Rydym ni'n byw mewn cyfnod swreal. Mae hwn yn syniad sy'n brigo i'r wyneb yn aml gen i, mewn ymateb i lu o brofiadau rwyf i wedi'u cael: o brydferthwch gorchfygol i lefelau o arswyd na allaf eu dirnad. Yn bennaf caiff y profiadau eu cyfryngu drwy ddrych du cyfareddol sgrin fy ffôn, sydd bob amser o fewn hyd braich, neu hyd yn oed rywsut yn gysylltiedig â fy nghorff.
Mae fy ffôn wedi ehangu fy realiti a hefyd fy syniadau am realaeth ei hun mewn ffyrdd di-droi'n ôl. Rwyf i wedi canfod adlewyrchiad o hyn mewn celf: mewn celf swrrealaidd a hefyd yn yr hen draddodiad o baentio golygfeydd drwy ffenest – gyda'r ddau beth o ddiddordeb penodol i mi.
Yma, rwyf i wedi dewis chwe phaentiad o gasgliadau yng Nghymru i edrych ar sut mae technoleg fodern yn ehangu ein dealltwriaeth o 'ffenestri', a sut rydym ni'n cysylltu â'n hamgylchoedd drwyddynt.
Mae Windows o waith Ken Elias yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn cynnig man cychwyn i'n hysgogi. Mae'r gwaith yn crynhoi'r syniad bod technoleg fodern yn cyfateb i ffenest – fel ffordd y gallwn ni wylio a phrofi'r byd – drwy daflunio'r olygfa o'r teledu mewn ffordd freuddwydiol wrth ochr ffenest 'go iawn' yr ystafell.
Mae agosrwydd y ddwy 'ffenest' yn y paentiad yn mynegi sut mae'r ddwy'n datgelu natur 'fyw' y byd sy'n symud. Gallem ehangu'r tebygrwydd hwn i gynnwys ffenestri technolegol eraill, o sgrin y cyfrifiadur i'r ffôn clyfar a phensetiau realiti rhithwir – gyda phob un yn ymestyn ein canfyddiadau ymhell y tu hwnt i gyfyngiadau ffisegol ein hamgylchedd uniongyrchol.
Nid yw ffenestri, y rhai arferol, yn gyfyngedig i adeiladau llonydd. Fy hoff ddull o deithio yw trenau, oherwydd y ffenestri mawr sydd ganddynt o'u cymharu â cherbydau eraill. Mae hyn, ynghyd â'r ffordd y datgelir y golygfeydd mor gyflym, yn hudolus i mi. Roedd ffenestri ar gerbydau cludiant ymhlith y cyfleoedd cyntaf i bobl allu profi byd newidiol heb iddyn nhw orfod symud, a thrwy hynny cawsom ein paratoi at ein perthynas fel defnyddwyr ffenestri sgrin ein ffôn, cyfrifiadur a theledu, gyda chynnwys y sgriniau yn eu tro yn llyncu ein sylw ninnau.
Yn View from a Railway Carriage; Snowdonia from the Cob o waith Anna Todd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, cynigir lens cyfareddol ar gyfer ystyried hanes gwylio tirluniau newidiol heb i ni orfod symud. Mae'r paentiad hwn yn ddiddorol yn y ffordd mae'n dewis darlunio'r tirlun yn llonydd, er mai anaml y bydd yr olygfa o gerbyd trên yn llonydd mewn gwirionedd.
Mae penderfyniad Todd i ddarlunio tirlun llonydd o drên sy'n symud yn tanlinellu'r tensiwn rhwng symud a llonyddwch. Mae hyn yn adlewyrchu ein profiad modern ni gyda sgriniau digidol, sydd hefyd yn gweithredu fel ffenestri datblygedig i leoedd ym mhen draw'r byd. Fodd bynnag, yn wahanol i'r arsylwi goddefol a wnawn drwy ffenest y trên, mae sgriniau digidol yn cynnig elfen o reolaeth i ni dros yr hyn rydym ni'n ei wylio, ac felly'n newid natur ein cyswllt â'r byd.
Caiff hyn ei ddatblygu ymhellach ym mhaentiadau swreal Tony Steele-Morgan South Wales a Tiger Mirror Box sy'n dangos ffenestri sy'n datgelu realaeth sy'n wahanol i'r hyn rydym ni'n disgwyl ei weld drwyddynt. Yn South Wales darlunnir amgylchedd naturiol, paradwysaidd, sy'n adlais o'n hawydd i gael golygfeydd pictiwrésg o natur yn ein cyd-destun lleol. Ond i lawer ohonom sy'n hanu o dde Cymru, nid yw'r ddelwedd hon o natur 'berffaith' yn debyg i'r hyn sydd i'w weld o drothwy ein cartref.
Mae'r gwaith hefyd yn codi cwestiynau ynghylch ein dyhead am leoliadau naturiol delfrydol fel rhan o'n hamgylchedd lleol. Yn ddiweddar mae'r dyhead hwn wedi cynyddu a chaiff ei ysgogi gan ein rhyngweithio gyda thechnoleg, sy'n ein bwydo bron yn barhaus gyda fersiynau delfrydol, wedi'u cyfosod, eu golygu a'u ffiltro, o fywydau sydd efallai'n bosibl eu byw, ond nid gyda'r rhwyddineb a ddarlunnir.
I'r gwrthwyneb, cyflwyna Tiger Mirror Box elfennau egsotig a phellennig i brofiad trefol drwy'r 'blwch drych' trosiadol. Mae'r gwaith hwn yn herio ein canfyddiad o'r hyn sy'n lleol drwy ddod ag elfennau gwasgarog o'r byd i mewn i'n profiad uniongyrchol, gan bylu'r llinellau rhwng y lleol a'r byd-eang. Mae'r cyferbyniad rhwng y ddau baentiad yn dangos rôl ddeuol technoleg: gall atgyfnerthu'r ffordd rydym ni'n gwerthfawrogi natur yn lleol ac ar yr un pryd integreiddio elfennau pell, amrywiol i'n bywydau beunyddiol, mewn ffordd nad oedd yn bosibl i genedlaethau'r gorffennol.
Mae paentiad Susan Adams yn y gyfres Waiting for Something, 1–30 hefyd yn llunio cyffelybiaeth rhwng ffenestri traddodiadol a sgriniau modern o ran eu swyddogaeth fframio. Mae ffenestri a sgriniau ill dau'n fframio gweithredoedd, a thrwy hynny yn datgelu ac yn cuddio ar yr un pryd. Yn aml fyddwn ni ddim yn sylwi ar y ddeuoliaeth hon wrth i ni dreulio cynnwys yn oddefol drwy'r sgrin, yn yr un ffordd ag y gallem fod yn eistedd wrth ffenest a gwylio'r byd yn mynd heibio.
Yng ngwaith Adams cawn ein gwahodd i fyfyrio ar sut mae'r dull gwylio goddefol, datgysylltiedig hwn wedi troi'n rhywbeth greddfol i ni yn sgil y ffordd rydym ni'n rhyngweithio â ffenestri a sut mae hyn yn trosglwyddo i'n harferion digidol.
Wrth gwrs, dydyn ni ddim bob amser yn ddefnyddwyr goddefol yn ein perthynas â ffenestri a sgriniau – mae ein cyfranogiad gweithredol drwy sgriniau'n amlwg – ac felly mae'r cwestiwn yn parhau: sut y gallai ffenestri ein datgelu ni i'r byd, yn hytrach na'r ffordd arall yn unig?
Yn Small Window at Night o waith Patrick Caulfield yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae'r ffocws yn symud gan edrych ar sut mae ffenestri'n ein fframio ni fel gwylwyr, yn enwedig mewn lleoliadau domestig. Yn y nos, pan fydd y llenni'n dal ar agor, mae ffenestri'n ein troi ni'n actorion ar lwyfan, gyda'r bobl sy'n cerdded heibio yn ein gwylio. Mae'r gwaith hwn yn tanlinellu pwysigrwydd cydnabod ein rôl, boed yn oddefol neu'n weithredol, mewn perthynas â'r amrywiol ffenestri yn ein bywyd.
Drwy fyfyrio'n ymwybodol ar y rhyngweithiadau hyn ac optio i mewn ac allan ohonynt, hoffwn gredu y gallwn ddeall yn well sut mae ffenestri'n dylanwadu ar ein canfyddiad o'r byd, a dechrau holi beth y gallem ddymuno ei wneud gyda'r dylanwad hwn: ei gynnwys yn ein penderfyniadau am sut yr hoffem fyw, yn hytrach na gadael i'w ddylanwad arnofio mewn ystafell – yn debyg i'r hyn y gallai ffenest ei wneud.
Umulkhayr Mohamed, artist, awdur, curadur ac addysgwr
Darllen pellach
John Berger, About Looking, Pantheon Books, 1980
Anthony Longo, Being and the screen: How the digital changes perception, 2019
Dr Divya P. Tolia-Kelly a'r Athro Gillian Rose (goln), Visuality/Materiality: Images, Objects and Practices, Ashgate, 2012
Bronislaw Szerszynski a John Urry, 'Visuality, mobility and the cosmopolitan: inhabiting the world from afar', British Journal of Sociology, 2006