epstein yn gyfarwydd â phortreadu pobl a fodolai ar gyrion cymdeithas Prydain a'r Gorllewin.
Yn ei yrfa doreithiog (mae dros 300 darn o waith gan Epstein ar Art UK), mae sawl cerflun yn adlewyrchu ei arsylwadau o bobl ragorol a'r rheiny sy'n bodoli ar gyrion cymdeithas. Mae'r rhain yn cynnwys portreadau o'r artist bohemaidd Augustus John, a phenddelwau o bobl adnabyddus megis Albert Einstein, yn ogystal â phobl gymharol anhysbys, megis Victor, mab cogydd o Orllewin Affrica a weithiodd i'r teulu Epstein ym 1949.
Fe greodd Epstein y cerflun efydd gyda phantina gwyrdd o Victor, gan ei fod yn ystyried y plentyn ifanc yn 'fodel del a golygus'.
Fe gynhyrchodd Epstein ail benddelw cyhoeddus o Paul Robeson ym 1940. Unwaith eto mae Robeson yn ymddangos fel ffigwr sy'n dal ei ben yn uchel.
Yn y ddegawd cyn i'r cerflun gael ei gwblhau, fe rannodd Robeson ei gred mewn cydraddoldeb i bawb, ac fe ymunodd â'r frwydr dros dâl ac amodau gwell y glowyr yng Nghwm Rhondda yn ystod y 1930au. Bu Robeson gwrdd â glowyr o Gymru ar hap yn Llundain ym 1929, ac fe roddodd ei lais a'i gefnogaeth iddynt yn eu brwydr dros gydraddoldeb. Yn y blynyddoedd a ddilynai, fe anfonai Robeson gyfraniadau ariannol o'i gyngherddau i gefnogi glowyr Cymru. Fe gynhaliodd gyngerdd hefyd i lowyr yr Alban pan fu yn y wlad ym 1949.
Roedd Ronald Moody, o ynys Jamaica, yn gerflunydd a greodd ran helaeth o'i waith celf yn ei gartref newydd yn y DU, a ledled Ewrop. Roedd Moody yn arbrofol o ran y deunyddiau a ddefnyddiai. Yn ei gerflun o Paul Robeson o 1968 fe ddefnyddiodd gopr a resin i gynhyrchu tôn croen anwastad â gwead talpiog sy'n lledu o'r gwallt i'r croen. Dyma nodwedd sydd hefyd i'w weld yn y pâr o gerfluniau carreg gan Moody o 1958, The Youth a The Mother.
Ymddengys bod y cerfluniau hyn wedi'u harestio yng nghanol proses o drawsnewidiad, bron fel petaent yn tarddu o'r groth. Mae'r dewis o arwyneb anwastad ar y cerfluniau gorffenedig yn arwydd o anesmwythder a symudiad, ac yn awgrymu taith tuag at ddealltwriaeth.
Gellir ystyried delweddau Moody fel ffigyrau modern sy'n cynrychioli luosogrwydd hunaniaethau an-ewropeaidd y byd. Yn ei gerflun o Robeson mae Moody yn rhoi ei ymrwymiad i gyfanfydedd wrth galon y gwaith gan gyfuno'r cysyniad o lonyddwch tawel gyda'r egni o symud ymlaen. Gellir gweld y gwaith nid fel portread cerfluniol go iawn, ond fel delwedd uchelgeisiol o dwf, o berson sydd yn y broses o ddatblygiad dynol.
Mae'r ffaith bod Robeson yn rhan o gatalog o gerfluniau Moody yn awgrymu bod yr artist yn gweld Robeson fel cyfanfydwr: yn rhywun, fel ei hun, oedd yn cyfrannu at ddatblygiad diwylliant imperialaidd, nid dim ond yn ei dderbyn.
Fel dyn Du Caribïaidd ac Americanwr Du, roeddent ill dau'n adennill ac yn ail-ddychmygu diwylliannau imperialaidd Prydain ac America, ac yn hyrwyddo ffyrdd mwy creadigol ac egalitaraidd o statws Prydeinig, Americanaidd a byd-eang, a pharchusrwydd tuag at ddinasyddion.
Roedd archwilio deallusol yn aml yn cael ei gysylltu ag actifiaeth cymdeithasol a gwleidyddol rhagorol. I Robeson a Moody, roedd syniadaeth Pan-Affricanaidd, Comiwnyddol ac Oes y Goleuo yn rhan annatod o'u gwaith, eu creadigaethau a'r actifiaeth a oedd mor amlwg yn eu gwasanaeth cyhoeddus a gwleidyddol. Roedd syniadau Marcsaidd ynglŷn â chymdeithas y gweithwyr mor apelgar i Robeson nes iddo ymrwymo i'r Undeb Sofietaidd – ac fe anfonodd ei fab, Paul Robeson yr ieuaf (g.1928) i dderbyn ei addysg ym Moscow pan oedd yn blentyn naw oed.
Mae'r cerflun yma o Paul Robeson yr ieuaf, sy'n dyddio 1938, gan Jacob Epstein, yn dangos y diniweidrwydd llygad agored a fyddai hefyd yn nodweddu'r cerflun penddelw diweddarach o Victor yn blentyn, ym 1949.
Perfformiodd a theithiodd Robeson o amgylch y DU yn y 1920au a'r 1930au cynnar. Fe brofodd lwyddiant ysgubol yn dilyn ei ymddangosiadau cofiadwy yn Show Boat yn Theatr Drury Lane ym 1928 – dyma'r sioe a seliwyd Old Man River (y gân gan Jerome Kern ac Oscar Hammerstein) yn gân gysylltiedig â Robeson yn nychymyg y cyhoedd.
Drwy gydol ei yrfa, byddai Robeson yn newid geiriau'r gân wreiddiol gan ddileu'r gair sy'n cychwyn ag 'N' a'r geiriau sarhaus hiliol yn y fersiwn o'r ffilm o 1936. Roedd hyn yn arwydd o segurdod Du, i fod yn agosach at ei safbwyntiau byd-eang datblygol fe drodd y gân yn un o wrthwynebiad a herfeiddiad i ormes. Fe recordiodd Robeson dros 270 o ganeuon rhwng 1925 a 1961.
Roedd Robeson yn un o sylfaenwyr y Cyngor ar Faterion Affricanaidd ac yn awyddus iawn i gyflwyno deddfau gwrth-drefedigaethol a gwrth-ffasgaidd i gymdeithas fodern. Daeth hyn yn rhan o'i hanes o gefnogi achosion hawliau sifil, a pholisïau Sofietaidd, ac fe ddaeth dan sylw cynyddol yr FBI yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe wrthododd wrthdroi ei eiriolaeth wleidyddol yn gyhoeddus, ac o ganlyniad fe wrthodwyd pasbort yr Unol Daleithiau iddo, cafodd ei holl gyngherddau Americanaidd eu canslo, ac roedd ei fodd o ennill cyflog yn America yn gyfyngedig iawn am dros ddegawd. Er bod ei recordiadau yn parhau i werthu ym Mhrydain, roedd embargo ar anfon arian yr Unol Daleithiau i America ac felly disgynodd ei incwm.
Roedd Robeson hefyd dan ymchwiliad gan Gangen Arbennig Heddlu Metropolitan Llundain, a agorodd ffeil ar Robeson a'i wraig Eslanda ym 1933.
Fe gyfeiriwyd yn aml at Robeson fel 'Coeden Dalaf ein Coedwig' gan ei fod yn arweinydd a fyddai'n galw'n gyson am newid sosialaidd a chydraddoldeb; roedd e'n dalach na'r rhan fwyaf o'i gyfoedion ac, fel ysgolhaig, yn fwy deallus.
Robeson oedd y perfformiwr Du cyntaf i ganu yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain, gyda'i berfformiad ym 1958.
Mae gwaddol Robeson yn cynnwys arwain y ffordd i nifer helaeth o actifyddion eraill yn y mudiad Hawliau Sifil byd-eang. Fe ddywedodd mewn rali yn Albert Hall Llundain ar 24ain o Fehefin, 1937, 'Mae'n rhaid i'r artist gymryd ochr. Mae'n rhaid iddo ddewis brwydro dros ryddid neu dros gaethiwed. Rydw i wedi gwneud fy newis i. Doedd gen i ddim dewis.'
Mae'r ffaith bod Epstein a Moody wedi cynnwys portreadu Robeson yn symbol gweithredol o goffau, ond hefyd yn ganllaw i ddylanwadu ar feddyliau pobl y presennol a'r dyfodol.
Gellir defnyddio cerfluniau hefyd fel drych i adlewyrchu gwerthoedd, fel y gall y gwyliwr ddewis ailadrodd neu newid naws eu cymuned, eu perthnasoedd a'u diwylliant, yn sgil gweld y gwaith. Mae cerfddelwau a cherfluniau yn ffordd o agor sgwrs rhwng y gorffennol a'r presennol. Maent yn wersi hanes personol detholedig i'w rhannu â'r cyhoedd.
Gall Paul Robeson, dyn y Dadeni a grëwyd ar ffurf penddelw gael ei barchu a'i ailgreu, neu ei neilltuo i hanes, yn wers i'w dysgu ac yna'i anghofio.
Marjorie H. Morgan, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd a newyddiadurwr
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru