Mae'n rhyfedd meddwl na welodd yr artist Richard Wilson Raeadr Niagara drosto'i hun erioed ond mae'n ymddangos iddo seilio'i baentiad ar ddarlun a wnaed ddwy flynedd ynghynt gan ddrafftsmon, yr Is-gapten Pierie o'r Royal Irish Artillery. Yn 1678, y Tad Hennepin, offeiriad o Ffrainc, oedd yr Ewropead cyntaf i weld y rhaeadr, a'i ddisgrifiad ef a dynnodd sylw pobl at un o ryfeddodau naturiol y byd. Mae'r paentiad yn dangos afon Niagara a'i rhaeadr wych ar y ffin rhwng Canada ac America. Roedd paentiadau o leoedd egsotig a golygfeydd syfrdanol yn boblogaidd iawn ar y pryd.
Yng Nghymru y ganed Richard Wilson. Fel portreadydd y dechreuodd ei yrfa ond newidiodd gyfeiriad a mynd yn baentiwr tirluniau. Yn hanesyddol, caiff ei gyfrif yn un o sylfaenwyr paentio tirluniau ym Mhrydain. Roedd Wilson yn aml yn paentio stadau boneddigion, ond mae ei ddarlun o Raeadr Niagara yn cyfleu mawredd y byd naturiol, gwyllt yn hytrach na thiroedd wedi'u dofi gan uchelwyr. Paentiwyd y llun hwn yng nghyfnod Prydain fel prif rym Gogledd America, ychydig cyn y Rhyfel Annibyniaeth. Mae darlun Wilson yn enghraifft o'r ffordd y câi byd natur ei bortreadu yn y ddeunawfed ganrif – câi ei gyfleu mewn gwahanol ffyrdd drwy ddarluniau topograffig, traethodau gwyddonol a barddoniaeth yn ogystal â chelf.
Comisiynwyd y paentiad gan yr ysgythrwr William Byrne (1743–1805), a chafodd ei arddangos gyntaf yn yr Academi Frenhinol yn Llundain ym 1774. Poblogeiddiwyd delwedd Wilson gan ysgythriad dur Byrne yn 1774. Pan fu Byrne farw, aeth y paentiad i'w ffrind a'i gyn-ddisgybl John Landseer. Daeth yn eiddo i T. M. Whitehouse ar ôl 1855 a chafodd ei gyflwyno i Oriel Gelf Wolverhampton yn 1884.
Yn ôl John Davies (cyn dechnegydd yn Oriel Gelf Wolverhampton) cafodd y paentiad ei ddefnyddio ar un tro i wahanu glo yn y storfa lo yn yr 1970au tan i'r curadur David Rodgers ddechrau gweithio yn yr oriel. Cafodd ei adfer wedi hynny gan Jesse Brueton ac erbyn hyn mae'n un o'n heitemau mwyaf poblogaidd.
Marguerite Nugent, Oriel Gelf Wolverhampton
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru