Yn ei ddydd, roedd John Parry (1710–1782) yn seléb ym myd cerddoriaeth. Ac yntau'n boblogaidd fel perfformiwr, cyfansoddwr, a chyhoeddwr cerddoriaeth, ei dalent ef ar y delyn deires a arweiniodd at sefydlu'r offeryn fel eicon cenedlaethol i Gymru, ac mae ei waddol yn parhau yn ein cyfnod ni heddiw. Ond, yn aml iawn, caiff ei orchestion eu hystyried yn nhermau ei ddallineb, gan ennill iddo'r llysenw Parri Ddall.

Ai fe oedd yr unig delynor dall o Gymru? Nage. Ond fe yn sicr oedd y mwyaf adnabyddus, a'i lwyddiant anhygoel e fu'n gyfrifol am baratoi'r ffordd i alluogi eraill, megis Will Penmorfa, i godi i'r brig.

The Blind Harpist, John Parry (1710?–1782)

The Blind Harpist, John Parry (1710?–1782) c.1770

William Parry (1742–1791)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae amryw o straeon am fywyd John Parry yn sôn am y modd y llwyddodd i 'oresgyn' ei ddallineb i gyflawni ei lwyddiant anhygoel. Mae'r naratif hwn yn mentro'n beryglus o agos at stereoteipiau'r 'supercrip', y gellir ei esbonio rywbeth yn debyg i hyn: 'mae'r person hwn wedi goresgyn adfyd eu hanabledd i gyflawni pethau eithriadol – dyna i chi ysbrydoliaeth!' Gwelir hyn amlaf yng nghyd-destun athletau, ond mae e hefyd yn cripian i mewn i'r meysydd diwylliannol, megis cerddoriaeth a'r celfyddydau.

Efallai nad yw hyn yn ymddangos yn broblem – yr oedd e'n hynod lwyddiannus, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu, on'd yw e? Ond mae stereoteip y 'supercrip' yn gweld yr anabledd gyntaf, yn hytrach na'r person. Mae'n gosod disgwyliadau afrealistig ar gyfer pobl anabl eraill, gan awgrymu nad yw eu bywydau'n werth eu dathlu os na fyddant yn llwyddo i gyflawni pethau eithriadol. Ac mae'n rhoi gwerth ar y person anabl yn ôl eu gallu i ysbrydoli pobl nad ydynt yn anabl.

Caiff hyn ei adlewyrchu mewn hanesion am fywyd John Parry. Er gwaethaf ei aml lwyddiannau fel perfformiwr a chyfansoddwr, roedd e 'run mor enwog fel yr ysbrydoliaeth y tu ôl i The Bard, cerdd epig a gyfansoddwyd yn 1757 gan fardd o Loegr, Thomas Gray.

Thomas Gray

Thomas Gray 1747–1748

John Giles Eccardt (1720–1779)

National Portrait Gallery, London

Roedd Gray bron yn ei ddagrau wrth wrando ar 'harmoni dall hudolus' Parry ar y delyn, a dyna a'i cymhellodd i gyfansoddi cerdd hirfaith a melodramataidd yn archwilio themâu mawreddog megis hunaniaeth genedlaethol, gwrhydri, proffwydoliaeth, iaith a cholled. Câi The Bard ei weld fel un o gampweithiau yr Adfywiad Celtaidd. Bu'n ysbrydoliaeth i annog llawer o feirdd, artistiaid a cherddorion eraill i dwrio i hanes barddol Prydain yr oesau a fu, ac astudio ffigur y bardd yn eu gwaith.

Yn aml, rhyw weledigaethau Rhamantaidd yw'r rhain, o hen ddynion penwyn a chanddynt farf wen, hir – fel Dumbledore – a'r ffigurau fel arfer wedi eu gosod mewn tirluniau dramatig. Yn fersiwn Thomas Jones, mae bardd olaf Cymru yn sefyll ar erchwyn clogwyn yn Eryri, yn cael ei ymlid gan y brenin Edward I a'i filwyr. Mae'r bardd yn melltithio gorsedd Lloegr am y tro olaf cyn ei daflu ei hun i'r dyfroedd cythryblus islaw.

The Bard

The Bard 1774

Thomas Jones (1742–1803)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Sylwch nad dim ond talent Parry gafodd effaith ddofn ar Gray – yn benodol, ei 'harmoni dall' a'i ysbrydolodd i ysgrifennu The Bard.

Mae 'na gysylltiad hirsefydlog rhwng beirdd a dallineb. Mae'r 'gweledydd dall' wedi datblygu'n ystrydeb gyffredin – fel petai diffyg golwg yn angenrheidiol i ddatblygu rhyw weledigaeth fewnol, ddwyfol. Mae HomerTiresias ac Ossian ill tri wedi cael eu dychmygu fel proffwydi dall – dynion doeth yn darogan y dyfodol i sain eu telynau. Yn ôl y sôn fe wnaeth Dewi Sant, nawddsant Cymru, iachau dallineb ei athro, y fynach dall Pawliniws.

Homer Singing His Iliad at the Gate of Athens

Homer Singing His Iliad at the Gate of Athens 1811

Guillaume Lethière (1760–1832)

Nottingham City Museums & Galleries

Yn aml, defnyddir cerddorion dall mewn celf a llenyddiaeth fel dyfais i ennyn ymateb emosiynol. Dychmygir Gobaith, o waith G. F. Watts, fel ffigur dall yn cyrcydu dros delyn fach gan blycio'n drist ar y tannau – delwedd a gynlluniwyd i ennyn tosturi a phathos.

Yn yr un modd, wrth ddisgrifio merch ddall yn canu'r delyn yn Aberystwyth, ysgrifennodd E. D. Clarke 'â dwylo crynedig... adroddodd wrthym hanes trist ei  thrallod ei hun... wedi colli ei golwg, heb gyfaill yn y byd, ac yn dlawd, bu'n crwydro o le i le' ('A Blind Harper', Northern Whig, 8fed Mehefin 1837).

Hope

Hope 1886

George Frederic Watts (1817–1904) (and assistants)

Tate

Mewn peintio genre, cysylltir cerddorion dall yn aml â themâu o dlodi a cholled. Weithiau cânt eu dangos fel cardotwyr, yn perfformio ar gornel stryd neu mewn tafarn, yn y gobaith y bydd rhyw ddieithryn caredig yn taflu ychydig o geiniogau tuag atynt.

O bryd i'w gilydd, cysylltir hwy â phechod. Mae'r telynor dall yn A Rake's Progress: The Orgy gan Hogarth yn swatio mewn cornel tŷ tafarn, ac yn canu'r delyn wrth i bawb a phopeth o'i amgylch ddisgyn i anhrefn llwyr a thrythyllwch rhywiol. Mae hyn yn cysylltu â'r syniad niweidiol bod anabledd yn gosb oddi wrth rhyw dduw am bechod neu droseddau a gyflawnwyd yn y gorffennol – cysyniad a barhaodd yn gryf dros sawl canrif, ac sydd wedi'i wreiddio mewn ofn ac anwybodaeth am anabledd.

A Rake's Progress: 3 – The Orgy

A Rake's Progress: 3 – The Orgy 1734

William Hogarth (1697–1764)

Sir John Soane’s Museum

Ychydig iawn mae'r stereoteipiau hyn – o'r gweledydd dall i'r cerddor crwydrol, digyfaill – yn ei ddweud wrthym am brofiad byw pobl ddall, neu am y cyflwr o fod yn ddall. Dyw'r person dall yn ddim mwy na dyfais: ffigur y gall pobl nad ydynt yn ddall ei ddefnyddio i daflunio eu hemosiynau a'u pryderon eu hunain arno. Mae hyn wedi arwain at ddulliau niweidiol o ystyried, a thrin, pobl a chanddynt anableddau.

Beth, felly, fyddai'n digwydd petaem ni'n edrych ar bethau o gyfeiriad gwahanol? Ystyriwch John Parry, er enghraifft. Beth petaem yn ystyried sut roedd ei ddallineb yn galluogi ei lwyddiant, a chyfrannu tuag ato, yn hytrach na bod yn rhwystr roedd yn rhaid iddo ei oresgyn?

John Parry Playing the Harp

John Parry Playing the Harp

William Parry (1742–1791)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Does gennym yr un cofnod yng ngeiriau Parry ei hun sy'n disgrifio beth roedd ei ddallineb yn ei olygu iddo. Wyddom ni ddim sut roedd ei olwg yn cael ei effeithio. Ond fe wyddom taw cyflwr gydol oes oedd hwn i Parry, a oedd mae'n debyg yn ddall o'i enedigaeth. Yn y ddeunawfed ganrif, câi llawer o blant dall eu hannog i ddysgu canu offeryn gan taw dyma un o'r ychydig ffyrdd y gallent ennill bywoliaeth iddynt eu hunain. Felly, yn achos John Parry, mae'n debyg ei fod wedi dysgu sut i ganu'r delyn oherwydd, nid er gwaethaf, ei ddallineb.

John Parry the Blind Harpist, with an Assistant

John Parry the Blind Harpist, with an Assistant 1770–1780

William Parry (1742–1791)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Gwyddom hefyd fod gan John Parry rywfaint o ddylanwad dros y modd roedd ei ddallineb yn cael ei gynrychioli yn gyhoeddus. Roedd ei fab, William, yn artist oedd yn arbenigo mewn portreadau, a pheintiodd nifer o ddarluniau o'i dad yn yr 1770au. Mae'r portreadau hyn yn ei ddangos fel gŵr bonheddig, syber, mewn dillad crand – yn gwbl groes i'r delweddau arferol o delynorion dall, tlawd sy'n gyffredin mewn peintiadau genre.

Mae'r portread John Parry yn dal ei Delyn o gasgliad Tate yn debycach i bortread Thomas Hudson o Handel, sy'n ei ddangos fel cerddor urddasol a diwylliedig. Roedd Handel yntau hefyd yn ddall erbyn y cyfnod hwn. Yn John Parry, y Telynor Dall gyda Chynorthwydd (John Parry, the Blind Harpist with an Assistant), mae Parry'n chwarae anthem enwog y coroniad gan Handel – Zadok the Priest – efallai enghraifft o un cerddor dall yn talu teyrnged i un arall.

George Frideric Handel

George Frideric Handel 1756

Thomas Hudson (1701–1779)

National Portrait Gallery, London

Wrth i'r ddeunawfed ganrif fynd yn ei blaen, roedd nifer cynyddol o feddygon ac ocwlyddion yn ceisio 'gwella' pobl o'u dallineb, a daeth rhai o'r achosion hyn i sylw'r cyhoedd; un ohonynt oedd William Taylor, bachgen ifanc o swydd Kent, a ddaeth yn enwog ar ôl cael adfer ei olwg yn 1751. Ymddangosai hysbysebion am driniaethau adfer golwg yn fwyfwy aml yn Llundain ac yn sir Ddinbych, lle roedd John Parry'n byw ac yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser. Mae'n debygol iawn ei fod e'n ymwybodol o'r rhain, ond nid oes unrhyw gofnod wedi goroesi i ddangos ei fod erioed wedi mentro cael llawdriniaeth.

A portrait of a young boy in a curly wig, looking at his reflection in a looking glass

William Taylor, bachgen a aned yn ddall, yn syllu i mewn i ddrych ar ôl cael adfer ei olwg trwy lawdriniaeth

1751, ysgythriad gan T. Worlidge

Yn fwy arwyddocaol, defnyddiai John Parry ei ddallineb i chwyddo ei statws diwylliannol trwy fanteisio ar y cysylltiad rhwng beirdd a dallineb. Hawliai taw gweddillion y rhai a ganwyd yn wreiddiol gan feirdd Cymru oedd ei gyhoeddiadau poblogaidd o ganeuon gwerin Cymru. I'w gyfoedion yn yr elît diwylliannol, daeth John Parry yn ymgorfforiad byw o'r beirdd hynafol hyn, ac roedd ei ddallineb yn ychwanegu at yr honiad hwnnw.

Mae'n bwysig nodi taw'r eithriad, ac nid y rheol, oedd John Parry. Roedd yn cael budd mawr o dderbyn cefnogaeth gan un o'r teuluoedd cyfoethocaf yng Nghymru, y teulu Williams-Wynn o Wynnstay, a rhoddodd hyn iddo lefel o sicrwydd ariannol a llwyfan diwylliannol oedd ymhell y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o delynorion dall y cyfnod.

Mae ei esiampl unigryw ef yn dangos nad y dallineb ei hun oedd y rhwystr mwyaf oedd yn wynebu pobl ddall bryd hynny – a gyda'r amgylchiadau a'r gefnogaeth iawn, y gallai dallineb fod yn fwy o fantais nag o faich.

Steph Roberts, Golygydd Comisiynu Art UK – Cymru

Mae'r ymchwil wreiddiol yn deillio o wobr cymrodoriaeth rhwydwaith Understanding British Portraits 2022/2023

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Cyfieithiad o'r Saesneg

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen pellach

Steph Roberts, 'Y Telynorion Dall: Golwg o'r Newydd' Celf ar y Cyd, 2023

Moshe Barasch, Blindness: The History of a Mental Image in Western Thought, Routledge, 2001

Miles Wynn Cato, Parry, published by the author, 2008

Georgina Kleege, More than Meets the Eye, Oxford University Press, 2018

Chris Mounsey, Sight Correction: Vision and Blindness in Eighteenth-Century Britain, University of Virginia Press, 2019

Mark Paterson, Seeing with the Hands: Blindness, Vision, and Touch after Descartes, Edinburgh University Press, 2016