Y peth cyntaf y sylwch arno am waith Glenys Cour, Mary Lloyd Jones a Gillian Ayres yw'r lliw. Y glas! A'r trawiadau coch! Mae'r tair yn trin lliw mewn ffordd mor drawiadol ac eofn, gan baentio lluniau haniaethol, breuddwydiol, sydd yn aml yn awgrymu tirwedd neu fyd arall. A dyna i chi'r gweadau – meddalwch melfedaidd Cour a Lloyd Jones, a'r talpiau trwchus, 3D bron, o baent a ddefnyddir gan Ayres.

Lure

Lure 1963

Gillian Ayres (1930–2018)

Arts Council Collection, Southbank Centre

A hwythau'n perthyn i'r un genhedlaeth bron, cafodd Cour a Lloyd Jones eu geni a'u magu yng Nghymru ac yno y maent yn byw o hyd. Er iddi gael ei geni yn Llundain, treuliodd Ayres gryn dipyn o amser yng Nghymru yn yr 1980au. Bu'r tair yn dysgu mewn colegau celf (Ayres oedd y fenyw gyntaf erioed i redeg adran gelf mewn ysgol gelf ym Mhrydain), ac i weithio i oedran teg, gan ymroi i baentio er gwaethaf y gwahanol dueddiadau sydd wedi mynd a dod yn y byd celf.

The Celebration

The Celebration c.1975

Glenys Cour (b.1924)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Yn ogystal â'r tebygrwydd yn eu defnydd o liw, gwead, haniaeth, a chysylltiad â'r tir, mae yna hefyd ymdeimlad o hanes, chwedleua, iaith, a theimlad o arallrwydd – o fod yn ddieithryn. Gallai hyn ddeillio'n rhannol o'r ffaith mai artistiaid benywaidd ydynt, sydd yn hanesyddol heb ennyn y lefel o barch sy'n ddyladwy am eu gwaith. Tybed a allai'r arallrwydd hwn ddod o ymdeimlad o Gymreictod hefyd? Dywedodd Mary Lloyd Jones yn Delweddau o'r Ymylon iddi deimlo weithiau ei bod hi'n perthyn i'r rhyw anghywir, ac yn byw yn y lle anghywir ar yr amser anghywir i fod yn artist llwyddiannus.

"Calypso" 1985

Gillian Ayres (1930–2018)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Paentiadau Gillian Ayres yw'r mwyaf haniaethol o blith gwaith y tair. Er bod y cysylltiad â'r tirwedd yn llai amlwg, mae yno ymdeimlad o le o hyd, gan fod Ayres yn aml yn paentio siapiau a oedd fel pe baent yn adlewyrchu byd natur. Disgrifiodd Michael Glover hyn fel 'math o baganiaeth delynegol'. Rhwng 1981 ac 1987 bu Gillian Ayres yn byw yn Llaniestyn, Llŷn er iddi ymweld â'r gogledd yn gyson a threulio amser yno cyn hynny hefyd, yn mwynhau cefn gwlad, yn mynd allan i gerdded ac yn dringo Cader Idris – dywedodd ei bod wedi gwneud hynny tuag 17 o weithiau!

'Ro'n i wedi mynd yn anfodlon fy myd yn dysgu mewn ysgolion celf ac fe ymddiswyddais yn ddirybudd rhyw ddiwrnod, colli fy morgais yn Llundain ac i ffwrdd â mi i Gymru. Ro'n i'n meddwl y byddwn i'n paentio fel y diawl. Do'n i jest ddim yn poeni,' meddai. Mae dylanwad Cymru i'w weld yn nheitlau rhai o'r lluniau hefyd – fel Cwm, Cwm Bran, a Castell Odo – ac roedd ei hamser yng Nghymru ymhlith cyfnodau mwyaf cynhyrchiol ei gyrfa.

Antony and Cleopatra

Antony and Cleopatra 1982

Gillian Ayres (1930–2018)

Tate

Newidiodd y cyfnod hwn yng Nghymru ei ffordd o baentio. Aeth yn ôl i ddefnyddio paent trwchus iawn a dechreuodd gymysgu gweadau, gan roi paent teneuach ochr yn ochr â'r arddull impasto. Anthony a Cleopatra oedd y paentiad cyntaf i Ayres ei gwblhau yng Nghymru. Adeg eira mawr gaeaf 1981/1982 roedd hynny a chafodd Ayres ei chaethiwo gan yr eira. Wrth baentio, doedd ganddi ddim digon o'i grwnd arferol, plwm gwyn, ac mae'r ocr melyn a ddefnyddiodd yn ei le i'w weld trwy'r haenau. Mae'r arddull graffito yn ein hatgoffa efallai o waith Mary Lloyd Jones.

Swynwyd Mary Lloyd Jones gan y cyfnod cynhanesyddol yng Nghymru a chan nodau'r wyddor Ogam a Choelbren y Beirdd, y mae'n eu cymharu â chreithiau diwydiant a mwyngloddio ar y dirwedd. Er y gwelwn nodau tebyg yng ngwaith Ayres, mae paentiadau Lloyd Jones yn wahanol o ran gwead, gyda naws fwy fflat a mwy hylifol. Mae'r dirwedd yn amlycach yn ei gwaith hi. Mae'n hawdd gweld y mynyddoedd a'r awyr stormus, a soniodd am ddylanwad cwiltiau clytwaith arni – gwelir hyn yn y sgwariau bach o baent a osodwyd ar wyneb y ffurfiau mynyddig.

Pwerdy Ceunant

Pwerdy Ceunant 2019

Mary Lloyd Jones (b.1934)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Ganed Mary Lloyd Jones ym Mhontarfynach ac mae'n dal i fyw yn yr ardal. Mae ganddi berthynas ddofn â Chymru, ei hiaith, ei diwylliant, ei hanes a'i thirwedd, ac mae'n llwyddo i gyfuno'r rhain i gyd, â chyffyrddiad ysgafn, i greu ei phaentiadau haenog. Mae'r lliwiau ym mhaentiadau Mary Lloyd Jones yn ein hatgoffa o'r rhai yng ngwaith James Dickson Innes, a'r elfennau haniaethol a'r siapiau yn debyg i waith Ceri Richards.

Arenig

Arenig c.1911–1912

James Dickson Innes (1887–1914)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Enclosed in Deep Blue

Enclosed in Deep Blue 1962

Ceri Giraldus Richards (1903–1971)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae Ponterwyd, Gaia, yn dangos tirwedd lythrennol Ponterwyd, o dan droshaen o batrymau a marciau haniaethol. Mae teimlad o wylltineb gwyntog, gaeafol i'r llun. Daw'r siapiau hyn yn amlycach mewn gweithiau diweddarach fel Bryn Celli Ddu. Ar yr olwg gyntaf, mae hwn i'w weld yn hollol haniaethol ond o edrych yn fanylach arno gellir adnabod sawl elfen o'r gladdfa – y domen, y meini, y dramwyfa, golwg gliriach ar nodau Coelbren y Beirdd a phatrymau neolithig. Cawn deimlad ei fod yn dwyn ei holl themâu ynghyd, hyd yn oed yn cyfeirio at waith blaenorol – fel y patshyn glas ar ochr dde'r ddau baentiad.

Ponterwyd/Gaia

Ponterwyd/Gaia c.1998

Mary Lloyd Jones (b.1934)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Bryn Celli Ddu

Bryn Celli Ddu (triptych) 2005/2006

Mary Lloyd Jones (b.1934)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Ganed Glenys Cour yn Abergwaun yn 1924, a dathlodd ei phen-blwydd yn 100 oed ddechrau 2024 gydag arddangosfa o'i gwaith yn Oriel Mission, Abertawe. Bu'n fyfyriwr i Ceri Richards yng Ngholeg Celf Caerdydd ac aeth ymlaen i fod yn ddarlithydd poblogaidd, gan ddysgu paentio a gwydr lliw yng Ngholeg Celf Abertawe. Er bod Cour bob amser yn defnyddio lliwiau dwys, ar ôl blynyddoedd o weithio â gwydr bu'n arbrofi ymhellach â lliw a golau. Bu Cour yn arbrofi â gwahanol ddeunyddiau a phynciau yn ystod ei gyrfa, ac yn ei gwaith diweddarach mae wedi canolbwyntio mwy ar dirweddau.

'Mae fy ffenestri'n edrych allan ehangder awyr a llanw a thrai Bae Abertawe. I'r Gorllewin, ymhell i ffwrdd, olion treftadaeth ddiwydiannol ac i'r Dwyrain, yr harbwr a'r Goleudy. Mae'n olygfa ogoneddus – mae'r golau'n newid trwy'r amser, mae wastad rhywbeth newydd i'w weld.'

South Gower Evening

South Gower Evening 2004

Glenys Cour (b.1924)

y Gaer Museum, Art Gallery & Library

Mae'r rhain yn dirweddau sy'n darlunio'i hardal leol, ond mae naws gyfriniol iddynt hefyd. Mae'r gwahanol arlliwiau o las dwfn (mae Cour wedi sôn am ei hoffter o las!) a'r gweadedd meddal, yn creu ymdeimlad o ddrama, a naws arallfydol. Mae'r fformat a'r siapiau'n syml, a'r ffordd ddeheuig o drin persbectif yn ein tynnu i mewn i'r lluniau.

Cliff Path

Cliff Path 1984

Glenys Cour (b.1924)

Glynn Vivian Art Gallery

Os mai'r defnydd a wneir o liw sy'n ein tynnu i mewn gyntaf i waith y tair artist hyn, caiff byd cyfan ei ddatgelu po agosaf yr edrychwn. Mewn byd celf nad yw wedi rhoi'r parch dyladwy i artistiaid benywaidd, byd lle maent yn dal i gael eu tangynrychioli mewn casgliadau cyhoeddus, mae'r tair wedi dangos ymrwymiad parhaus i'w gwaith ac, yn benodol, i baentio. Trwy eu cysylltiad cryf â Chymru, cawsant ddylanwad mawr ar lawer o artistiaid o Gymru, yn eu gwaith ac wrth ddysgu eraill.

Siân Lile-Pastore, addysgwr celf ac ysgrifennwr

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen pellach

Ceridwen Lloyd Morgan, Delweddau o'r Ymylon: Bywyd a gwaith Mary Lloyd Jones Y Lolfa, 2002

Eve Ropek (gol.) Mary Lloyd Jones: Lliwio'r Gair Gwasg Gomer, 2001

Gwefan Glenys Cour

Melissa Munro, Gillian Ayres yng Nghymru Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2017

Michael Glover, 'Obituary: Gillian Ayres: Abstract painter whose work was rooted in the beauty and colour of the real' The Independent, 2018

Martin Gayford a David Cleaton-Roberts, Gillian Ayres Art/Books, 2017

Glenys Cour mewn trafodaeth gyda Peter Wakelin 2017, CASW