Er bod gweithiau celf John Elwyn yn gallu dweud llawer wrthym am Gymru a'i thirwedd, ei phobl a'r ffordd Gymreig o fyw, maen nhw hefyd yn cyfleu llawer iawn am yr artist a'u creodd a'r ffordd yr oedd e'n gweld y byd. Am saith degawd, defnyddiodd John Elwyn ei brofiad a'i ddealltwriaeth o fywyd yn gweithio ar fuarth fferm ac yng nghaeau gwartheg ei ardal frodorol yn ne Ceredigion, yn ei gwaith.
Ganed William John Elwyn Davies yn 1916. Roedd ei dad yn wehydd yn Adpar ar lannau'r Afon Teifi yng Ngheredigion. Ar y glannau gyferbyn dros y Teifi mae Castell Newydd Emlyn a oedd bryd hynny'n gymuned o Gymry Cymraeg pybyr a selogion yng nghapeli'r Anghydffurfwyr.
Cafodd John Elwyn ei hyfforddiant yng Nghaerfyrddin a Bryste ac yna yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain lle torrodd yr Ail Ryfel Byd ar draws ei astudiaethau. Yn 1948, symudodd i Swydd Hampshire i addysgu yn Portsmouth ac yna yn Ysgol Gelf Caer-wynt. Yno, o ganlyniad i'w hiraeth cynnes am Gymru, creodd gyfres o baentiadau anecdotaidd oedd yn defnyddio elfennau o'i blentyndod. Roedd yn sylweddoli nad oedd yn debygol o 'wthio ffiniau celfyddyd fodern', felly dechreuodd 'ysgrifennu straeon mewn paent' am yr arferion oedd yn gysylltiedig â bywyd capel yr 1920au.
Fel selogion Capel Annibynwyr Ebeneser, roedd teulu John Elwyn yn mynd i oedfaon ar y Sul ac i ddathliadau tymhorol, yn ogystal â chyfarfodydd gweddi wythnosol, cymanfaoedd canu, cymdeithasau dadlau a the-partis yn y festri.
Y tu allan i'r capel, byddai pobl yn hel clecs. Yn ôl John Elwyn, os oedd dau o bobl yno, yna byddai gennych sgwrs, ond os oedd tri o bobl, byddai gennych ddadl. 'Efallai eu bod wedi canu emyn arbennig y diwrnod hwnnw,' meddai, a 'byddai hynny'n peri i ddau gapelwr oedd yn frwd dros yr emyn, sefyll yn eu hunfan yn eu hetiau caled, a dechrau canu – sotto voce – yng nghanol y ffordd, yn bodio ymylon coch eu llyfrau emynau.'
Cafodd John Elwyn ei ysbrydoli gan arsylwadau Honoré Daumier am fywyd ym Mharis y bedwaredd ganrif ar bymtheg – ac yn arbennig ei allu i bortreadu cymeriad drwy ystum. Fodd bynnag, mae defnydd John Elwyn o ffurfiau mwy meddal, golau addfwyn, symudiadau byr y brwsh a lliw toredig addurniadol yn debycach i baentiadau Pierre Bonnard neu Édouard Vuillard – artistiaid yr oedd wedi edmygu eu gwaith pan oedd yn fyfyriwr yn Llundain.
Mae paentiadau capel John Elwyn yn enghreifftiau syfrdanol o arsylwadau cymdeithasol. Cafodd y ddau fwyaf eu maint ac a weithiwyd lawnaf – Bore Sul a Cyn yr Oedfa (a elwir hefyd yn Suliau Mebyd) – eu paentio yn 1950 a'u harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno.
Yn Bore Sul, roedd y bardd John Ormond yn adnabod ei 'Ewythr Willie Beynon a'i het galed a'i fwstas trwchus. Darlun hyfryd, tawel, heddwch gwledig, arogl grefi dydd Sul yn dod drwy'r tyllau clo a'r drysau cefn i godi chwant bwyd ar y blaenor a'r meddw ar gymylau llwglyd, saladaidd y nefoedd.'
Y tu allan i'r capel, mae addolwyr yn ymgasglu o'r ffermydd gerllaw. I'r menywod, dyma'r achlysur i wisgo eu dillad Sul. Yn Cyn yr Oedfa, mae eu hosgo, eu hetiau newydd, eu coleri ffwr, a'r bagiau llaw a llyfrau emynau yn eu dwylo menig wedi eu dangos gydag anwyldeb a pharch, gan gyfleu brogarwch yr artist tuag at ei gynefin a'i gymuned.
Am fod meddylfryd mewnsyllol cyfnod y rhyfel wedi parhau ymhell i mewn i'r 1950au, roedd artistiaid Prydeinig yn chwilio am bynciau pob dydd, lleol, ar gyfer eu paentiadau. Trodd John Elwyn at ei brofiad o fyw yng nghymuned lofaol Pontrhydyfen lle cafodd ei anfon, fel heddychwr a Gwrthwynebwr Cydwybodol, i wneud gwaith coedwigaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn nhrydydd fersiwn Glowyr yn Dychwelyd ar Noson Wlyb (1953), mae glowyr blinedig sy'n wlyb at eu crwyn yn y glaw'n dod i lawr llwybr drwy dir diffaith wedi'i greithio gan ddiwydiant. Mae gwawr o oleuni olaf y dydd i'w weld uwchlaw Port Talbot, lle mae ffwrneisi yn y pellter yn chwydu eu gwastraff gwenwynig.
'Mae cofio rhythu i mewn i fachlud sylffyraidd,' ysgrifennodd John Elwyn am y gweithfeydd, 'a gweld y rhesi o ffigurau silwét bach y glowyr fel pryfed gyda chysgod ac adlewyrchiad pob un wedi'u sgriblan ar hyd y ffordd wlyb wrth iddynt fynd tuag adref i'w baddonau tun o flaen tân y gegin, yn brofiad gweledol o'r radd orau.'
Yn Y Mamau (1952), mae'n ein cyflwyno i fenywod y pentrefi glofaol yn bwydo eu babanod, yn eu cofleidio yn y ffordd Gymreig mewn siôl eddïog – y math a gynhyrchwyd ym melin ei dad ac a oedd yn beth cyfarwydd yn y cymoedd hyd yr 1960au.
Ymhen amser, newidiodd tristwch myfyrgar tirluniau diwydiannol John Elwyn yn deyrnged fwy llawen ac optimistaidd i fywyd fferm. Esboniodd mai ei ysbrydoliaeth i gynhyrchu Gwyrddni Sir Gaerfyrddin (a arddangoswyd yn 1957) oedd caeau 'wedi eu hamgylchynu gan wrychoedd trwchus o'r ddraenen ddu yn nannedd y gwynt – lle gellir gweld waliau ysgubor wedi eu gwyngalchu, yn fyrdd o gysgodion yn dawnsio i mewn ac allan o gysgodion dwfn, i fyny ar lethrau'r bryn yng ngolau llawen y cyfnos – pan mae gwyrddion Dyfed ar eu gorau ac yn unigryw yn eu dwyster – dim ond am amser byr iawn y mae'r ansawdd golau hwn yn para.'
Afalau Cwymp (tua 1956) oedd ei gais i 'beintio'r mathau llachar ac amrywiol o wyrddion a welir yn ystod cyfnod heulog gwych yn dilyn cawod drom o law ym mis Awst yng Ngheredigion. Yn aml iawn daw Storom Awst gyda gwynt sy'n chwipio, ac sy'n greulon i'r pren afal sy'n drwm ag afalau, gan achosi iddo dywallt dagrau o wyrdd emrald llachar. Yna bydd y pentrefwyr yn dod i hel clecs a chasglu'r dagrau hyn – afalau cwymp gwerth chweil cyntaf y flwyddyn.'
Erbyn diwedd yr 1950au, newidiodd darluniau John Elwyn o baentiadau yn cynnwys pobl i dirluniau pur. Roedd agweddau geometrig cryf y tirluniau patrymog oedd wedi eu rhannu'n gaeau gyda gwrychoedd a waliau carreg yn apelio at ei synnwyr o gynllun a chyfansoddiad. Mae Oddi ar y Brif Ffordd II (1959) yn esiampl o'r arwynebau addurniadol darniog yr oedd yn eu creu drwy roi tirffurfiau a phensaernïaeth frodorol ochr yn ochr â'i gilydd.
Wrth i'w gyfansoddiadau ddod yn fwy cynnil ac wrth i'r darnau ffurfiol ddod yn fwy amlwg, dechreuodd John Elwyn ddefnyddio natur mewn ffordd fwy detholedig. O 1962, datblygodd gyfansoddiadau haniaethol a oedd yn weddnewidiad llawn dychymyg o elfennau naturiol; ond arhosodd eu gwreiddiau yn gadarn o fewn ei brofiad ac wedi eu seilio ar ei arsylwadau ei hun.
Pan oedd yn ymweld â melin lifio ei chwaer yn Nyffryn Teifi, gwyliodd goed mawrion yn cael eu tafellu'n estyll mawr. Mewn paentiadau fel Y Felin Lifio III (1965), roedd yn chwilio am bethau cyfatebol i'r lladd coed mawr hwn sy'n digwydd yn rheolaidd, gan gymharu'r cylchoedd o goed ffawydd newydd eu llifo gyda darnau o gnawd anifeiliaid. Wrth gael eu tafellu, byddai'r orennau dwfn a'r cochion poeth yn pelydru am ychydig enydau cyn i'r lliwiau bylu.
Roedd diddordeb cyfareddol John Elwyn yng nghylch y tymhorau a'u heffaith ar gymunedau gwledig Cymru wedi ei arwain at gerddi Dylan Thomas. Fel John Elwyn, roedd Dylan Thomas hefyd wedi darganfod ei angerdd at natur, yn ei holl amrywiol ffurfiau, yn ystod ei blentyndod yng Nghymru.
Mae cerdd Dylan Thomas Fernhill (1946) – hoff gerdd John Elwyn, sy'n dechrau gyda'r geiriau adnabyddus: 'And as I was young and easy under the apple boughs, about the lilting house and happy as the grass was green' – yn gerdd ramantus glasurol am dirwedd a phrofiad plentyndod. Yn 1976, gwnaeth John Elwyn gyfres o ddehongliadau telynegol o'r gerdd, fel Fernhill III: 'under the new made clouds', a oedd, fel y gerdd ei hun, yn ymwneud â dychymyg, harmoni, rhythm a ffurf.
Er bod John Elwyn wedi canfod ysbrydoliaeth gyson mewn amgylchedd cyfarwydd, nid yw ei baentiadau o orllewin Cymru yn blwyfol. Mae rhywbeth arwyddocaol ynddynt, y tu hwnt i arwyddocâd dydd i ddydd. Mae ei baentiadau yn adlewyrchu ei dreftadaeth a'i empathi gyda phobl Cymru, ein hiaith, llenyddiaeth, traddodiadau cymdeithasol ac ysbryd gymunedol sydd bellach dan fygythiad.
'Nid oedd gan hyn oll unrhyw beth i'w wneud â chelf fodern esoterig,' ysgrifennodd, 'ond darluniadau hunangofiannol syml. Mae gen i feddwl plwyfol – weithiau y dyddiau hyn, yr enw a roddir ar hynny yw 'rhanbarthol'. Rwy'n cytuno â Benjamin Britten pan mae'n dweud mai 'y pethau pwysig yw'r pethau lleol.' '
Yr Athro Robert Meyrick, ysgrifennwr a hanesydd celf, cyfaill a chofiannwr John Elwyn
Cyfiethiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Robert Meyrick, John Elwyn: A Retrospective, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1996
Robert Meyrick, Ysgrifau Coffa John, The Times, 6ed Rhagfyr 1997 a The Guardian, 1af Ionawr 1998
Robert Meyrick, John Elwyn, Lund Humphries, 2000
Robert Meyrick, 'Famous Amongst the Barns: the Cardiganshire landscapes of John Elwyn' yn The Journal of the Ceredigion Antiquarian Society, XV:2, 2002, tt.89–104