Fe ysgrifennwyd y traethawd hwn ar gyfer y gystadleuaeth 'Write on Art' 2019, ac fe enillodd yr ail wobr yng nghategori Blwyddyn 12 a 13.
Yn ystod fy mhrofiad gwaith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru cefais gyfle i edrych drwy eu harchifau a gwelais amrywiaeth o weithiau celf sy'n gysylltiedig â Chymru a'n diwylliant. Fe greodd un darn yn benodol argraff fawr arna i.
Mae Gwylnos Heddwch, Greenham gan yr artist o Gymru, Claudia Williams, yn portreadu Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham a fynychodd yr artist rhwng 1983 a 1984. Fel arfer roedd Williams yn portreadu golygfeydd y cartref a phlentyndod, felly mae'r paentiad hwn yn drawiadol gan ei fod yn dangos golygfa ddadleuol. Fodd bynnag, mae'r elfennau heddychlon a mamol sydd wrth galon y gwaith (yn hytrach na digwyddiadau mwy rhyfelgar Greenham) yn cadw'r darn yn ffyddlon i brif themâu gwaith Williams.
Roedd maint y gwaith yn drawiadol – yn 184 x 123 cm, mae'r darn yn anferthol ac ym ymdrwythol. Er nad oes pwynt canolog iddo, mae cyfansoddiad prysur y paentiad yn golygu nad oes ots. Mae'n llawn menywod yn eistedd, yn dawnsio, yn cysgu ac yn canu, y cyfan yn cyfleu awyrgylch bywiog. Mae elfennau o'r fath yn dangos y pŵer sydd gan baentiadau i adrodd stori.
Agwedd arall a fu o ddiddordeb i mi oedd y siâp pentagonol, sy'n dilyn arddull yr allorlun o draddodiad Ewropeaidd. Mae'r fam a'r plentyn sydd i'w gweld yng nghanol y paentiad yn dwyn i gof y Forwyn Fair, ac yn gynrychiolaeth weledol o ffydd Gatholig Williams, a'r pwyslais ar heddwch a chytgord sydd i'w weld yn gyson yn ei gwaith.
Mae lliw coch yn dominyddu'r ddelwedd; wrth arsylwi'n fanwl, gellir gweld is-baentiad o goch ar draws y darn. Mae'r lliw pwerus hwn yn adlewyrchu cynhesrwydd ac yn gwrthgyferbynnu'r awyr las oeraidd sydd ar frig y cyfansoddiad. Mae coch yn adlewyrchu drama, angerdd a dwyster; yn y paentiad hwn, mae'n bosib bod y lliw yn adlewyrchu'r gwylltineb a ysbrydolodd y menywod i brotestio. Yn ôl nodiadau llyfr braslunio Williams o'i chyfnod ar Gomin Greenham, mae coch yn adlewyrchu 'merthyrdod', 'egni' a 'chryfder' – heb os, mae ystyr pwysig i'r lliw.
Mae Williams yn defnyddio haenau tenau o baent ac arddull drwchus, impasto er mwyn creu amrywiaeth o ran gwead. Daw ei harddull fynegiannol i'r amlwg wrth iddi gymysgu strociau brwsh ysgubol a rhai 'staccato'. Mae'r dehongliad o'r tân yn dwyn i gof arddull Van Gogh – mae'r llinellau'n chwyrlio a'r marciau'n bendant – y cyfan yn gwneud i'r tân edrych yn fyw.
Ffigyrau Williams yw fy hoff ran o'r ddelwedd; er na baentiwyd y ffigyrau'n realistig, fe grëir ymdeimlad o wirionedd ddynol drwy ystum, osgo a mynegiant. Mae arddull syml y paentiad yn gwneud i'r ffigyrau edrych fel dolis, ac yn rhoi naws serchus i'r gwaith; maent yn dwyn i gof gwaith Gauguin. Mae'r arddull hon o baentio yn creu naws gyfarwydd a theimlad o agosatrwydd. Drwy ddangos symudiad y menywod, mae'r artist yn gwneud i'r gwyliwr deimlo fel petaent wedi camu i mewn i'r olygfa. Mae'r elfennau hyn yn rhoi hygrededd a theimlad o wirionedd i'r gwaith.
Nid yw Gwylnos Heddwch, Greenham ar hyn o bryd i'w weld yn gyhoeddus – mae'n rhan o archif y Llyfrgell Genedlaethol. Mae hyn yn drueni, o ystyried ei fod yn dangos elfen bwysig o hanes Cymru a Phrydain, ac wedi'i greu gan artist oedd â phrofiad uniongyrchol o'r digwyddiad. Mae Claudia Williams yn esiampl brin o artist benywaidd adnabyddus yng Nghymru – mae'n hollbwysig bod ei gwaith yn cael ei arddangos yn gyhoeddus i adlewyrchu persbectif menywod. Fel dywedodd y beirniad llenyddol Bedwyr Lewis Jones ym 1968, 'Mae paentio, hyd yn oed yn fwy na barddoniaeth, wedi bod yn gelfyddyd gwbl wrywaidd'. Mae paentiadau Williams, sy'n gynhenid yn fenywaidd ac yn famol, yn gwrthwynebu'r naratif hwn ac yn pwysleisio pwysigrwydd cytgord a chymdeithas yn y byd sydd ohoni heddiw.
Grace Page
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen ymhellach
Heuser a R. Meyrick, Claudia Williams: An Intimate Acquaintance, Sansom & Co., 2000