Cafwyd benthyciad arbennig fis diwethaf, gyda chefnogaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i roi cychwyn ar gynllun Campweithiau mewn Ysgolion (Masterpieces in Schools) gan Art UK yng Nghymru.
Daethpwyd â maquette (model bach) o Gofeb Tryweryn gan y cerflunydd John Meirion Morris o Lyfrgell Genedlaethol Cymru a'i arddangos i holl ddisgyblion Ysgol Bro Tryweryn, Fron-goch ac Ysgol Ffridd y Llyn, Cefnddwysarn, y ddwy yn ardal y Bala. Mae'r ysgolion gwledig hyn yn agos iawn at leoliad arwyddocaol yn hanes Cymru: Cwm Tryweryn.
Yn 1955 cyhoeddwyd y bwriad i foddi Cwm Tryweryn er mwyn creu cronfa ddŵr i ddarparu dŵr yfed i ddinas Lerpwl. Roedd y penderfyniad yn golygu boddi cymuned fechan Gymraeg Capel Celyn yn y cwm. Byddai saith deg tri o bobl yn colli eu cartrefi, ynghyd a'r ysgol, y capel a'r swyddfa bost. Roedd y penderfyniad yn un hynod ddadleuol, gyda phrotestiadau angerddol yn cael eu cynnal mewn brwydr enbyd i achub y pentref. Ond erbyn 1965 roedd y gronfa wedi ei chwblhau, a phentref Capel Celyn dan ddŵr ac wedi'i golli am byth.
Mae'r bennod arwyddocaol hon yn hanes Cymru yn dal i gael effaith leol a chenedlaethol, gyda rhai'n dadlau y byddai'r penderfyniad yn newid tirwedd wleidyddol Cymru am byth. Dyma'r digwyddiad a ysbrydolodd y graffiti Cofiwch Dryweryn – graffiti enwocaf Cymru o bosib. Mae copïau ohono wedi ymddangos ledled Cymru ers ei ymddangosiad cyntaf ar wal yn Llanrhystud, ger Aberystwyth, yn yr 1960au. Mae llawer yn ei gweld fel symbol parhaus o falchder cenedlaethol y Cymry, gyda rhai yn dadlau y dylai ddod dan ofal elusen.
'Braslun' gan yr artist ar gyfer cofeb fawr barhaol y bwriadwyd ei chodi ar lan Llyn Celyn oedd y cerflun a ddaeth i'r ysgolion am y diwrnod. Fe'i cynlluniwyd ar ffurf tebyg i aderyn i godi 28 troedfedd uwch wyneb y llyn, gyda'r adenydd yn anfarwoli'r 73 o bobl a gollodd eu cartrefi a'u cymuned. Er na chafodd y gofeb erioed mo'i chodi, mae'n dal i ysgogi trafodaeth leol a chenedlaethol oherwydd ei chysylltiad â'r bennod arwyddocaol hon yn hanes Cymru.
Ar ôl i'r holl ddisgyblion gael cyfle i weld y model yn y bore, ymunodd disgyblion hŷn y ddwy ysgol ag Art UK a thîm o staff y Llyfrgell ar gyfer gweithdy ymarferol arbennig, dan arweiniad yr artist lleol profiadol Iola Edwards, merch y cerflunydd John Meirion Morris. Cafodd y disgyblion gyfle i archwilio hanes eu cymuned trwy archif enfawr y llyfrgell o luniau dogfennol a chlipiau ffilm o Gwm Tryweryn cyn ei foddi, gan eu helpu i ddeall y campwaith yn ei gyd-destun hanesyddol.
Treuliodd y disgyblion y diwrnod yn archwilio thema protest ym mhresenoldeb maquette John Meirion Morris, gan roi cynnig ar gerflunio, collage a sgrin-brintio. Daeth Iola Edwards â'u gwaith at ei gilydd mewn darn o waith celf coffaol sydd bellach mewn lle amlwg yn neuadd yr ysgol.
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
'Mae'r cerflun bychan hwn gan John Meirion Morris, cerflun Cofeb Tryweryn, yn un o'r miloedd o drysorau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n medru cynnig mynediad i blant a phobl ifanc at hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru. Dyma ddarn sy'n wirioneddol arwyddocaol, nid yn unig yng nghyd-destun boddi pentref Capel Celyn, ond hefyd oherwydd effaith hynny ar ein hanes ni a'n datblygiad ni fel Cymry. Mae'r gweithdy yn Ysgol Bro Tryweryn yn enghraifft o'r ffordd y gellir defnyddio casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ysgogi gwaith creadigol, ac ysbrydoli pobl ifanc i ddysgu a meithrin sgiliau newydd.'
Laura Woodfield, Rheolwr Dysgu ac Ymgysylltu yn Art UK
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru