Mae un o hunanbortreadau Vincent van Gogh wedi dod i Gymru am y tro cyntaf ar gyfer arddangosfa newydd, 'Drych ar yr Hunlun'. Bydd y paentiad, sydd ar fenthyg o Musée d'Orsay, yn cael ei ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ochr yn ochr â hunanbortreadau eraill o'r casgliad celf cenedlaethol.

Ond mae darlun arall gan Van Gogh yng nghasgliad cenedlaethol Cymru – tirlun pwerus, llawn emosiwn, sy'n datgelu cymaint am feddyliau'r artist ag unrhyw un o'i hunanbortreadau.

Dyma'r llun anhygoel Glaw, Auvers, a baentiwyd ddyddiau yn unig cyn i'r artist farw.

Rain, Auvers

Rain, Auvers 1890

Vincent van Gogh (1853–1890)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae'r paentiad yn dangos caeau gwenith yn ardal Auvers-sur-Oise ar gyrion Paris mewn glaw trwm. Yn y blaendir, mae'r gwenith melyn golau yn y caeau'n crynu ac yn tonni. Mae'r paent yn grychau trwchus. Y tu hwnt i'r caeau mae tai'n swatio mewn dyffryn â choed poplys o'u cwmpas mewn gwahanol arlliwiau o fioled a glas. Tua'r canol, gwelwn frain yn hedfan yn isel dros y caeau. Mae'r glaw yn drwm a diarbed.

Efallai mai'r glaw yw nodwedd fwyaf trawiadol y darlun, wedi'i gyfleu gan straciau cryf ar letraws trwy'r paent. Cafodd Van Gogh ei ysbrydoli gan y ffordd y cafodd glaw ei ddarlunio ar dorlun pren Japaneaidd ukiyo-e, Sudden Evening Shower on the Great Bridge near Atake gan Utagawa Hiroshige.

Bu printiau Japaneaidd yn ddylanwad mawr ar Van Gogh, a llawer o artistiaid eraill y Gorllewin yn y cyfnod hwnnw. Roedd yn edmygu eu lliwiau llachar, eu ffurfiau fflat, eu cyfansoddiad anghymesur a'u portread o olygfeydd o fywyd bob-dydd. Paentiodd Van Gogh ei fersiwn ei hun o Sudden Evening Shower Hiroshige yn 1887.

Bridge in the Rain (after Hiroshige)

Bridge in the Rain (ar ôl Hiroshige)

1887, olew ar gynfas, gan Vincent van Gogh (1853–1890)

Daeth Theo, brawd Van Gogh, ar draws Glaw, Auvers yn stiwdio'r artist ar ôl iddo farw. Newydd ei baentio ydoedd – un o gyfres roedd Van Gogh yn gweithio arni yn ei wythnosau olaf.

Disgrifiodd y gweithiau newydd hyn mewn llythyr a ysgrifennodd at Theo tua 10 Gorffennaf 1890: 'Maen nhw'n eangderau mawr o gaeau gwenith o dan awyr derfysglyd, ac es i ati'n fwriadol i geisio cyfleu tristwch, unigrwydd llethol… Bydd y cynfasau hyn yn dweud wrthot beth na allaf i ei fynegi mewn geiriau – y pethau am gefn gwlad rwy'n teimlo eu bod yn iachus ac yn ein hatgyfnerthu.'

Rai wythnosau wedyn, aeth allan i un o'r caeau a'i saethu ei hun, gan farw o'i glwyfau ar 29ain Gorffennaf 1890.

Yn Van Gogh's Shadow, mae Dan Stephen yn dychmygu Van Gogh yn paentio'r caeau gwenith. Nid yw'r artist yn ddim ond cysgod ariannaidd ar y cynfas, eisoes yn llithro o'r byd.

Van Gogh's Shadow

Van Gogh's Shadow

Dan Stephen (1921–2014)

NHS Tayside

Yn 1920 – sef 30 mlynedd ar ôl i Van Gogh farw – prynwyd Glaw, Auvers gan y casglwr celf o Gymru, Gwendoline Davies, ym Mharis. Roedd y penderfyniad i'w brynu yn un hynod ar y pryd. Nid oedd Van Gogh yn cael ei gyfrif yn seren ym myd celf bryd hynny fel y mae heddiw. Yn wir, cafodd ei waith ei wawdio'n gyhoeddus yn yr arddangosfa Ôl-Argraffiadol gyntaf yn Llundain yn 1910. Roedd Gwendoline yn un o griw bach o gasglwyr ym Mhrydain – a'r unig fenyw – oedd â mynediad at ei weithiau, a'r awydd a'r modd i fuddsoddi ynddynt ar y pryd.

David Davies (1818–1890)

David Davies (1818–1890) 1893

Alfred Gilbert (1854–1934) and Broad & Son

A470, Llandinam

Roedd Gwendoline a'i chwaer Margaret, oedd hefyd yn casglu celf, wedi etifeddu ffortiwn gan eu tad-cu, y diwydiannwr, David Davies Llandinam ac roeddent ymhlith menywod cyfoethocaf Prydain. A hwythau'n ymwybodol bod eu cyfoeth mawr wedi'i adeiladu ar waed, dagrau ac aberth gweithwyr diwydiannol de Cymru, roeddent yn benderfynol o wneud iawn am hynny yn eu ffordd eu hunain. Credent yng ngrym cymdeithasol, iachusol ac addysgol y celfyddydau ac roedd y ddwy, gyda'i gilydd, wedi bod yn datblygu casgliad i'w roi'n rhodd i bobl Cymru.

Sunflowers

Sunflowers 1888

Vincent van Gogh (1853–1890)

The National Gallery, London

Prynodd Gwendoline Glaw, Auvers bedair blynedd cyn i'r Oriel Genedlaethol yn Llundain brynu'r llun eiconig Blodau Haul , gyda chefnogaeth Cronfa'r Courtauld. Paentiodd Margaret ei fersiwn ei hun o Blodau Haul, efallai'n deyrnged i'r artist. Ond er bod cyfraniad Samuel Courtauld at gasgliadau celf cyhoeddus y Deyrnas Unedig yn cael llawer o sylw, mae tuedd i anwybyddu'r chwiorydd Davies – oherwydd eu bod yn ferched, ac yn Gymry, mae'n debyg.

Sunflowers

Sunflowers

Margaret Sidney Davies (1884–1963)

Gregynog Hall

Erbyn i Gwendoline brynu Glaw, Auvers, nid oedd yn casglu cymaint ag y bu. Ar ôl gweld y dinistr a achoswyd gan y rhyfel, a'r ansicrwydd economaidd a'i dilynodd, ni allai wynebu gwario cymaint ar gelf. Yn hytrach, trodd ei sylw at ei chartref newydd, Gregynog, a brynwyd gan y chwiorydd yn 1919 â'r bwriad o'i ddatblygu'n ganolfan gelf a chrefft, ac yn lle i gyn-filwyr wella yn nhawelwch cefn gwlad canolbarth Cymru.

Am flynyddoedd, bu Glaw, Auvers ar y wal yn ystafell gerdd Gregynog, nes iddo ddod i feddiant yr Amgueddfa Genedlaethol trwy gymynrodd gan Gwendoline yn 1954. Roedd yn un o baentiadau cyntaf Van Gogh i'w dderbyn i unrhyw gasgliad Prydeinig, ac mae wedi ysbrydoli artistiaid ac ymwelwyr di-ri ers hynny.

Farms near Auvers

Farms near Auvers 1890

Vincent van Gogh (1853–1890)

Tate

Daeth Ffermydd ger Auvers i feddiant y Tate cyn hynny, yn 1933. Canolbwynt y paentiad anorffenedig hwn yw ffermdai gwledig mewn clytwaith o gaeau ir, a'u toeau gwellt tonnog yn frith o dyllau. Fel Glaw, Auvers, paentiwyd hwn hefyd yn yr wythnosau cyn i Van Gogh farw. Mae'r ddau ar ffurf anarferol y 'sgwâr dwbl': â'u lled ddwywaith eu huchder.

Morning on the Oise, Auvers

Morning on the Oise, Auvers 1859

Charles-François Daubigny (1817–1878)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Credir bod y ffurf sgwâr dwbl wedi'i ysbrydoli gan waith Daubigny, artist Ffrengig a adeiladodd gartref-stiwdio yn Auvers-sur-Oise yn 1861. Denwyd nifer o artistiaid i'r ardal hon ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn eu plith Corot, Pissarro a Cézanne, y cafodd ei ddarlun Near Auvers-sur-Oise ei ddwyn o Amgueddfa'r Ashmolean yn 2000.

Near Auvers-sur-Oise

Near Auvers-sur-Oise 1880s

Paul Cézanne (1839–1906)

Ashmolean Museum, Oxford

Ond nid y cysylltiad artistig hwn oedd yr unig reswm pam y symudodd Van Gogh i Auvers. Roedd newydd gael ei ryddhau o ysbyty seiciatrig yn Saint-Rémy-en-Provence, lle'r aeth yn wirfoddol yn 1889 ar ôl ceisio torri ei glust ei hun i ffwrdd. Symudodd er mwyn bod yn nes at ei frawd Theo, ac at Dr Gachet, artist, ffrind a meddyg homoeopathig.

Self-Portrait with Bandaged Ear

Self-Portrait with Bandaged Ear 1889

Vincent van Gogh (1853–1890)

The Courtauld, London (Samuel Courtauld Trust)

Mae'n ddiddorol cymharu Van Gogh a'r artist o Gymro, Edgar Herbert Thomas, oedd â gweledigaeth arbennig. Fel yr eglura'r hanesydd celf Peter Lord, roedd Thomas yn yr Académie des Beaux-Arts yn Antwerp ar yr un pryd â Van Gogh, a chafodd yntau hefyd gyfnodau o salwch meddwl a arweiniodd at amser mewn ysbyty meddwl.  Ar yr wyneb, ychydig sydd gan baentiadau tryloyw rhyfedd Thomas â'u goleuadau llaethog a'u gwyrdd mwsoglyd yn gyffredin â phaentiadau egnïol, llachar Van Gogh. Ond mae'r ddau'n defnyddio'r byd allanol i archwilio gwirioneddau emosiynol cyfnewidiol, goddrychol.

Foliage, Water and Bird

Foliage, Water and Bird

Edgar Herbert Thomas (1862–1936)

Pembrokeshire County Council's Museums Service

Roedd cyfnod Van Gogh yn Auvers yn gyfnod ffrenetig, cythryblus. Roedd problemau iechyd meddwl yn dal i'w boeni, ac mae'n bosibl bod Glaw, Auvers yn cyfleu'r ymgodymu hwn. Mae'r darlun yn cyfleu egni sydd wedi cronni o'i fewn – mae'n rymus ac yn ansicr, yn obeithiol ac yn ddigalon ar yr un pryd. Mae'n llawn emosiynau sy'n hawdd eu teimlo, ond yn anodd eu categoreiddio. Dyma ddarlun sy'n ymgorfforiad o gyflyrau seicolegol cyfnewidiol, gwrthdrawiadol, yr artist yn y dyddiau cyn iddo farw.

Steph Roberts, Golygydd Comisiynu Art UK – Cymru

Seiliwyd yr erthygl hon ar waith ymchwil newydd helaeth am gasgliadau'r chwiorydd Davies a ddatgelwyd mewn arddangosfa o bwys yn Amgueddfa Cymru, 'O Ddiwydiant i Argraffiadaeth' yn 2007. Mae arddangosfa a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Musee d'Orsay, 'Van Gogh in Auvers-sur-Oise' wedi rhoi trosolwg ardderchog o'r misoedd olaf ym mywyd Van Gogh.

Cyfiethiad o'r Saesneg.

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen Pellach 

Oliver Fairclough (gol.), Things of Beauty: What Two Sisters did for Wales, Amgueddfa Cymru, 2007 

Ann Sumner, Goleuni a Lliw - 50 o Weithiau Argraffiadol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2005 

Martin Bailey, Van Gogh and Britain: pioneer collectors, National Galleries of Scotland, 2006 

Amgueddfa Van Gogh, Amsterdam, 'Vincent van Gogh's Death' 

Did you know?
  • Ysgrifennodd yr artist Jack Jones, a anwyd yn Abertawe, bywgraffiad Van Gogh, The Man Who Loved the Sun, mewn teyrnged i'w ysbrydoliaeth fwyaf