Yn y gyfres 'Saith cwestiwn gyda...' mae Art UK yn siarad gyda rhai o'r artistiaid newydd a sefydledig fwyaf cyffrous sy'n gweithio heddiw.
Artist Gwyddelig a addysgwyd yn Corc, Belffast a Chaerdydd ac sy'n gweithio yng Nghymru yw Claire Curneen. Mae ei cherfluniau ffigurol mewn porslen, terracotta a chrochenwaith caled du yn defnyddio iaith fregus serameg i drafod gwendid, pathos a gwydnwch y cyflwr dynol. Gan dynnu ar ddelweddau Catholig a chwedloniaeth hynafol, mae ei naratifau'n gynnil, yn enigmatig ac yn ddylanwadol. Cefais sgwrs gyda Claire yn ei stiwdio yn ardal Y Sblot yng Nghaerdydd.

© the artist. Image credit: Aberystwyth University School of Art Museum and Galleries
Claire Curneen (b.1968)
Aberystwyth University School of Art Museum and GalleriesAndrew Renton: Fel cerflunydd pam ddewisoch chi serameg fel cyfrwng?
Claire Curneen: Fyddwn i ddim yn dweud fy mod i ar dân dros weithio mewn serameg – fe wnes i rywbeth mewn clai a dywedodd tiwtor ei fod yn dda. Mae serameg yn fwy gwylaidd hefyd. Pan oeddwn i'n fyfyriwr, roedd yr adran cerflunio'n llawer rhy macho a brawychus. Mae'r pethau dwi'n eu creu'n gerflunwaith – gyda cherflunio a phaentio'n gefndir, a hefyd serameg stiwdio a hanes serameg. Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad ein bod yn aml bellach yn gweld defnydd o glai mewn celf gain. Mae'n creu cysylltiad uniongyrchol â'r sawl sydd ar y tu allan, y gwneuthurwr mewn dosbarth nos, a natur bersonol y weithred o greu pethau mewn clai. Dyw'r hierarchaeth a'r hanes trafferthus ddim yn rhan o'r peth.
Andrew: Cyn gwneud Blue Series, buoch chi'n astudio Girl in a Blue Dress o waith Gwen John (isod) ond hefyd serameg Cymreig hanesyddol. Ychwanegoch chi flodau troslun a gloywedd aur i'r darn. Pa mor gryf yw'r traddodiad serameg fel sail i'ch gwaith?
Claire: Mae'n bwysig oherwydd dim ond drwy eu deunyddiau y gallwch chi ddeall y ffigurau. Pe bai'r ffigur hwnnw'n efydd, fe fyddai'n wahanol. Mae gen i ddiddordeb mewn iaith serameg oherwydd dwi wedi cael fy hyfforddi ynddi ac yn gwybod beth i'w wneud. Mae'r ffordd dwi'n gwneud rhywbeth mor bwysig. Dwi'n ei wneud yn yr un ffordd ag y byddwn i'n gwneud potyn a dwi ddim yn gallu ei wneud mewn unrhyw ffordd arall. Dechreuais edrych ar drosluniau glas ac argraffu ar serameg, ond dim ond ffordd i gael arwyneb da oedd hyn.
Andrew: Roedd diddordeb mawr gan Gwen John mewn Catholigiaeth. Rydych chi'n dweud nad ydych chi'n grefyddol ond mae'n ymddangos eich bod yn hoff o grefydd. Oes gennych chi ymdeimlad o hunaniaeth neu empathi gyda hi?
Claire: Doedd hyn ddim yn rhywbeth roeddwn i'n ymwybodol ohono, ond roeddwn i'n gallu dweud bron yn y ffordd roedd hi'n paentio presenoldeb rhywun. Gallwch chi dreulio llawer o amser yn gwylio merch Gwen John â'i dwylo wedi'u croesi, yn gwneud dim byd ond eistedd. Yr artist neu'r lleian neu'r mynach – maen nhw'n weithgareddau tebyg, sydd ddim yn wahanol iawn i ddod i fy stiwdio bob dydd. Mae cael eglwys St Alban tu fas i'r stiwdio – dwi ddim wir yn mynd yna ond dwi'n awyddus i bobl fynd yna, bod yn ddefosiynol, gwneud yr holl bethau dwi ddim yn ei wneud.

Image credit: Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Girl in a Blue Dress probably 1914–1915
Gwen John (1876–1939)
Amgueddfa Cymru – National Museum WalesDwi'n cofio pan oeddwn i'n blentyn, fod pawb yn mynd i'r Offeren ar ddydd Sul. Erbyn fy arddegau, roeddech chi'n cael mynd gyda'ch ffrindiau ac roedd yn rhywbeth cymdeithasol. Roeddech chi'n eistedd ymhellach yn ôl yn yr eglwys felly gallech chi adael yn gyflym cyn y Cymun. Dyna beth wnes i flino arno, ond mae'n effeithio arnaf i. Mi es i eglwys St Alban dros y Pasg y llynedd, i gefn yr eglwys, fel pe bawn i'n ymrwymo ond heb ymrwymo. Roedden nhw'n gwneud Ffordd y Groes ac roedd yn llawer mwy ffurfiol nag unrhyw beth roeddwn i wedi'i weld yn Iwerddon. Roedd yn golygu cymaint iddyn nhw, ac mae'n golygu rhywbeth gwahanol iawn i fi. Dydw i ddim yn y grefyddol ond dwi'n arnofio o gwmpas ffydd.
Andrew: Allwch chi siarad am Touched, a gomisiynwyd i Amgueddfa Cymru yn 2015? Mae gan y ffigur du strwythur cain o ganghennau ar ei ben. Aethoch chi ati i chwalu ffigur porslen cynharach â morthwyl a chlymu darnau i'r canghennau gydag edafedd coch, syn cyfeirio at draddodiad gwerin Gwyddelig.
Claire: Mae clymu offrymau ar goed mewn mannau sy'n iachau yn draddodiad yn Iwerddon yn ogystal â Chymru a'r Alban. Fel arfer mae coed 'Clootie' yn tyfu ger ffynnon neu ddŵr. Mae'n fath o bererindod ac yn troi'n rhywbeth sydd fel pe bai'n achub pawb rhag popeth – ond dyw e ddim!
Roedd Touched yn heriol i'w greu. Y ffigur a'r canghennau, y cysylltiad â defod ac arwyddion. Roeddwn i wrth fy modd yn creu'r darn. Roedd y clai du corsiog yn teimlo fel rhywbeth oedd wedi'i balu o'r ddaear, bron fel dyn y gors yn The Tollund Man gan Seamus Heaney ac yn cyferbynnu â thryleuedd y bysedd porslen toredig sydd wedi'u clymu arno. Dim ond pan fyddwch chi'n agos ato y gallwch chi eu gweld yn iawn. Efallai eu bod nhw ychydig yn arswydus, ond mae'r weithred o'u clymu yn gwneud iddo deimlo'n iawn.
Pan fydda i'n gwneud rhywbeth, mae amser yn bwysig iawn. Gyda Touched, mae cymaint o amser yn y peth a grëwyd ac a dorrwyd ac nad oedd yn gweithio'n iawn. Doedd dim ots gen i falu rhywbeth roeddwn i eisoes wedi'i wneud, oherwydd roedd yn adennill rhywbeth – yn creu rhywbeth newydd. Roedd yn fy rhyddhau. Dwi'n mwynhau bod dychryn yn y llais oedd yn dweud, 'Aa! Ti ddim yn gallu gwneud hynna!' a minnau'n ateb, 'Ydw dwi'n gallu! Mae'n hawdd!'

Image credit: Dewi Tannat Lloyd
Claire Curneen yn ei stiwdio yng Nghaerdydd
Andrew: Beth ysbrydolodd chi i feddwl am ddefnyddio edafedd, boed hynny ar gyfer clymu pethau neu'r rhaeadr yma o edafedd coch yn y stiwdio?
Claire: Fe wnes i arddangosfa gyda'r artist tecstilau Alice Kettle ac roedd gennym ni gysylltiad da iawn. Pan rydych chi'n lapio pethau, rydych chi'n cuddio rhywbeth ond fe allech chi fod yn gofalu am rywbeth neu'n iachau rhywbeth. Gyda'r golofn goch, dwi'n edrych arni ac yn meddwl am bethau y tu mewn iddi. Beth mae'n ei wneud yw gwneud fy ngwaith yn fwy. Weithiau dwi'n ei ddefnyddio fel darn wedi'i gysylltu â ffigur, ac yn sydyn mae'r darn ddeg gwaith yn fwy.
Mae gweithio mewn darnau, fel gyda Tending the Fires a Baroque and Beserk, yn ffordd dda iawn o ddelio gyda graddfa heb golli synwyrusrwydd rhywbeth bach. Maen nhw'n dal yr ymdeimlad yna o amser ag agosrwydd a chywreindeb, ac ansawdd porslen hefyd, ond gan roi mwy o theatr iddo. Allwch chi ddim gorffwys. Mae'n ddigwyddiad, on'd ydy? Ffrwydrad.

© the artist. Image credit: Gareth Jones
'Baroque and Beserk' yn Oriel Gelf Walker
2017, porslen gan Claire Curneen (g.1968)
Andrew: Yn aml mae eich ffigurau – fel Saint Sebastian neu Daphne – yn ymwneud â thrawma a merthyrdod a'r boen mae'r unigolion hyn wedi'i dioddef, ond dydych chi ddim yn mynegi'r trawma gymaint â goroesi'r trawma a rywsut yn dawel eich meddwl gyda hyn. Ydy hyn yn ffordd o ddangos trugaredd neu edmygedd at y ffordd mae pobl yn ymdrin â dioddefaint?
Claire: Pan fyddaf i'n meddwl am beth ddenodd fi at y pynciau hyn yn y lle cyntaf – edrych ar y Gorsafoedd, gweld sut mae'r corff yn syrthio, fel ffigur Crist, neu goroni gyda drain neu'r corff yma sy'n dioddef – mae'n gwneud i chi wingo braidd. Ond o edrych ar weithiau cyfnod y Dadeni o Sant Sebastian, mae bob amser yn cael ei bortreadu fel merthyr, yn mynd y tu hwnt i'r trawma. I mi mae hynny'n anhygoel i dystio iddo, ond hefyd yn anhygoel sut mae pobl yn gwneud hynny.

© the artist. Image credit: Aberystwyth University School of Art Museum and Galleries
Claire Curneen (b.1968)
Aberystwyth University School of Art Museum and Galleries
Dydw i ddim wedi dioddef trawma. Mae yna deimlad yn y pethau dwi wedi'u gwneud fod yn rhaid fy mod i'n teimlo neu wedi profi hynny, ond dydw i ddim. I mi, nid profi yw'r peth canolog, ond gallu arsylwi ar fath o ddioddefaint. Gallwch ei weld os ydych chi'n eistedd ar y bws yn gwylio rhywun: rydych chi'n gwybod pan fydd rhywun yn cael amser caled. Mae'n fyrhoedlog hefyd. Dwi'n aml yn dyfynnu'r ffigurau crand yma ond maen nhw'n ymwneud â rhywbeth eithaf cyfarwydd ac agos aton ni ac rydyn ni'n cerdded heibio iddyn nhw'n ddifeddwl.
Mae'r ffigurau dwi'n eu gwneud hefyd yn cynnig ymdeimlad bod rhywbeth ar fin digwydd, fel y gwanwyn neu bethau ar fin esgor. Mae rhyw fath o bathos yn hyn bob tro – rydych chi'n gwybod ein bod yn mynd i'w golli. Mae'r pethau dwi'n eu gwneud yn debyg i gofebion, fel atgofion bach o bethau.
Andrew: Sut ydych chi'n teimlo am ddangos eich gwaith mewn mannau crefyddol?
Claire: Mae mannau crefyddol yn brydferth ond yn llawer i gystadlu â nhw. Mae'r bensaernïaeth yn eich llethu bron, er bod pethau bach iawn yn gallu bod fel rhai enfawr. Yn 1999 i 2000 roeddwn i ar gyfnod preswyl yng Nghanolfan Celfyddydau Crawford, ger hen eglwys gadeiriol St Andrews. Gosodais ffigur yn yr adfeilion. Wnes i ddim gofyn, dim ond ei roi dan fy mraich a dod ag e gyda fi, fel defosiwn preifat. Ambell waith dwi'n ei chael yn anodd dweud beth ydyn nhw – y pethau dwi'n eu gwneud – ond wrth gael sgwrs fel hon, yn sydyn dwi'n gwybod: 'defosiwn preifat – falle mai dyna beth ydyn nhw!'
View this post on Instagram
Andrew Renton, curadur ac ymchwilydd serameg
Mae Claire Curneen yn datblygu prosiect gydag Oriel James Freeman yn St Bartholomew the Great, Llundain ar gyfer 2025
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Cyfieithiad o'r Saesneg