'Yn Nowlais, Sir Forgannwg, lle treuliais fy mhlentyndod, byddwn yn clywed rhu y gwaith haearn enfawr yn fy nghlustiau ddydd a nos, ac yn clywed y gerddoriaeth yn nharanau dwfn yr injans stêm a'r morthwylion'  Megan Watts Hughes, Pall Mall Gazette, 12fed Chwefror 1890.

O oedran ifanc, roedd Margaret Watts Hughes – neu Megan, fel y dewisai gael ei galw – wedi ei chyfareddu gan synau, boed hynny o ffwrneisi, morthwylion, chwisl geiniog neu ganu. Roedd sain yn siarad iddi hi: gallai deimlo pŵer sain, a daeth i ddiffinio ei bywyd.  

Trwy ei huchelgais ddiwyro i ddarganfod dirgelion byd sain, penderfynodd geisio delweddu ei llais a chreu cofnod gweledol anhygoel o'r llais dynol.  Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, achosodd ei 'Ffigurau Llais' gryn gyffro. Yn fywiog, lliwgar a chwbl unigryw, maent yn rhoi bywyd i'r byd cyfrin y gwyddai Megan Watts Hughes oedd yn bodoli, ond sy'n anweledig i'r llygad noeth.

Voice Figure

Voice Figure 1885–1904

Megan Watts Hughes (1847–1907)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Roedd Megan, a aned yn Nowlais, Merthyr Tudful, yn 1847, yn un o wyth o blant. Yn ddiweddarach, symudodd ei theulu – ynghyd â miloedd o rai eraill – o ardal amaethyddol i brifddinas ddiwydiannol Cymru.

Merthyr Tydfil High Street

Merthyr Tydfil High Street 1847 or later

unknown artist

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Roedd ei thad, Henry, yn un o'r 7,000 o bobl a gyflogid gan Waith Haearn Dowlais yn yr 1840au. A hwythau'n deulu hynod grefyddol, byddent yn canu 'caneuon crefyddol' drwy'r dydd, bob dydd. Yr unig waith celf ar waliau eu tŷ teras bychan ar Ivor Street oedd lluniau o bedwar sant, a'r unig le y byddai'r teulu'n mynd oedd i'r capel ar gyfer gweddïo, cymdeithasu ac – yn bwysicach na dim – ymarferion côr.

Dowlais Rolling Mills

Dowlais Rolling Mills 19th C

C. W. Campion

Ironbridge Gorge Museum Trust

Yng nghapeli Dowlais y dechreuodd doniau lleisiol Megan gael eu hannog a'u meithrin, ac enillodd ei llais hyfryd le iddi hi yng Nghôr Dirwest Dowlais. Roedd pobl yr ardal wedi eu syfrdanu gan ddoniau Megan, ond nid oedd y teulu mewn sefyllfa i dalu am ragor o hyfforddiant cerddorol iddi hi – hyd nes i bobl Dowlais a'r ardal gyfagos ddod i'r adwy. Aethant ati i godi arian a chynnal budd-gyngherddau yn benodol er mwyn meithrin llais rhyfeddol y ferch leol hon.

Defnyddiwyd yr arian a godwyd i dalu am hyfforddiant iddi yng Nghaerdydd, ac o ganlyniad enillodd Megan nifer o gystadlaethau yn yr Eisteddfod a gwobrau ariannol yn y Royal Academy of Music. Yn 1868, ymddangosodd Megan ar lwyfan am y tro cyntaf, yn Neuadd St James, Llundain – dinas a ddaeth yn gartref iddi'n ddiweddarach. Yn 1869, roedd hi'n fyfyriwr yn y Royal Academy of Music, ac erbyn 1872 roedd yn briod gyda Hugh Lloyd Hughes, oedd yn ddiacon yn Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg Jewin – y capel Cymraeg hynaf yn Llundain.

Madam Watts Hughes

Madam Watts Hughes 1899

S. Harris

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Credai Megan fod sain yn meddu ar bŵer cudd. Synnai at yr effaith ddofn a gâi caneuon a cherddoriaeth, a sut roedden nhw'n llwyddo i ymgysylltu'n well â phobl o gymharu â'r gair llafar. Adroddodd ei hanes yn ymweld â menyw oedd wedi troi ei chefn ar yr eglwys. Bu'r ddwy'n siarad ac yn darllen o'r Beibl, ond ychydig o ddiddordeb a ddangosai'r fenyw - hyd nes i Megan ddechrau canu rhannau ohono. Gwelai Megan hyn fel tystiolaeth fod cerddoriaeth yn meddu ar ryw bŵer dirgel.

Digwyddodd rhywbeth tebyg pan ddechreuodd gynnal dosbarth Beiblaidd yn ei chartref ei hun. Doedd gan y plant fawr o ddiddordeb nes i'r gerddoriaeth ddechrau, a buan iawn y trodd y dosbarth Beiblaidd yn ddosbarth canu. Pan ddeuai ei dosbarthiadau i ben, byddai raid i Megan droi'r plant yn ôl allan ar strydoedd Llundain. Ni allai wynebu gwneud hynny, felly trodd ei chartref ei hun yn gartref i blant amddifad gan newid bywydau cannoedd o blant.

Voice Figure

Voice Figure 1885–1904

Megan Watts Hughes (1847–1907)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Drwy gydol yr 1880au cynyddodd diddordeb angerddol Megan mewn cerddoriaeth, a dechreuodd fynd ati o safbwynt gwyddonol. Astudiodd waith gwyddonwyr oedd wedi gwneud darganfyddiadau ym maes sain. Daeth dan ddylanwad John Tyndall, Sedley Taylor ac Ernst Chladni, a chafodd arbrofion Chladni ar ddelweddu seiniau ddylanwad mawr ar waith diweddarach Megan.

John Tyndall (1820–1893)

John Tyndall (1820–1893) 1877 (?)

Victor Zeppenfeld (1834–d. after 1883)

The Royal Society

O 1885 ymlaen, dechreuodd Megan ddelweddu ei llais ei hun. Dyfeisiodd declyn gwyddonol, yr 'eidoffôn', y byddai hi'n canu i mewn iddo; byddai'r teclyn yn dal delwedd o'r sain gan ddefnyddio tywod a phowdrau. Byddai'r deunyddiau'n ymateb i'r dirgryniadau ar y bilen elastig, ac roedd ychwanegu lliw yn galluogi Megan i ddala siâp y dirgryniadau ar blatiau gwydr a seramig. Galwodd y delweddau a grëwyd yn 'Ffigurau Llais'.

The Eidophone

The Eidophone

1891, diagram by Megan Watts-Hughes (1847?–1907) for 'Century Magazine'

Yr Eidoffôn, 1891, darlun gan Megan Watts-Hughes (1847-1907) ar gyfer Century Magazine

Cafodd ei rhyfeddu at ba mor debyg oedd y ffurfiau a gynhyrchid gan y llais dynol i ffurfiau ym myd natur. Roedd ffigurau'n ymdebygu i redyn, pansis, llygaid y dydd a choed yn ddim ond rhai o'r delweddau naturiol y gallai'r llais dynol eu creu.

Voice Figure

Voice Figure 1885–1904

Megan Watts Hughes (1847–1907)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Voice Figure

Voice Figure 1885–1904

Megan Watts Hughes (1847–1907)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Achosodd Ffigurau Llais Megan gryn gynnwrf pan gawsant eu harddangos o amgylch Llundain, a chafodd ei chyfweld gan nifer fawr o gyhoeddiadau oedd ar dân yn eu hawydd am ragor o wybodaeth. Arweiniodd ei darganfyddiadau at drafodaethau pwysig ymhlith gwyddonwyr ynghylch arwyddocâd a phwysigrwydd sain, a'r effaith a gâi ar y byd.

Voice Figure

Voice Figure 1885–1904

Megan Watts Hughes (1847–1907)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

O ddiwedd yr 1880au ymlaen, bu'n eu harddangos yn ystafelloedd y Musical Association, y Royal Institution a'r Royal Society. Roedd yr arddangosfa yn y Royal Society yn arbennig o nodedig, gan taw dim ond yn 1876 y dechreuodd y sefydliad hwnnw ganiatáu i fenywod arddangos gwaith gwyddonol. Yn 1888, Megan – gyda'i harddangosfa o Ffigurau Llais a'r eidoffôn – oedd y fenyw gyntaf i gyflwyno dyfais newydd yno.

Voice Figure

Voice Figure 1885–1904

Megan Watts Hughes (1847–1907)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Credai Megan fod pŵer sain yn rhywbeth anesboniadwy ac ysbrydol. Roedd hi, fel nifer o Gristnogion y cyfnod, yn ystyried ei darganfyddiadau fel cysylltiad â Duw. Roedd llawer o Gristnogion yn credu, yn yr un modd ag y daeth y byd i fodolaeth trwy ei air Ef, y gallai bodau dynol ddod â siapiau a ffurfiau naturiol i fodolaeth, a hynny mewn ffyrdd nad oedd yn amlwg i'r llygad noeth.

Gobeithiai Megan y byddai ei darganfyddiadau'n ei chysylltu â Duw mewn rhyw ffordd,  ond gwyddai hefyd taw theorïau'n unig oedd y rhain, ac roedd hi'n awyddus i symud ei gwaith i'r cam nesaf o arbrofion gwyddonol: 'Y mae yna fyd cyfan ynghudd y tu ôl i'r ffurfiau hyn, ac mae'n bosibl y caiff hwnnw ei ddatgelu yn y dyfodol.' (Pall Mall Gazette, 12fed Chwefror 1890)

Voice Figure

Voice Figure 1885–1904

Megan Watts Hughes (1847–1907)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Bu Megan farw yn 1907. Ceisiodd ei brawd gadw'i gwaddol yn fyw trwy deithio gyda'r Ffigurau Llais o amgylch y DU, ond daeth ei gwaith yn llai a llai cyfarwydd nes cyrraedd y pwynt nad oes fawr neb yn gwybod amdani heddiw, hyd yn oed yn ei thref enedigol.

Voice Figure

Voice Figure 1885–1904

Megan Watts Hughes (1847–1907)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Bellach, nid oes unrhyw recordiadau ar gael o lais Megan. Yn hytrach, mae ei diddordeb dwfn mewn sain wedi gadael cofnod gweladwy ar ei ôl: rhywbeth sy'n unigryw iddi hi ac sy'n dangos dimensiynau amrywiol mynegiant dynol.

Christopher Parry, Swyddog Addysgu Digidol yn Amgueddfa Cymru

Mae rhai o ffigurau llais Megan Watts Hughes yn cael eu harddangos yn 'Out of this World' yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, rhwng 12fed Gorffennaf 2024 a 26ain Ionawr 2025

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn trwy gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllen pellach

Brewminate, 'Picturing a Voice: Margaret Watts-Hughes and the Eidophone', 2020

Christian Herald Company, Margaret Watts Hughes, The Eidophone Voice Figures: Geometrical and Natural Forms Produced by Vibrations of the Human Voice, 1904

Dr Rob Mullender, 'Divine Agency: Bringing to light the voice figures of Margaret Watts-Hughes', Sound Effects, 8, 2019