Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf yn Ynysoedd Prydain i gael ei dynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae prif atyniadau'r penrhyn – Bae y Tri Chlogwyn a brig creigiog Pen Pyrod yn Rhosili er enghraifft – yn atyniad mawr i dwristiaid, ffotograffwyr ac artistiaid. Mae'r penrhyn bach yn cynnwys amrywiaeth ryfeddol o olygfeydd a chynefinoedd byd natur. Mae'r rhain yn amrywio o'r clogwynni, cildraethau a thraethau tywod ysblennydd – sy'n cael eu paentio'n aml – ar arfordir y de, i'r gweundir bryniog lle mae gwartheg, defaid a cheffylau'n crwydro'n rhydd a'r morfeydd heli sy'n ymledu yn aber yr Afon Llwchwr.
Daw'r arddangosfa 'Clogwynni, cildraethau a chocos: darlunio penrhyn Gŵyr' o gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, gyda benthyciadau o Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Cymru a gan fenthycwyr preifat. Mae'r arddangosfa'n dangos ar yr un adeg â Gŵyl Gŵyr 2024 sydd, eleni, yn dathlu 100fed pen-blwydd un o'i chefnogwyr anwylaf, yr artist o'r Mwmbwls Glenys Cour.
Mae nifer o'i thirweddau hynod liwgar a haniaethol o Gŵyr yn cael eu harddangos, yn cynnwys Tirwedd Felen. Yn ei 101af blwyddyn, mae angerdd yr artist am liw yn ei gwthio hi i barhau i weithio bob dydd, gan fynd ati'n boenus i addasu ei lliwiau cryfach fyth – a phrudd ar brydiau – gyda'i bys, cadach a chyllell balet.
Yn Cliff Path (1984) mae ochr y bryn yn rhedeg i lawr ar letraws drwy las cryf yr awyr a'r môr. Mae llwybr pinc yn dringo i fyny drwy'r llwyni a'r dail sy'n oren a choch, glas a gwyrdd, browngoch a lliw rhwd. Yn yr arddangosfa mae'r gwaith paratoi mewn siarcol yn dangos siapiau a mesuriadau syml y dirwedd fel golau a chysgod: pelydr o olau gwyn yn rhedeg drwy'r bryniau tywyll a'r awyr tywyllach fyth. Ond yn y paentiad gorffenedig, y lliw sy'n mynegi ymateb yr artist i'r hyn y mae hi'n ei weld.
Mae un o fy hoff dirluniau gan Glenys Cour yn wrthgyferbyniad llwyr i liw llachar. Mae Y Pwll, Cefn Bryn yn ail ddychmygiad ingol o Broad Pool sydd wrth droed y bryn canolog yng Ngŵyr. Mae fframwaith du, dewr a gwead garw yn cyfleu amgylchiadau'r gweundir. Ym mwrllwch a glaw'r gaeaf yng Ngŵyr, mae'r pwll yn aml yn edrych fel hyn, yn dywyll a bygythiol ac ar fin troi'n llifogydd ar draws y ffordd sy'n rhedeg ar hyd ei ochr. Ond rwy'n siwr nad y tywydd gwael yn unig a ysbrydolodd gweledigaeth dywyll bersonol Glenys!
Y peintiwr Ceri Richards, oedd yn hannu o Gŵyr, oedd tiwtor ac ysbrydoliaeth Glenys Cour yng Ngholeg Celf Caerdydd. Mae'r braslun pen ac inc hwn o gyfaill y ddau, Vernon Watkins, yn dangos y bardd mawr o Gŵyr ar ddiwrnod poeth ym mis Gorffennaf yn 1949, yn gwisgo trowsus cwta ac yn darllen o'i gyfrol o gerddi newydd ei chyhoeddi, The Lady with the Unicorn. Pennard yw'r lleoliad – lle'r oedd Watkins yn byw – ac roedd yn adnabod pob modfedd o'r clogwynni a'r cildraethau o'i amgylch.
Pan fu farw Watkins yn sydyn yn 1967, talodd Richards deyrnged i'w gyfaill gyda dehongliad mewn darlun o'i gerdd hir Music of Colours, White Blossom (1968). Defnyddiodd Richards liwiau cryf i ddarlunio ystyriaeth delynegol y bardd o farwolaeth ac adfywiad. Ar gefndir melyn trawiadol, mae troelliadau o flagur gwyn wedi eu hamlinellu mewn coch, yn mynd yn fwy llwyd a garw wrth iddyn nhw syrthio tuag at siâp annymunol yr alarch du ar waelod y llun. Yng ngeiriau'r gerdd, 'white must die black to be born white again.'
Mae nifer o beintiadau'n cael eu harddangos yma am y tro cyntaf. Mae'r rhain yn cynnwys grŵp o olygfeydd dyfrlliw o Gŵyr a roddwyd yn ddiweddar i Oriel Gelf Glynn Vivian gan wyresau Will Evans, tiwtor mewn lithograffeg yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae Evans, oedd yn beintiwr cain mewn olew a dyfrlliw, yn adnabyddus yn bennaf am ei olygfeydd o adfeilion a rwbel Abertawe ar ôl Tair Noson y Blits yn 1941.
Mae'r dyfrliwiau ysgafn a hwyliog hyn yn hollol gyferbyniol i'r golygfeydd enbyd hynny o ddinistr y ddinas. Yn y fan hon, mae'r artist yn hamddena, yn mwynhau clogwynni, cildraethau a thwyni arfordir deheuol dramatig Gŵyr neu'r mannau gwledig heddychlon ym mherfedd y pentir.
Ganed Cedric Morris i deulu o ddiwydianwyr cefnog yn Sgeti, un o faestrefi Abertawe. Treuliodd lawer o'i fywyd yn Suffolk, lle sefydlodd Ysgol Beintio a Darlunio Dwyrain Anglia, ac ymysg ei ddisgyblion roedd Maggi Hambling a Lucian Freud. Yn ystod y Dirwasgiad Mawr, dechreuodd gymryd rhan yn yr ymdrechion i wella bywydau glowyr Cymru a hyrwyddo celf Gymreig a, phryd hynny, roedd yn ymweld yn rheolaidd â gogledd Gŵyr.
Yn y paentiad llachar hwn o 1928 o ffermdy wrth droed gorllewinol Bryn Llanmadog, mae'r olygfa o ochr y bryn wedi'i symleiddio a'i dangos yn fwy gwastad gydag amlinellau cryf; ac mae ysgubiadau byr ac egnïol y brwsh yn bywiogi arwyneb y paentiad. Yr elfen amlycaf o'r cyfan yw'r amrywiaeth o wyrddion, o'r gwyrdd olewydd tywyll i las y nen golau, sy'n cynrychioli'n berffaith y lliwiau ar ddiwrnod heulog o wanwyn. Yn Llwchwr o Benclawdd (1936), a fenthycwyd gan Amgueddfa Cymru, roedd Morris yn edrych draw ar draws y foryd at simneiau diwydiannol Llwchwr.
Doedd Cedric Morris ddim yn unigryw yn y ffaith bod ganddo ddiddordeb yn ardal fwy diwydiannol gogledd ddwyrain Gŵyr. Roedd Ernst Neuschul, mewnfudwr o Tsiecoslofacia oedd wedi aros yn y Mwmbwls yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi ei effeithio gan waith caled y casglwyr cocos ym Mhenclawdd. Mae'r casglwr cocos yn droednoeth yn y tywod, yn plygu'n isel i'w casglu gydag un llaw ac yn dal ei chribin yn y llall; o'i blaen mae'r fasged y bydd hi'n cario'r cocos ynddi i farchnad Abertawe. Mae hi'n ffigur mawreddog, di-enw, yn symbol o urddas llafur.
Mae llawer o'r artistiaid sydd wedi peintio yng Ngŵyr wedi bod yn ymwelwyr ar wyliau. Roedd Lucien Pissarro, mab hynaf y peintiwr Argraffiadol, Camille Pissarro, yn gwella ar ôl salwch ac roedd ar wyliau ym mhentref Pennard pan beintiodd yr olygfa hon o Gefn Bryn o Dwyni Pennard yn gynnar yn yr hydref, 1933. Yn ôl y sôn, roedd Pissaro wedi dilyn yr egwyddor Argraffiadol o weithio yn yr awyr agored yn syth o fyd natur drwy gydol ei fywyd ac mae'n hawdd ei ddychmygu'n gosod ei îsl ar y tir lle mae maes golff erbyn hyn ac yn braslunio gyda'i balet o liwiau cyflenwol sialcog.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dim ond trwy gerdded neu fynd ar gefn ceffyl y gallai rhywun gyrraedd mannau o benrhyn Gŵyr. Ond, ymgartrefodd arlunwyr mentrus Oes Fictoria yno - fel y teuluoedd Harris a Duncan - neu daethant yn ymwelwyr rheolaidd, yn peintio'r llongau prysur ar Fôr Hafren, y llongau wystrys a'r llongddrylliadau gweddol reolaidd. Un enghraifft dda o hyn yw Llongddrylliad y Llong Norwyaidd 'Mercur' yn Slade gan Edward Duncan.
Y gwaith cynharaf yn yr arddangosfa yw llun pen ac inc bychan o adfeilion castell Ystumllwynarth gan y gwawdlunydd Thomas Rowlandson. Mae'n debyg bod y gwaith hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddarluniad llyfr ar gyfer gwaith gan Henry Wigstead, Remarks on a Tour in North and South Wales in 1797, a gyhoeddwyd yn 1799.
Bryd hynny, am fod y rhyfel â Ffrainc yn golygu ei bod hi'n anodd teithio dramor, roedd teithiau ym mynyddoedd a rhaeadrau Cymru ac o amgylch ei chestyll adfeiliedig a'i habatai yn hynod o boblogaidd. Ond doedd y teithiau hynny byth yn cynnwys Gŵyr. Felly pan benderfynodd Rowlandson gerdded 'dros ffordd greigiog iawn' i Fae Caswell, a dod o hyd i'r 'traeth tywod prydferthaf a welais erioed', efallai mai ef oedd yr artist cyntaf i edmygu clogwynni, cildraethau a thraethau prydferth Gŵyr.
Kirstine Brander Dunthorne, Cyfaill Oriel Gelf Glynn Vivian
Roedd 'Clogwynni, cildraethau a chocos: darlunio penrhyn Gŵyr' yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe o 18fed Mai 2024 hyd 12fed Ionawr 2025.
Cyfiethiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru