Mae Ail-ddweud Stori'r Cymoedd yn rhaglen ymgysylltu a grëwyd ar y cyd, gyda phwyslais ar rannu a dathlu celf a threftadaeth cymoedd de Cymru. Gweledigaeth y rhaglen yw dod â chasgliad cenedlaethol o gelf at ei gilydd sy'n adlewyrchu pobl, diwylliant a hunaniaeth y cymoedd, er mwyn creu adnodd gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.
Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful ac Ymddiriedolaeth Amgueddfa Cwm Cynon yn Aberdâr, dwy amgueddfa sydd wedi eu sefydlu yng nghymoedd y de. Mae'r ffordd hon o weithio ar y cyd yn cynnig dull newydd o rannu casgliadau ac mae'r partneriaeth wedi meithrin ymddiriedaeth rhwng yr amgueddfeydd a chymunedau ac ysgolion lleol.
Ar gyfer yr erthygl hon, rydym wedi gwahodd cyfranogwyr o gymoedd Cynon a Merthyr i ymateb i rai o'u hoff weithiau celf o'r prosiect. Dyma nhw'n Ail-ddweud Stori'r Cymoedd, yn eu geiriau eu hunain!
Klara Sroka, Swyddog Cymunedau ac Ymgysylltiad, Amgueddfa Cymru
1. Caradog gan William Goscombe John
Cefais fy ngeni a'm magu yng Nghwm Cynon, ac roedd fy nheulu'n un cerddorol. Roedd fy mam, fy nhad a'm brawd hŷn mewn cymdeithasau corawl gydol eu bywydau. Pan fyddaf yn edrych ar y ddelw o Caradog yn Aberdâr, bydd atgofion melys yn llifo'n ôl o'r adeg pan oedd ein cymoedd yn atseinio â cherddoriaeth. Rwy'n teimlo mor ffodus mod i wedi bod yn rhan o hynny.
Roedd cymdeithasau corawl a phartïon meibion yn boblogaidd yr adeg honno – perfformiadau o oratorios a darnau cyngherddol gwych. Roedd cantorion baledi oes Fictoria ac oes Edward hefyd yn canu eu hunawdau a'u deuawdau. Roedd y gallu i'w canu nhw'n rhywbeth y gwerthfawrogwyd yn fawr. Mae'n ymddangos i mi fod delw Caradog yn rhywbeth gweledol gwych i'n hatgoffa o ddiwylliant bywiog a oedd yn llenwi ein cymoedd ar un cyfnod.
Howell Thomas, cyn-drydanwr ym mhwll glo Penrhiwceiber, Cwm Cynon
2. Cŵn y Plas (The Court Hounds) gan William Richard B. Shaw
Mae Cŵn y Plas yn ddarn hollbwysig yng nghasgliad Cyfarthfa. Mae'n dangos aelodau o helfa Cyfarthfa a'u cŵn. Mae hyn yn deillio o ddefnydd hanesyddol ‘Cyfarthfa' fel tir hela. Er y byddai'r tir wedi bod yn orlawn â gweithiau haearn a chloddfeydd, byddai tirweddau naturiol gwyrdd dal i fodoli o fewn tafliad carreg i'r diwydiannau mawrion. O edrych ar y dirwedd eiconig yn y cefndir, mae'n amlwg bod y paentiad wedi ei leoli ym Mannau Brycheiniog neu gerllaw.
Mae'r gwisgoedd a'r ffordd o fyw yn awgrymu elitaeth a chyfoeth rhai pobl o'r 1830-1840au, ond mae hefyd yn rhoi'r cyfle i ni gynnal sgwrs am y ffordd y mae bywyd wedi newid, ac i ofyn a oes unrhyw beth cyfarwydd a allai fod yn gysylltiedig â'n cynefin personol ni heddiw.
Charlotte Barry, Swyddog Addysg a Dehongli, Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa
3. Penydarren gan John Uzzell Edwards
Gan fy mod wedi byw ym Mhenydarren yn yr 1950au, mae'r paentiad yma'n fy nghymryd i'n ôl mewn amser i'r ffordd yr oedd pethau bryd hynny. Mae'n fy atgoffa o'r nosweithiau llwyd, unlliw bron yn y gaeaf wrth iddi ddechrau tywyllu, oedd yn olygfa mor gyffredin yng nghymoedd y de. Mae'r tai i gyd yn wahanol i'w gilydd, gyda phalmentydd anwastad, hen reiliau, a stepiau cam yn rhoi mynediad i bobl rhwng talcenni'r tai. Roedd yr adeiladau wedi eu pentyrru flith draphlith oherwydd y tir bryniog, a gallwn weld esiampl o hyn yng nghyfansoddiad y paentiad.
Roedd y lampau nwy yn rhoi lliw melyn iasol oedd yn fflachio'n arswydus, yn oren felynaidd tywyll o fewn yr eurgylch gwelw o amgylch y llusern. Prin y byddai eu golau'n ymestyn o un lamp i'r nesaf, a darnau o balmant cam bob amser yn cuddio yn y cysgodion.
Roger Lewis, cyn-ddisgybl a phennaeth Cyfarthfa
4. Y Dirwasgiad Mawr (The Great Depression) gan David Lewis
'Déjà Vu'
Street people soaking up warm sunshine
slumbering as best they can
as people busy themselves around them
often without acknowledgement
An enduring picture where the rhetoric remains
albeit cloaked in a different guise
the Great Depression then now
the Cost-of-Living Crisis and Recession.
Past errors remain and lessons continue unheeded
food-banks the new plague that punctures
the fabric of our seemingly advanced age
We witness the disintegration and
deconstruction of society around us
the gulf between have and have nots deepens
with extremist views seeking out their prey
Could future generation do better –
we sincerely hope so.
Kathryn Jones, bardd, Cwm Cynon
5. My Mother was a Pit Girl gan Nicholas Evans
Rwyf bob amser wedi edmygu paentiadau sy'n teimlo fel petaent wedi eu creu gan ddefnyddio mwy na dim ond brwsh. Mae rhyw fath o driniaeth arw i'r gwaith yma sy'n awgrymu mwy na gwaith brwsh sych: gosod paent gyda chadachau sychion? Bysedd?
Mae strwythur y cyfansoddiad yn gyfres o batrymau fertigol, rhythmig sydd i'w gweld yn amlwg yn y trwynau, wyneb y ceffyl a'r adeiladau diwydiannol. Maent oll wedi eu gwasgu ynghyd. Mae hyn yn dweud wrthych fod bywyd diwydiannol y cymoedd yn glòs a brwnt. Mae'r darlun wedi ei orlwytho, fel tai teras y cymoedd, yn llawn fel trên ar ddiwrnod gêm, wedi ei wasgu ynghyd fel gwylnos claddedigaeth yng nghlwb y gweithwyr.
Mae'r paentiad yn dangos diwydiant, sydd efallai'n rhywbeth o brofiad yr artist ei hun. Ond nid oes ôl bywyd yma. Mae hiraeth yn y paentiad. Hiraeth na fyddai yno petai rhywun yn pesychu o ysgyfaint du wrth baentio.
Adam John Griffiths, artist preswyl yn Ysgol Uwchradd Pen-y-Dre High School, Merthyr Tudful
6. Sinema Haggar, Aberdâr gan Ernest James Excell
Yn fy ngwaith fel Rheolwr Casgliadau i Wasanaeth Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf rwyf wedi cael y pleser o drin a thrafod yr eitem hon. Cafodd ei benthyg yn ddiweddar i Eglwys Sant Elfan ar gyfer arddangosfa i ddathlu'r arloeswr sinema lleol, William Haggar, ar gyfer gŵyl ffilmiau Cwm Cynon. Pan fyddwch yn gweld y gwaith celf hwn yn agos, byddwch yn sylwi ar ddyfnder y lliwiau – mae'r arlliw melynaidd yn awgrymu bod yr olygfa hon ar adeg y wawr neu'r machlud. Credaf fod yr arlliwiau melyn ac oren yn creu teimlad ‘clud' tebyg i'r teimlad o fod o flaen sgrin sinema.
Rydw i hefyd wedi ymchwilio i gymunedau Iddewig yn Rhondda Cynon Taf ac wedi canfod mai Victor Freed Ltd oedd berchen ar y Sinema ar ôl Haggar. Roedd Victor Freed yn ddyn busnes Iddewig oedd â busnes dodrefn ac offerynnau cerddorol llwyddiannus. Felly mae'r adeilad hwn wedi byw bywydau niferus ac wedi darparu nifer o wahanol swyddogaethau i'w gymuned.
Rhian Hall, Rheolwr Casgliadau, Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach
Ers dechrau'r prosiect Ail-ddweud Stori'r Cymoedd, rydym wedi ymgysylltu â mwy na 400 o oedolion, 160 o blant ysgol a 60 o fyfyrwyr o golegau lleol. Rydym hefyd wedi bod yn datblygu presenoldeb y prosiect ar blatfformau digidol. Mae gan y prosiect gyfres o wyth flog sy'n gadael i wylwyr weld y tu ôl i'r llenni, cwrdd â'r amgueddfeydd a'r partneriaid, gwylio plant yn curadu eu casgliadau eu hunain a gweld yr holl arddangosfeydd celf a wnaed gan ein cyfranogwyr.
Wrth i'r prosiect ddod i ben, byddwn yn cynnal arddangosfa gymunedol derfynol ym mis Ebrill 2024 ym Mhenrhiwceiber, lle bydd y gymuned o bwyllgor Lee Gardens Pool yng Nghwm Cynon yn arddangos 21 o weithiau celf, yn cynnwys nifer o'u harteffactau eu hunain mewn helfa gelf gyhoeddus, o'r 8fed hyd y 19eg o Ebrill 2024.
Beth nesaf?
Bydd rhagor o waith ymchwil yn digwydd i archwilio straeon a dehongliadau LHDTC+ yng nghasgliadau celf y Cymoedd a bydd grwpiau ieuenctid ledled Merthyr Tudful a Chwm Cynon yn rhan o gam terfynol yr ymgysylltiad. Bydd yr holl ddehongliadau newydd a gyfnewidwyd dros y tair blynedd diwethaf yn cael eu hymwreiddio mewn platfformau amrywiol i'r cyhoedd gael eu gweld. Dewch yn ôl i weld rhagor!
Cyfraniadau gan Klara Sroka, Howell Thomas, Charlotte Barry, Roger Lewis, Kathryn Jones, Adam John Griffiths a Rhian Hall
Cafodd yr arian ar gyfer Ail ddweud Stori'r Cymoedd ei ddarparu gan The Esmée Fairbairn Collections Fund – darparwyd gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg