Yn y gyfres ‘Saith cwestiwn gyda...‘ mae Art UK yn siarad gyda rhai o‘r artistiaid newydd a sefydledig fwyaf cyffrous sy‘n gweithio heddiw.

Mae Laura Ford (g.1961) yn artist o Gymru a fagwyd mewn teulu ffair theatrig, ac sydd wedi datblygu naratif emosiynol chwareus, digrif ac yn aml yn anesmwyth o gylch ei cherfluniau. Mae‘n archwilio cymeriadau hybrid, nad ydynt yn llwyr yn blentyn nac anifail, ond sy‘n datgloi ein gwendidau ac ymwneud â‘n hunan-blentyn. Cefais gyfle i sgwrsio â Laura yn ystod wythnos agoriadol ei harddangosfa unigol newydd, ‘Laura Ford: Under This Roof‘.

Laura Ford in the studio

Laura Ford yn y stiwdio

Melissa Munro: Cawsoch chi eich magu ym Mhorthcawl, tref glan-môr yn ne Cymru. Dwi wedi eich clywed chi‘n siarad am ddatblygu diddordeb mewn celf yn eich arddegau, pan ddechreuoch chi ymweld ag orielau yng Nghymru. Allwch chi gofio beth wnaeth eich ysbrydoli chi i fynd i goleg celf?

Laura Ford: Byddai fy Modryb Margaret, oedd wedi bod i goleg celf, yn mynd â fi i Oriel Gelf Glynn Vivian yn bur aml. Byddai fy modryb arall yn mynd â fi i Amgueddfa Cymru - byddai hi‘n mynd â ni fel chaperones pan fyddai‘n mynd ar ddêts. Roedd hyn yn golygu fy mod i wedi gweld llawer o gelf na fyddwn i wedi gallu‘i weld fel arall, fel The Lion Hunt gan Ceri Richards yn y Glynn Vivian.

The Lion Hunt

The Lion Hunt 1963

Ceri Giraldus Richards (1903–1971)

Glynn Vivian Art Gallery

Pan oeddwn i‘n bymtheg oed, cyflwynodd ffrind fi i waith David Hockney. Ro‘n i wir wedi fy ysbrydoli gan ei ddull ef o ddarlunio, ac o wybod fod posibilrwydd y gallech chi fod yn artist. Daeth ymweliadau i ganolfan gelfyddydau Chapter llawer nes ymlaen pan ddechreuais ymddiddori mewn ffasiwn. Roedd pync yn anhygoel yng Nghymru. Roedd llawer o ddilynwyr pync yn ymgasglu yn Chapter.

We Two Boys Together Clinging

We Two Boys Together Clinging 1961

David Hockney (b.1937)

Arts Council Collection, Southbank Centre

Melissa: Ydy hynny wedi bwydo i mewn i‘r wisg, ‘gwisgo lan‘ a hiwmor eich gwaith?

Laura: Ydy, yn bendant. Dwi‘n meddwl fod yr agwedd chwarae wedi deillio o rywbeth cynnar iawn. Fe roddodd fy mam ystafell chwarae i ni, ac roedden ni‘n cael gwneud unrhyw beth fynnem ni yno, fel peintio‘r waliau - unrhyw beth o gwbl - a gallai fod yn anniben drwy‘r amser. Roedden ni‘n chwarae gemau anhygoel yno. Byddai soffas yn troi‘n glogwyni; roedd y carped yn fôr. Roedd yn ein galluogi ni fel plant i fod yn ddychmygus iawn. Roedd y bocs gwisgo lan yn beth enfawr. Fel plentyn ifanc, byddwn yn mynd mas ac eistedd ar y bibell allanfa garthffosaeth ym Mhorthcawl a dychmygu mod i ar long danfor oedd yn mynd i‘r môr, ac mai cestyll oedd y creigiau. Mae fy null o fynd ati i greu cerfluniau‘n dal wedi‘i sylfaenu ar y dull hwnnw o chwarae.

Epstein's Magic

Epstein's Magic

2024, gwydr ffeibr wedi'i baentio, defnydd, dur a phren gan Laura Ford (g.1961)

Melissa: Yng Nghasgliad Celf y Llywodraeth mae ‘na waith o‘r enw Home (1983). Roeddech chi‘n dal i fod yn fyfyriwr yn Chelsea yr adeg honno. Allwch chi ddweud mwy am gyd-destun y gwaith hwn a beth roeddech chi‘n ei greu bryd hynny?

Home

Home 1983

Laura Ford (b.1961)

Government Art Collection

Laura: Ar y pryd, roedd ‘na gerflunydd enwog yn fy nysgu. Dwi ddim am roi unrhyw enwau [chwerthin] ond fe ddywedodd e, ‘Dwi‘n meddwl dy fod ti‘n artist rhagorol, ond y drafferth yw fod dy waith di‘n ffigurol, ac mae hynny wastad yn mynd i fod yn broblem.‘ Felly fe wnes i arbrofi am dipyn i geisio creu gwaith mwy haniaethol. Yn ystod y rhan fwyaf o ‘nghyfnod yn Academi Caerfaddon, roedd bygythiad o gael fy nhaflu allan o hyd, oherwydd mod i‘n gwneud y math ‘anghywir‘ o gerflunio. Yn ddiweddarach, fe es i i Chelsea, ac ro‘n i wedi ennill gradd dosbarth cyntaf o Corsham – math o gymeradwyaeth – ac felly ro‘n i‘n cael y negeseuon cymysg hyn yn dweud, ydy, mae dy waith di‘n wirioneddol dda ond mae‘n dal i godi embaras. Mae‘n ffigurol o hyd. Mae‘n dal i fod yr holl bethau hyn na ddylet ti fod yn eu gwneud. Dwi‘n dal i deimlo hynny gyda fy ngwaith. Dwi‘n gallu edrych arno fe a meddwl ei fod ar erchwyn bod ychydig yn sili. Dwi‘n hoffi ei fod e ar y dibyn yna, ond dyw e ddim yn teimlo fel lle diogel i fod.

Glory Glory (Hat and Horns)

Glory Glory (Hat and Horns) 2005

Laura Ford (b.1961)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Melissa: Yn 2005, fe wnaethoch chi gynrychioli Cymru yn Biennale Fenis, gan arddangos grŵp o weithiau o‘r enw Clod Clod (Glory Glory) sy‘n cynnwys Het a Chyrn a Beast. Sut ddaethoch chi i ffurfio‘r syniad ar gyfer y grŵp hwn o waith?

Laura: Fe ddeilliodd o gyfres o gyfweliadau, a chael fy holi ynghylch beth yw hi i fod yn Gymraes. Cefais fy mod i‘n rhoi‘r atebion slic, ansylweddol hyn oedd yn bwydo‘r syniad hwnnw am genedlaetholdeb. Pan oeddwn i‘n blentyn, ro‘n i‘n dwlu ar ddoliau mewn gwisg genedlaethol, ac roedd gen i gasgliad enfawr ohonyn nhw. Dechreuais feddwl am y rheiny a sut y gall hunaniaeth genedlaethol roi cryfder i chi, ond gellir ei ddefnyddio i greu rhyfeloedd a gwrthdaro hefyd. Mae‘r cerfluniau hyn wedi‘u gwisgo mewn gwisg genedlaethol, ond mae‘r cyfan yn un stwnsh, mae‘r cyfan yn anghywir oherwydd bod popeth mae pobl yn ei ystyried fel pethau cenedlaetholgar wedi‘i gamddeall beth bynnag.

Beast

Beast 2005

Laura Ford (b.1961)

Glynn Vivian Art Gallery

Melissa: Mae Weeping Girls yn waith sy‘n emosiynol gythryblus o ferched bach sy‘n ymddangos fel pe baen nhw ar goll yn y goedwig. Mae plant i‘w gweld yn fynych yn eich gwaith, gan gynnwys Stilt Boy I (2001) a darnau newydd o‘r enw Under My Roof a The Sad One (with Dogs). Ydy dod yn fam, a‘r gofidiau sy‘n dod yn sgil hynny, wedi dylanwadu ar eich gwaith?

Weeping Girls

Weeping Girls 2008

Laura Ford (b.1961)

Jupiter Artland

Weeping Girls

Weeping Girls 2008

Laura Ford (b.1961)

Jupiter Artland

Laura: Dwi‘n meddwl ei fod oherwydd mae‘n mynd â chi‘n ôl i‘r profiadau o‘ch plentyndod chi eich hunan, ond mae hefyd yn datgloi‘r hunan-blentyn. Dwi eisiau i‘r gwyliwr fod ychydig yn warchodol drostyn nhw hefyd. Mae‘r plentyn o‘n mewn yn bwysig iawn, a dydyn ni byth yn colli‘r teimladau hynny. Mae Weeping Girls yn berfformiadol iawn. Ar yr un llaw, maen nhw‘n edrych yn drallodus, ond maen nhw hefyd yn edrych yn felodramataidd. Ai dim ond perfformio ar ein cyfer ni maen nhw?

Stilt Boy I

Stilt Boy I 2001

Laura Ford (b.1961)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Melissa: Disgrifiwch ddiwrnod arferol yn y stiwdio.

Laura: Dwn i ddim a oes y fath beth â diwrnod arferol, ond bydd yn dechrau oddeutu 8.30 ac mae‘n dibynnu a oes gen i gynorthwyydd yn dod i mewn, felly fe allwn fod yn eu gosod nhw ar ben eu ffordd gyda‘u tasgau. Yna byddaf yn mynd o un cerflun i‘r llall, oherwydd fydda i byth yn gweithio ar un cerflun ar y tro yn unig. Fe fydda i‘n oedi i gael cinio gyda fy ngŵr Andrew. Mae‘i stiwdio fel drws nesaf i‘m un i, felly byddwn ni‘n picio i mewn ac allan i weld beth mae‘r naill a‘r llall yn ei wneud. Weithiau, byddwn ni‘n cael sgyrsiau hirach am bethau, os oes problem gyda‘r gwaith neu ateb na allwch chi mo‘i ddatrys. Mae e‘n dda iawn o ran dod o hyd i atebion technegol, a dwi‘n ei annog i ddod â mwy o elfen chwareus i‘w waith, ac mae e‘n annog hynny ynof i. Yna bydda i‘n gorffen gweithio tua 6pm.

Painting and Sculpture

Painting and Sculpture 2013

Andrew Sabin (b.1958)

Manresa Road, Chelsea

Rydyn ni wedi bod yn Ysgubor Matt Black Barn ers tair blynedd a hanner. Mae‘r holl le sydd gyda ni a‘r potensial sydd yno yn wych. Mae gyda ni barth serameg, stiwdio weithredol a stiwdio dawel ac mae ein cartref ynghlwm wrtho. Mae cael tirwedd i weithio gyda hi hefyd yn cynnig cymaint o botensial ar gyfer tyfu ein hymarfer.

Under My Roof

Under My Roof

2024, dur, Jesmonite a defnydd gan Laura Ford (g.1961)

Melissa: Gawn ni orffen gyda‘r arddangosfa newydd sydd gennych yn Oriel Bo Lee and Workman. Allech chi ddweud wrthym am eich gwaith newydd, yn enwedig gyd-destun y teitl ‘Under This Roof‘?

Laura: Daeth y teitl yn hwyrach, ond y peth wnes i sylweddoli oedd bod yr holl gysylltiadau hyn â‘r ffair, yr Eglwys Gatholig a ffilm gan Jean Cocteau o‘r enw Blood of a Poet (Le sang d‘un poète) y gwnes i gyfansoddi fy nhraethawd hir amdano. Mae llawer o linynnau sy‘n eu cysylltu ynghyd. Mewn ffordd y syniad yw bod dan un to, dan do Duw, to tŷ neu do pabell ble gallech chi greu sioe ynddi, ond hefyd y to seicolegol, gan feddwl am y meddwl fel to. Yr holl bethau hynny‘n cysylltu, dyna o ble daeth e.  

 
 
 
 
 
View this post on Instagram
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by Bo Lee and Workman | Contemporary Art Gallery (@boleeandworkman)

Melissa Munro, awdur a churadur llawrydd

Cyfiethiad o‘r Saesneg

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Adnoddau dysgu cysylltiol ar Art UK

Laura Ford‘s mixed media sculptures

Sculpture in focus: Giraffe by Laura Ford