'Anghofia beth mae pobl eraill wedi'i wneud a gwna beth rwyt ti eisiau ei wneud – dyna'r cyngor gorau y byddwn i'n ei roi' – Charles Byrd
Cyn iddo farw yn 2018, yn 101 oed, treuliodd Charles Byrd ddegawdau yn creu cerfluniau cinetig, ei 'beiriannau hudolus' lliwgar, a oedd yn swyno plant ac oedolion fel ei gilydd. Ond cyn hynny, yn yr 1950au a dechrau'r 1960au, bu Byrd yn paentio dinas Caerdydd gan ddod, o bosib, yn groniclwr gorau'r ddinas mewn cyfnod o newidiadau mawr. Serch hynny, ychydig y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ne Cymru a'r tu hwnt yn gwybod amdano.
Yn ei baentiadau diymhongar a didwyll, ychydig o ddiddordeb a ddangosai Byrd yng nghestyll ac adeiladau dinesig mawreddog y ddinas, gan ffafrio'r dociau, marchnadoedd, iardiau cefn, parciau a chaeau; mannau diwydiannol, gwledig a chymdeithasol.
Roedd Byrd yn ymroi'n llwyr i'w waith, a disgrifiodd ei chwaer Barbara sut y bu farw, ac yntau dros gant oed, â phaent yn dal ar ei ddwylo, a'i fflat bychan yn orlawn o ganlyniadau obsesiwn oes. Ar ôl cael ei eni ym Mhontypridd a'i fagu am gyfnod yn y Barri, ymgartrefodd fel oedolyn yng Nghaerdydd: lle a adeiladwyd ar ddiwydiant, y cyfle perffaith ar gyfer cenhadaeth y Byrd ifanc i ddarlunio'r ddinas fyw, weithiol â llygad peiriannydd.
Yn yr 1950au, wrth i Byrd ddechrau paentio ei thirweddau niferus, daeth Caerdydd yn brifddinas swyddogol Cymru, gan gadarnhau ei safle fel canolfan weinyddol y wlad. Roedd y ddinas yn ail-lunio ei hunan ar gyfer oes newydd, â'r broses wedi'i chyflymu mewn mannau oherwydd difrod y rhyfel. Ac wrth i ru enwog Tiger Bay ddechrau tawelu, o ganlyniad i newidiadau ym myd diwydiant, cymunedau amlhiliol y strydoedd tai fyddai'r nesaf i weld eu waliau'n cael eu dymchwel.
Er mai dim ond mewn dosbarthiadau nos y cafodd hyfforddiant, penderfynodd Byrd geisio gwneud bywoliaeth fel artist yn ei 30au cynnar. Ar ôl cyfnod yn y fyddin ac mewn nifer o swyddi eraill (ffotograffydd cynorthwyol, ffitiwr awyrennau, gwneuthurwr sbectolau), aeth ati i grwydro'r ddinas a'i hamgylchoedd, gan baentio ardaloedd a fyddai'n cael eu chwalu i'r llawr yn fuan a golygfeydd y gellir eu hadnabod hyd heddiw.
Treuliodd Byrd gyfnod cymharol fyr ond toreithiog yn paentio golygfeydd cynrychioliadol, hawdd eu nabod. Mewn cyfweliad yn 2016, dywedodd wrth Lyfrgelloedd Caerdydd 'Dechreuais baentio yn 1950 pan ddes i adref o India (lle bûm gyda'r fyddin). Fe baentiais yr holl luniau o Gaerdydd mewn deng mlynedd, yna fe wnes i bum mlynedd o baentio haniaethol a throi at gelfyddyd ginetig, symudol.'
Yn aml, byddai Byrd yn astudio gweithiau'r meistri mewn llyfrau yn y llyfrgell, ac mae ei ddarluniau'n dangos yn glir ei fod yn gyfarwydd â gwaith Argraffiadwyr ac Ôl-argraffiadwyr o fri. Mae hyn yn amlwg mewn darlun cynnar hardd o Erddi'r Orsedd ger Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r llun hwn yn dangos defnydd Byrd o dechneg pwyntiliaeth, sef rhoi dabiau bychan rheolaidd o baent mwy llachar dros ben y lliwiau sylfaen i gyfleu symudiad y golau. Byddai'n parhau i ddefnyddio'r arddull hon yn enwedig mewn lluniau o fyd natur.
Mae dylanwad Ciwbiaeth yn fwy amlwg ar rai o'r tirluniau, ond nid hynny sy'n llwyr gyfrifol am yr arddull yr oedd ef yn ei datblygu, sy'n aml yn cyfuno geometreg ofalus y drafftsmon ag ymdeimlad nodedig o dawelwch a llonyddwch.
Yn ei luniau, anaml y mae Byrd yn syllu i fyny i'r entrychion mewn perlewyg nac yn edrych i lawr ei drwyn o dŵr ifori. Mae'n darlunio o safbwynt y dosbarth gweithiol. Roedd yn paentio ble bynnag y gallai gerdded neu seiclo iddo ac roedd ei draed, yn gorfforol ac yn ffigurol, ar y ddaear. Weithiau, darluniai o fan ychydig uwch er mwyn dangos llongau yn y dociau, gwerthwr blodau yn y farchnad, neu gaeau ar gyrion y ddinas.
Wrth siarad â Llyfrgelloedd Caerdydd, bu Byrd yn trafod ei dechneg: 'Mae'r rhan fwyaf o artistiaid yn sblasho'r lliwiau ar y palet ac yn eu cymysgu – ond rydych chi'n debygol o gael lliwiau mwdlyd felly, on'd ydych chi? Ddysgodd neb hyn i mi, ond cyn i mi ddechrau paentio, byddwn i'n cymysgu, dyweder, 5 math o wyrdd, o oer i gynnes, yna o binc drwodd i goch llachar…. ac rwy'n edrych ar y paentiadau hyn nawr ac mae fel pe baen nhw wedi'u paentio ddoe.'
Mae'r Farchnad Ganolog, Caerdydd yn garnifal o liwiau, yn gybolfa o flodau, ffrwythau, cotiau a chownteri sydd – yn enwedig o fynd i Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd i'w gweld – wir yn byrlymu oddi ar y cynfas.
Mae haenen anarferol o drwchus o farnais dros y llun fel ei fod yn ymddangos bron yn ludiog, ond er hynny mae'n rhannu siâp a phensaernïaeth ofalus sy'n nodweddiadol o waith Byrd – yn enwedig linellau cownteri'r farchnad yn igam-ogamu o flaen i gefn y ffrâm. Mae clwstwr prin o bobl yn llenwi'r gornel dde uchaf. Mae'r llun ei hun yn rhyfedd o gul – â'i uchder dros ddwywaith ei led - fel pe bai wedi'i docio i ganolbwyntio sylw ar y manylion
Prin yw'r lluniau ganddo sy'n cynnwys tyrfa ac mae llawer ohonynt heb eu llygru gan sŵn a phrysurdeb gweithgarwch pobl. Ychydig o weithwyr sydd i'w gweld yn y llun o ddociau enwog Caerdydd, sy'n dawelach erbyn hyn nag yr oeddent yn anterth y diwydiant glo. Yng ngolygfeydd heddychol ond ansentimental Byrd, mae'n aml yn teimlo fel prynhawn Sul.
Yng ngweithiau ei gyfres 'Gerddi Sophia, Arddangosfa', gwelwn ragor o bobl, yn prynu tocynnau, yn ymlacio ar y glaswellt – a rhagor eto'n ymddangos po hiraf y syllwch. Mae'r lliwiau coch, glas a'r ocr melyn y byddai'n dychwelyd atynt yn aml i'w gweld mewn darnau bach o'r lluniau. Ychwanegir at naws y lluniau gan fanylion pwyntilaidd sy'n cyfleu golau a chysgod yn y blaendir ac, yn gyffredinol, mae yma ymdeimlad o fodlonrwydd a llawenydd tawel.
Yn ogystal â chreu cofnod gweledol o'r dociau a rhannau eraill o'r ddinas oedd yn newid ac yn diflannu, efallai mai dyma gamp fwyaf Byrd: cyfleu ymdeimlad sy'n ymestyn yr holl ffordd o blentyndod ymlaen – rhywbeth dynol, cynnes a gwir.
Ymhen amser, byddai ei synnwyr rhyfeddod a'i lygad drafftsmon yn help mawr i greu ei gerfluniau cinetig lliwgar - fel Valvo y robot, o gasgliad Amgueddfa Pontypridd - a byddai'n dal ati i weithio tan ddyddiau olaf ei oes faith. Tua diwedd ei oes, câi llai o'i weithiau eu harddangos, ond roedd yn dal yn styfnig o benderfynol i greu.
Mae Linda Hicks, un o'r trigolion lleol, yn cofio'r artist yn dda. A hithau'n byw rownd y gornel, byddai'n cadw llygad ar Charles wrth iddo heneiddio. Gan ei fod yn ymgolli gymaint yn ei waith, roedd angen tipyn bach o anogaeth arno weithiau i fwyta'n dda neu olchi ei ddillad llawn staeniau paent.
'Dyma sut mae artistiaid yn byw!' mynnai, gan gyfeirio'n ddi-hid at bentyrrau o sbwriel, gweithiau ar y gweill, a sbarion yn pydru. Yn y pen draw, nid oedd yn ddyledus i neb: ni fu erioed yn briod, na dod yn rhan o'r sefydliad. Ychydig o arian oedd ganddo ond doedd dim i gyfyngu arno, a gallai wneud yn union fel y mynnai, gan ddilyn ei weledigaeth tan y diwedd.
Heddiw, gallwch gerdded i mewn i lyfrgell leol Charles Byrd gynt a gweld ei ocr melyn nodedig yn ymddangos mewn paentiadau a fframiwyd yn daclus – mewn blows ar lein ddillad, siaced plentyn, parasol yn y ffair. A byddwch yn gwybod ei fod wedi'i gymysgu'n barod ar ei balet, gan ddisgwyl gwneud i'r ddinas fyw ac anadlu. Ac yn awr, mae'n eich gwahodd chi i stopio, ac anadlu gyda'r ddinas. Arhoswch am dipyn bach.
Gordon Anderson, awdur
Gyda diolch i Linda Hicks, Llyfrgelloedd Caerdydd, a Barbara a staff Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd am eu cymorth a'u caredigrwydd
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Charles Byrd, 2008
David Briers, The Charles Byrd Museum of Magical Machines, Taflen Neuadd Dewi Sant, 1989
WIll Hayward, 'Charles Byrd: The charming life story of one of Wales' most prolific artists', Wales Online, 2018
Casgliad Art UK, Artists and places: Charles Byrd in Cardiff
Amgueddfa Pontypridd, 'Charles Byrd at 100'