'Does ond un ystum sy'n addas i artist yn unrhyw le, ac ar ei draed mae hynny.' – Dylan Thomas
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1af Mawrth – ac, yn sgil hynny, i ddathlu popeth Cymreig – dyma i chi ddetholiad o artistiaid anhygoel o Gymru.
1. Richard Wilson
Mae'n bosibl mai Richard Wilson (1713/1714–1782) oedd yr artist tirluniau cyntaf o bwys ym Mhrydain – ac roedd e'n Gymro! Fe lwyddodd Wilson i drawsnewid tirlun o fod yn gelfyddyd a oedd yn bennaf yn dopograffaidd, i un a allai gyfleu syniadau ac emosiynau. Câi Wilson ei edmygu'n fawr gan artistiaid mwy diweddar, megis Crome, Constable a Turner.
Ysgrifennodd John Ruskin, y beirniad celf Fictorianaidd: 'gyda Richard Wilson, cychwynodd hanes celf tirlun diffuant wedi'i seilio ar gariad myfyriol o fyd natur yn Lloegr' (bydd raid i ni faddau i Ruskin, gan nad oedd fel petai'n gwybod y gwahaniaeth rhwng Lloegr a Chymru...!)
2. Thomas Jones
Cafodd Thomas Jones (1742–1803) ei addysgu gan Richard Wilson. Peintiodd rai tirluniau clasurol, uchelgeisiol dan ddylanwad gwaith Wilson, ond mae'n fwyaf adnabyddus heddiw am y brasluniau mewn olew a grëwyd ganddo yn Naples a Rhufain rhwng 1776–1783; mae'r rhain ymhlith yr enghreifftiau cyntaf o'r math yma o fraslun awyr-agored gan artist o Brydain. Ychydig iawn o beintio a wnaeth Thomas Jones ar ôl 1789, pan etifeddodd ystad y teulu ym Mhencerrig, a bu'n byw fel gŵr bonheddig am weddill ei oes.
3. Penry Williams
Cymro oedd Penry Williams (1802–1885), ond fe dreuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn Rhufain ar ôl symud yno yn 1827. Am gyfnod o hanner canrif, roedd ei stiwdio yn Rhufain yn atyniad i ymwelwyr o Loegr. Roedd mewn perthynas gyda'i gyd-Gymro, y cerflunydd John Gibson. Bu farw yn Rhufain, y Ddinas Dragwyddol, yn 1885.
4. Christopher Williams
Ganed Christopher Williams (1873–1934) ym Maesteg. Roedd ei dad yn awyddus iddo fod yn feddyg, ond ar ôl i'r mab ddod ar draws Perseus ac Andromeda gan Frederic Leighton yn Oriel Gelf Walker, Lerpwl, pan oedd yn 19 oed, rhoddodd ei fryd ar fod yn artist.
Yn ogystal â chynhyrchu nifer o dirluniau celfydd o Gymru a gwledydd Ewropeaidd eraill, bu hefyd yn peintio delweddau o'r Mabinogion, gan gynnwys Blodeuwedd, uchod.
Cafodd ei gomisiynu i greu portreadau o fawrion y genedl, o'r teulu brenhinol i'r Prif Weinidog o Gymru, David Lloyd George (yn wir, fe beintiodd dri darlun ohono ef!) Disgrifiwyd Williams gan Lloyd George fel 'un o'r artistiaid mwyaf talentog a gynhyrchwyd yng Nghymru erioed.'
5. Gwen John
Yn ystod ei hoes roedd gwaith Gwen John (1876–1939) yng nghysgod gwaith ei brawd ieuengaf, Augustus, ond dros y blynyddoedd mae ei phoblogrwydd wedi cynyddu. Mae'r hunan-bortread hwn yn drawiadol yn ei ddefnydd o liw, ac am y modd y mae John yn ymddangos yn ynysig, sydd efallai yn adlewyrchu ei theimladau ynglŷn â'r byd celf, a oedd ar y pryd wedi ei ddominyddu gan ddynion.
6. Augustus John
Augustus John (1878–1961) oedd brawd iau Gwen John. Ac yntau'n cael ei ganmol a'i ddathlu drwy gydol ei fywyd, ef oedd yr ymgorfforiad perffaith o'r artist bohemaidd anwadal. Efallai bod ei bywyd lliwgar wedi tarddu o ddamwain a gafodd pan anafodd ei ben; gallai'r anaf fod wedi newid ei bersonoliaeth – ac o bosib ei arddull artistig hefyd. Mae e bennaf yn adnabyddus am ei bortreadau (gan gynnwys ei bortread o Dylan Thomas), ac erbyn heddiw mae bron i 300 o'i weithiau mewn casgliadau cyhoeddus ar draws y DU.
7. Margaret Sidney Davies
Roedd Margaret Sidney Davies (1884–1963) yn gasglwr celf ac yn noddwr brwd o'r celfyddydau. Ynghyd â'i chwaer Gwendoline, casglodd nifer fawr o weithiau celf Argraffiadol, Ôl-Argraffiadol, a chelf yr ugeinfed ganrif. Ar ôl marwolaeth y ddwy chwaer gadawyd y rhain yn eu hewyllysiau i Amgueddfa Cymru. Cafodd eu cartref, Gregynog Hall, hefyd ei gyflwyno'n rhodd i Brifysgol Cymru, a gallwch weld y gweithiau celf sy'n dal i fod yn Gregynog ar Art UK. A hithau wedi ei hysbrydoli gan Van Gogh, peintiodd Davies ei hymateb ei hun i'w ddarlun ef, Sunflowers.
8. Brenda Chamberlain
Yn ogystal â bod yn artist, roedd Brenda Chamberlain (1912–1971) hefyd yn fardd a nofelydd. Enillodd y ddwy Wobr Aur gyntaf erioed i'w cyflwyno gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn y categori Celfyddyd Gain. Bu'n briod am gyfnod byr gyda John Petts, artist o Gymro. Mae'r hunan-bortread trawiadol hwn yn ein hatgoffa o gyfansoddiad paentiadau cyfnod y Dadeni, gyda'r osgo wyneb-llawn a'r dirwedd niwlog yn y cefndir.
9. Will Roberts
Artist Mynegiadol oedd Will Roberts (1907–2000). Cafodd ei eni yn Rhiwabon, sir Ddinbych, cyn symud i Gastell-nedd ym Morgannwg yn 1918. Yn 1945, cyfarfu Roberts â Josef Herman, artist o Wlad Pwyl a oedd yn byw yn y dref gyfagos, Ystradgynlais. Câi Roberts ei ddylanwadu gan waith Herman a chan ei gymuned leol, gan beintio darluniau o weithwyr diwydiannol a ffermwyr, ynghyd â golygfeydd domestig o fywyd teuluol. Yn 1962, enillodd y paentiad hwn, Fferm yng Nghimla (Farm at Cimla), Wobr Byng-Stamper am baentiad o dirlun, gyda Syr Kenneth Clark yn beirniadu. Roedd Will Roberts yn aelod o'r Grŵp 56 Cymru, sydd â'r nod o godi proffil celf fodern Gymreig.
10. Kyffin Williams
Artist a gwneuthurwr printiau oedd Kyffin Williams (1918–2006); roedd yn adnabyddus am ei ddarluniau o dirluniau ysgithrog ac o fywyd ffermwyr yng Nghymru. Ac yntau'n cael ei gydnabod fel un o artistiaid Cymreig mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif, roedd ei ddull anghonfensiynol o ddefnyddio paent, a'i arddull unigryw gyda chyllell-balet, yn gwneud ei weithiau'n adnabyddus ar unwaith. Gallwch brynu nifer o brintiau o waith Kyffin Williams yn siop Art UK.
11. Joan Elizabeth Baker
Bu Joan Elizabeth Baker (1922–2017) yn dysgu yng Ngholeg Celf Caerdydd o 1945 hyd 1983 – hi oedd y fenyw gyntaf i redeg adran gelf fawr yng Nghymru. Er iddi gymryd rhan mewn rhai sioeau grŵp, anaml y byddai'n arddangos ei gwaith, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ddysgu. Ymhlith ei disgyblion roedd Ernest Zobole. Ar ôl iddi ymddeol o'i gyrfa fel athrawes, parhaodd i beintio hyd ei marwolaeth yn 2017, yn 94 oed.
12. Ernest Zobole
Ganed Ernest Zobole (1927–1999) ym mhentref Ystrad yn 1927, i deulu o fewnfudwyr o'r Eidal oedd wedi symud i Gymru yn 1910. Treuliodd bum mlynedd yn derbyn hyfforddiant yng Ngholeg Celf Caerdydd, lle cafodd ei addysgu gan Joan Baker. Roedd yn trafod celf yn aml gyda phump o'i gyd-fyfyrwyr wrth iddynt gymudo o'r cymoedd, a byddai pobl yn cyfeirio atynt fel Grŵp y Rhondda. Roedd Zobole'n enwog am ei ddehongliadau lliwgar o fywyd bob dydd sy'n herio syniadau confensiynol am realiti ac ymddangosiad.
13. Gwilym Prichard
Peintiwr tirluniau oedd Gwilym Prichard (1931–2015). Yn aml mae yna ansawdd tri-dimensiwn i'w ddehongliadau dramatig a lliwgar o dirluniau yng Nghymru, sy'n mynegi ei lawenydd am gyfoeth a phrydferthwch ei wlad enedigol. Roedd yn briod â'i gyd-artist Claudia Williams.
14. Peter Prendergast
Roedd Peter Prendergast (1946–2007) yn beintiwr tirluniau (efallai nad yw'n syndod fod Cymru wedi cynhyrchu nifer fawr o artistiaid tirlun rhagorol, gan fod y fath brydferthwch naturiol o'u cwmpas i'w hysbrydoli!) Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1975 a 1977. Disgrifiwyd ef gan y Chwaer Wendy Beckett fel 'lliwiwr gwych a meistr ar ffurf.' Mae ei weithiau'n Fynegiadol – bron yn Giwbaidd – ac, fel Will Roberts, roedd yn aelod o'r Grŵp 56 Cymru.
15. Cherry Pickles
Ganed Cherry Pickles ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1950; dilynodd lwybr anarferol i mewn i fyd celf, gan raddio mewn mathemateg cyn mynd ymlaen i astudio peintio yn Chelsea a'r Slade School of Fine Art. Bu'n addysgu mewn nifer o ysgolion celf, yn cynnwys Canterbury a Falmouth, a bu'n uwch-ddarlithydd yng Nghaerdydd. Mae ei hunan-bortread fel Dylan Thomas yn creu hanfod y bardd o Gymru. Mae'r darlun yn rhan o gyfres o chwe hunan-bortread sy'n adlewyrchu ei hedmygedd o'r rhyddid a roddir i artistiaid gwrywaidd i 'fyw bywyd' – her deimladwy i'r canfyddiad traddodiadol o artistiaid benywaidd.
16. Shani Rhys James
Artist yw Shani Rhys James (g.1953) sydd wedi ei lleoli yn Llangadfan, Powys. Er iddi gael ei geni ym Melbourne, Awstralia, i dad o Gymru a mam o Awstralia, mae hi wedi byw yng Nghymru ers 1984. A hithau'n un o artistiaid byw mwyaf arwyddocaol Cymru, enillodd Wobr Agored Aberystwyth yn 1992, Gwobr Agored Mostyn, Gwobr Aur yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwobr Gelf yr Hunting Observer (1993), a'r ail wobr yn y BP National Portrait Award. Hi oedd Artist Gweledol y Flwyddyn BBC Cymru 1994. Mae'r darlun hwn yn rhan o gasgliad BBC Cymru Wales, ac fe'i prynwyd yn 1993.
Andrew Shore, Pennaeth Cynnwys Art UK
Cyfieithiad o'r Saesneg
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid Llywodraeth Cymru