Pan fu Kyffin Williams farw yn 88 oed yn 2006, roedd ei ddarluniau mor gyfarwydd yn y byd celf ac yng Nghymru, ei wlad enedigol, fel bod pobl yn aml yn cyfeirio atynt yn syml fel 'Kyffins'. Fe'i penodwyd yn aelod o'r Academi Frenhinol yn 1974, ac yn 80 mlwydd oed cafodd ei ddyrchafu'n farchog.
Ychydig o artistiaid sy'n cyrraedd y fath uchelfannau. Yr hyn sydd mor anghyffredin am Kyffin Williams yw ei fod wedi mwynhau cryn lwyddiant drwy gydol ei oes; tystiolaeth o hyn oedd bod peintiadau o'i arddangosfeydd cyntaf un wedi eu caffael ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Caerydd, ac Oriel Gelf Glynn Vivian, ymhlith casgliadau cyhoeddus eraill. Mae cryfder y gwaith, a'r enghreifftiau cynnar hyn o ddilysiad yn gweithredu fel marcwyr, gan ein helpu i ddeall y llwybr y byddai ei yrfa hirfaith yn ei ddilyn.
Arddull hyderus o fynegiadol oedd un Kyffin, ac roedd honno eisoes i'w gweld mewn gweithiau megis Tre'r Ceiri, sy'n darlunio un o dri chopa Yr Eifl (y cyfeirir atynt hefyd fel 'The Rivals'), ar Benrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru – bryniau ei lencyndod. Yn ddiweddarach, byddai'r arlliwiau gwyrdd llachar yn ildio'u lle i liwiau tawelach sy'n nodweddiadol o'i beintiadau llawer mwy adnabyddus o dirluniau mynyddoedd Eryri. Roedd Richard Wilson, yr artist tirluniau o Gymru, hefyd wedi peintio'r rhain ddwy ganrif yn gynharach, gan baratoi'r ffordd ar gyfer artistiaid tirlun modern.
Roedd Kyffin, ac yntau wedi derbyn hyfforddiant yn Ysgol Celfyddyd Gain y Slade, Llundain – er taw yn Rhydychen y treuliodd flynyddoedd y rhyfel – yn benderfynol o ymestyn ei brentisiaeth artistig, gan astudio ac efelychu'r meistri fel roedd cenedlaethau o artistiaid wedi ei wneud o'i flaen. Yn y gwaith bychan hwn, Y Disgyniad (Deposition), gyda'i liwiau llachar fel gemau, gwelir mwy na chyffyrddiad o Georges Rouault, y daw ei ddylanwad i'r amlwg o bryd i'w gilydd yng ngwaith Kyffin dros y blynyddoedd.
Prynwyd y ddau ddarlun hyn ar gyfer Oriel Glynn Vivian yn 1948, o arddangosfa gyntaf Kyffin yn oriel Colnaghi, lleoliad o fri yn y West End, Llundain. Nid oedd Kyffin eto wedi cyrraedd ei ben-blwydd yn 30 oed. Y flwyddyn ganlynol, dangoswyd ei luniau yno ochr yn ochr â gweithiau gan Augustus John, Muirhead Bone a David Young Cameron. Ymddangosodd ei waith hefyd mewn arddangosfeydd arwyddocaol yn y Leicester Galleries, lle prynwyd y portread hwn o Hugh Thomas ar ran Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru gan Margaret Davies, Gregynog.
Roedd Margaret a'i chwaer Gwendoline wedi prynu peintiadau o waith artistiaid megis Renoir, Cézanne, Manet, Monet a Van Gogh, ymhlith eraill – gweithiau sydd bellach yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru – ac roedd yn golygu llawer i Kyffin bod Miss Davies hefyd wedi prynu ei waith iddi hi ei hun.
Mae dau ddarlun pellach yng nghasgliad y Glynn Vivian yn tystiolaethu i'w feistrolaeth gynnar o'r cyfrwng. Yn Yr Wyddfa o Gyfeiriad Harlech, mae pelydrau'r haul yn benthyg eu llewyrch gwridog i'r llethrau sydd dan orchudd o eira, mewn cymhariaeth amlwg â'r rhai sydd yn y cysgod.
Byddai Kyffin yn mynegi ei hoffter o'r gwrthdaro rhwng dau begwn eithaf goleuni a thywyllwch; gwelir hyn yn glir yn Golygfa o'r Wyddfa yn y Gaeaf (1952), sy'n enghraifft o'r awyrgylch dramatig roedd mor hoff o'i greu. Gwelwyd y peintiad hwn mewn arddangosfa bwysig o waith Kyffin yn y Glynn Vivian yn 1953, ochr yn ochr â gwaith David Cox, yr artist tirluniau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, yn 1983, byddai'r darlun hwn yn cael ei gynnwys mewn arddangosfa bwysig yn yr Hayward Gallery, sef 'Landscape in Britain 1850–1950', gyda'r ffin amser yn cael ei hymestyn ychydig er cyfleustra. Roedd hyn yn arwydd clir o le Kyffin yn y canon o artistiaid Prydeinig.
Roedd magwraeth Kyffin, ar Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn, wedi rhoi gwybodaeth drylwyr iddo o gefn gwlad Cymru a'i phobl, ac roedd hynny yn ei dro yn pennu ei brif themâu. Ac yntau'n ddyn hynaws, ond hefyd yn hoffi bod ar ei ben ei hun, roedd ei uniaethiad angerddol â'r mynyddoedd a'r glannau yn bwydo'r gwaith.
Roedd y ffactorau hyn, ynghyd â rhyw gadernid naturiol, yn caniatáu iddo ddilyn ei uchelgais artistig ar y cyd ag – ac yn rhannol fel iawndal am – amgylchiadau oedd yn aml yn hynod anodd gan ei fod yn dioddef o epilepsi, ac iselder hefyd o bryd i'w gilydd. Yn ogystal, roedd ganddo gyflwr ar y llygaid oedd yn peri anawsterau iddo pan yn gweithio mewn golau haul cryf; oherwydd hynny roedd yn well ganddo dywydd mwy cymylog, ac mae hynny'n esbonio pam ei fod yn aml yn dewis palet o liwiau tawelach. Roedd yr artist ei hun yn ymwybodol o'r elfen felancolaidd yn ei dirluniau mynyddig, gan awgrymu bod moroedd tymhestlog yn adlewyrchu teimladau mwy cythryblus.
I genhedlaeth Kyffin, roedd y stigma o gwmpas epilepsi yn hynod gyffredin, ac yn sicr roedd hyn yn un rheswm pam na fu'n briod. Ac eto, yr hyn oedd yn fwy o gonsýrn iddo oedd y stigma, yn ei farn e, o weithio gyda chyllyll-peintio. O 1946 ymlaen, pan gydnabu am y tro cyntaf fod 'y gyllell-balet yn gymorth mawr i gyfleu maintioli aruthrol y mynyddoedd', byddai Kyffin yn raddol yn gwneud llai a llai o ddefnydd o frwshys, gan ddefnyddio cyllyll yn lle i greu impasto – sef arddull drwchus, gwlyb ar wlyb, a ddaeth yn nodwedd amlwg o'i waith. Ym Mhrydain, roedd llawer o ragfarn yn erbyn y dechneg hon – agwedd sy'n dal i fodoli heddiw – ac eto ni fu erioed yn broblem yn Ewrop.
O ganlyniad, byddai Kyffin yn chwilio am waith artistiaid oedd wedi gweithio yn y dull hwn. Yn eu plith roedd Gustave Courbet, Vincent van Gogh, Chaïm Soutine, a Nicolas de Staël, artist o gefndir Rwsiaidd-Ffrengig y teimlai Kyffin yn falch o fod wedi cwrdd ag e ar achlysur arddangosfa de Staël yn Oriel Matthiesen yn 1952. Mae defnydd de Stäel o'r hyn a alwai'n 'truelles' (tryweli-peintio), yn ogystal â'i ddull cyflym a dynamig o weithio ar gynfasau, yn cynnig rhywbeth cwbl gyfochrog â dulliau Kyffin. I ddechrau, mae dylanwad de Staël ar Williams i'w weld ar raddfa fechan yn unig, fel yn y rendr ar wal y bwthyn hwn yn Yr Eglwys a Bythynnod, Aberffraw, ond hefyd yn fwy eang. Yn y cyfamser, cysylltiad Kyffin â Van Gogh – nid lleiaf oherwydd y gofidiau meddyliol roedd y ddau'n eu rhannu – yw'r un roedd yn fwyaf parod i'w gydnabod.
Er bod y rhan fwyaf o gynnyrch Kyffin yn ei leoli'n gadarn yng ngogledd Cymru, roedd e hefyd (am resymau'n ymwneud â sicrwydd ariannol) yn cyfuno'i gelf â'i waith fel athro. Am bron i ddeng mlynedd ar hugain bu'n uwch athro celf yn Ysgol Highgate, gan dreulio tri diwrnod yr wythnos yn addysgu, ac yn peintio yn ei amser hamdden ac yn ystod y gwyliau. Mae'r ffaith fod dau o'i ddisgyblion, Anthony Green a Patrick Procktor, wedi mynd ymlaen i fod yn aelodau o'r Academi Frenhinol yn brawf pendant o'i ddylanwad a'i ddull ysbrydoledig o addysgu.
Cafodd Kyffin gyfnod sabothol o Ysgol Highgate, ac arweiniodd hyn at drobwynt yn ei fywyd; dyfarnwyd cymrodoriaeth y Winston Churchill Memorial Trust iddo, gan ei alluogi i ymweld â'r diriogaeth Gymreig ym Mhatagonia ym mis Hydref 1968. Tra oedd e yno, cofnododd y tirlun a'r bywyd yn y Wladfa a sefydlwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ym Mhatagonia, bu'n arlunio â phensil ac mewn pìn ac inc, er iddo hefyd weithio mewn dyfrlliw cyn dychwelyd i Lundain yng ngwanwyn 1969. Roedd ei beintiadau olew yn sylweddoliad llawn bywyd o'i argraffiadau ef ei hun o'r tirlun a'i liwiau. Yn 1971, dangoswyd y gwaith hwn mewn dwy arddangosfa – y lluniau yn Colnaghi's a'r peintiadau yn y Leicester. Ymddengys fod y gweithiau gafodd eu harddangos wedi chwarae rhan arwyddocaol yn y penderfyniad i enwebu Kyffin fel Aelod Cyswllt o'r Academi Frenhinol.
Er mawr fwynhad i Kyffin – gan ei fod yn grediniol taw hwn oedd ei beintiad gorau – prynwyd Dyffryn Camwy gan Amgueddfa Cymru. Heddiw, mae'n dal i fod ymhlith yr enghreifftiau mwyaf gwefreiddiol o'i waith; gan adlewyrchu ei hwyliau ar y pryd, mae'r arwyneb yn dangos ei ddefnydd meistrolgar – cerfluniol, bron – o baent, sy'n symud o'r ysgithrog i'r llyfn wrth fynd lan drwy'r darlun. Mae'r gwaith hefyd yn dangos gwedd arall o gelfyddyd Kyffin, lle gall peintiad fod yn gynrychioliad realistig mewn termau daearyddol, geolegol ac atmosfferig, ac eto'n cynnwys darnau o'r gwaith sy'n darllen fel synfyfyrdod. Mae'r cam hwn o greu tensiynau a datrysiad mewnol – wedi ei gyfuno ag ystyriaeth o strwythur a chyfrannedd – bob amser yn rhan o'r broses, ac yn cael ei weithredu bron yn ddiarwybod iddo.
Llwyddodd profiad Kyffin ym Mhatagonia i gadarnhau hefyd ei ymrwymiad i ddychwelyd i Gymru i fyw ac i beintio'n llawn amser. Caiff cyfuchliniau dramatig Blaen Ffrancon eu cofnodi'n fanwl-gywir, gyda drama felancolaidd ymhlyg yn y cydbwysedd rhwng mynydd ac awyr, ond mae'r paent hefyd yn cario ei naratif dramatig ei hun. Mae llif y llinellau a'r ystumiau eofn yn arddull Kyffin i'w gweld ar draws y genres; yn ei ddarluniau pìn ac inc, yn enwedig, fe welir awgrym cryf o ddylanwad yr artistiaid Die Brücke roedd ganddo feddwl uchel ohonynt. Ond un o agweddau mwyaf diddorol ei waith yw ei bortreadaeth.
Gall techneg peintio Kyffin ymddangos yn anaddas ar gyfer creu portreadau, ond mewn gwirionedd mae'n llwyddo i gynhyrchu tebygrwydd anhygoel tra ar yr un pryd yn cyfleu cymeriad. Roedd bregustra yr artist ei hun yn ei wneud yn ymwybodol o synwyrusrwydd pobl eraill, ac mae ymddiriedaeth a chydymdeimlad o'r fath i'w deimlo yn ei bortreadau o'r artistiaid Jack Jones ac Eileen Younghusband.
I Kyffin, roedd y weithred o beintio yn rhannol reddfol ac yn rhannol orfodol – dull angenrheidiol o geisio cael cydbwysedd. Wrth gwrs, nid yw popeth mae artist yn ei beintio yn cyrraedd safon ei waith gorau. Er bod Kyffin yn artist hynod gynhyrchiol, rhoddai ei hun dan anfantais trwy beidio â thalu digon o sylw i olygu ei waith neu waredu darluniau nad oedd wedi bwriadu i'r cyhoedd eu gweld. Mae'r ffaith fod dynwarediadau a darluniau ffug yn cario enw Kyffin bellach yn cyrraedd rhai o'r tai ocsiwn lleiaf enwog hefyd yn cymhlethu'r canfyddiad ehangach o gorff ei waith.
Er hynny, yn ei ddarluniau gorau, caiff teimlad o uniongyrchedd ei gyfathrebu'n bwerus i'r gwyliwr – eiliad unigryw a gipiwyd a'i gwneud yn ddiamser. Yma y gwelwn ni wir oleuni'r artist ar ei orau.
Rian Evans, ysgrifennwr, beirniad, ac awdur Kyffin Williams: The Light and The Dark
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
I weld nwyddau sy'n berthnasol i weithiau celf Kyffin Williams, ewch i Siop Art UK