Roedd Graham Sutherland yn artist toreithiog o'r ugeinfed ganrif, a weithiodd mewn ystod eang o gyfryngau gan gynnwys print, tapestri, cerameg a chreu gwisgoedd ar gyfer y llwyfan – ond roedd yn fwyaf adnabyddus am ei baentiadau. Mae ei dirluniau lled-haniaethol yn swreal yn eu dehongliad o ffurfiau naturiol rhyfedd a bygythiol, ac yn eu defnydd o drosiad gweledol. Roedd ei symudiad tuag at bortreadaeth yn ddiweddarach yn ei yrfa yn caniatáu i siapiau lled-gorfforol ei dirluniau ymdoddi i mewn i waith ffigyrol.

Graham Vivian Sutherland

Graham Vivian Sutherland 1977

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

National Portrait Gallery, London

Yn Babydd selog, efallai mai comisiwn enwocaf Sutherland oedd ei ddarlun o Iesu Grist mewn tapestri anferthol ar gyfer Cadeirlan Coventry. Fel Artist Rhyfel swyddogol fe baentiodd gofnod o ddinistr yr Ail Rhyfel Byd, a phortread o'r Prif Weinidog a arweiniodd y wlad drwy'r rhyfel - mae stori comisiwn aflwyddiannus Sutherland i baentio Winston Churchill yn dal i gael ei hadrodd heddiw.

Fe anwyd Graham Vivian Sutherland yn Streatham yn ne Llundain ym 1903, yn fab i Elsie a George Humphreys Vivian (neu 'H. V.') Sutherland. Er mai cyfreithiwr a gwas sifil oedd tad Sutherland, roedd y ddau riant yn baentwyr ac yn gerddorion amaturaidd. Fe ddangosodd yr artist ifanc ddawn at ddarlunio ac roedd wrth ei fodd yn cerdded yn yr awyr agored. Fe gychwynnodd Sutherland hyfforddi fel prentis peirianneg yn Derby, gan fod cysylltiad teuluol i'r gweithfeydd locomotif. Fodd bynnag, ar ôl blwyddyn, fe gytunodd tad Sutherland y gallai adael peirianneg a mynd i ysgol gelf. Y Slade oedd ei ddewis cyntaf, ond gan nad oedd lle ar gael iddo fe aeth i goleg celf Goldsmiths ym 1921 yn lle.

Pecken Wood

Pecken Wood 1925

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Aberystwyth University School of Art Museum and Galleries

Er yn ŵr ifanc yn ei 20au cynnar, fe ddangosodd Graham Sutherland ddawn amlwg at gynhyrchu printiau. Fe lwyddodd i gynnal bywoliaeth yn creu engrafiadau ac ysgythriadau, ac fe arddangosodd ei waith yn Llundain. Roedd ei argraffiadau gan amlaf yn dilyn traddodiad bugeiliol Rhamantiaeth Seisnig: golygfeydd cain o goed, dŵr a thir gyda gwead cyfoethog. Yn aml byddent yn dangos gweithwyr gwledig - er mae'r ysgythriad Adda ac Efa yn dangos Sutherland yn cychwyn cyflwyno diddordebau crefyddol i'w waith. Fe brynwyd y darn o'i sioe unigol gyntaf ym 1924 pan oedd e'n dal i astudio. Mae'r gwaith yn dangos dyn yn cydio mewn offer, a menyw hanner noeth yn edrych i lawr llwybr tywyll sydd wedi'i amgylchynu â gwyrddni crwydrol.

Adam and Eve

Adam and Eve 1924

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Aberystwyth University School of Art Museum and Galleries

Fe roddodd Goldsmiths addysg gadarn, ymarferol iddo, ond sylwodd Sutherland bod diffyg dylanwad modernaidd: '... roedd [Goldsmiths] allan o gysylltiad yn gyfan gwbl gyda'r symudiadau Ewropeaidd mawr, a oedd yn blaguro ac yn cyrraedd eu hanterth ar y pryd... Dw i ddim yn cofio clywed gair am yr Argraffiadwyr na chwaith mudiad Moderniaeth.'

Ar ôl graddio ym 1926, daeth Sutherland yn Babydd ac fe briododd Kathleen Barry blwyddyn yn ddiweddarach. Roedd Kathleen hefyd yn fyfyrwraig yn Goldsmiths. Ar ôl trefnu cwrdd i fynd i'r bale un noson ar ôl anfon nodyn swil, fe ffurfiodd y pâr bartneriaeth gadarn. Ar ôl coleg fe ymgartrefodd y cwpl yng Nghaint ac fe gychwynnodd Sutherland ddysgu yn Ysgol Gelf Chelsea.

Yn anffodus bu cychwyn y ddegawd newydd yn gyfnod anodd i'r cwpl. Bu farw eu mab, John, yn faban ym 1929. Hefyd, yn sgil dirwasgiad economaidd fe ddirywiodd y farchnad ar gyfer printiau Prydeinig a oedd yn sail i yrfa Sutherland. Mae ei brint Pastoral wedi cael ei ganmol fel arwydd o'i hwyliau ar y pryd: mae canghennau crwydrol tebyg i dentaclau a llystyfiant swmpus yn amgylchynu'r llwybr clawstroffobig.

Fodd bynnag, buodd taith i Sir Benfro ym 1934 yn ysbrydoledig i Sutherland. Cafodd yr artist ei gyffwrdd yn ddwfn gan y dirwedd toreithiog o eithin, pantiau creigiog, dyffrynnoedd a bryniau, ac fe gychwynnodd paentio. Fe uniaethai â dieithrwch gorfoleddus y dirwedd, ac fe ddychwelai yno yn flynyddol, gan greu paentiadau olew a chanddynt arlliw o ffurfiau swreal. Cafodd ambell un ei arddangos yn Arddangosfa Swrrealaidd Ryngwladol yn Llundain ym 1936 ac yn ddiweddarach yn ei arddangosfa baentio unigol gyntaf ym 1938.

Welsh Landscape with Roads

Welsh Landscape with Roads 1936

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Tate

Ffurfiwyd y sioe unigol honno yn bennaf o dirluniau Cymreig. Ond gellir olrhain yr awgrym cyntaf o ryfel yn ei waith – fel mae cofnod y Tate yn esbonio, mae Tirwedd Ddu yn dangos pryder Sutherland ar y pryd. 'Mae'r teitl a'r effaith gyfnos argoelus yn awgrymu trais sydd ar fin digwydd... Yma mae'r dirwedd greigiog noeth yn codi fel presenoldeb tywyll, bygythiol.'

Black Landscape

Black Landscape 1939–40

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Tate

Wrth edrych ar waith Sutherland yn gronolegol, fe gychwynnodd ffurfiau tebyg i fodau dynol dorri allan o'r dirwedd, gan ddod yn fwy bygythiol wrth i'r Ail Ryfel Byd ddatblygu. Llaw welw, grafangog yw'r eithin gwyn. Mae dau wrych tywyll yn pwyso gyda'i gilydd fel petaent yn cynllwynio.

Gorse on a Sea Wall

Gorse on a Sea Wall 1939

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

National Museums NI

Narrow Road between Hedges

Narrow Road between Hedges 1938–1939

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Leicester Museums and Galleries

Gorwedda goed yn flinedig ac yn glwyfedig. Roedd gan Sutherland ffocws ar natur a'i ddehongli'n gywrain drwy gydol ei yrfa, ond yn y 1930au a'r 1940au cynnar fe gychwynnodd baentio coed, creigiau a ffurfiau naturiol fel petaent yn fodau byw gyda'u cymhelliant unigryw eu hun.

Tree Form

Tree Form 1941

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Leeds Museums and Galleries

Daeth yr Ail Ryfel Byd â swydd ddysgu Sutherland yn Chelsea i ben, ac fe symudodd gyda'i wraig i Swydd Gaerloyw. Er ei gartref newydd gwledig, ni allodd yr artist neilltuo'i holl amser i baentio'r dirwedd naturiol a'i swynodd.

Devastation, 1941, City, Panorama of Ruin

Devastation, 1941, City, Panorama of Ruin 1941

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Museum of London

Fe'i penodwyd yn Artist Rhyfel swyddogol ym 1940, ac yn ystod y rhyfel fe baentiodd Graham Sutherland chwareli a chanolfannau trefol a'u difrodwyd gan fomiau, gan greu oddeutu 150 darn o waith celf. Wrth siarad ar y radio ym 1941, dywedodd: 'Mae'r budreddi a'r ing a awgrymir gan rai o'r golygfeydd o ddinistr yn peri i rywun ddyfeisio ffurfiau sy'n dangos hanfodion darluniadol budreddi ac ing... Ffurfiau budr, ffurfiau dioddefus, ffurfiau sy'n cymryd agwedd ddynol bron.'

Tapping a Blast Furnace

Tapping a Blast Furnace 1941–2

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Tate

Flying Bomb Depot

Flying Bomb Depot (verso) 1945

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Bristol Museums, Galleries & Archives

Gyda diwedd y rhyfel, fe brofodd Sutherland lwyddiant go iawn: fe gafodd arddangosfeydd yn y DU a thramor, ac fe'i penodwyd i swydd ddysgu newydd yn Goldsmiths. Fe aeth yr artist ati i weithio ar sawl comisiwn pwysig, er ei fod bellach yn treulio sawl mis bob blwyddyn ar y Rifiera Ffrengig – roedd yr hinsawdd yn llesol i iechyd Kathleen, ac fe sbardunodd y dirwedd gyffro yn yr artist. Ym 1944, fe dderbyniod gomisiwn gan Ficer Eglwys Sant Mathew yn Northampton i baentio golygfa o'r Croeshoeliad. Fe gwblhawyd y darn ym 1946, a dyma oedd astudiaeth swyddogol gyntaf Sutherland o'r ffigwr dynol drwy gyfrwng paent.

Sketch for 'The Crucifixion'

Sketch for 'The Crucifixion' 1946

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

West Northamptonshire Council

Fe greodd sawl astudiaeth lai, sydd bellach mewn casgliadau cyhoeddus, ar gyfer y darn mwy o faint yn yr eglwys. Mae Crist yn ymddangos yn welw, ei fynegiant dioddefus a'i freichiau a'i goesau wedi torri, gan awgrymu'r boen annioddefol o fod ar y groes. Fe ddefnyddio Sutherland ffotograffau o'i gorff ei hun – yn hongian o'r nenfwd, fel cyfeirnod, yn ogystal â lluniau o wersyll-garcharau'r Natsïaid.

Thorn Head

Thorn Head 1949

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

National Galleries of Scotland

Mae'r Croeshoeliad yn gychwyn i 'gyfnod drain' Sutherland, lle cyfunodd eiconograffeg crefyddol a ffurfiau naturiol bygythiol. Fe dyfodd y sbigynnau a'r pwyntiau, a'u defnyddiwyd i rannu a chreu ffiniau, yn fwy haniaethol dros amser. Roedd ffurfiau naturiol eraill, megis ffosiliau, yn sylfaen i'w waith Origins of the Land.

Origins of the Land No. 1

Origins of the Land No. 1 1950–1951

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Government Art Collection

Roedd Sutherland yn artist cynhyrchiol, ac fe barhaodd hyn yn y 1940au a'r 1950au: fe ddatblygodd ei dirluniau haniaethol yn fwy cymhleth. Adeiladwyd golygfeydd dryslyd a chyfoethog drwy liwiau a ffurfiau, yn llawn symudiad a manylion.

Head II

Head II 1951

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Ac eto, fe gynhyrchodd Sutherland nifer fawr o bortreadau yn ystod y cyfnod yma hefyd. Tra datblygodd ei baentiadau swrrealaidd yn eu cymhlethdod a'u eiconograffeg, fe baentiodd Sutherland bortreadau cynrychioliadol ond anghonfensiynol o ffrindiau a ffigurau nodedig, gan gynnwys Somerset Maugham.

Somerset Maugham

Somerset Maugham 1949

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Tate

Yn ôl bob sôn fe gafodd Maugham ei synnu a'i siomi gan y portread ar olwg cyntaf, ond yn ddiweddarach fe deimlodd yn fwy cadarnhaol, gan weld y portread yn ddehongliad sy'n datgelu ei bersonoliaeth – efallai'n fwy nag oedd e'n dymuno. Dywedodd yr artist Gerald Kelly bod y portread yn dangos Maugham 'fel madam puteindy yn Shanghai'. Gellir dehongli'r elfennau dwyreiniol, megis y stôl a wnaed o fambŵ a'r dillad moethus fel cyfeiriad at olygfeydd Asiaidd sydd i'w canfod yng ngwaith ysgrifenedig Maugham.

Nid hwn oedd yr unig bortread gan Sutherland i ddwyn sarhad neu beri dadl.

Winston Churchill

Winston Churchill 1954

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

National Portrait Gallery, London

Ym 1954, fe gomisiynwyd Aelodau Seneddol bortread o Winston Churchill er mwyn dathlu pen-blwydd y Prif Weinidog yn 80. Fel y dengys yn y gyfres deledu The Crown, nid oedd perthynas Sutherland a Churchill yn un hawdd. Roedd Churchill yn dipyn o artist hefyd, er bod ei arddull yn wahanol iawn i Sutherland. Roedd y ddau wrth eu boddau â'r dirwedd, celfyddyd a'u gwlad, ond roedd y ddau'n gwrthdaro'n wleidyddol – gyda'r Prif Weinidog Ceidwadol yn gwawdio tueddiadau sosialaidd Sutherland – ac yn gwrthdaro o ran arddull. Roedd Churchill yn fwy na pharod i baentio golygfeydd ffug at ddibenion esthetaidd, ond roedd Sutherland yn onest iawn yn ei bortreadau, ac roedd yn well ganddo ddangos y gwirionedd yn ei waith.

Roedd Churchill – bellach yn ddyn oedrannus – yn fodel gwael. Fe fyddai'n cwympo i gysgu, yn aflonyddu ac yn ceisio cymryd yr awenau ac arwain y gwaith. Roedd hi'n anochel felly, na fyddai'r comisiwn yn llwyddiant: Fe wrthododd Churchill y portread ambell i ddiwrnod cyn y cyflwyniad swyddogol, gan ddweud nad oedd 'y paentiad, waeth pa mor gampus yw'r gwaith, yn addas', a bod yr osgo yn awgrymu ei fod yn eistedd ar y tŷ bach, yn 'dwp'.

Mae'n siŵr bod y profiad yn un a fychanodd y ddau ddyn. Fe ddadorchuddiodd  Churchill y portread gyda jôc bod y gwaith yn 'esiampl nodedig o gelfyddyd fodern', i ddifyrrwch y dorf a ymgynullodd yn Neuadd San Steffan a'r gynulleidfa fyw yn gwylio ar y teledu. Fel mae Simon Schama yn esbonio, fe gyflwynodd Sutherland y gwirionedd, ond nid oedd Churchill eisiau'r gwirionedd: 'Dim ci tarw, dim wyneb babi. Dim ond paentiad coffaol'.

Er y crëwyd y paentiad i'w gael ei arddangos yn senedd San Steffan, fe anfonwyd y portread i Chartwell, sef cartref Churchill. Yn ddiweddarach fe ddaeth i'r amlwg bod Y Fonesig Churchill wedi gorchymyn bod y gwaith yn cael ei ddinistrio ar goelcerth, ond mae rhai astudiaethau paratoadol yn dal i fodoli mewn casgliadau cyhoeddus.

Winston Churchill

Winston Churchill 1954

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

National Portrait Gallery, London

Er bod y comisiwn yn brofiad negyddol, un bluen yn unig yn het Sutherland oedd ei bortreadau. Cafodd ei baentiadau eraill, ei dirluniau swreal, eu harddangos ym Miennale Fenis ym 1952, ac ym 1960 fe dderbyniodd yr Urdd Teilyngdod. Yn ystod y cyfnod hwn fe weithiodd ar gomisiwn uchel ei broffil ar gyfer Cadeirlan newydd Coventry.

1962, tapestri gan Graham Vivian Sutherland (1903–1980) & gweithdy Pinton Frères o Felletin

'Crist mewn Gogoniant yn y Tetramorph' sydd wedi'i leoli yn Eglwys Gadeiriol Coventry

1962, tapestri gan Graham Vivian Sutherland (1903–1980) & gweithdy Pinton Frères o Felletin

Mae Crist mewn Gogoniant a ddadorchuddiwyd ym 1962, yn dapestri enfawr (un o'r tapestrïau sengl mwyaf yn y byd) yn mesur 23 metr o uchder a 12 metr o ran lled. Fe'i dyluniwyd gan Sutherland, ac fe'i crëwyd yng ngweithdy Ffrengig Pinton Frères o Felletin. Bu tîm o 12 o wehyddion yn gweithio ar y darn am ddwy flynedd, gan ddefnyddio dros 900 o liwiau, gyda Sutherland yn ymweld o bryd i'w gilydd.

Mae'r tapestri yn dangos Crist gyda symbolau o'r Pedwar Efengyl: llew, llo, eryr ac angel. Mae Crist yn ymddangos yn warchodwr sydd uwchlaw ddynoliaeth, yn dawel a thu hwnt i boen. Roedd brasluniau o sw ym Maidstone, paentiadau o wynebau gan Rembrandt a beicwyr o gylchgrawn Paris Match ymhlith ei ffynonellau wrth greu'r gwaith. Cedwir brasluniau ac astudiaethau yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Herbert yn Coventry.

Christ Seated (Christ in Glory)

Christ Seated (Christ in Glory) c.1955/1956

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Herbert Art Gallery & Museum

Yn ei flynyddoedd olaf, fe dreuliodd Sutherland amser yn Fenis, de Ffrainc ac fe ddychwelodd i Sir Benfro. Fe barhaodd y dirwedd naturiol i roi siâp a ffurf i'w baentiadau. Mewn llythyr i'w fywgraffydd Rosalind Thuillier, esbonia Sutherland bod 'geirfa ffurfiau' y lleoliad yn apelio ato 'pan maent yn rhydd o'u hamgylchfyd ac yn barod i fyw bywyd newydd ar ffurf ddarluniadol.' Roedd e mor ddiolchgar i'r rhan hon o'r wlad am yr ysbrydoliaeth, iddo adael corff o'i waith – yr Oriel Graham Sutherland – yng Nghastell Picton, Sir Benfro ym 1976. Fe aeth y casgliad i Amgueddfa Cymru yn y pen draw.

Dog Rock

Dog Rock 1975–1976

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Roedd Sutherland yn artist toreithiog ar hyd ei yrfa ac fe barhaodd i dderbyn comisiynau portreadau a chreu golygfeydd swreal tan ei farwolaeth yn 76 oed. Mae ei 'dirluniau' diweddarach yn hynod gyfoethog yn eu lliw a'u manylder – mae ffurfiau naturiol yn plygu ac yn gwyrdroi gyda chefndiroedd breuddwydiol, ac mae awgrym o siapau yn edrych yn gyfarwydd nes eu bod yn toddi mewn i liwiau a siapiau eraill.

U-Shaped Form with Blue Sky

U-Shaped Form with Blue Sky 1976

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae Dideitl (Cadwch Allan), a grëwyd blwyddyn cyn ei farwolaeth, er enghraifft, fel petai'n dangos wyneb dihiryn dan glogyn, rhwng ffurfiau tebyg i goed. Mae arwydd wedi'i baentio o flaen mynedfa felen ddirgel yn rhybuddio'r gynulleidfa.

Untitled (Keep Out)

Untitled (Keep Out) 1979

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae cryn dipyn o waith chwilio am fanylion a cheisio adnabod cliwiau ac arwyddion yng ngwaith Sutherland. Mae'n teimlo fel ein bod yn diddwytho neges o'r dirwedd naturiol, neges a allai fod yno neu beidio.

Form over River

Form over River 1971–2

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Tate

Yn debyg i'w gyfoed Henry Moore, cafodd gwaith Sutherland ei gydnabod yn rhyngwladol, ond fe barhaodd i adlewyrchu ffurfiau'r dirwedd Brydeinig: fe ganmolodd Edward Sackville-West Moore a Sutherland fel dau o artistiaid mwyaf arwyddocaol yr ugeinfed ganrif, gyda'r ddau yn meddu ar 'y llygaid diysgog, agored sy'n gallu adlewyrchu delfryd trasig Lloegr gyfoes.'

Fe ddaeth meddylfryd modernaidd Sutherland allan o gefndir mewn gwerthfawrogiad Rhamantaidd o natur, ac fe ddyrchafodd y dirwedd trwy ei agwedd ysbrydol. Mae'r ffaith bod nifer fawr o'i weithiau celf yn parhau mewn casgliadau cyhoeddus yn dyst i'w wreiddioldeb.

Jade King, Prif Olygydd Art UK

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg