Er bod gan gelfyddyd â phren hanes parchus ym Mhrydain, mae'n well gan y rhan fwyaf o gerflunwyr cyfoes ddefnyddio deunyddiau sy'n fwy hirhoedlog, fel carreg neu fetel. I'r gwrthwyneb, mae'r cerflunydd David Nash yn cymryd ei ysbrydoliaeth gan ddeunyddiau naturiol sydd o'n cwmpas, yn arbennig ym mympwyon pren sydd heb ei drin na'i brosesu.
Drwy gydol ei yrfa, mae Nash wedi ffafrio defnyddio bonion a changhennau pren sydd wedi disgyn yn naturiol, neu sydd wedi eu tynnu i lawr oherwydd haint neu resymau anfasnachol eraill. Mae tueddiad pren i ehangu a newid yn cael ei ddathlu yn nheitlau ei waith, megis Split Frame: Crack and Warp Square, darn a wnaed o bren ffawydden.
Mae perthynas Nash â phren a choed wedi esblygu drwy gydol ei yrfa, diolch i gyfuniad o arsylwad manwl a'i brofiad personol. Serch hynny, roedd hi'n amlwg o'r cychwyn y byddai ecoleg a'r amgylchedd yn ddiddordebau sylfaenol iddo.
Fe aned Nash yn Esher, Surrey, ac fe astudiodd yn y Kingston College of Art (1963–1967). Wedi hynny fe aeth i fyw i Flaenau Ffestiniog er mwyn dianc rhag costau byw prifddinas y DU. Ym 1968, fe brynodd Gapel Rhiw, addoldy segur, ar gyfer ei stiwdio. Dychwelodd Nash i Lundain am tua blwyddyn i gwblhau Uwch Ddiploma yn y Chelsea School of Art (1969–1970), wedyn fe ddaeth yn ôl i Gymru er mwyn gweithio gyda choed syrthiedig o goedwig gyfagos.
Ei arfer oedd caniatáu i ddiffygion naturiol, megis troeon a chnyciau yn y pren, i ddod yn rhan cynhenid o'i waith. Mae Split and Held Across, un o'i ddarnau cynharaf mewn casgliad ym Mhrydain, yn cynnwys canghennau helyg wedi eu clymu â rhaff, fel rhyw declyn gwledig syml.
Fel arfer fe gaiff pren ei sychu cyn ei ddefnyddio i gerflunio, er mwyn tynnu'r lleithder. Ond wrth adael y deunydd yn ei gyflwr naturiol, sylwodd Nash fod y pren weithiau yn cracio. Iddo ef mae'r craciau yn rhan hanfodol o'r gwaith, p'un ai ydynt yn ymddangos cyn neu ar ôl ei ymyriadau ef. Mae'r craciau'n rhoi cymeriad unigryw i weithiau megis y gyfres sy'n cynnwys Cracking Box. Yma mae'r namau yn rhoi teimlad anghyffredin i'r siâp a fyddai fel arall yn giwb rheolaidd.
Mae'r bocs yn un o blith sawl ffurf geometrig – gan gynnwys pyramidiau a sfferau – sy'n ymddangos dro ar ôl tro yn ei waith, gan gyflwyno graddau amrywiol o ddeinameg, symudiad a soletrwydd.
Mae Rostrum with Bonks yn un o gyfres o weithiau ar ffurf bwrdd, sy'n dilyn ei ymchwiliad i golofnau yn arddull Brâncuși.
Mae'r gair 'ponciau' (bonks) yn dod o'r enw a roddir i gerrig brig mewn cae. Fan hyn mae'n cyfeirio at set o belenni a gerfiwyd gyda bwyell yn fras o bren onnen, castanwydd a bedwen ar sail o bren pinwydden. Fe holltodd y belen o bren onnen wrth iddi sychu.
Ar ôl ei arddangosfa unigol gyntaf ym 1973, fe ddechreuodd Nash arddangos ei waith yn fwy rheolaidd. Fe aeth yn fwy uchelgeisiol, gan adael ei stiwdio i gychwyn ar brosiectau celf tir ar raddfa fawr. Ym 1977 fe blannodd Gromen yr Ynn, grŵp o 22 o lasbrennau mewn lleoliad dirgel yng ngogledd Cymru y gobeithiai y byddai'n tyfu i fod yn ganopi.
Yn ystod y flwyddyn ddilynol eglurodd Nash ei fod ef yn disgwyl y byddai'n dychwelyd at y gwaith bedwar neu bump o droeon dros bedwar i bump o ddegawdau, 'ond gadael iddo fynd wedyn... Fe fydd fy nhranc i fy hunan yn gofalu am hynny.'
Fodd bynnag, ers hynny mae'r coed wedi cael eu heintio â chlefyd coed ynn, sy'n golygu y bydd e'n debygol o fyw ar eu holau nhw. Hefyd ym 1978 fe gerfiodd garreg fawr bren o dderwen 200 mlwydd oed, a'i rholio hi trwy'r mynyddoedd i Afon Dwyryd. Cofnododd Nash ei thrawsffurfiad wrth iddi symud i lawr yr afon. Fe'i gwelwyd am y tro olaf yn 2003 ar gefnen dywod. Mae'r artist yn credu ei bod hi bellach wedi ei chario mas i'r môr.
O 1981 hyd 1982, bu Nash yn artist preswyl yn yr Yorkshire Sculpture Park – y cyntaf o sawl breswyliad. Fe ganiataodd hwn iddo greu darnau sy'n datblygu gydag amser - naill ai'n tyfu neu'n diflannu - fel y gwelir mewn dau waith y gellir eu gweld o hyd yng ngorllewin Swydd Efrog. Mae Barnsley Lump (1981) yn cynnwys ciwb bras o lo a naddwyd o'r ardal leol mewn maes sy'n cyfeirio at hanes daearegol a chymdeithasol yr ardal.
Oherwydd ei fod yn dadelfennu'n raddol yn ôl i'r ddaear, fe ddisgrifiodd Nash hwn yn 'waith sy'n mynd' ('going work').
Mewn cyferbyniad, mae Three Stones for Three Trees (1981–1982) yn 'waith sy'n dod': fe blannodd yr artist sycamorwydden, derwen a ffawydden, bob un ohonynt wrth ymyl bloc mawr unionsyth o dywodfaen a gloddiwyd o chwarel leol.
Wrth i'r coed barhau i dyfu, mae eu perthynas â'r cerrig yn esblygu.
Ymddiddorodd Nash hefyd yn y broses o olosgi pren, wedi ei ysbrydoli gan ddarganfyddiad o safleoedd llosgi golosg hynafol yn Grizedale Forest, Cumbria, pen oedd e'n gerflunydd preswyl yna ym 1978. Prin y gellid dirnad y lleoliadau hyn, ond fe wnaeth yr ymdeimlad o ryngweithio rhwng pobl a natur argraff ddofn ar yr artist.
Arweiniodd hyn at gyfres o weithiau a oedd yn cynnwys golosgi pren, gan ei dynnu trwy dân neu ei losgi â chwythlamp. Mae'r gyfres yn cynnwys comisiynau gan y Forest of Dean Sculpture Trust yn swydd Gaerloyw, ardal arall sydd â hanes o gynhyrchu golosg.
Mae Water Boats (1986) yn cynnwys llynges fach o fadau llosg, sy'n cyfeirio at y derw a blannwyd gerllaw i gyflenwi pren i'r Llynges Frenhinol.
Mae gan drawsffurfiad y pren ddylanwad mawr ar berthynas Nash â'r deunydd, fel yr eglurodd: 'Gyda cherfluniau pren mae rhywun yn tueddu i weld 'pren', deunydd cynnes a chyfarwydd, cyn rhoi ystyriaeth i'w lun: pren yn gyntaf, llun yn ail. Mae golosgi yn newid y profiad hwn yn sylfaenol. Fe gaiff yr wyneb ei drawsffurfio o fod yn llysieuol i fod yn fwnol – carbon – ac mae rhywun yn gweld y cerflun cyn y deunydd.'
Yn aml mae ystyr gwaith Nash yn dod o leoliadau arbennig, hyd yn oed cerfluniau sydd wedi eu creu o dan do yn hytrach nag yn yr awyr agored, fel yn achos Wafer Throne (1989), a ddyfeiswyd o bâr o ffurfiau sy'n cofleidio ei gilydd. Crëwyd y gwaith o un ffawydden a dyfai yn Ashton Court, Bryste, ar y safle ei hun. Meddai'r artist, 'y trawsffurfio sy'n rhoi ystyr. Llestri ar gyfer presenoldeb y bod dynol yw'r gwrthrychau yr wyf i'n eu llunio'.
Mae treigl amser yn parhau i fod yn thema allweddol i Nash, fel yr amlygir yn ei gyfres o chwech o golofnau a godwyd yn y Goedwig Genedlaethol, Swydd Gaerlŷr. Mae pob un yn cynnwys hicyn fertigol y mae'r heulwen yn tywynnu drwyddo am 10–15 munud ar ganol dydd hirddydd haf a chanol gaeaf. Yn ogystal â dathlu gorffennol, presennol, a dyfodol y goedwig, mae The Leicestershire and South Derbyshire Noon Column (2006) yn nodi treftadaeth ddiwydiannol y rhanbarth drwy gyfrwng ei ffasâd llosg a'r amgylchyn o lo a brics sydd wedi eu chwalu.
Er fod Nash yn fwy adnabyddus am ei weithiau tri dimensiwn, mae e wedi dal ati i arlunio, naill ai er mwyn arsylwi ar natur neu i gofnodi agweddau o'i brosiectau cyfredol. Bu'n ymddiddori mewn cysyniadau am liw ers tro, gan gynnwys sut mae gwahanol liwiau yn effeithio ar ei gilydd, eu hansoddau ysbrydol, a sut y maent yn cynhyrfu'r teimladau. Roedd yr agwedd hon o'i waith yn destun arddangosfa yn yr Yorkshire Sculpture Park yn 2022.
Yn yr arddangosfa, dangoswyd cyfres o ddarluniau, bob un ohonynt wedi ei ysbrydoli gan goed - o frasluniau dogfennol hyd at weithiau llachar sydd bron â bod yn haniaethol. Lluniwyd llawer ohonynt yn gyflym yn yr awyr agored, tra roedd eraill megis Coeden Goch (2021) wedi eu creu yn ei stiwdio mewn dull mwy myfyrgar, yn aml gan ganolbwyntio ar liw.
Er hynny, mae ei weithiau i gyd yn adlewyrchu'r hyn y mae Nash wedi dod i'w edmygu am goed, sef eu 'bod yn cymryd dim ond eu hangen ac yn rhoi mwy yn ôl'.
Chris Mugan, awdur llawrydd
Arddangoswyd David Nash: Full Circle yn yr Yorkshire Sculpture Park yn 2022
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru