Hyd at flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, roedd y diwydiant pysgota'n ffynnu ar lannau Sir Benfro, ac i fyny'r milltiroedd o ddyfrffyrdd sy'n rhedeg trwy'r ardal fel gwythiennau. Mae aber afon Cleddau, lle mae pedair afon yn cwrdd, yn rhan fawr o'r rhwydwaith hwn. Bu gan bysgota masnachol ran allweddol yn hanes yr aber â'i gyfoeth o sewiniaid, brithyllod ac eogiaid, ac anfarwolwyd y ffordd hon o fyw mewn paentiadau niferus o bysgotwyr wrth eu gwaith.
Fodd bynnag, ychydig o luniau sydd o'r menywod oedd yn cydweithio â'r dynion ac, yn aml, dydi'r rheiny ddim yn adrodd y stori lawn.
Yn Gwraig y Pysgotwr gan W. F. Noble gwelir menyw mewn dillad gwyn, a blodau'n tyfu ar y silff ffenest. Mae hi'n edrych yn ddedwydd, bron yn gwenu, wrth eistedd yn ei chartref yn syllu allan. Ychydig a wyddom am yr artist na'r stori y tu ôl i'r llun. Efallai mai dyma oedd bwriad Noble, ond mae'r darlun rhamantaidd hwn yn tanseilio rôl merched yn y diwydiant pysgota. Nid yw'r olwg dangnefeddus sydd arni yn rhoi unrhyw argoel i ni o'r oriau hir a'r gwaith caled, budr y byddai hi'n ei wneud wrth gydweithio â'i gŵr.
Mae Pysgotwr a'i Wraig gan Ida Jones yn portreadu menyw wrth ei gwaith. Cawn gip ar ei bywyd a'r hyn a wnâi i helpu i fwydo'r teulu ac mae'r pysgotwr ei hunan yn sefyll gerllaw. Ar wahân i waith tŷ a gofalu am y plant, byddai gwraig pysgotwr yn atgyweirio rhwydi ac yn rhoi abwyd ar y leiniau yn barod ar gyfer ei gŵr. Pan ddôi ef adref â'i helfa, byddai hi'n glanhau ac yn diberfeddu'r pysgod ac yna'n mynd i drefi fel Dinbych-y-pysgod a Hwlffordd i'w gwerthu.
Yn aml, gelwid y menywod oedd yn gwneud y tasgau hyn ac yn mynd i'r farchnad i werthu'r pysgod yn 'fishwives' – gyda'r 'wife' fan hyn yn dynodi'r hen air Saesneg am 'menyw' – ond yn hwyrach daeth i olygu menywod garw ac uchel eu cloch gan ddibrisio a sarhau gwaith y pysgotwragedd. Mewn gwirionedd, roedd y 'fishwives' yn gorfod bloeddio i ddenu cwsmeriaid – nid bod yn anweddus oedden nhw ond tynnu sylw er mwyn ceisio gwerthu eu pysgod.
Yn Pysgotwraig o Ddinbych-y-pysgod gan William Powell Frith gwelwn fenyw wrth ei gwaith eto, yn gwerthu pysgod cregyn yn Ninbych-y-pysgod y tro hwn. Er bod y teitl 'fisherwoman' yn cydnabod y fenyw yn ei hawl ei hunan, mae'n debygol ei fod yn deitl camarweiniol. Yn dilyn gwaith ymchwil trwyadl gan Jane Smallfield, credir mai llun o'i hen hen fam-gu Dolly Palmer yw hwn. Yn Ninbych-y-pysgod roedd Dolly'n gwerthu ei helfa ond roedd yn byw ac yn pysgota yn Llangwm, pentref bach ar aber afon Cleddau, ddeuddeng milltir o Ddinbych-y-pysgod.
Yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Llangwm yn bentref pysgota prysur a Dolly, fel llawer o fenywod eraill y pentref, yn gychwraig fedrus. Roedd yn berchen ar gwch ac yn mynd allan ar ei phen ei hun i bysgota am wystrys yn nyfroedd cymylog yr aber. Pan ddôi yn ôl i'r lan byddai'n glanhau ac yn piclo'r pysgod cregyn ac yna'n eu pacio mewn basgedi cyn cerdded i drefi fel Dinbych-y-pysgod, Doc Penfro a Hwlffordd – tipyn o ffordd – i werthu'r cynnyrch.
Efallai y byddai wedi dod ar draws yr artist ifanc, Gwen John, ar ei thaith. Tirlun yn Ninbych-y-pysgod, a baentiwyd yn 1896, yw un o'r gweithiau cynharaf y gwyddom amdano gan Gwen John, a byddai Dolly wedi bod yn ffigwr cyfarwydd yn Ninbych-y-pysgod bryd hynny.
Gwisgai pysgotwragedd Llangwm ddillad nodedig a oedd yn cynnwys het ffelt ddu â chantel llydan, sgert drwm a phais blàd goch – nid annhebyg i'r wisg Gymreig draddodiadol. Oherwydd y ddelwedd hon a'u gwaith anarferol, roedd y merched yn denu twristiaid a byddai pobl o bell ac agos yn ymweld â'r pentref i weld pysgotwragedd Llangwm. Ymddangosodd erthyglau newyddion amdanynt mor bell i ffwrdd ag America.
Efallai mai Dolly oedd y fwyaf adnabyddus. Roedd ei llun i'w gweld ar gardiau post a bocsys siocledi a deuai ffotograffwyr amlwg yr oes i Langwm i dynnu ei llun. Mae dau o'r lluniau hynny yn Amgueddfa Dinbych-y-pysgod.
Ar y pryd, roedd Llangwm wedi'i drefnu ar linellau matriarchaidd. Gan fod y pysgotwragedd yn gallu gwneud bywoliaeth ar y glannau yn agos at gartref, roedden nhw'n gallu aros yn y pentref, heb orfod gadael i chwilio am waith. Yn ogystal, roedden nhw'n cael dewis pwy i'w briodi a dal ati i weithio ar ôl priodi. Yng Nghyfrifiad 1881, cofnodwyd bod 28 o fenywod yn Llangwm yn gwneud bywoliaeth fel pysgotwragedd.
Bu Dolly'n briod a chafodd o leiaf naw o blant. Roedd o leiaf ddwy o'i merched hithau'n bysgotwragedd. Bu'n pysgota yn Llangwm am 70 o flynyddoedd ond, ryw bryd, medden nhw, gwerthodd ei gwisg nodedig i fenyw yn Ninbych-y-pysgod. Roedd yn 90 oed yn ymddeol yn 1932, a bu farw'r flwyddyn wedyn, ar ôl treulio'i hoes fel oedolyn yn ei thŷ bychan ar lan yr aber.
Erbyn heddiw, mae coffa da am Dolly a'i chydweithwyr yn y pentref. Mae gennym dystiolaeth o'u bywyd gweithiol mewn cofnodion a ffotograffau a, hefyd, ar ffurf tomenni cregyn ar lan y dŵr. Gadawyd yr haenau hyn o gregyn wedi'u malu – llinellau gwyn yn y ponciau llaid – gan bysgotwragedd a fu'n glanhau wystrys a chocos ar y lan. Maen nhw'n ein hatgoffa o waith arbennig y menywod hyn.
Mae llun Eric Atkinson, Sir Benfro yn ein hatgoffa o gysylltiad pobl â byd natur, yn enwedig mewn trefi a phentrefi gwledig lle mae'r berthynas a fu gynt mor agos o dan fygythiad. Mae'r lliwiau'n cyfleu'r gwahaniaeth rhwng tir a dŵr a llinell sgwâr y traeth yn awgrymu'r ffin rhwng dynoliaeth a natur – ond, er hynny, maent yn cyd-fyw.
Mae'r dyddiau pan oedd menywod yn gwneud bywoliaeth trwy ddal pysgod cregyn ger Llangwm yn hen hanes ac ychydig iawn o bysgota masnachol sydd yn y pentref – er bod llawer o welyau wystrys brodorol yn afon Cleddau o hyd. Fodd bynnag, oherwydd pryderon am lefelau carthion a gostyngiad yn nifer yr wystrys, mae'r afon yn Ardal Gadwraeth Arbennig ac mae prosiectau newydd ar y gweill i wella lefelau'r carthion a rhoi hwb i adfer y boblogaeth wystrys a fu unwaith mor doreithiog.
Lorna Snuggs, awdur
Cyfiethiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Cewch ragor am hyn yn y Casgliadau Tenby – A Portrait of the Sea a Women and the Sea ar Art UK
Darllen pellach
Margaret Brace (gol.), Llangwm: Captured in Time, 2022
David Evans (gol.), Pembrokeshire: Then & Now, Western Telegraph, 1988