Mae'r artist o Gymru, Kevin Sinnott, yn adnabyddus am ei baentiadau mynegiannol, sy'n dehongli, yn ei eiriau ef, 'gwefr bodolaeth' bywyd bob dydd. Drwy baentio golygfeydd beunyddiol, mae ei waith yn dal ystod o emosiynau dynol – rhyfeddod, llawenydd, lleddf, unigrwydd a chariad. Daw'r cyfan yn fyw drwy haenau o farciau brwsh beiddgar ac egnïol, a lliwiau cynnes.
Gellir gweld hyn yn Gwylio'r Bwncath (Watching the Buzzard). Mae dyn a menyw yn gorwedd ar lechwedd welltog, yn pwyntio tuag at awyr las niwlog, dan wres heulwen euraidd.
Ganwyd Sinnott yn Sarn ym 1947, ac fe adawodd Gymru i astudio yn y Coleg Celf Brenhinol ym 1971. Am sawl blwyddyn wedi'r coleg, fe weithiodd mewn arddull lled-haniaethol. Gellir gweld hyn yn Y Stiwdio – paentiad o ystafell lle mae'r llun wedi'i rannu'n ddarnau gyda rhai ffigyrau a gwrthrychau yn agos aton ni ac eraill ymhell, ac wedi eu portreadu gyda gwahanol lefelau o fanylder. Mae hefyd i'w weld yn Y Bydysawd – darlun a grëwyd o ddyfrlliwiau, pastel a siarcol, sy'n dangos ffigwr wedi'i bortreadu'n fynegiannol, yn gorwedd gyda blanced goch, ochr yn ochr â llestri o'r gegin sy'n gwyrdroi ein synnwyr o raddfa.
Mae Sinnott yn nodi Patrick Heron yn un o'r dylanwadau ar ei waith rhwng 1975 a 1982 – cyfnod pan fu'n ffocysu ar ffurf yn hytrach na chysyniad. Mae Heron yn adnabyddus am ei baentiadau haniaethol a lled-haniaethol a'i ddefnydd o liwiau llachar, cryf. Fe ddylanwadwyd gwaith cynnar Heron gan Georges Braque a Henri Matisse – artistiaid sydd wedi'u cysylltu'n agos â Chiwbiaeth a Chelf Haniaethol, symudiadau celf fodern y mae Sinnott hefyd yn ymddiddori ynddynt. Mae Y Bydysawd gan Sinnott a'r Pysgodyn Coch gan Heron yn rhannu geirfa weledol: llinellau du hylifol, defnydd o ofod gwyn, lliwiau fflat ac arlliw.
Erbyn y 1980au hwyr, roedd Sinnott yn peintio gan ddefnyddio olew ar liain yn bennaf, gan arbrofi trwy raddio'r gwaith i fyny, a thrwy gweithio gyda phynciau o ffuglen, dychymyg a bywyd. Yn ystod y cyfnod hwn fe barhaodd i arddangos ei waith yn rhyngwladol ac fe ddysgodd gelf mewn ysgolion celf gan gynnwys Ysgol Gelf Ruskin yn Rhydychen, ac Ysgol Gelf Sant Martin yn Llundain. Roedd Turandot yn seiliedig ar opera olaf Giacomo Puccini. Dywedodd Sinnott: 'Aeth paentiad fel Turandot â fi gryn bellter i ffwrdd o fy ngorffennol mwy modernaidd, pan oedd y cynnwys bob amser yn eilradd.'
Fe ddychwelodd Sinnott i fyw a gweithio yng Nghymru ym 1993. Roedd hyn yn caniatáu iddo ailgysylltu â'i orffennol, gan fagu emosiynau newydd – ac i ymateb hyd yn oed yn fwy i'w amgylchoedd uniongyrchol. Dywedodd 'mae'r ysbrydoliaeth yr wyf wedi'i dderbyn – yn ddiolchgar, os nad yn ostyngedig – o'm hamgylchedd uniongyrchol, wedi ymddangos weithau fel gwobr am ddod adref... Gwobr am gydnabod a chydnabod fy nyled i'r lle y ganwyd fy antur ryfeddol.'
Mae cymoedd de Cymru yn nodwedd gyffredin yn llawer o'i waith. Mae tai teras a bryniau llawn rhedyn i'w gweld yn llawer o'i gefndiroedd. Gellir gweld hyn yn Blodyn Pared (Wallflower). Mae rhesi o dai teras yn troi lawr y bryn, i'r dde o ferch sy'n pwyso yn erbyn adeilad – tafarn o bosib – ac yn syllu tuag allan. Rownd y gornel, mae cwpl ifanc yn cofleidio ac yn cusanu, heb wybod – neu efallai heb boeni – am bresenoldeb y ferch. Efallai eu bod yn adnabod ei gilydd, efallai ddim.
Mae llawer o baentiadau Sinnott yn awgrymu naratif, ond gwaith y gynulleidfa yw dewis y naratif. I'r artist, mae hyn yn llai pwysig. Fe esbonia: 'mae naratif yn cael ei ehangu gan y ddelwedd… ond ffurf yw llwyddiant paentiad yn bennaf – gofod addurnedig, a photensial deinamig ei gyfansoddiad.'
Mae Geometry Lesson Beach Five yn dangos golygfa chwareus ar y traeth: yn y blaendir mae menyw yn pwyntio at driongl sydd wedi'i farcio yn y tywod, tra bod menyw arall yn gwylio. Mae hi'n wyntog – mae ffrog werdd y fenyw sydd y tu cefn iddynt wedi chwythu i fyny, ei dillad isaf yn dangos wrth iddi gydio yn ei het. Mae ffigwr mwy haniaethol y tu cefn iddi yn atseinio'i ffrog werdd, tra bod ffigyrau eraill yn encilio i'r cefndir mewn tawch o liwiau a marciau haniaethol. Mae'r ffigyrau yn ymddangos yn fwyfwy tryloyw ac yn gynyddol haniaethol ar hyd llinell groeslinol.
Er fod y gwaith hwn yn dwyn i gof y syniad o ail-adrodd atgofion lle mae'r manylion yn doredig ac yn pylu i'w gilydd, mae'r paentiad yn ei hanfod yn chwarae gyda'r gofod darluniadol. Mae'n debyg i Traeth Trouville gan Eugène Louis Boudin, a baentiwyd ganrif yn gynharach. Mae'r ddau baentiad yn rhannu rhythm mynegiannol a marciau sy'n pylu ac yn ymledu manylion i'w gilydd. Mae Sinnott a Boudin ill dau yn defnyddio golygfa o draeth i archwilio materoliaeth paent ar arwyneb heb yr angen am naratif clir.
Mae bywyd dosbarth gweithiol yn cael ei gyfleu mewn nifer o baentiadau Sinnott. Yn Ailbwyntio, fe welwn ŵr hŷn yn ailbwyntio simdde ar do o lechi porffor, yn gwisgo cap gwastad a siaced las y gweithiwr. Mae'n teimlo'n ddigyffro, bron a bod yn ddogfennol. Rydyn ni'n dyst i waith y gweithiwr, wrth i ysbaid o heulwen drwy'r cymylau daflu cysgodion dros yr olyga. Mae'r teils llechi siâp petryal, y briciau brown a'r grisiau sgleiniog yn creu patrymau sy'n cael eu hailadrodd. Pwysleisir onglau lletraws y llun gan y ffordd y mae'r dyn yn plygu ei liniau tuag at bwynt ei drywel trionglog a chornel y to.
Rhedeg i Ffwrdd Gyda'r Torrwr Gwallt o gasgliad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw paentiad mwyaf eiconig Sinnott. Mae ar raddfa sydd bron yn real, ac yn dangos golygfa ar stryd o dai teras. Mae dyn yn rhedeg ar draws y ffordd, gyda menyw yn dilyn yn agos ar ei ôl. Mae eu dwylo wedi ymestyn allan, fel petaent yn estyn i gydio yn llaw ei gilydd, neu fel petaent wedi bod yn dal dwylo ac wedi gadael fynd. Mae goleuni oren haul fin nos yr haf yn goleuo'r olygfa, ac mae casgliad o bobl yn brysur yn y cefndir – menyw yn gwthio pram, pobl yn nhafarn y Station Arms a menyw yn cydio yn llaw plentyn. Fe ddatblygwyd y paentiad o baentiad arall, tywyllach, o ddyn sengl a oedd â'r thema o adael y gorffennol ar ei ôl.
Yn ystod ymweliad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, fe welodd Sinnott gwpl yn chwerthin o flaen ei baentiad. 'Wrth gymharu â chelfyddyd fodern arall yn yr ystafell fe ystyrion nhw fy mheintiad i yn un llawen a doniol,' esboniodd. 'Roedd eu hymateb braidd yn ddirgel i mi.'
Mae rhedeg i ffwrdd yn awgrymu bod rhywun yn ffoi rhag rywbeth. Wrth ail-ymweld â Rhedeg i Ffwrdd Gyda'r Torrwr Gwallt yn yr Amgueddfa ym mis Chwefror 2024, rwy'n cael fy hun yn meddwl tybed beth neu pwy mae'r ffigurau yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth? Ni allaf osgoi adlewyrchu ar y naratif na'r ymateb posib i'r gwaith. Dw i'n cael fy hun yn meddwl am bobl ledled y byd sy'n ffoi ar hyn o bryd – rhag camdriniaeth, erledigaeth, hil-laddiad a rhyfel: yn ffoi er mwyn goroesi. Mae rhedeg i ffwrdd yn dod ag addewid am bosibiliadau eraill. Er nad ydynt wedi cyrraedd pen eu taith, mae'r ffigyrau yn symud – mae hyn yn cynnig gobaith.
Gweni Llwyd, artist
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Mae dyfyniadau'r artist o wefan Kevin Sinnott, Art UK, a gohebiaeth e-bost rhwng yr artist a'r awdur, Chwefror 2024
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen a gwylio pellach
Kevin Sinnott, Behind the Canvas, Seren Books, 2008
Kevin Sinnott, cyfweliad yn Canfas, 2024
Gary Raymond, 'Kevin Sinnott in Conversation', Wales Arts Review, 2022