Yn ystod ei fywyd, cyfrannodd Kyffin Williams – artist mwyaf adnabyddus Cymru – dros 300 o weithiau celf i Oriel Môn, o frasluniau a lluniau i beintiadau olew pwysig. O'r holl weithiau yn y casgliad, mae tirwedd dwyrain Ynys Môn yn cael mwy o sylw nag unrhyw ardal arall. O Lansadwrn i'r dwyrain tuag at Penmon, cynhyrchodd Kyffin gasgliad swmpus o waith yn yr ardal, yn enwedig yn ystod y cyfnod o ddiwedd yr 1940au hyd at yr 1960au. Roedd ganddo le arbennig yn ei galon i'r dirwedd a'i phobl.
Roedd y cysylltiad rhwng teulu Kyffin a dwyrain Ynys Môn yn ymestyn dros gyfnod maith. Ganed John Williams, ei hen-hen-daid ar ochr ei dad, yn Cefn Coch, Llansadwrn, ac roedd ei deulu'n berchen ar ystâd Treffos. Roedd hen-hen-ewythr Kyffin – Thomas Williams, o Graig y Don ar lan afon Menai – yn ddiwydiannwr a ddaeth yn gyfoethog yn sgil y gweithfeydd copr ym Mynydd Parys.
Yn 1954, symudodd mam Kyffin, Essyllt Mary, a oedd bellach yn wraig weddw, o Ben Llŷn i Lansadwrn, ger Treffos ar Ynys Môn. Treuliodd Kyffin lawer o'i amser rhydd yn ymweld â hi yno, yn bell o'i swydd fel athro yn Highgate, gogledd Llundain. Tra oedd yn ymweld â'i fam, manteisiai ar bob cyfle i fforio'r dirwedd i'r dwyrain o Lansadwrn, gan chwilio am leoliadau newydd a phobl a phethau i'w darlunio a'u peintio. Oherwydd ei ddiagnosis o epilepsi ni châi yrru car, ac felly byddai'n teithio'r ardal ar droed, ar feic, neu mewn bws.
Roedd y rhan hon o Ynys Môn yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd artistig iddo – pentrefi bychan gwledig, bythynnod traddodiadol, arfordir a thirweddau syfrdanol, gyda mynyddoedd Eryri yn darparu cefnlen ddramatig. Dehonglodd y dirwedd mewn pensil, dyfrlliw ac inc.
Mae'r darlun inc hwn yn dangos fferm o'r enw Ffordd Deg ar ochr ddeheuol Llanddona. Anaml y byddai Kyffin yn rhoi teitlau manwl ar ei waith, a galwodd y rhan fwyaf ohonynt yn 'Llanddona'. Yn ddiweddar, mae gwaith ymchwil wedi datgelu enw'r fferm, yn ogystal â'r union fan y darluniwyd yr olygfa ohoni. Mae'r braslun rhythmig hwn yn dangos diddorddeb mawr Kyffin mewn goleuni a thywyllwch, ac ym mhatrymau haniaethol y dirwedd a'r adeiladau o'i mewn.
Ardal ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn yw Fedw Fawr, a reolir bellach gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn y peintiad dyfrlliw hwn mae'r awyr dywyll, drymaidd, yn cael ei bywiogi gan wyrdd llachar y glaswellt a'r bryniau ar arfordir Fedw Fawr. Defnyddir palet tebyg yn Llanfihangel Din Silwy, lle mae'r artist yn edrych i fyny ar glwstwr o adeiladau carreg – du a llwyd – sy'n gwgu ar ben bancyn glaswelltog.
Daeth Kyffin hefyd i adnabod llawer o drigolion yr ardal, a pheintio portreadau ohonynt. Mae'r darlun llawn cymeriad hwn yn dangos Hugh Rowlands yn eistedd i Kyffin yn ei stiwdio ym Mhwllfanogl. Gan ddefnyddio llinellau rhydd, telynegol a marciau pensil marciau pensil wedi'u lliniogi ('hatched'), mae Kyffin yn cyfleu edrychiad craff y ffermwr wrth iddo edrych allan arnom ni, ychydig yn wargrwm a'i goesau ar led, ei ddwy law fawr yn cydio ym mreichiau ei gadair.
Wedi ei osod y tu ôl i Hugh mae peintiad olew mawr o waith Kyffin, Farmers below the Ridge – sydd hefyd yng nghasgliad Oriel Môn – yn dangos ffermwyr yn bustachu dros greigiau garw. Roedd Kyffin yn llawn edmygedd o ffermwyr, chwarelwyr a gweithwyr – y rhan fwyaf ohonynt yn ddynion – ac yn aml byddai'n eu portreadu fel rhan o'r dirwedd lle roeddynt yn gweithio.
Ymwelodd Hugh Rowlands ag Oriel Môn ym mis Awst, i rannu ei brofiadau o eistedd i Kyffin.
View this post on Instagram
Mae'r arddangosfa – sy'n cynnwys gweithiau o gasgliad yr Oriel, ynghyd â rhai a fenthycwyd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, y BBC, a chasgliadau preifat – yn dangos bod Kyffin nid yn unig yn cyfleu nodweddion ffisegol y dirwedd: roedd e hefyd yn cofleidio'i hagweddau emosiynol a diwylliannol. Mae'n datgelu sut y cyfrannodd y rhan hon o'r ynys at fri un o artistiaid mwyaf dylanwadol ac adnabyddus Cymru, a pham fod i'r ardal le arbennig yn ei galon.
Ffion Griffiths, Swyddog Marchnata Digidol a Chyfathrebu, Oriel Môn
Mae'r arddangosfa 'Lle yn y Galon: Kyffin a Dwyrain Môn' i'w gweld yn Oriel Môn ar Ynys Môn hyd 2 Chwefror 2025.
Rhan o Oriel Môn yw Oriel Kyffin Williams, a ddefnyddir yn unswydd i arddangos gwaith yr artist.
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru