Roedd Cedric Morris (1889–1982) yn beintiwr y byd naturiol ac yn un o artistiaid Prydeinig mwyaf gwreiddiol yr ugeinfed ganrif.
Ganwyd Cedric Lockwood Morris ar 11 Rhagfyr 1889 ym Machen Lodge yn Sgeti, de Cymru, yn fab i George Lockwood Morris (yn ddiweddarach Syr George Lockwood Morris, 8fed Farwnig) a Wilhelmina (née Cory). Daeth y teulu Morris i amlygrwydd yn Abertawe tua chanol y ddeunawfed ganrif yn sgil eu llwyddiant yn y busnes copr.
Ar ôl derbyn ei addysg, bwriad Morris oedd ymuno â'r fyddin ond methodd yr arholiadau, ac yn 1909, yn 19 oed, teithiodd i Port Nelson, Canada ble bu'n gweithio ar fferm. Erbyn canol 1910, roedd Morris wedi dychwelyd i Gymru, ac ar ôl cyfnod byr o astudio canu yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, penderfynodd ddilyn ei awch am gelf, a chofrestrodd yn yr Académie Delécluse ym Montparnasse, Paris, ym mis Ionawr 1914.
I artist ifanc fel Morris, roedd Montparnasse yn agoriad llygad. Dyma ardal oedd yn cael ei ffafrio gan bobl ifanc greadigol o'r un fryd, ac ymysg preswylwyr nodedig y gorffennol roedd Amedeo Modigliani (1884–1920) a Pablo Picasso (1881–1973). Yn anffodus, torrwyd y profiad yn ei flas gan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac ym mis Awst, dychwelodd Morris i Lundain. I ddechrau, ymunodd â'r Artists Rifles ac yna gweithiodd yn y Gwasanaeth Cyflenwi Ceffylau (Remounts), oedd yn paratoi ceffylau ar gyfer blaen y gad. Pan ymgorfforwyd y Remounts yn y fyddin yn 1917, cafodd Morris ei ollwng o'i swydd.
Mewn parti Diwrnod Cadoediad yn 1918, cyfarfu Morris ag Arthur Lett-Haines (1894–1978), a elwid yn 'Lett', a chwympodd y ddau mewn cariad ar unwaith. Roedd gan Lett uchelgais i fod yn baentiwr hefyd ac yn 1919 symudodd y pâr i Newlyn yng Nghernyw ble dechreuodd Morris arbrofi â phaent olew – cyfrwng y byddai'n ei ddefnyddio bron yn ddiwyro yn ei waith gydol ei oes.
Parodd ei dechneg o ddodi paent ar gynfas yn sydyn, mewn dull a ymddangosai'n ddireolaeth, lawer o gyffro ymysg ei gyfeillion o artistiaid yn Newlyn. Yn eu plith roedd Mary Jewels, a fu'n hel atgofion ynghylch sut yr aeth hi at Morris un tro i ofyn cyngor, ac iddo yntau roi cynfas, brws a phedwar tiwb o baent iddi, a dweud wrthi am gwblhau paentiad erbyn diwedd y dydd. Gan nad oedd egwyddorion celfyddydol sefydledig yn mennu dim arno, byddai Morris yn portreadu'i wrthrych yn union fel y'i gwelai, gan gyfuno gwastadau persbectif, a ffafrio cynllun cyfansoddiadol cyffredinol dros bortreadu ffurf yn driw. Arhosodd Morris a Lett yn Newlyn tan ddiwedd 1920 pan symudodd y ddau i Baris.
Roedd Paris yr adeg honno'n grochan tawdd o greadigrwydd artistig. Byddai Morris a Lett yn treulio'u nosweithiau'n cymdeithasu yng nghaffis a bariau Montparnasse ar roedd rhai o'r arloeswyr celf avant-garde ymhlith eu ffrindiau, gan gynnwys Marcel Duchamp (1887–1968), Peggy Guggenheim (1898–1979), a Man Ray (1890–1976). Er bod digon o bethau i'w baentio ym Mharis i ddiwallu Morris, nid oedd yn mwynhau byw mewn dinasoedd gorlawn fel rheol, ac ni fyddai byth yn osgoi cyfle i ddianc oddi yno.
Yn ystod y blynyddoedd hyn, byddai Morris, ynghyd â Lett a ffrindiau eraill, yn teithio'n helaeth o gwmpas Ewrop a Gogledd Affrica, gan ymweld â'r Eidal, Algeria, Tunisia, Sbaen a Phortiwgal ymysg gwledydd eraill.
Erbyn 1926 roedd Morris a Lett yn dechrau alaru ar Baris, a thua dechrau 1927, fe sefydlon nhw aelwyd yn Llundain. Roedd bywyd newydd Morris a Lett yn Llundain yn ceisio cydbwyso gwaith a gorffwys – er y byddai'n anodd nodi'r ffin bob amser. Fel yn achos eu bywyd ym Mharis a Newlyn, daeth eu stiwdio a'u cartref yn Great Ormond Street yn gyfystyr â chymdeithasu a chynnal phartïon. Roedd y stiwdio'n ddigon o sioe ynddi'i hun, wastad yn orlawn o blanhigion ac anifeiliaid, a fyddai'n cael eu cynnwys gan Morris yn ei greadigaethau.
Yn 1928 (ac eto yn 1932), cynrychiolwyd Morris yn y Pafiliwn Prydeinig ym Miennale Fenis, ac ym mis Mai'r flwyddyn honno, cynhaliodd sioe un-dyn o bwys yn Arthur Tooth and Sons, ble gwerthwyd pob darn o waith a ddangoswyd, ynghyd â llawer mwy o'i stiwdio. Disgrifiwyd y sioe gan un beirniad oedd yn ysgrifennu yn The Studio yn 'syfrdanol o lwyddiannus' ac fe grisialodd safle Morris fel un o baentwyr mwyaf blaenllaw Prydain y cyfnod.
Serch hynny, erbyn 1930, roedd Morris yn mynd yn fwyfwy rhwystredig â masnach gelf Llundain, a'r comisiwn ariannol y byddai gwerthwyr celf yn ei godi. Roedd yn gas ganddo hefyd y ffordd roedd ei waith celfyddydol yn cael ei olygu 'i ddileu'r paentiadau mwy anarferol a thechnegol ddiddorol sy'n cyfrannu at wneud enw da go iawn, yn hytrach na "gwerthwr gorau"'.
Cyfunodd y rhwystredigaeth hon ynghyd â dyhead i fynd i'r wlad, gan hybu Morris a Lett i symud o Lundain. Yn ystod haf 1930, fe gymeron nhw brydles ar Fferm Pound Farm (neu 'The Pound') ger Higham yn Suffolk. Er i Morris barhau i gyfrannu gwaith i sioeau grŵp drwy gydol y 1930au ac yn llai cyson drwy'r 1940au a'r 1950au, parodd ei absenoldeb o Lundain, ac yn ei dro, ei ymddiswyddiad o gymdeithasau celf amlwg iddo gael ei wthio i ymylon y byd celf rhyngwladol.
Er gwaethaf hyn, yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd yn syth ar ôl mudo i'r wlad, paentiodd Morris rai o'i weithiau bywyd llonydd gorau. Byddai Morris yn tyfu testun lliwgar ei waith yng ngardd Fferm Pound, ble roedd ganddo stiwdio hefyd, ac yn ddiweddarach, byddai un o'i gyn-fyfyrwyr, Joan Warburton (1920–1996), yn dwyn i gof sut 'y byddai mynd yno yn nhraed eich sanau pan oedd Cedric yn paentio'i ffefryn o blith yr holl flodau, y gellesg, yn ddatguddiad'. Y ffaith fod gan Morris gyswllt mor agos â'i bwnc a dealltwriaeth ddofn o'u cynllun a'i galluogodd i baentio blodau fel pe baen nhw'n bobl – yn meddu ar dymer a phersonoliaeth.
Yn ddiweddarach yn 1937 sefydlodd Morris a Lett Ysgol Baentio a Darlunio Dwyrain Anglia (EASPD) mewn adeilad ynghanol Dedham yn Essex. Roedd yr ysgol yn unigryw yn ei hagwedd at addysgu, a'r nod oedd calonogi yn hytrach na beirniadu'r myfyrwyr. Ar hyd y blynyddoedd aeth sawl artist o bwys yno i gael eu haddysg, gan gynnwys Lucian Freud (1922–2011) a Maggi Hambling (g.1945).
Dros fisoedd yr haf pan oedd yr ysgol ar agor, roedd ymrwymiadau gwaith Morris yn golygu na allai deithio dramor fel cynt, felly yn hytrach byddai'n darganfod y wlad o gwmpas, a mynd am dro i Gymru bob hyn a hyn, gan chwilio am bynciau diddorol i lenwi'i gynfasau. Er bod arddull baentio Morris yn fwy llac a mwy hyderus nag y bu pan oedd e'n iau, ni fu llawer o newid yn ei ddull cyffredinol o fynd i'r afael â dehongli ffurf, na'i ddefnydd o liwiau llachar.
Ar 26ain Gorffennaf 1939, dinistriwyd adeilad yr ysgol yn Dedham gan dân, yr honnir iddo gael ei ddechrau ar ddamwain gan Freud, oedd yn ysmygu yno. Erbyn canol y 1940au, roedd Morris a Lett wedi adleoli'r ysgol i Benton End, tŷ mawr ar gyrion Hadleigh, Suffolk, oedd yn gartref iddyn nhw yn ogystal. Dros y blynyddoedd byddai Benton End yn dod i gael ei adnabod fel llawer mwy na choleg celf: roedd yn ganolbwynt creadigrwydd celfyddydol a garddwriaethol, ble gallai pobl o bob cefndir gwrdd, paentio, bwyta a chymdeithasu. Rheolid materion cyffredinol yr ysgol gan Lett, y byddai'i bersonoliaeth ddireidus yn rhoi diddanwch mawr i'r gwesteion, yn enwedig wrth y bwrdd bwyd pan fyddai'r gwin yn llifo'n ddiatal.
Ers cyn y Rhyfel, roedd Morris wedi bod yn gwneud enw iddo'i hun ym myd garddio fel bridiwr gellesg a chasglwr planhigion estron, ac o ddiwedd y 1940au ymlaen, yn ystod misoedd y gaeaf pan fyddai'r ysgol ar gau, byddai'n diflannu dramor i chwilio am enghreifftiau newydd o blanhigion. Yn ogystal â phlanhigion prin, byddai Morris hefyd yn dychwelyd â chofroddion fel potiau planhigion a chrochenwaith hynafol, yn ogystal â darnau mwy ymarferol fel hadau llysiau, a fyddai'n darparu cynhwysion egsotig i Lett greu'i brydau bwyd enwog o flasus yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Un o hoff ardaloedd chwilio Morris yn ystod hanner olaf ei fywyd oedd Portiwgal. Dychwelodd yno droeon rhwng 1950 a'i farwolaeth yn 1982. Teithiodd Morris yn helaeth o gwmpas Sbaen hefyd, gan baentio tirluniau ac astudio planhigion, ac yn 1962, cyhoeddodd ei ganfyddiadau mewn erthygl yn The Iris Year Book ar 'Rhywogaethau Gellesg ym Mhortiwgal a Sbaen'.
Erbyn y 1960au, tawelodd Benton End. Er y byddai myfyrwyr yn parhau i ddod drwy'r drysau bob blwyddyn, roedd gan Morris a Lett fwy o amser hamdden. Dros fisoedd y gaeaf, byddai Lett yn aros gartref tra bo Morris yn parhau â'i deithiau gaeafol â'r un nwyf ag yn ystod ei ieuenctid, gan ymweld â mannau mor bellennig â St Helena (1964), Libya (1968) Tunisia (1970) ac Ynys Cyprus (1973), gan baentio'n barhaus.
Pan fyddai gartref, daliai Morris ati i ddatblygu'i waith bywyd llonydd. Yn y paentiadau diweddarach hyn, byddai Morris yn aml yn cynnwys ystod eang o wrthrychau gwahanol a gasglwyd o bob cwr o'r tŷ, a'u paentio yng nghyd-destun ystafell.
Teithiodd Morris dramor, am y tro olaf mae'n debyg, ym mis Rhagfyr 1973. Aeth i Portalegre gan aros yn nhref Relva ger mynyddoedd Serra de São Mamede. Mewn llythyr a anfonwyd adref at Lett, disgrifia Morris sut y parodd y cymylau isel a'r glaw trwm iddi fod yn anodd iddo farnu ansawdd y dirwedd, er bod modd adnabod ei benderfynolrwydd i baentio'r ardal yn y ffaith iddo dalu £7 yn ychwanegol (er mawr siom iddo) i dalu am bwysau'r paent yn ei fagiau.
Tua dechrau'r 1970au y dechreuodd golwg Morris bylu ac yn 1975 rhoddodd y gorau i beintio. Ar 25ain Chwefror 1970 bu farw Lett a thros y pedair blynedd nesaf, ymgymerodd Millie Hayes (1916–2001), a oedd wedi symud i'r tŷ yn 1966, â rheolaeth Benton End. Ar 8fed Chwefror 1982, bu farw'r planhigmon, y peintiwr a'r teithiwr Cedric Morris yn 92 mlwydd oed.
Lawrence Hendra, hanesydd celf, Cyfarwyddwr yn Philip Mould & Company, ac arbenigwr ar BBC Antiques Roadshow
Philip Mould & Company gynhaliodd yr arddangosfa 'Cedric Morris: Beyond the Garden Wall', yn eu horiel yn Pall Mall o 18fed Ebrill tan 22ain Gorffennaf 2018.
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru