Ganed Richard Wilson ar 1af Awst 1713 neu 1714 ym Mhenegoes, Powys, yn drydydd fab i'r rheithor yno. Derbyniodd addysg glasurol yn y cartref, ac fe dyfodd i fod yn artist tirluniau arweiniol ei genhedlaeth, ac yn un o artistiaid mwyaf arloesol y ddeunawfed ganrif ym Mhrydain.
Dros ddegawd yn hŷn na'i gyfoeswr mwy enwog, Thomas Gainsborough, roedd Wilson yn boblogaidd iawn am gyfnod yn ystod ei oes ei hun – yn bennaf oherwydd iddo symud tu hwnt i'r dopograffeg a'r disgrifiadol yn ei dirluniau, gan ddod â chysylltiadau clasurol a hanesyddol i'r tirlun, a chodi ei statws fel modd o baentio. Trawsffurfiodd olygfeydd syml yn gyfrwng i deimladrwydd a'r dychymyg, gan osod sylfaen ar gyfer yr artistiaid tirluniau Rhamantaidd John Constable a J. M. W. Turner, yn ogystal â John Robert Cozens, Thomas Girtin a llu o artistiaid dyfrlliw eraill.
Ym 1729 fe adawodd Wilson Gymru a symudodd i Lundain i astudio paentio gyda'r artist portreadau eilradd, Thomas Wright. Yn ddiweddarach, mynychodd Academi St Martin's Lane a sefydlwyd gan William Hogarth.
Erbyn 1735 roedd wedi ymadael â stiwdio Wright ac wedi ymsefydlu ei hun yn artist medrus a chymharol lwyddiannus, gyda'r gallu i gynhyrchu portreadau cofiadwy megis rhai Comodor Thomas Smith a Flora MacDonald.
Yng nghanol y 1740au, wedi ei ysgogi efallai gan esiampl George Lambert, cynhyrchodd ambell i dirlun, yn cynnwys Castell Dwfwr.
Enillodd yr agwedd hon o'i waith boblogrwydd fwy eang yn sgil dwy olygfa gylchig, Ysbyty'r Plant Caffael ac Ysbyty San Siôr a gyflwynodd ef i Ysbyty'r Plant Caffael oedd newydd ei hadeiladu. Dyma oedd un o'r mannau cyntaf yn Llundain ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus.
Yn ei 30au diweddar, penderfynodd Wilson i deithio i'r Eidal, lle rhoddodd y gorau i beintio portreadau. Ym 1751 yn Fenis cafodd ei annog i newid ei gwrs gan yr artist tirluniau llwyddiannus Francesco Zuccarelli ac yn fuan wedi hynny yn Rhufain daeth yn gyfaill i'r artist tirluniau rhyngwladol enwog, Claude-Joseph Vernet, o Ffrainc, a oedd yn eiriolwr dros baentio tirluniau yn hytrach na phortreadau.
Roedd dau o brif artistiaid tirluniau Rhufain, Andrea Locatelli a Jan Frans van Bloemen, neu l'Orizzonte fel gelwid ef, newydd farw, tra roedd y farchnad bortreadau yn cael ei dominyddu gan Pompeo Batoni ac Anton Raphael Mengs. Cymhelliad arall dros baentio tirluniau oedd y galw cyson am roddion i gofio am yr Eidal gan bobl ifanc ar eu Taith Fawr, a fyddai'n dod yno i orffen eu haddysg.
Yn ystod y pum mlynedd a dreuliodd yn Rhufain, cwblhaodd Wilson lawer o olygfeydd o'r ddinas a'r Campagna o'i hamgylch; ac o Napoli a'r ardal gyfagos. Rhedodd stiwdio lwyddiannus hefyd gyda myfyrwyr rhyngwladol.
Llenwodd ei dirluniau Eidalaidd gyda defnydd arloesol a dychmygol o oleuni ac awyrgylch, a roddai naws farddonol iddyn nhw. Daeth gweithiau fel View of Tivoli: The Cascatelle and the 'Villa of Maecenas' yn boblogaidd iawn ymhlith y rhai a oedd yn dychwelyd o'u Taith Fawr o ardal a oedd, yn eu barn nhw, yn Wtopia goll. Yn fynegiannau o hen bŵer, roedd y gweithiau hyn yn sicr yn apelio at lywodraethwyr a deddfwyr y dyfodol ym Mhrydain a oedd wedi derbyn addysg glasurol, ac roedden nhw'n cynnig cymhariaeth deimladwy rhwng mawredd Rhufain gynt a chyflwr dirywiedig yr Eidal gyfoes.
Pan ddychwelodd i Lundain ym 1757 sefydlodd Wilson ei gartref a'i stiwdio ar y Piazza ffasiynol yn Covent Garden. Yno fe barhaodd i greu cynrychiolaethau meistrolgar o'r Eidal o'i gof, fel Tirlun Clasurol. Roedd llawer o alw am dirluniau fel hyn, ac fe'u hailadroddwyd yn aml gan yr artist a'i ddisgyblion.
Yn nwylo Wilson, daeth tirluniau yn arddull yr Hen Feistri yr edmygai fwyaf – Claude Lorrain, Gaspard Dughet a Salvator Rosa – yn olygfeydd ar gyfer straeon mytholegol hynafol, wrth iddo geisio rhoi'r un statws i baentio tirluniau â phaentio hanesyddol, academaidd. Daeth y rhain i'w huchafbwynt gyda The Destruction of the Children of Niobe, a arddangoswyd yn yr Incorporated Society of Artists ym 1760.
Fe'i prynwyd gan Ddug Cumberland, ewythr Siôr III, ac fe ddaeth yn gyfansoddiad canolog i yrfa Wilson, gan fraenaru'r tir ar gyfer ei enwebaeth fel Aelod Sefydlol yr Academi Frenhinol ym 1768.
Darluniodd Wilson 'bortreadau ystâd' mwy traddodiadol o blastai hefyd, fel Wilton House, Swydd Wilt, a golygfeydd poblogaidd, fel Afon Tafwys yn Twickenham; ond roedd y rhain hyd yn oed yn cyflwyno rhywbeth newydd drwy fychanu pwysigrwydd y tai a phwysleisio'r dirwedd a'r awyrgylch.
Ysbrydolodd tirwedd Cymru rai o eiconau mwyaf barddonol Wilson, fel Yr Wyddfa o Lyn Nantlle. Prynwyd y paentiadau hyn yn aml gan foneddigion lleol, rhai ohonyn nhw'n berthnasau i Wilson. Cyrhaeddodd y testunau hyn uchafbwynt ym 1771 gyda chwblhâd y paentiadau Dinas Bran o Langollen a Golygfa gerllaw Wynnstay ar gyfer y perchennog tir, Syr Watkin Williams-Wynn.
Yn y cyfansoddiadau mawreddog hyn, cyfunodd yr artist hynodion topograffeg yn fedrus â ffigurau gwladaidd a golau cynnil, gan drwytho tirwedd ei gynefin â heddwch Eidalaidd. Trawsffurfiodd golygfeydd o gefn gwlad gogledd Cymru yn Arcadia wirioneddol. Ychwanegwyd at apêl tirluniau o'r fath gan ddiddordeb cynyddol y cyhoedd o'r 1750au ymlaen yn hanes a thraddodiadau Cymru. Ysgogwyd Wilson gan hynny - a'r duedd newydd i ffafrio pynciau gwyllt a'r sublime - i greu ei baentiad mwyaf arloesol Llyn-y-Cau, Cader Idris, ond bu arddull digyfaddawd y paentiad yn achos iddo fethu â chael ei werthu ar y pryd.
Mewn blynyddoedd mwy diweddar dirywiodd bri Wilson, ac ni welwyd unrhyw welliant i'w enw hyd rai degawdau ar ôl ei farwolaeth ym 1782 – ac i ryw raddau, mae ei enw yn parhau i ddioddef oherwydd hynny heddiw. Yn ddi-briod ac wedi ei daro â salwch, fe aeth yn gynyddol bigog, rhagfarnllyd ac anghymdeithasol wrth iddo heneiddio, a dechreuodd daro'r botel. Cafodd ei achub dros dro rhag tlodi gan ei gydaelodau o'r Academi Frenhinol, a'i penododd ef ym 1776 i swydd Llyfrgellydd ar gyflog blynyddol o £50. Fodd bynnag, ni allodd barhau yn y swydd wedi 1781 ac fe ymddeolodd i gartref ei gyfnither Catherine Jones yn Neuadd Colomendy, Clwyd, lle bu farw ar 11eg Mai 1782.
Er gwaethaf poblogrwydd ysgythriadau o'i beintiadau a'r nifer fawr o gopïau a dynwarediadau o'i waith a ddaeth yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd ef ei hun wedi mynd yn ffigwr anhybys ac fe grynhowyd anghysonder ei fri mewn ffordd effeithiol iawn gan feirniad, 'Peter Pindar', yn Lyric Odes to the Academicians yn yr un flwyddyn:
But honest Wilson, never mind;
Immortal praises thou shalt find,
And for a dinner have no cause to fear.
Thou start'st at my prophetic rhymes:
Don't be impatient for those times;
Wait till thou hast been dead a hundred year.
Yn 2014 cynhaliwyd arddangosfa fawr, 'Richard Wilson a Gweddnewidiad Paentio Tirluniau Ewropeaidd', yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac yn yr Yale Center for British Art, New Haven, UDA, i ddathlu tri chanmlwyddiant genedigaeth Wilson ac i geisio ailsefydlu ei safle yn artist o statws rhyngwladol.
Ar yr un pryd, cyhoeddwyd Richard Wilson Online, sef catalog raisonné digidol o'i waith gan y Paul Mellon Centre for Studies in British Art. Bwriad y catalog yw i asesu enw Wilson o'r newydd drwy egluro ac ailddiffinio ei allbwn cyfan. Mae'n diweddaru ac yn cyfuno'r catalogau clasurol o'i baentiadau gan Athro W. G. Constable (1953) a'i luniau gan Syr Brinsley Ford (1951); ac yn cynnwys mewnweledigaethau newydd y tynnwyd sylw atyn nhw gan arddangosfa nodedig 'Richard Wilson: The Landscape of Reaction' (1982–1983) a guradwyd gan yr Athro David Solkin. Mae Richard Wilson Online yn cynnig offeryn ymchwil cyfoes a hawdd i'w ddefnyddio ar gyfer ymchwilwyr heddiw, sy'n atgyfnerthu statws y Cymro hwn yn dad i dirluniau Prydeinig.
Paul Spencer-Longhurst, cyn Gymrawd Ymchwil Uwch yn y Paul Mellon Centre for Studies in British Art, a Golygydd catalog beirniadol digidol o waith Richard Wilson
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru