Mae cerfluniau cywrain a hynod realistig Annette Marie Townsend yn archwilio ein perthynas gyda natur, ein cyrff, a'r awydd i gasglu, astudio a deall y byd naturiol. A hithau'n enwog am ei sgiliau yn defnyddio technegau traddodiadol yn gweithio mewn cŵyr i greu modelau botanegol, mae'n Annette yn defnyddio'i gwaith i amlygu gwyddoniaeth hinsawdd o safon byd-eang, a'r angen brys sydd i ymchwilio, amddiffyn a gofalu am y byd naturiol.
Steph Roberts, Art UK: Fe ddechreuoch chi eich gyrfa fel Artist Gwyddonol yn Amgueddfa Cymru. Allwch chi ddweud mwy wrthon ni am hyn?
Annette Marie Townsend: Ar ôl i mi raddio gyda BA mewn Cynllunio Tecstiliau Cyffredinol a Phatrymau Arwyneb, roedd gen i bortffolio ardderchog o ddarluniau botanegol – mae blodau'n fotiff amlwg mewn tecstiliau patrymog – felly gofynnais i Geidwad yr Adran Fotaneg yn Amgueddfa Cymru a gawn i wirfoddoli fel darlunydd botanegol. Fel sy'n digwydd mewn bywyd, roedd yr amseru'n allweddol gan eu bod ar fin dechrau gweithio ar gyhoeddiad gwyddonol newydd. Ond yn hytrach na blodau, gofynnwyd i mi ddarlunio deinosoriaid a thirluniau gwern-goedwigoedd Carbonifferaidd – oedd yn bur wahanol!
Cefais fy mhenodi yn aelod o'r staff, ac yn ddiweddarach cymhwysais fel Gwarchodydd Gwyddoniaeth Naturiol. Roedd fy ngwaith yn amrywio o ddiogelu sbesimenau i fowldio a chastio dyblygiadau, a chreu darluniau, cerfluniau a dioramau ar gyfer yr orielau.
Mae gweithio mewn amgueddfa wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i mi. Dwi'n mwynhau archwilio'r rhesymau pam mae pobl yn cael eu hysgogi i gasglu, y systemau ar gyfer rhifo ac archebu, yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng sbesimenau, a'r holl waith sy'n gysylltiedig â'u mowntio a'u harddangos. Dwi hefyd wrth fy modd gydag adeiladau mawreddog yr amgueddfeydd, a sut mae sbesimenau (yn enwedig planhigion) yn cael eu casglu o bob rhan o'r byd a'u harddangos mewn gofodau tywyll, oer, yn aml mewn dinas – y cyfosodiad o ddeunydd planhigol bregus yn erbyn carreg, metel a gwydr.
View this post on Instagram
Steph: Beth yw eich hoff ddarn o'r casgliad cenedlaethol?
Annette: My Mother My Father My Sister My Brother ac In the House of My Father gan Donald G. Rodney. Dwi wrth fy modd gyda'r raddfa, a'r ffaith ei fod wedi creu'r darn o'i groen ei hun – deunydd mor anghyffredin, personol a heriol. Mae'n fychan bach, yn fregus, ac yn ymddangos yn ddibwys. Yn y ffotograff, mae'n ymddangos fel petai modd i'r artist ei wasgu'n chwilfriw mewn eiliad, ac eto mae'r gwaith yn rhyfeddol o bwerus.
Mae 'na sawl gwahanol naratif yn rhedeg drwy'r darn: teulu, hil, hunaniaeth, cartref, ymyriad meddygol, marwoldeb, poen a thostrwydd. Mae ailymweld â'r gwaith yn gwneud i mi sylweddoli gymaint o ddylanwad y gallai fod wedi ei gael ar fy ymarfer i fy hun.
Steph: Mae eich gwaith Creep yn cyffwrdd ar themâu tebyg o boen a thostrwydd...
Annette: Mae Creep yn ddarn arbennig ac iddo ystyr hynod bersonol. Roedd yn anodd ei wneud, ond hwn hefyd yw'r gwaith dwi'n fwyaf balch ohono. Cerflun yw Creep sy'n debyg i gadwyn llygad y dydd ddiniwed ar ffurf mwclis wedi'i llunio i ffitio'n glòs o amgylch fy ngwddf. Mae'r gwreiddiau'n ymestyn i lawr fy nghefn, ac yn cyffwrdd â'r graith hir sy'n cyd-redeg ag asgwrn fy nghefn. Pan o'n i'n 14 oed cefais ddiagnosis o adolescent idiopathic scoliosis, sef gwargrymedd siâp 's' yn fy asgwrn cefn. Cefais lawdriniaeth, lle gosodwyd rhoden fetel 30 centimetr o hyd yn sownd i'r asgwrn cefn.
Dwi wastad wedi teimlo'n hunanymwybodol ynghylch fy nghefn, felly roedd meddwl am gael y ffotograffydd Dewi Tannatt Lloyd i dynnu llun o'r darn ar fy nghorff yn anodd. Ond roedd gweld pa mor brydferth oedd y delweddau yn foment allweddol i mi. Cyn hynny, do'n i erioed wedi gweld llun o 'nghefn na'r graith.
Galwais y darn yn Creep oherwydd natur ymgripiol y blodau, y dail a'r gwreiddiau, ac oherwydd y ffordd ro'n i'n arfer teimlo amdanaf i fy hun a 'nghorff.
Mae'n ymwneud â pherffeithrwydd ac amherffeithrwydd, prydferthwch a gwerth, a phŵer natur i iacháu – ond hefyd ein hawydd i'w ystumio, a'r pryder sylfaenol hwnnw yn wyneb newid hinsawdd.
Steph: Ble rydych chi'n gweld eich rôl fel artist yn y frwydr dros gyfiawnder hinsoddol?
Annette: Fel artist, rhaid i chi bob amser ofyn i chi eich hun, 'Pam? Pam rydw i'n gwneud hyn?' Y 'pam' i mi bob amser yw creu gwaith sy'n gwneud gwahaniaeth mewn rhyw ffordd.
Dwi'n gobeithio bod fy ngwaith yn gwneud pobl yn fwy chwilfrydig ynghylch y pethau bach, bregus a chyffredin ym myd natur y gallent ddod ar eu traws bob dydd. O drychfilod yn eich gardd i chwyn yn tyfu drwy graciau yn y palmant . . . gall y cariad hwnnw at bethau bach byd natur wneud gwahaniaeth mawr. Os byddwn yn ei werthfawrogi ac yn gofalu amdano ar y lefel honno, bydd yn arwain at newidiadau arwyddocaol yn y modd ry'n ni'n ymddwyn.
Dwi'n gobeithio hefyd bod fy gwaith celf yn darparu drysau fydd yn arwain pobl i ddarganfod gwyddonwyr arloesol a'u hymchwil.
Er 'mod i'n berson eitha tawel, dwi'n sicr taw dyma fy ngalwedigaeth. Drwy fy ngwaith, gallaf siarad mewn llais uchel am rywbeth sydd o bwys gwirioneddol.
Steph: Yn ddiweddar, cafodd eich gwaith Paradise Lost ei arddangos yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol 2024. Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r gwaith hwn?
Annette: Cafodd Paradise Lost ei seilio ar afal Gala, math o afal sy'n boblogaidd yn yr Unol Daleithiau. Cerflun solet yw hwn a grëwyd o gŵyr oedd newydd ei gynhyrchu gan wenyn yn eu cychod gwenyn yn ystod cyfnod peillio afalau.
Mae'r gwaith yn barhad o gydweithrediad rhyngof i a'r Athro Cynorthwyol Scott McArt ym Mhrifysgol Cornell. Aeth Scott a'i dîm ati i gasglu'r cŵyr o berllan yn Nhalaith Efrog Newydd, a'i anfon i'm stiwdio i yng Nghaerdydd. Canfuwyd fod y cŵyr yn cynnwys gwaddodion plaladdwyr oedd yn uwch na lefelau consýrn EPA ac EFSA yng nghyd-destun datgelu cysylltiad acíwt ar gyfer gwenyn mêl. Ry'n ni wedi rhestru'r cemegolion amaethyddol hyn fel deunyddiau artist.
Nod y gwaith yw hyrwyddo trafodaeth ar y problemau o wneuthuriad dynol sydd wedi cyfrannu at y gostyngiad byd-eang mewn trychfilod peillio.
Mae'r teitl yn cyfeirio at gerdd epig gan John Milton, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1667, sy'n adrodd yr hanes Beiblaidd am Gwymp Dynoliaeth, y Ffrwyth Gwaharddedig, ac Adda ac Efa'n cael eu taflu mas o Ardd Eden; mae'r gerdd hon wedi ysbrydoli nifer o artistiaid, ac yn ymwneud yn sylfaenol â diwedd y byd.
Steph: Ry'ch chi'n aml yn gweithio gyda thechnegau traddodiadol modelu mewn cŵyr. Soniwch wrthon ni am y broses, a pham ei bod yn apelio atoch chi.
Annette: Byth ers yr ail ganrif ar bymtheg, mae cŵyr wedi cael ei ddefnyddio i greu modelau gwyddonol. Roedd creu modelau botanegol allan o gŵyr yn arbennig o boblogaidd yn y cyfnod Fictoraidd, pan sefydlwyd nifer o amgueddfeydd cyhoeddus. Defnyddid y cŵyr i greu modelau realistig o blanhigion, ffrwythau a ffyngau i'w harddangos mewn orielau. Roedd creu blodau mas o gŵyr yn weithgaredd poblogaidd gan fenywod yn oes Fictoria, ac yn fodd i rai ohonynt ennill incwm annibynnol.
Caiff cerfluniau botanegol cŵyr eu gwneud o gymysgedd o gŵyr gwenyn a chŵyr paraffin wedi eu toddi a'u lliwio â phigmentau wedi eu malu'n fân. Yna gall deunyddiau megis gwifren gopr a thun, sidan, papur, a gleiniau gwniadwaith eu brwsio â'r cŵyr neu eu dipio i mewn iddo i greu gwahanol rannau o blanhigion, sydd wedyn yn cael eu clymu a'u cysylltu â'i gilydd.
Mae'r broses yn apelio ataf i oherwydd ei bod yn hynod araf a manwl, ac yn aml yn fyfyriol. Mae cŵyr yn meddu ar ryw ansawdd hyfryd a byw. Dwi'n mwynhau creu gweithiau sy'n ymddangos yn real, ond hefyd yn afreal, a chanddynt eu cymeriad a'u bywyd eu hunain. Ambell dro, mae fy ngherfluniau fel petaen nhw'n ceisio dianc neu gerdded i ffwrdd oddi ar eu mownt!
Dwi hefyd yn mwynhau archwilio ystyr cŵyr gwenyn fel deunydd celf cyfoes, a sut mae'r gwerth hwnnw wedi newid.
Steph: Sut ydych chi'n eich diffinio eich hun fel artist?
Annette: Dwi'n fy niffinio fy hun fel artist hanes natur amlddisgyblaethol. Dwi'n mwynhau'r ffaith bod fy ngwaith yn anodd ei gategoreiddio, a dwi'n chwarae gyda hynny yn fy ngwaith trwy groesi ffiniau celf, crefft, gwyddoniaeth, a chadwraeth gwyddoniaeth naturiol.
Dydw i erioed wedi deall pam bod casgliadau gwyddonol a chasgliadau celf wedi cael eu gwahanu i'r fath raddau mewn amgueddfeydd. Mae hyn bob amser yn fy ngwneud yn rhwystredig, oherwydd mae'r ddau gasgliad yr un mor werthfawr a dwi wastad yn dychmygu'r posibiliadau anhygoel pan fo'r ddau fyd yn dod at ei gilydd.
Steph Roberts, Golygydd Comisiynu i Gymru, Art UK
Mae Tree of the Knowledge of Good and Evil yn cael ei gynnwys yn yr arddangosfa 'Homo Faber 2024: The Journey of Life', yn Fondazione Giorgio Cini, Venice, rhwng 1af – 30ain Medi 2024
Cyfiethiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Annette Marie Townsend a Sally Whyman, 'Aliens Escape the Herbarium', Natural Sciences Collections Association, 2023