'Gully Foyle is my name
And Terra is my nation.
Deep space is my dwelling place,
The stars my destination.'

Mae Gully Foyle yn baentiad o 1961 gan Robyn Denny yng nghasgliad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyma deitl anarferol ar gyfer paentiad haniaethol enfawr – drws dau fetr, gyda graddiant fertigol o liw ar y rhiniog. Mae'r enw'n cyfeirio at gymeriad canolog gwaith ffuglen wyddonias dylanwadol gan Alfred Bester, The Stars My Destination, a gyhoeddwyd yn 1956.

Gully Foyle

Gully Foyle 1961

Robyn Denny (1930–2014)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Fe wnaeth Bester, awdur Americanaidd oedd wedi llogi tŷ yn Surrey, ddwyn enwau o'r llyfr ffôn wrth gynllunio'r nofel: Sheffield, Yeovil, Dagenham, Presteigne. Mae'r olaf, Llanandras (Presteigne), yn dref ym Mhowys, sydd bellach yn gartref i The Spaceguard Centre, yr unig sefydliad ym Mhrydain sydd wedi ymroi i 'fynd i'r afael â pheryglon Gwrthrychau Gerllaw'r Ddaear.'

Mae'r cymeriad Gully Foyle yn rym natur – gyrrir y plot gan gyfres o newidiadau dramatig yn ei gymeriad. Ar ôl cael ei adael yn y gofod gan Presteigne, y meistr diwydiannol, mae Foyle yn trawsnewid o fod yn grwydryn sydd prin yn llythrennog, ar daith a yrrir gan ddialedd, ac ar y ffordd mae'n trawsnewid o fod yn garcharor i ddyfeisiwr, dandi a phroffwyd.  

Mae paentiad Denny'n fynedfa i sawl llain o liw – nid yn gymaint cyfres ond adlewyrchiad o newid parhaol. Gellir dychmygu'r cymeriad a'r paentiad fel pyrth. Maen nhw'n awgrymu i mi ddull newydd o brofi maes hybrid diwydiant, tir, isadeiledd a phensaernïaeth de Cymru, drwy asiad o ffuglen wyddonias a chelf.

Valley at Night with Figures and Lights

Valley at Night with Figures and Lights

c.1963–1969, oil on canvas by Ernest Zobole (1927–1999), private collection

Valley at Night with Figures and Lights, tua 1963–1969, olew ar gynfas gan Ernest Zobole (1927–1999), casgliad preifat

Dwi wrthi'n gyrru'n chwim ar un o gefnffyrdd cymoedd de Cymru, gan edrych i lawr ar ffatrïoedd a chaeau o fetel crych wedi'i bacio ysgwydd yn ysgwydd â waliau lliw plisgyn ŵy, gwyn a thywod; toeau brown serth, ac archfarchnadoedd. Mae bryniau'n goresgyn y cyfan: pob copa'n ddi-goed, porfa bellach yn tyfu ogylch peilonau cyfathrebu a phileri triongli o garreg. Mae'r dirwedd yn un o asio, ynni a newid parhaus.

Mae paentiadau Ernest Zobole'n dal ymdeimlad tebyg o symud drwy dirwedd estron. Yn Valley at Night with Figures and Lights, mae trefi a phobl yn plygu o gwmpas natur sydd bron yn ddi-siâp. Gwelir strwythurau a allai fod yn dyrau diwydiannol a llifoleuadau'n ymdebygu fel glaniad llong o'r gofod pell, a'r byd wedi'i siapio gan syniadau amrywiol o amser ac ystyr.

From Flat 11

From Flat 11 1988

Ernest Zobole (1927–1999)

University of South Wales Art Collection Museum

Yn From Flat 11, gwelir Zobole'n canolbwyntio'n fwy astud ar yr amgylchedd adeiledig, gan ddal nodweddion rhyw olau melyn hypnotig sy'n llenwi trefi'r cymoedd gyda'r nos. Cuddir bryniau a ffatrïoedd, a'r unig ffynhonnell o olau arnynt yw clytiau o olau sy'n goferu o lampau stryd. Mae isadeiledd y strydoedd, y pontydd a chledrau'r trenau'n disgwyl yn awchlym, noeth.

Gan edrych oddi fry, mae From Flat 11 yn defnyddio gwastad a lurguniwyd, gan ddwyn i gof grymedd y Ddaear, sy'n effeithio'r dref a'r fflat fel ei gilydd. Fel y disgrifiodd yr hanesydd celf Ceri Thomas, bydd tirluniau Zobole'n aml yn cylchdroi o gwmpas 'ffigwr-yn-y-drws… leitmotif diffiniol yn ei baentiadau diweddar' neu 'ffigwr unig / gwyliwr yn y porth', a gysylltir yn aml â gofod mewnol. Mae'n dwyn i gof y disgrifiadau  o ystafelloedd yn ffuglen wyddonias Samuel R. Delany, Ursula Le Guin neu Phillip K. Dick: lle mae'r cartref neu adeilad yn dod yn fynediad i gymdeithas sydd wedi ei drawsnewid.

Yn y paentiadau hyn, ac yn House and Exterior, mae ymdeimlad o symud o hynd, bron at bwynt peri penbleth: y 'pensyfrdandod', fel y defnyddia Jack Halberstam y term, o 'fod ar goll mewn gofod ac amser'.  

House and Exterior

House and Exterior 1988

Ernest Zobole (1927–1999)

University of South Wales Art Collection Museum

Cafodd yr ymdeimlad hwn o'r bensaernïaeth yn dod yn  estron ei drafod yn helaeth yn nofelau J. G. Ballard. Yn ei lyfrau ef, bydd cymeriadau a arweiniwyd gan ysfa a chwant isymwybodol yn ailddarganfod cyswllt sydd bron yn gysefin, â phensaernïaeth a gwaith cynllunio trefol Prydain wedi'r rhyfel. Mae atynfa wyrdroëdig Dr Robert Vaughan at briffyrdd yn Crash, gan ddechrau gyda'i ddamwain car ger Maes Awyr Dinas Llundain, yn ei arwain, fel Robert Maitland yn Concrete Island, i'r mannau rhwng, y tu hwnt ac o gwmpas rhwydweithiau o isadeiledd: meysydd parcio aml-lawr, tanffyrdd, meysydd awyr a lleiniau wrth ochr traffyrdd.

Untitled (Cardiff Airport Suite) No. 4

Untitled (Cardiff Airport Suite) No. 4 (diptych, right panel) 1976–1977

Richard C. Cox (b.1946)

University of South Wales Art Collection Museum

Mae cyfres Richard C. Cox 'Cardiff Airport Suite' yn cyniwair yr ymdeimlad hwn o dirwedd sy'n nesâu at yr annynol, ond sydd ar yr un pryd yn gyfarwydd, yn hypnotig: safleoedd ble ceir cyfarfyddiadau dros-dro; mannau ble mae symud a throsglwyddo'n digwydd. Wrth deithio heibio'r caeau a'r perthi sy'n amgylchynu maes awyr Caerdydd, mae'r paentiadau hyn yn atseinio'r lle iasol, absennol a effeithiwyd gan y goferu seicig a effeithir gan y lleoliad hwnnw. Maen nhw'n holi pa newid sydd ei angen er mwyn i ddynoliaeth fyw yma?  

Untitled (Cardiff Airport Suite) No. 5

Untitled (Cardiff Airport Suite) No. 5 1976–1977

Richard C. Cox (b.1946)

University of South Wales Art Collection Museum

Wrth gerdded wrth ochr gwaith dur Celsa ar hyd ymyl heol Rover Way, Caerdydd, rwy'n cymryd ffotograffau wrth i mi gylchu o gwmpas y ffatrïoedd. Warysau enfawr wedi'u golchi'n lân, cledrau trên wedi gordyfu â blodau gwylltion, pentyrrau o fetel sgrap. Mae'r egni allan o'i le: ceir yn arafu, teithwyr yn canu eu cyrn, gan edrych i fyny ar y trawstiau a'r cwndidau dros y lleiniau o dir gwag sy'n nesu at y môr. Mae'r asiadau hyn o ddiwydiant, tir a logisteg yn cynhyrchu'u mathau'u hunain o fywyd mwy-na-dynol.  

The Control Room

The Control Room (polyptych, 36 panels arranged in a block 4 high and 9 wide) 2008

Kay Keogh (b.1958)

University of South Wales Art Collection Museum

Mae polyptych Kay Keogh 'The Control Room' yn cynnwys golygon lluosog ar amgylcheddau dynol ac adeiledig. Mae gan lawer o'r paentiadau ongl anarferol, wedi eu dyrchafu'n uchel - nid yn ddigon uchel i gael 'golwg o lygad Duw' - ond yn uwch na olygfa Zobole o'r fflat.

Mae'r ffordd anesmwyth y maen nhw'n edrych i lawr ar ffigurau dynol unig – a'r amgylchedd o'u cwmpas wedi'i gywasgu'n ddim ond derfynau a pharthau awgrymog – yn dwyn i gof ymdeimlad awchlym tyrau oeri, y cruglwyth concrit yna sydd bron yn fyw, ble gwaceir stêm fry uwch y gwaith. Mae ardaloedd diwydiannol yn fannau byw, ble mae pobl yn byw, o ran eu lleoliad – fynychaf wedi'u gwasgu i ganol tref neu'n goferu drostynt – ond hefyd ynddyn nhw'u hunain: endidau byw, nad ydyn nhw'n ddynol.

The Control Room

The Control Room (polyptych, 36 panels arranged in a block 4 high and 9 wide) 2008

Kay Keogh (b.1958)

University of South Wales Art Collection Museum

Yn y llu amrywiadau o gyd-fyw rhwng diwydiant, tai a thirwedd yn ne Cymru, bydd pensaernïaeth a chynllunio iwtopaidd yn cael ei anwybyddu weithiau. Roedd y Trefi Newydd a adeiladwyd ar ôl y rhyfel, a Chwmbrân yn unig esiampl o'i fath yng Nghymru, yn gynlluniau er mwyn asio tai i weithwyr diwydiannol a natur. Cawsant eu dylanwadu gan syniad Ebenezer Howard o 'ddinas yr ardd' (y mae Rhiwbeina ar gyrion Caerdydd yn enghraifft ohoni), 'trydydd lle' a fyddai'n ffurfio cyfuniad hybrid o ddinas, tref a chefn gwlad, gyda gwreiddiau'n dychwelyd i Gymru yn ninasoedd gweithwyr Robert Owen.

Mae profi'r prosiectau modernaidd hyn gyda rhodfeydd concrit a nendyrau a ysbrydolwyd gan Le Corbusier yn tanio'r hyn y mae Owen Hatherley'n ei ddisgrifio fel 'ffenomena cyfoes cyffredin o hiraethu am y dyfodol', cof am brosiectau tai radical, eu gweledigaethau am ddyfodol amgen, a'r posibiliadau y gallai pensaernïaeth weledigaethol aildrefnu dull cyfalafol o ymwneud ag amser, byw a gweithio.

Buildings with Figure

Buildings with Figure (probably by a University of Glamorgan art student)

unknown artist

University of South Wales Art Collection Museum

Yn The Stars My Destination, mae naratif Gully Foyle am newid a thrawsnewid yn chwalu ac ailstrwythuro amser. Mae'n profi dolenni amser, chwalu, enydau di-achos, teithio drwy amser, telegludiad a gweledigaethau o ysbrydion. Ac yntau'n gymeriad synesthetig sy'n symud yn barhaus, mae e'n berthnasol i artistiaid sy'n synhwyro'r llu haenau amserol mewn tirluniau sy'n newid yn barhaus.

Beau W. Beakhouse, artist ac awdur  

Cyfiethiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen pellach

Alfred Bester, 'My Affair with Science Fiction', Library of America

John Grindrod, Concretopia: A Journey Around the Rebuilding of Postwar Britain, Old Street Publishing, 2013

Jack Halberstam, Wild Things: The Disorder of Desire, Duke University Press, 2020

Owen Hatherley, Militant Modernism, John Hunt Publishing, 2008

Ceri Thomas, 'Ernest Zobole, Painter: Out of and into the Blue' yn Christine Kinsey a Ceridwen Lloyd Morgan (gol), Imaging the Imagination, Gwasg Gomer, 2005