Ers i mi gyrraedd Caerdydd, bu Amgueddfa Cymru yn gonglfaen fy mhrofiad yma. Yn fwyaf diweddar, taniwyd fy chwilfrydedd gan yr arddangosfa 'Drych ar yr Hunlun'. Mae'r arddangosfa'n holi'r cwestiwn 'ai'r hunanbortread yw'r hunlun gwreiddiol?' ac mae'n ein gwahodd i archwilio natur gymhleth hunanbortreadu a'r gyffelybiaeth rhyngddo â'n hunan-guradu ninnau ar lein.  

Mae hunanbortreadau a hunluniau'n rhannu sylfaen elfennol – dal ennyd o'r hunan mewn amser. Wrth gerdded drwy oriel yr arddangosfa a'i waliau tywyll, fe'm trawodd sut y mae pob gwaith yn taflu golau ar y cyswllt rhwng y ddwy ffurf hon ar hunan-fynegiant, ac ar yr un pryd yn adlewyrchu amrywiaeth hunanbortreadaeth yn ei gyfanrwydd.

Blod

Blod 2022

Anya Paintsil (b.1993)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae Blod gan Anya Paintsil fel petai'n llamu oddi ar waliau tywyll yr oriel. Gyda'i gefndir gweadog porffor-pastel ac edafedd sy'n goferu ohono, mae'n cynnig ymagwedd ffres ar bortreadaeth. Mae'r ffigwr yn y darlun yn seiliedig ar Blodeuwedd, cymeriad canolog o'r Mabinogi.

Cyfuna'r artist ei threftadaeth ddeuol – Cymru a Ghana – drwy gyfuno technegau traddodiadol gwneud carpedi â llaw a ddysgwyd iddi gan ei mam-gu o Gymru, gyda dulliau steilio gwallt Affro. Mae ein hunaniaeth yn beth hynod bersonol, ac eto, fe'i ffurfir gan ein treftadaeth ddiwylliannol, cymdeithas, perthynas a phrofiadau. I lawer o bobl, mae'r hunaniaeth hynod bersonol hyn hefyd yn wleidyddol. Cynigia portread Paintsil fewnwelediad i'w hunaniaeth hithau, ac ar yr un pryd mae'n myfyrio ar gyfoeth ac amrywiaeth Cymru, a chymhlethdodau cael treftadaeth ddiwylliannol hil-gymysg.

Blod

Blod 2022

Anya Paintsil (b.1993)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Saif ffigwr Paintsil gyda'i braich hir, ystumiedig yn fframio'i hwyneb, â blodau'n frychau haul dros y portread. Mae'r lliwiau llachar, fflat, yn creu'r cefndir perffaith i ystum y ffigwr – ystum sy'n anodd rhoi enw arno. Yn wahanol i wên arferol yr hunlun, neu'r dwyster a welir yn aml mewn hunanbortreadau traddodiadol, i mi, mae'r dannedd a wasgwyd at ei gilydd yn dynn yn cyfleu rhai o gymhlethdodau hunaniaeth. Teimla'r cyfansoddiad yn fyw, fel pe bai'r ffigwr wedi'i ddal ynghanol symudiad, gan bwysleisio'r her o ddal hunan sy'n esblygu'n barhaus mewn ennyd.

Mewn gwrthgyferbyniad â chelf gyfoes Paintsil, mae'r arddangosfa'n canolbwyntio ar hunan-bortread gan Vincent van Gogh, sydd ar fenthyg o'r Musée d'Orsay ym Mharis. Paentiodd Van Gogh dros 35 hunan-bortread yn ystod ei oes, ac erbyn heddiw mae'i frwydrau â'i iechyd meddwl yr un mor wybyddus â'i gelfyddyd. Mae pob cyffyrddiad brwsh yn ei Bortread o'r Artist yn sefyll mas yn erbyn cefnlen tywyll yr oriel.  

Portrait of the Artist

Portread o'r Artist

1887, olew ar gynfas gan Vincent van Gogh (1853–1890), ar fenthyg gan Musée d'Orsay

Cefais nad oedd modd i mi edrych ar y portread heb gofio am yr hyn a wyddwn am yr artist. Gyferbyn â'r hunanbortread lliwgar, gallaf osod fy ngwybodaeth am ochr dywyllach bywyd Van Gogh.

Mae rhywbeth bwriadol a chlos am yr hunan-bortread. Dyma wahoddiad gan artist i chi eu gweld, fel y gwelan nhw eu hunain - neu efallai sut y teimlant yn yr ennyd honno. Wrth edrych ar hunan-bortread Van Gogh, meddyliais am effaith ei fywyd ar y modd rydyn ni'n edrych ar ei waith heddiw.

Self-Portrait

Self-Portrait

Edna Clarke Hall (1879–1979)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Tra bo paentiad Van Gogh yn peri i mi fyfyrio ynghylch sut mae bywgraffiad artist yn siapio sut rydyn ni'n gweld eu hunanbortreadau, fe'm hysbrydolwyd gan Hunanbortread a Hunanbortread yn Ferch gan Edna Clarke Hall i feddwl sut y gall hunanbortread adlewyrchu cymdeithas yn ogystal â'r unigolyn yn y darlun. Mae ei gweithiau hi, sy'n aml yn cynnwys ei phlant a hithau, wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn y byd domestig, gan adlewyrchu'r cyfleoedd cyfyng oedd ar gael iddi hi fel menyw ac artist.

Wrth sgwrsio â churadur yr arddangosfa, tynnwyd fy sylw at y ffaith fod defnydd Hall ohoni hi ei hunan a'i phant fel modelau yn deillio o reidrwydd, o ganlyniad i gyfyngiadau ei hamgylchedd ffisegol a chymdeithasol. Roedd llawer o artistiaid benywaidd o gyfnod Clarke Hall yn gweithredu dan yr un math o gyfyngiad.

Self Portrait on Garnedd Dafydd

Self Portrait on Garnedd Dafydd 1938

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae Hunanbortread ar Garnedd Dafydd Brenda Chamberlain yn archwilio hunaniaeth sydd y tu hwnt i rywedd. Mae llygadrythiad dwys y ffigwr, y ffigurau fel cysgodion yn y cefndir, a'r gwrthgyferbyniad rhwng y cyffyrddiadau hyderus ei brwsh paent mewn rhai mannau â'r asio mewn mannau eraill yn ennyn sylw. Yn wahanol i hunlun, y gellir ei greu mewn eiliad, mae hunan-bortread Chamberlain yn adlewyrchu'r oriau o hunanholi a ddigwyddodd er mwyn iddi allu dal ei gwedd mewn paent. 

Mae'r dirwedd Gymreig yn y cefndir yn fwy na lleoliad: mae'n estyniad o'r artist ei hunan. Ymddengys fod y ffigurau cefndirol fel cysgodion fel pe baen nhw allan o le, gan ychwanegu ymdeimlad o densiwn. Efallai eu bod nhw'n awgrymu'r dylanwadau cymhleth y gall ffigurau o'r tu allan eu cael ar ffurfio hunaniaeth rhywun.

Darn hynod ddiddorol arall yn yr arddangosfa yw'r gyfres o gardiau Nadolig gan Angus McBean. Mae'r cardiau hyn, a gynhyrchwyd yn flynyddol o 1936 tan 1980 (oni bai am y ddwy flynedd pan garcharwyd McBean am fod yn hoyw) yn cynnig sylwadaeth ddwysbigol ar y modd y mae cymdeithas yn trin unigolion LHDTC+. Er nad yw'n cael ei esbonio ar label yr arddangosfa oherwydd cyfyngiad lle, mae manylion o'r fath yn bwysig i'n helpu i ddeall bywyd a gwaith yr artist.

Mae'r hunanbortreadau yn yr achos hwn yn gweithredu fel capsiwl amser, gan ddogfennu gallu a golwg McBean bob Nadolig dros amser. Mae absenoldeb yr hunanbortreadau yn ystod y ddwy flynedd pan oedd ef yn y carchar yn dogfennu'r agwedd at ddynion hoyw mewn cymdeithas bryd hynny.

Mae Portread o'r Artist: Tête farouche gan Augustus Edwin John yn wrthgyferbyniad i'r gweithiau eraill. Dengys y braslun anorffenedig hwn sgiliau'r artist,  ac ar yr un pryd mae'n rhoi cipolwg i ni ar y broses o greu celfyddyd. Mae'r label arddangosfa sy'n cyd-fynd â'r gwaith yn taflu goleuni ar hanes dadleuol John, yn enwedig ei dueddiad i gam-drin a manteisio ar fenywod, gan beri i rywun fyfyrio ar sut rydyn ni'n cofio ffigurau hanesyddol. Nid yn unig y mae hunanbortreadu'n ymwneud â'r modd rydyn ni'n gweld ein hunain, ond hefyd sut mae cymdeithas yn rhoi ffurf ar ein hunaniaeth.

Portrait of the Artist: 'Tete farouche'

Portrait of the Artist: 'Tete farouche' 1906

Augustus Edwin John (1878–1961)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae 'Drych ar yr Hunlun' wedi'i guradu yn angerddol ac ystyrlon, gan gynnig lle i ni archwilio beth sy'n cyfrif fel hunanbortread heddiw. A yw'n ymwneud â phortreadu'r hunan yn gywir, myfyrio ar berthynas, neu ddal y gymdeithas ble rydym ni'n byw a'n rôl ni ynddi? Yn y pen draw, awgryma'r arddangosfa fod hunaniaeth yn gymhleth, a bod hunanbortreadau'n ymgais i archwilio'r cymhlethdod hyn drwy gelf.

Felly, ai'r hunanbortread yw'r hunlun cyntaf? Rwyf o'r farn fod hynny'n gywir. Ond peidiwch â derbyn fy marn i – ewch i weld yr arddangosfa, tynnwch hunlun, a dysgwch drosoch eich hun.

Abike Ogunlokun, gweithiwr creadigol llawrydd

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Mae arddangosfa 'Drych ar yr Hunlun' i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 16eg Mawrth 2024 tan 26ain Ionawr 2025. Mae'n nodi ymweliad cyntaf hunanbortread Van Gogh â Chymru. Yn gyfnewid, mae un o hoff baentiadau Amgueddfa Cymru – La Parisienne gan Renoir – neu 'Y Fenyw Mewn Glas' – wedi teithio ar draws y Môr Udd. Mae'r cytundeb benthyca hwn yn dod â blwyddyn benodol Llywodraeth Cymru o weld Cymru yn Ffrainc i ben, blwyddyn a greodd ddolenni rhwng y ddwy wlad o ran masnach, diwylliant a chwaraeon.

Gallwch ddod o hyd i ragor o hunluniau ar Art UK gyda chyfres o Guradau sy'n cynnwys hunanbortreadau gan fil o artistiaid