Gwelwyd trawsnewidiad mawr yn y gymdeithas yng Nghymru yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae diwydiannu ardaloedd glofaol y de a'r gogledd-ddwyrain a datblygiad ardaloedd chwareli llechi'r gogledd-orllewin ymhlith nodweddion cyfarwydd y trawsnewidiad hwnnw sydd wedi eu hastudio'n fanwl.
Un nodwedd lai cyfarwydd, er ei bod yn gysylltiedig â'r cynnydd cyffredinol mewn gweithgarwch economaidd a ddaeth yn sgil y datblygiadau hyn, oedd prifiant y dosbarth canol, a thwf cyflym trefi bach ledled y wlad. Am y tro cyntaf yng Nghymru, roedd dosbarth sylweddol o bobl broffesiynol ag incwm i'w wario, ynghyd â masnachwyr a chrefftwyr llwyddiannus, yn rhoi nawdd sylweddol i'r celfyddydau. Ym maes y celfyddydau gweledol, cyfeiriwyd y nawdd hwnnw'n bennaf at baentio portreadau, ac efallai mai William Roos oedd y mwyaf nodweddiadol o'r grŵp o arlunwyr a dderbyniodd y nawdd.
Roedd datblygiad gwaith artistiaid yng Nghymru yn y cyfnod yn wahanol i'r sefyllfa yn Lloegr. Gan nad oedd gan Gymru ei llywodraeth ei hunan, ni arweiniodd ffyniant cynyddol y genedl at greu metropolis. Yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y noddwyr dal i fod wedi'u gwasgaru ledled y wlad ac ymhlith cymunedau Cymry alltud. Felly, roedd y prif baentwyr portreadau, gan gynnwys Roos, o anghenraid, yn crwydro.
Roedd paentwyr portreadau arbenigol yn aros am gyfnod eithaf hir mewn rhai ardaloedd neu drefi yng Nghymru, Caernarfon yn enwedig, a chymunedau Cymry alltud yn Llundain a Lerpwl. Ond gan amlaf, byddent yn aros mewn un man am gyfnod byr i gael cymaint o nawdd ag y gallent cyn symud ymlaen. Roedd y paentwyr portreadau teithiol mwyaf cynhyrchiol, Roos ei hun a Hugh Hughes, wir yn ffigurau cenedlaethol, yn gweithio ledled y wlad ac ymhlith y Cymry alltud, gan ddibynnu bron yn llwyr (hyd yn oed yn Llundain a Lerpwl) ar noddwyr o Gymry.
Yn ogystal, gan nad oedd metropolis yn ganolbwynt i fywyd diwylliannol Cymru, ni ddatblygwyd system ganolog o addysg gelf. O'r egin artistiaid a adawodd Gymru i ddilyn hyfforddiant academaidd yn Llundain neu Rufain, ychydig fyddai'n dychwelyd. Roedd yr artistiaid teithiol a weithiai yng Nghymru naill ai wedi'u dysgu eu hunain neu wedi'u hyfforddi yn y traddodiad crefftaidd. Cafodd Hughes, prif gystadleuydd Roos yn y farchnad bortreadau, ei hyfforddi'n ysgythrwr pren ac mae'n ymddangos mai artist hunanddysgedig oedd Roos ei hun.
Wrth i'r gymdeithas esblygu yng Nghymru yn y cyfnod hwn, gwelwyd elfen unigryw yn y paentiadau a gynhyrchwyd. Heb fetropolis, roedd yr arweinyddion deallusol - a ddeuai'n bennaf o enwadau crefyddol a broffesiynolwyd ac o'r celfyddydau eu hunain (yn enwedig llenyddiaeth) - hefyd ar wasgar ledled y wlad ac yng nghymunedau'r Cymry alltud. Serch hynny, roedd llawer o drafod rhyngddynt, yn bennaf trwy'r Gymraeg, gyda chymorth y diwydiant argraffu a chyhoeddi llewyrchus. Yr un paentwyr teithiol crefftus a gofnodai wynebau'r bendefigaeth wasgaredig hon o ddeallusion cyhoeddus ag a ddarluniai'r dosbarth canol ehangach. Nid dosbarth elitaidd sefydlog o artistiaid a hyfforddwyd yn academaidd oedd y paentwyr, fel oedd yn wir mewn gwledydd Ewropeaidd fel Lloegr oedd â chanolfannau dinesig.
Ganwyd William Roos yn 1808 ar dyddyn o'r enw Bodgadfa, yn Amlwch, Ynys Môn. Câi copr o fwyngloddiau cynhyrchiol Mynydd Parys ei allforio o'r porthladd gerllaw. Bu gan ei daid, a oedd o dras Iseldiraidd, gysylltiad agos â'r mwyngloddiau eu hunain ac â'r gwaith allforio. Cafodd Roos beth addysg mewn Ysgol Fordwyo yn Amlwch ac, er nad oes rheswm i gredu iddo ddysgu arlunio yno, pan oedd yn 19 oed llwyddodd i greu portread celfydd o athro ysgol adnabyddus, John Williams, Ystrad Meurig, wedi'i seilio ar ysgythriad.
Chwe blynedd yn ddiweddarach, yn 1833, priodwyd Roos ag Ellen Jones o Drewalchmai, Ynys Môn, a'r flwyddyn wedyn cyhoeddodd hysbyseb yn dweud y byddai ar gael yng Nghaernarfon i baentio mân-luniau am gini, 'Portreadau Hanner Maint' am ddwy gini, a 'Phortreadau Trichwarter Hyd' am bedair gini.
Yn 1835, manteisiodd Roos ar y ffaith ei fod yn lletya drws nesaf iddo, i baentio portread bychan o'r Parch. Christmas Evans, gweinidog a phregethwr enwocaf y Bedyddwyr yng Nghymru ar y pryd.
Er nad oedd yr arddull yn nodweddiadol o weddill ei waith, byddai'r portread hwn a ddosbarthwyd ar ffurf mesotint a ysgythrwyd gan Roos ei hun, yn hoelio'r ddelwedd drawiadol o'r dyn yn nychymyg y Cymry. Cynhyrchodd gopïau o ddwy fersiwn olew, o leiaf, wedi hynny i'w gwerthu.
Byddai Roos yn gwneud yr un peth â phortreadau o ffigurau cyhoeddus eraill a fu'n eistedd iddo, sef gwneud copïau ar ffurf ysgythriadau i'w gwerthu. Yn eu plith roedd y bardd Robert Williams, 'Robert ap Gwilym Ddu'.
Mae pedair fersiwn olew ac un darlun wedi goroesi o'i bortread gwreiddiol o Richard Robert Jones, sef yr enwog 'Dic Aberdaron' (Llyfrgell Genedlaethol Cymru).
Roedd ei bortreadau o John Cox, argraffydd o Aberystwyth, a'i bedwar portread o deulu Hugh a Margaret Thomas, fferm Hendregadog, Llangaffo, Ynys Môn yn nodweddiadol o'i luniau o bobl lai adnabyddus.
Degawd yr 1840au oedd uchafbwynt gyrfa Roos ond, mewn gwirionedd, erbyn 1847, pan baentiodd bortreadau teulu'r Thomasiaid, roedd ffotograffiaeth yn dechrau amharu ar y farchnad am bortreadau olew.
Ymateb Roos ac artistiaid crefftus eraill oedd arallgyfeirio. Gan fod angen dinoethi'r ffilm am amser hir, roedd paentio a thynnu ffotograffau o anifeiliaid fferm arobryn a cheffylau a chŵn hela, dal dan arbenigedd paentwyr. Ymhlith y gorau o'i luniau marchogaeth roedd portread o Robert Luther o Acton, Swydd Amwythig, a dynnwyd yn 1849.
Ar y gororau yn bennaf y câi paentwyr portreadau o Gymru yr ychydig nawdd a gawsent o Loegr.
Yn 1846. priodwyd Roos am yr eildro. Un o Sir Feirionnydd oedd ei wraig, Mary Jones, ac aeth y pâr i fyw yn Nhywyn, ar arfordir y gorllewin. Bu farw merch Roos a'i wraig gyntaf y flwyddyn ganlynol, ond cafodd ef a Mary bedwar o blant eraill. Er mai ychydig o addysg ffurfiol a gafodd, roedd Roos yn gyfarwydd â hanes celf Ewropeaidd yn ôl dealltwriaeth yn y cyfnod, ac ag agweddau ar draddodiad celf Cymru.
Yn 1844 roedd wedi ysgrifennu llythyr at fardd oedd yn crwydro Cymru, Hugh Derfel Hughes (Llyfrgell Genedlaethol Cymru), yn amlinellu'r traddodiad o'r Eifftiaid i'r presennol. Soniodd yn benodol am y teulu Roos – teulu o arlunwyr a oedd yn ffynnu yn yr Isediroedd o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen.
Câi Roos lawer o'i wybodaeth gan un o brif ddeallusion Cymru yn y cyfnod, y bardd John Jones, Talhaiarn, a oedd yn beiriannydd yn Llundain. Paentiodd Roos bortread o Talhaiarn fel Y Bardd yn Myfyrio, gan dynnu ar draddodiad maith o eiconograffeg barddol Gymraeg. Yn 1851, paentiodd ddarlun arall o Talhaiarn a oedd ar y pryd yn gynorthwyydd i Paxton yn y gwaith o adeiladu'r Palas Grisial. Dyma bortread urddasol a difrifol o Gymro llwyddiannus yn Llundain.
Oherwydd poblogrwydd ffotograffiaeth, gwelodd Roos ddirywiad sydyn yn ei fusnes yn yr 1860au. Yn 1871 gwnaeth ymgais fer i sefydlu ei hun fel ysgythrwr yn Llundain, gan symud ei deulu cyfan i Soho, ond dychwelodd y teulu i Gymru ac aeth Roos ei hun yn ôl i'r bywyd crwydrol ar ôl rhyw flwyddyn. Yn 1873 ysgrifennodd at ffrind oedd mewn sefyllfa ffafriol yn gofyn iddo ei argymell wrth ddarpar noddwyr a oedd yn berchen ar geffylau hela neu wartheg arobryn. 'I have taken to Animal & Landscape painting for the last few years, this is the only thing in art Photography can't do,' meddai.
Credir na chafodd fawr o lwyddiant fel artist tirluniau, oherwydd prin yw'r lluniau â'i lofnod arnynt sydd wedi goroesi. Yn yr un modd, ychydig o lwyddiant a gafodd â'r darluniau o olygfeydd hanesyddol a anfonodd i gystadlaethau mewn eisteddfodau. Yn ei flynyddoedd olaf, collodd ei urddas braidd gan ymddangos mewn achosion llys, mewn dadleuon â chleientiaid ynghylch taliadau. Yn ôl yr adroddiad olaf gan lygad-dyst, roedd yn gweithio ym mynwent eglwys Croesoswallt, yn ychwanegu lliw at ffotograffau o'r eglwys 'gan ychwanegu ychydig sylltau at eu pris.'
Ym mlwyddyn olaf ei fywyd, gwnaeth Roos ei ffordd yn ôl i Ynys Môn, lle bu farw o strôc ar 4ydd Gorffennaf 1878 yn Amlwch, yng nghwmni un o'i feibion.
Peter Lord, hanesydd celf
Bu'r arddangosfa 'William Roos: Portread Artist', a Peter Lord yn guradur arni, yn Oriel Môn ger Llangefni, rhwng 1 Chwefror 2020 a chyfnod clo'r pandemig COVID19
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Peter Lord, William Roos a'r Bywyd Crwydrol, Oriel Môn, 2020
Peter Lord, The Tradition: a New History of Welsh Art, Parthian, 2016
Peter Lord, Diwylliant gweledol Cymru: Delweddu'r Genedl, Prifysgol Cymru, 2000