Ar ben Comin Coedpenmaen (neu Gomin Pontypridd), â grŵn di-baid yr A470 i'w glywed islaw, saif dwy glogfaen fawreddog o dywodfaen Pennant, y naill yn gorffwys ar ben y llall. Un o olion rhewlifol trawiadol yr Oes Iâ ddiwethaf, ryw 11,500 o flynyddoedd yn ôl, yw'r Maen Chwŷf neu'r Garreg Siglo (Rocking Stone yn Saesneg), ac fe'i cyfrifir yn rhan ganolog o ddiwylliant Cymru ers canrifoedd.
Tref gymharol newydd yw Pontypridd, a ddatblygwyd wrth i'r Chwyldro Diwydiannol sgubo trwy gymoedd y de yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ar bymtheg. Tan 1856, câi ei galw'n Newbridge, ar ôl pont eiconig William Edwards a godwyd yn 1756 – pont un bwa hiraf Ewrop ar y pryd.
Wrth i'r boblogaeth yma ffynnu, i'r dwyrain o'r Hen Bont, daeth y Maen Chwŷf yn fan cyfarfod hwylus i gynulleidfaoedd Cristnogol lleol, a ymgasglai o'i gwmpas ar gyfer cyfarfodydd gweddi wythnosol. Hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynhelid ffair ar y comin bob dydd Llun y Pasg, â'r garreg yn ganolbwynt i'r dathliadau.
Fodd bynnag, gyda dyfodiad y saer maen, y bardd, y ffugiwr o fri a'r eicon diwylliannol Edward Williams – sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Iolo Morganwg – cafodd y Maen Chwŷf ddiben hollol wahanol. O dan ddylanwad delfrydau hynafiaethol a Rhamantaidd Cymry Llundain ynghylch derwyddon a Cheltigrwydd, aeth Iolo ati i sefydlu ffug-draddodiad barddol trwy gyflwyno'r byd i Orsedd Beirdd Ynys Prydain – cymdeithas o bobl nodedig a oedd yn adnabyddus am eu cyfraniad i hybu, datblygu a chyfoethogi diwylliant Cymru.
Er mai gerbron tyrfa chwilfrydig ar Fryn y Briallu, Llundain yn 1792 y cynhaliwyd seremoni gyntaf yr Orsedd, cafwyd sawl cynulliad ledled Cymru wedi hynny. Maes o law, daeth gwreiddiau Iolo yn Sir Forgannwg ag ef at y Maen Chwŷf a oedd, meddai ef, heb os yn gofeb dderwyddol hynafol. Cynhaliodd y gyntaf o lawer o seremonïau'r Orsedd yma ar y 1af o Awst 1814.
Yn sicr, ni fu'r chwiw dderwyddol farw gyda Iolo; parhaodd ei ddisgyblion niferus i ymroi i ddefodau Gorseddol wrth y Maen Chwŷf am flynyddoedd wedyn. Yn yr 1830au, ffurfiwyd Cymdeithas Cymreigyddion y Maen Chwŷf, dan arweiniad un o ddilynwyr mwyaf nodedig Iolo, sef Thomas Williams (enw barddol, Gwilym Morganwg) – landlord tafarn y New Inn gerllaw. Yma, cynhelid eisteddfodau yn gyson, yn aml mewn cysylltiad â chynulliadau'r Orsedd, gan feithrin doniau beirdd, cerddorion ac ysgolheigion yr ardal. Cafodd Gwilym ei hun ei urddo i'r Orsedd wrth y Maen Chwŷf yn 1814, ynghyd â mab Iolo, Taliesin Williams (Taliesin ab Iolo). Cyhoeddodd Taliesin lawer o lawysgrifau a ffugiadau mwyaf dylanwadol ei dad, yn anfeirniadol, ar ôl iddo farw.
Er bod llawer o'r gwaith rhagarweiniol ar gyfer y mudiad neo-dderwyddol oedd yn datblygu ym Mhontypridd wedi'i wneud erbyn hynny, y gwneuthurwr clociau a'r cyn-bregethwr lleol Evan Davies (enw barddol, Myfyr Morganwg) a lwyddodd yn y pen draw i roi lle anrhydeddus i'r Maen Chwŷf yn hanes diwylliannol Cymru.
Ac yntau wedi'i ysbrydoli'n rhannol gan y cyfnodolyn hynafiaethol Asiatick Researches, honnai Myfyr iddo ddatgloi cyfrinachau'r hen dderwyddon ac aeth ati i sefydlu ei ddysgeidiaeth ei hun ym Mhontypridd. Er bod ei weledigaeth yn wahanol iawn i gred Iolo gynt, daeth Myfyr hefyd o dan ddylanwad gweithiau hynafiaethwyr cynharach fel William Stukeley a John Aubrey. Felly, nid oedd yn syndod iddo gomisiynu cylch meini dwbl at ddibenion seremonïol o amgylch y Maen Chwŷf yn 1849 mewn ymgais i gadarnhau ei statws fel teml dderwyddol hynafol. I gwblhau'r gwaith, gosodwyd cyfres o gerrig llai, ar ffurf sarff yn arddull Stukeley, i ymdroelli ar draws y bryn â'r Maen Chwŷf yn ei chanol.
Erbyn 1852 roedd Myfyr wedi magu digon o hyder i gyhoeddi mai ef oedd 'Archdderwydd Ynys Prydain' – teitl a wrthodwyd cyn hynny gan Iolo a Thaliesin. Bu'n cyflwyno defodau mwyfwy ecsentrig a rhodresgar i'w ddilynwyr bob tri mis hyd nes ei fod yn 77 oed. I wneud hyn, safai'n droednoeth ar y Maen Chwŷf, pastwn yn ei law ac uchelwydd yn addurno tyllau botymau ei gôt.
Un o feirniaid mwyaf llafar Myfyr oedd yr hynod Ddr William Price, llawfeddyg arloesol, cenedlaetholwr, ac un arall a honnai mai ef oedd yr Archdderwydd. Roedd William Price yn gandryll fod llawer o bobl wedi derbyn honiad Myfyr mai ef oedd bia'r teitl a datblygodd ei ddysgeidiaeth dderwyddol ei hunan er mwyn hawlio goruchafiaeth fel gwir Archdderwydd Prydain. Gwnaeth hyn trwy gyflwyno maniffesto cryptig ar gyfer dyfodol Cymru. Honnai fod y cynnwys wedi ymddangos iddo mewn gweledigaeth broffwydol tra oedd yn y Louvre yn 1839, ac fe'i galwodd yn Gwyllllis yn Nayd, sef ei ffordd ef o ysgrifennu 'Ewyllys fy Nhad'.
View this post on Instagram
Fel Myfyr, roedd William Price yntau eisoes wedi gwneud ymdrech i ddiogelu'r Maen Chwŷf ar ôl sawl ymgais i'w ddinistrio gan bobl leol flin. Yn 1838, erfyniodd ar bobl i gyfrannu at adeiladu tŵr 100 troedfedd o uchder ar y comin i fod yn amgueddfa ar gyfer diwylliant Cymru. Byddai camera obscura ar y brig ac amcangyfrifai y byddai'r gost yn £1,000. Yn debyg i lawer o fentrau uchelgeisiol ac, o bosib, annoeth Price, methodd gasglu digon o arian. Daeth diwedd ar y prosiect pan fu'n rhaid i'r meddyg ffoi i Ffrainc i osgoi cael ei erlyn am ei ran annatod ym mudiad y Siartwyr a'i gysylltiad â Therfysg Casnewydd, 1839. Dyna pryd y cafodd ei ddatguddiad proffwydol ym Mharis.
Ar wahân i hunanfalchder y ddau ddyn, i lawer o'r neo-dderwyddon hyn, roedd y Maen Chwŷf yn cynrychioli bwrdd cymun cyn-Gristnogol, teml gysegredig ac arch y dduwies Ceridwen. Y gred oedd ei fod yn dal sudd pelydrau'r haul ar ffurf ŵy aur sanctaidd (neu'r ŵy cyfrin), y cyfrifid ei fod yn gyfrifol am y greadigaeth gyfan. Mae'r syniad yn llawn delweddau sy'n deillio o fytholeg a diwinyddiaeth diwylliannau eraill y byd – ond wedi'i ail-becynnu â naws Gymreig a thipyn o waith dehongli etymolegol dyfeisgar.
Cofnodwyd y credoau amrywiol hyn mewn sawl cyfrol gan Owen Morgan (Morien), newyddiadurwr ar y Western Mail a'r Archdderwydd gweithredol olaf. Pan fu farw Owen Morgan yn 1921 daeth diwedd ar y mudiad neo-dderwyddol ym Mhontypridd a Gorsedd y Maen Chwŷf.
Heddiw, mae'r garreg leiaf o'r ddwy yn swatio'n gyffyrddus ac yn ddisymud ar ben y fwyaf, a chenedlaethau o bobl, hen ac ifanc, wedi cerfio blaenlythrennau eu henwau ar ei hwyneb. Er nad yw'r gymuned leol yn ymgynnull yma yn eu miloedd bellach i fynychu darlithoedd a chyfarfodydd gweddi, nac i ymroi i ddefodau neo-dderwyddol lliwgar eu cyndadau, mae'r Maen Chwŷf yn dal yn symbol o hunaniaeth Pontypridd. Mae'r un mor bwysig a dylanwadol yn yr ardal â'r Hen Bont, yr anthem, y crochendy a'r gwaith cadwynau, y beirdd a'r cerddorion, ac – efallai – hyd yn oed Tom Jones.
Ac yn awr, ag Eisteddfod Genedlaethol 2024 ar ei ffordd i Bontypridd, mae hanes y Maen Chwŷf a'r criw amrywiol fu ynglŷn ag ef mor berthnasol ag erioed.
Dr Delyth Badder, arbenigwr llên gwerin ac awdur
Cyfiethiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Ronald Hutton, Blood and Mistletoe: The History of the Druids in Britain, Yale University Press, 2009
Geraint H. Jenkins (ed.), A Rattleskull Genius, University of Wales Press, 2005
Owen Morgan (Morien), History of Pontypridd and Rhondda Valleys, Glamorgan County Times, 1903
Rhys Mwyn, Cam i Forgannwg, Gwent a Brycheiniog: Safleoedd Archaeoleg yn Ne-ddwyrain Cymru, Gwasg Carreg Gwalch, 2024
Dean Powell, Dr William Price: Wales's First Radical, Amberley, 2014