Ganed Edgar Herbert Thomas mewn amgylchiadau tlawd ar fferm ger Llanddewi Efelffre (neu Llanddewi Felffre), Sir Benfro, yn 1862. Hanner canrif yn ddiweddarach, yn 1913, byddai'n arddangos 137 o'i beintiadau yn Orielau Doré, Llundain. Ar y pryd (ac, o bosibl, fyth ers hynny) hon oedd yr arddangosfa fwyaf erioed o waith unrhyw arlunydd byw Cymreig i'w chynnal y tu allan i Gymru. Serch hynny bu farw Thomas ym 1936 wedi'i anghofio gan y byd celf a'r cyhoedd yn gyffredinol, a difethwyd ei ddarluniau mwyaf uchelgeisiol ac adnabyddus – a hynny, mae'n debyg, gan y perthnasau oedd wedi eu hetifeddu.
Gellid ystyried llwyddiant gyrfa Thomas fel cyflawniad o ddyheadau artistig cenhedlaeth o ddeallusion a noddwyr uchelgeisiol yng nghyfnod Cymru Fydd – mudiad gwladgarol oedd yn ei anterth o chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond wedyn, mae diflaniad Thomas o'r byd celf yng Nghymru – ac, yn wir, o gof y genedl – hefyd yn adlewyrchu tynged a methiant y mudiad hwnnw, a'i ddyheadau uchelgeisiol ar gyfer Cymru, ar ôl y rhyfel.
Yn ddyn ifanc, prentisiwyd Thomas fel gwehydd gan weithio mewn dwy felin yn Sir Benfro. Ar ôl iddo gymhwyso symudodd i weithio yn ffatri wlân Mr Wilson ym Mhontypridd, lle bu'n mynychu dosbarthiadau celf yr arlunydd William Morgan Williams (Ap Caledfryn). Drwy ei gysylltiadau personol, llwyddodd Ap Caledfryn i sicrhau gwaith i'w ddisgybl ifanc yn adran gelf papur newydd y Western Mail.
Yn 1883, cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd – digwyddiad oedd yn cynnwys cystadlaethau celf ar raddfa anghyffredin o fawr, o ganlyniad i ddiddordeb grŵp o ddeallusion dylanwadol a oedd yn aelodau o'r Cardiff Naturalists' Society. Roedd Edgar Thomas ymhlith y cystadleuwyr, ac fe enillodd fedal arian am ddarlun mewn du a gwyn. Cafodd y darlun ei ganmol yn uchel yn y Western Mail gan y beirniaid, sef yr arlunydd o dras Iseldireg, Lawrence Alma-Tadema, a'r beirniad celf o Lundain, Frederick Wedmore.
Er gwaethaf dadl gyhoeddus ddiurddas rhwng dwy garfan oedd yn hawlio'r clod am annog Thomas fel arlunydd ifanc, cafodd ei noddi gan yr Ardalydd Bute i astudio am gyfnod byr yn Llundain ac yna, yn fwyaf pwysig, yn yr Académie des Beaux-Arts, Antwerp, lle bu Alma-Tadema ei hun yn astudio. Yno, ymhlith cydoeswyr Thomas am naw mis, yr oedd Vincent van Gogh, a thynnwyd portreadau o'r ddau fyfyriwr gan yr arlunydd ifanc o Sais, Horace Mann Livens.
Ar ôl treulio'r cyfnod byr hwn o brofi syniadau celfyddydol cyffrous y Belle Époque, gan gynnwys – yn arwyddocaol – Symbolaeth – dychwelodd Thomas i Gymru, gan ymsefydlu mewn tŷ yn Blackweir ar gyrion gogleddol Caerdydd, lle byddai'n aros am weddill ei oes.
Llwyddodd Thomas i sicrhau comisiynau am bortreadau, yn bennaf gan aelodau o'r Cardiff Naturalists' Society, ac roedd popeth yn mynd yn dda. Ond yna, yng ngwanwyn 1892, daeth tro ar fyd wrth iddo ddangos arwyddion o afiechyd meddwl. Darganfuwyd ef yn crwydro'r strydoedd, a chafodd ei anfon i'r wyrcws cyn ei drosglwyddo'n ddiweddarach i Ysbyty Meddwl Sir Forgannwg. Dros gyfnod o dri mis, cadwyd cofnod manwl o'i ymddygiad yno:
'He is not making any progress. Will not wear a hat or scarf because God gave him hair to cover his head & a scarf is unhealthy. Full of philanthropic projects, "want to see my fellow man have his rights". He is anxious to make everyone a Welshman … In conversation he gets excited & then indicates that he derived his knowledge direct from the Deity. He believes he can foretell events from the appearance of the moon.'
Yn groes i gyngor meddygol, cafodd Thomas ei ryddhau o'r ysbyty meddwl ar gais perthynas iddo, a oedd o'r farn 'fod y claf yn ei iawn bwyll; mae'n derbyn bod ei syniadau cyn wired â'r efengyl; ac yn credu bod y claf wedi ei gamddeall gan bawb.' Y broblem, mae'n debyg, oedd canfod y ffin rhwng y rhithiol a'r gweledigaethol. Yn y darluniau sy'n amlwg symbolaidd – ac, yn wir, yn y tirluniau, portreadau, a lluniau bywyd-llonydd – a gyflawnwyd gan Thomas ar ôl y cyfnod hwn, amlygwyd meddylfryd cyfriniol y gweledydd oedd yn chwilio'n barhaus am yr ystyr y tu ôl i realaeth wrthrychol y byd naturiol o'i gwmpas.
Yn 1893, dechreuodd Thomas weithio ar gyfres o ddarluniau o Gamlas Morgannwg – o leiaf wyth deg ohonynt – a lifai y tu ôl i'w gartref yn Blackweir, Caerdydd, pob un yn dehongli'r un olygfa yn edrych tuag at dro yn y gamlas. Ar y dechrau, dewisai liwiau tywyll gan adlewyrchu'r palette a ddefnyddiai cyn ei salwch, ond yn raddol dechreuodd gyflwyno lliwiau goleuach.
Yn 1917, ar noson braf o haf, peintiodd yr olygfa o'r tu mewn i'w gartref yn edrych allan i'r ardd ar lan y gamlas, lle safai ei îsl gwag. Mae'r ystod lawn o arlliwiau, o dywyllwch tu mewn y tŷ i olau llachar A Summer's Evening (y teitl a roddodd ar y gwaith), yn gweithio ar lefel ddyfnach fel symbol o'r berthynas rhwng tywyllwch mewnol ei feddwl a golau disglair y byd y tu hwnt iddo. Yn ddiweddarach yn ei yrfa, pan symudodd allan o ardd ei gartref i beintio yng nghwmni ei protégé, Henry Walter Shellard, byddai'n defnyddio palet o liwiau gwyrdd dwys.
Roedd diddordeb mawr Thomas mewn goleuni, ac yn ei ystyr ddyfnach, wedi ei fynegi yn ei waith symbolaidd enwocaf, sef The Birth of Light a arddangoswyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1899. Barn y Western Mail am y darlun oedd: 'a great and wonderful production, evidently emanating from the weird and mystical imagination of the Celt.'
Yn y darlun hwn, ynghyd ag Intellectual Blindness Following Old Thoughts – gwaith ar raddfa fawr a beintiwyd ganddo ddwy flynedd ynghynt – nid yw'n anodd gweld dylanwad gwaith George Frederick Watts, arlunydd a fabwysiadwyd fel 'Celt' gan ddeallusion Cymreig y cyfnod. Fodd bynnag, yn ei weithiau ar raddfa fechan – ac yn enwedig yn y nifer fawr o luniau disglair o flodau, oedd fel arfer wedi eu gosod mewn llestri tryloyw neu o liwiau llachar – y llwyddodd Thomas i fynegi ei weledigaeth wir-unigryw a hynny, yn baradocsaidd, yn y modd symlaf posibl.
Ar ôl y Rhyfel Mawr, parhaodd Thomas i ddarlunio blodau a thirluniau, ond erbyn hyn roedd sylw'r beirniaid wedi troi at Foderniaeth. Yng Nghymru, trodd y ffocws at Augustus John yn bennaf, ac ef oedd yr un a ddisodlodd Thomas yn y byd celf ac ym meddwl y cyhoedd fel yr arlunydd Cymreig pwysicaf.
Ar adeg ei arddangosfa yn Llundain, yr oedd cefnogwyr Edgar Herbert Thomas yng Nghaerdydd wedi defnyddio'r gair 'athrylith' amdano, ond wedi'r rhyfel, cafodd ei waith ei anwybyddu. O ganlyniad, collwyd sawl un o'i weithiau pwysicaf. Serch hynny, mae rhai darluniau wedi goroesi mewn casgliadau preifat ac yn Amgueddfa Cymru, ac yn ffodus iawn cadwyd corff sylweddol o'i weithiau bach hynod mewn casgliadau ym Maenor Scolton, Sir Benfro.
Peter Lord, hanesydd celf ac awdur
Mae Peter Lord yn cynnwys pennod ar Edgar Herbert Thomas yn ei lyfr Looking Out: Welsh Painting, Social Class and International Context, Parthian (2020)
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Cyfieithiad o'r Saesneg