Mae llawer o gasgliadau cyhoeddus wedi derbyn rhoddion a chymynroddion gan gasglwyr preifat. Ymhlith y casglwyr mwyaf hael ac arloesol roedd dwy Gymraes, y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies. Roedd eu cymynrodd i Gymru yn cynnwys un o'r grwpiau cyntaf a gorau ym Mhrydain o waith celf Argraffiadol ac Ôl-Argraffiadol Ffrengig. Aethant ati gyda'i gilydd i lunio'u casgliad, ond roeddent yn gwneud dewisiadau unigol, gan feddwl bob amser am les y cyhoedd a phobl Cymru.
Cafodd Gwendoline a Margaret – neu Gwen a Daisy – ynghyd â'u brawd David fagwraeth warchodol ond breintiedig ym Mhlas Dinam, Llandinam (Powys). Roeddent yn wyresau i David Davies, Llandinam, peiriannydd eithriadol lwyddiannus a wnaeth ei ffortiwn mewn diwydiant.
Roedd y teulu'n Fethodistiaid Calfinaidd ac yn gapelwyr selog. Roedd ganddynt gydwybod gymdeithasol gref a châi'r chwiorydd ddim mynd i ddawnsfeydd nac yfed alcohol. Roedd y ddwy'n ddibriod a buont yn byw yn y canolbarth ar hyd eu hoes, gan symud gyda'i gilydd i Gregynog yn y pen draw. Eu gobaith oedd gwireddu eu huchelgais o sefydlu canolfan gelfyddydol – canolfan oedd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth, celfyddyd a dysg.
Pan oeddent yn 25 oed, derbyniodd Gwendoline a Margaret gyfran yr un o ffortiwn y teulu. Roeddent yn eithriadol o gyfoethog. Bu'r ddwy'n teithio ledled Ewrop a'r tu hwnt a dyma pryd y datblygodd eu dealltwriaeth soffistigedig o gelf. Bu Margaret ar gwrs hanes celf yn Dresden yn 1907–1908 ac mewn dosbarthiadau yn y Slade. Bu hi'n ysgythru pren a bu'n paentio trwy ei hoes. Bu Gwendoline yn astudio celf ar ei theithiau hefyd, a chyfieithodd ddarnau am artistiaid a oedd o ddiddordeb iddynt o'r Ffrangeg i'r Saesneg.
Y chwiorydd eu hunain oedd yn dewis pa weithiau i'w casglu. Fel yr ysgrifennodd Gwendoline, 'Gwneud y dewis eich hun sy'n rhoi'r llawenydd mwyaf wrth gasglu unrhyw beth – gyda barn arbenigol, mae'n wir, ond mae yn braf dewis drosoch eich hun.' Bu ganddynt gynghorwyr ar y daith, yn cynnwys yr artist Murray Urquhart ac yn bwysicaf oll Hugh Blaker, brawd eu governess, Jane. Roedd Blaker yn artist, yn guradur Amgueddfa Holburne, ac yn fasnachwr a beirniad celf. Roedd yn frwd dros gelf fodernaidd. Byddai'n cynghori'r chwiorydd ac weithiau'n gweithredu ar eu rhan mewn arwerthiannau ac orielau.
Hyd y gwyddom, yn 1906 y prynodd y chwiorydd eu darlun cyntaf – llun dyfrlliw gan Hercules Brabazon Brabazon. Dechreusant gasglu o ddifrif yn 1908, gan wario symiau sylweddol o arian. Yn ystod pedair blynedd gyntaf eu casglu, prynwyd gweithiau gan artistiaid o Brydain a Ffrainc a oedd, yn aml, yn adlewyrchu'r gweithiau a welsant mewn orielau Ewropeaidd fel y Louvre. Prynwyd gweithiau gan Corot, yn cynnwys Castel Gandolfo. Roedd Margaret wedi edmygu paentiadau Corot yn y Louvre, gan werthfawrogi'r 'golau hardd sydd ynddynt i gyd, a'r meddalwch, a'r cyffyrddiad o liw a ddaw o'r ffigurau.'
Yn 1908, daeth gweithiau gan Turner i'w meddiant am y tro cyntaf. Gadawodd y chwiorydd 15 o baentiadau a lluniau dyfrlliw o waith Turner i Gymru, yn cynnwys Yr Oleufa (The Beacon Light). Roedd pobl yn talu prisiau mawr am waith Turner a gwariodd y chwiorydd Davies lawer mwy ar ei weithiau ef nag ar lawer o baentiadau'r Argraffiadwyr.
Roedd Millet yn ffefryn arall. Llwyddwyd i gasglu grŵp eithriadol o weithiau ganddo ef, yn cynnwys Bugeiles yn ei Heistedd, Y Teulu Gwerinol , a Gaeaf, Y Casglwyr Ffagodau (Winter, The Faggot Gatherers).
Yn 1912 dechreuodd eu casglu ddilyn trywydd newydd nodedig. Fel yr ysgrifennodd Hugh Blaker: '[Rwyf] wrth fy modd eich bod yn ystyried cael rhai enghreifftiau o waith yr Argraffiadwyr o 1870. Ychydig iawn o gasglwyr o Loegr … sydd wedi eu prynu o gwbl.' Roedd y chwiorydd yn prynu gwaith celf Argraffiadol cyn iddo ddechrau cael ei werthfawrogi na'i arddangos yn eang ym Mhrydain – penderfyniad anarferol.
San Giorgio Maggiore gan Monet oedd un o'r darnau Argraffiadol cyntaf i Gwendoline ei brynu, gan adlewyrchu hoffter y chwiorydd o Fenis. Roedd Monet yn un o'u hoff artistiaid ac fe adawsant wyth paentiad ganddo i Gymru, yn cynnwys Pont Charing Cross a thri o'i baentiadiau o lilïau'r dŵr.
Penderfyniad arloesol arall ar y pryd oedd prynu Menyw a Phlentyn mewn Dôl yn Bougival o waith Berthe Morisot. Am flynyddoedd, hwn oedd yr unig ddarn gan artist o fenyw yng nghasgliadau'r chwiorydd.
Yn 1913 prynodd Gwendoline y paentiad La Parisienne gan Renoir. Erbyn hyn, y darlun eiconig hwn yw darn enwocaf casgliad y chwiorydd Davies. Roedd i'w weld yn yr arddangosfa gyntaf o waith Argraffiadol yn 1874 ac mae pobl Cymru'n cyfeirio'n annwyl at y llun fel Y Fenyw Las.
Er bod y chwiorydd yn ymroi i waith elusennol yn ystod y rhyfel, roeddent yn dal i gasglu. Roedd Gwendoline yn gwirfoddoli gyda'r Groes Goch Ffrengig. Tra oedd yn helpu i redeg ffreutur yn Troyes, bu ar ymweliad â Pharis a phrynu paentiadau o orielau fel Bernheim-Jeune, yn cynnwys eu darnau cyntaf o weithiau gan Cézanne.
Gan fod ymosodiadau cyson ar Baris, cludwyd darlun Cézanne, Argae François Zola yn syth yn ôl i Brydain a chafodd ei arddangos yn gyhoeddus yng Nghaerfaddon ar unwaith. Roedd y chwiorydd yn rhoi benthyg eu gweithiau yn aml i arddangosfeydd ledled y Deyrnas Unedig. Cynigwyd rhoi benthyg Argae François Zola a Bywyd Llonydd â Thebot i'r Tate, ond fe'u gwrthodwyd i ddechrau gan arwain at ddadl gyhoeddus. Pan gawsant eu derbyn yn y pen draw, yn 1922, roeddent ymhlith y gweithiau cyntaf gan Cézanne i gael eu harddangos mewn oriel genedlaethol ym Mhrydain.
Yn ôl yng Nghymru, bu'r teulu Davies yn annog artistiaid, beirdd a cherddorion a oedd ar ffo o Wlad Belg i ddod i Gymru. Yn eu plith roedd y cerflunydd George Minne, a Valerius de Saedeleer. Fe wnaethon nhw eu cynnal a phrynu rhai o'u gweithiau.
Yn 1920 prynodd Gwendoline waith nodedig arall, Glaw, Auvers gan Vincent van Gogh. Paentiwyd ef ychydig ddyddiau cyn i'r artist farw ac mae'n un o'r gweithiau cyntaf ganddo i fod yn rhan o gasgliad Prydeinig.
Rhoddodd Gwendoline y gorau i gasglu yn 1926. Aeth llawer o sylw'r chwiorydd i waith dyngarol ac i'w cartref, Gregynog. Ond daliodd y ddwy ati i gefnogi celf yng Nghymru. Roeddent yn arbennig o gefnogol i Augustus John a chasglwyd nifer dda o'i baentiadau, ei luniau dyfrlliw a'i brintiau. Mae'n ddiddorol nodi na phrynodd y naill na'r llall waith gan ei chwaer, Gwen John.
Yn 1951, daeth rhan Gwendoline o'r casgliad celf yn gymynrodd i Amgueddfa Cymru, gan drawsnewid casgliad cenedlaethol Cymru.
Ailddechreuodd Margaret gasglu yn 1934 gan ddal ati tan y flwyddyn cyn iddi farw. Canolbwyntiodd y tro hwn ar waith celf Prydeinig yr 20fed ganrif, yn cynnwys Harbwr Brown gan Terry Frost. Roedd ei golygon hi, wrth gasglu, ar sicrhau casgliad cyhoeddus, cenedlaethol i Gymru.
Gadawyd y rhan fwyaf o gasgliad Margaret i Amgueddfa Cymru yn 1963, gan aduno ei chasgliad hi â chasgliad ei chwaer. Cynigwyd gwerthu gweithiau eraill yng nghasgliad Margaret i Brifysgol Cymru, ac mae rhai'n dal i'w gweld yn Neuadd Gregynog.
Heddiw, mae gan Gymru gasgliad celf cenedlaethol o bwysigrwydd rhyngwladol, a hynny i raddau helaeth oherwydd gwaith casglu arloesol a haelioni Margaret a Gwendoline Davies. Cafodd eu hangerdd dros gelfyddyd effaith wironeddol ryfeddol ar fywyd diwylliannol Cymru.
Beth McIntyre, curadur a hanesydd celf
Hoffem gydymdeimlo â theulu a ffrindiau'r Arglwydd David Davies, Llandinam a fu farw ym mis Chwefror eleni. Roedd yn or-nai i'r chwiorydd Davies ac yn hael a mawr ei ofal mewn perthynas â'u gwaddol
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Cyfieithiad o'r Saesneg
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Ann Sumner, Goleuni a Lliw: 50 o weitihau Argraffiadol yr Amgueddfa, 2005
Bethany McIntyre, Chwaeth y Chwiorydd: Gweithiau ar Bapur o Gasgliad Davies, 2000
Trevor Fishlock, A Gift of Sunlight: The fortune and quest of the Davies sisters of Llandinam, 2014