Cafodd Gareth Griffith ei fagu yng Nghaernarfon, ac mae wedi byw nid nepell o'r dref honno, ym Mynydd Llandygai, ger Bangor, am fwy na deugain mlynedd. Astudiodd yng Ngholeg Celf Lerpwl tua dechrau'r 1960au a threuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa fel athro celf. Ar ôl ymddeol, adeiladodd stiwdio newydd iddo'i hun yn ei ardd, a bu'n cynhyrchu rhai o weithiau gorau ei yrfa ers hynny. Fe'i cynrychiolir yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru, Oriel Gelf Walker a Chasgliad Cyngor y Celfyddydau, ac roedd yn gyd-enillydd gwobr BEEP Painting Biennial 2022 yn Abertawe.
Mae wedi llwyfannu arddangosfeydd niferus ledled Cymru dros y blynyddoedd diweddar; yn flaenaf yn eu mysg roedd yr arddangosfa deithiol 'Trelar // Trailer' yn 2019. Dan guradiaeth Oriel Davies, teithiodd y sioe i Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Tŷ Pawb ac Oriel Myrddin ac roedd yn gist drysor o waith diweddar; yr agosaf y gallech ddod at fod yn stiwdio Gareth, ac mewn oriel ar yr un pryd. A dweud y gwir, mae galw 'Trelar' yn arddangosfa deithiol yn gwneud tro gwael â'r gwaith, braidd, am ei bod wedi newid gryn dipyn ymhob lleoliad; felly roedd yn ymdebygu fwy i bedair arddangosfa hollol wahanol. Roedd y sioe yn waith ynddi'i hun, gyda Gareth yn cydweithio â'r curadur Steffan Jones-Hughes i'w adeiladu o'r newydd ar gyfer pob lleoliad.
Mae hynny'n dweud cyfrolau am Gareth fel grym creadigol. Ef yw un o'r artistiaid mwyaf eithriadol sy'n gweithio yng Nghymru heddiw, ac mae'n cynhyrchu gwaith sy'n wyllt o greadigol, ysgafnfryd, sy'n eich syfrdanu ac sy'n danbaid o ddeallus. Mae gan y gwaith ei ieithwedd weledol ei hun, ac mae Gareth yn gweithio mewn dull unigryw; dyw gweithiau ddim yn dechrau a gorffen, fel y cyfryw, ond yn hytrach maen nhw'n treiglo i mewn ac allan o'i rod. Mae ynddynt haenau o gyfeiriadaeth a gwybodaeth hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol craff.
Mae'i waith hefyd yn eithriadol bersonol; gan ddwyn i gof a chynnwys gwrthrychau a digwyddiadau go iawn o'i fywyd. Mae rhai o'r penodau hyn, fel y cyfeiriadau mynych at ei gyfnod o fyw a gweithio yn Jamaica ar ddechrau'r 1970au, pan fu iddo bron â chael ei lofruddio, yn eithriadol o ysgytwol.
Wedi dweud hynny, mae hi bron yn ddibwynt ceisio hoelio neu ddosbarthu gwaith Gareth ormod, am nad yw hynny'n gwneud cyfiawnder â'i athrylith ddiymatal. Oes, mae yma ddarlunio, paentio, cerflunio, gwrthrychau a ganfuwyd, y 'ready-made', a chyfeiriadau diwylliannol – at gelf, cerddoriaeth a llenyddiaeth. Dychmygwch hyn oll ar yr un pryd, ac mewn cyfres nad yw'n arbennig o gronolegol, ble bydd y gweithiau'n aml yn cael eu hailbwrpasu a'u hailweithio'n rhywbeth newydd eilwaith.
View this post on Instagram
Mae Bertorelli yn esiampl ddelfrydol. Dyma waith o bwys o arddangosfeydd 'Trelar' sydd bellach yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru. O'i weld am y tro cyntaf yn Oriel Davies, cefais ymdeimlad o wybod ei fod yn waith hollol athrylithgar, ond heb allu mynegi'n union pam.
Mae'n wledd i'r llygaid, heb os. Ymddengys fod y paentiad canolog yn goferu drosodd ar i waliau'r oriel, gyda fersiynau tri dimensiwn o'r hyn a ddangosir ar gynfas. Ymddengys gwrthrychu ar hap, fel pe bai, ac eto maent yn adlewyrchu'i gilydd yn gynnil, ac mae ganddynt berthynas o ran lliw a ffurf sy'n gwneud synnwyr yn yr isymwybod. Ceir fflachiadau o felyn drwyddi draw sy'n rhoi cydlyniant ac sy'n fflachio yn erbyn llwyd tawel y cefndir. Mwy am hynny maes o law.
Ond nid rhyw arbrawf mewn haniaeth yn unig mo hwn – mae Bertorelli yn waith sy'n agos iawn at galon yr artist. Roedd y teulu Bertorelli'n Eidalwyr oedd yn berchen ar siop hufen iâ yng Nghaernarfon, ble byddai Gareth yn mynd pan oedd yn blentyn yn y 1950au. Arferai'r portread – go iawn – ar waelod y gwaith hongian ym mharlwr hufen iâ Bertorelli, a daeth Gareth ar ei draws wrth glirio tŷ ddegawdau'n ddiweddarach, gan ychwanegu'i ymyriadau'i hunan i'r paentiad, a thrwy hynny greu'r had ar gyfer yr hyn a drodd yn waith gorffenedig yn y pen draw.
Yn aml, byddaf yn meddwl am waith Gareth fel gwaith cerddor sy'n dyfeisio'n fyrfyfyr o gwmpas alaw. Angorwyd y cyfan wrth gonglfeini theoretig – hanes, ffurf, dimensiwn, lliw, perthynas gofodol – ond maer cyfan wedi'u dadelfennu a'u hailadeiladu. Mae Bertorelli yn gynnyrch gan artist ar frig ei ddoniau: uchelgeisiol, hyderus, dwysbigol ac arbrofol.
Cyfeiriodd Gareth at ennyd ffurfiannol yn ei ugeiniau a helpodd roi ffurf ar ei weledigaeth greadigol. Pan oedd yn y Coleg Celf yn 1962, dangoswyd copi o lyfr dylanwadol Johannes Itten The Art of Colour (1961) iddo. Mae'r gyfrol yn archwilio'r berthynas rhwng lliwiau, theori a defnydd o liw mewn celf dros y canrifoedd. Ymysg y paentiadau y cyfeirir atynt mae paentiad Konrad Witz, Y Synagog o ganol y 1430au. Dyma baentiwr o'r Swistir tua diwedd y cyfnod Gothig, na wyddys lawer amdano, er nad yw hyn yn ei wneud ronyn yn llai pwysig. Nifer fach iawn o'i weithiau sydd wedi goroesi. Dim ond un paentiad, gan ddilynydd i Witz, sy'n bodoli mewn casgliad cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.
Cynhwysir paentiad Witz gan Itten yn The Art of Colour ar gyfrif y defnydd syfrdanol o felyn yn nillad y prif ffigwr, sy'n amlycach fyth oherwydd y llwyd a'r cefndir clawstroffobig sy'n ei hamgylchynu. Mae dadlau ynghylch symbolaeth y melyn hwnnw; mae Itten yn priodoli'i ddefnydd i 'feddyliau ac addysg athronyddol resymol, resymegol yr Iddewon' tra bo'r hanesydd celf Ruth Mellinkoff yn dadlau fod y melyn - a'r portread o'r ffigwr alegorïaidd Synagoga mewn paentiadau crefyddol o'r cyfnod yn fwy cyffredinol - wedi cael y bwriad gwrthwynebus yn Ewrop yr Oesoedd Canol.
Yr hyn na ellir dadlau yn ei erbyn yw'r effaith a gafodd paentiad Witz ar Gareth Griffth, y myfyriwr celf o'r 1960au: 'dyna'r ddelwedd y byddaf yn troi ati bob amser, y ffigwr melyn wedi'i ddal mewn lle cyfyng.' Mae Gareth wedi defnyddio'r gwaith hwn yn sail i gyfres o gerfluniau, darluniau a phaentiadau sy'n edrych ar waith Witz fel maen prawf. Pan ymwelais innau â'i stiwdio rai blynyddoedd yn ôl, roedd grŵp o weithiau 'Konrad' yn cael eu harddangos gyda'i gilydd a chydiwyd y ffigyrau ynghyd fel grŵp gan y lliw melyn blodyn menyn yna.
Os oedd gwaith gwreiddiol Witz o'r bymthegfed ganrif yn awgrymu cyfyngiad, yna gyda Konrad ar Gerdded (Walking Konrad), o gasgliad Cyngor y Celfyddydau, mae Gareth yn rhyddhau'r ffigwr ac mae'n camu'n hyderus allan o'r lle cyfyng. Mae darn o gynhwysydd plastig melyn yn gweithredu fel y ffrog, fel pe bai'n cyhwfan ar yr awel. Mae'r plastig, a adlewyrchir mewn sawl gwaith o gyfres Konrad, yn dwyn i gof yn ddigymell wastraff a llygredd, a'r melyn llachar yn dod â disgleirdeb a gobaith, ond hefyd rybudd.
O bosib. Ac eto, o bosib ddim.
Yr hyn sydd wir yn ddiddorol am waith Gareth yw eich bod yn cael eich annog i ddod ato ar eich telerau eich hunan a chymryd ohono beth bynnag a ddymunwch. Er bod haenau o gyfeiriadaeth, a'r holl wybodaeth a phrofiad o fywyd sydd eisoes wedi para dros bedwar ugain mlynedd, mae gan ei waith fwriadau hael yn ei hanfod. Does dim un ffordd ragnodol o ddarllen, ac nid yw ef yn gosod un iddo'i hunan chwaith. Yn aml, bydd Gareth bron fel pe bai'n darganfod y gwaith wrth i ninnau'i ddarganfod.
Bu iddo grynhoi hyn mewn cyfweliad ar gyfer ei arddangosfa yn Storiel, Bangor, yn 2022: 'Mae hyn yn ymwneud â 'mywyd a 'mhrofiadau. Yr hyn sydd wedi digwydd i mi. Y pethau dwi wedi'u profi. Beth arall sydd yna? Gobeithio nad oes modd dod i gasgliadau hawdd.'
Neil Lebeter, curadur ac awdur
Rhoddir sylw i Gareth Griffith yn arddangosfa enillwyr Beep Painting 2022 yn Oriel Elysium, Abertawe o 19 Gorffennaf hyd 14 Medi 2024.
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Cyfieithiad o'r Saesneg
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Neil Lebeter, 'Gareth Griffith: Artist's Room', Celf ar y Cyd – Cynfas, 2024