Mae sgeipio Shani Rhys James wedi bod yn uchafbwynt i 'nghyfnod clo i, heb os.
Shani Rhys James yw un o baentwyr mwyaf eithriadol Prydain. Mae hi wedi ennill llawer o wobrau nodedig, gan gynnwys Gwobr Baentio Jerwood, roedd hi'n destun cyfres ddogfen y BBC What Do Artists Do All Day? yn 2014, ac mae'i gwaith yn perthyn i gasgliadau o bwys ledled y byd.
Wrth i'r sgrin lwytho, gallaf weld fod yr artist yn eistedd wrth fwrdd cegin pren, gyda jygiau, cwpanau a phlatiau amrywiol wedi'u gosod mewn cwpwrdd y tu cefn iddi. Dyma'r gwrthrychau sy'n llenwi paentiadau seicolegol gyforiog Rhys James, ble mae hi'n gwyrdroi naratifau 'benywaidd' traddodiadol am fenywod yn y cartref.
Rydyn ni'n dechrau arni drwy drafod ei haddysg gelfyddydol. Dyw hi ddim yn syndod i mi glywed nad yw Shani Rhys James erioed wedi cadw at y rheolau. Hyfforddodd yng Ngholeg Celf St Martin's yn ystod y 1970au, pan oedd celf haniaethol yn ffasiynol, Serch hynny, yn ystod ei chyfnod yn y coleg celf y darganfu'r 'rhyddid mewn paent a mynegiant i ganolbwyntio ar effaith seicolegol y ffigur.' Yn fuan wedi hyn, trodd ei gwaith at yr hunangofiannol. 'Dechreuais wneud hunan-bortreadau yn fy ail flwyddyn yn y coleg celf fel ffordd o ganolbwyntio ar bwy oeddwn i.'
Ers hynny, mae'r hunan-bortread wedi bod yn fotiff sy'n codi'i ben dro ar ôl tro. Yn ystod y 1990au, paentiodd yr artist gyfres oedd yn dangos hi ei hun yn y stiwdio. Yn y paentiad Yn y Drych fe'i hamgylchynir gan offer ei chrefft: tiwbiau o baent, paletau a photiau dŵr, brwshys a hen fenig. Ynghanol y frwydr hon am le, mae hi'n gweld ei hadlewyrchiad mewn drych sydd ar ei draed.
Drwy gydol hanes celf, cafodd drychau eu defnyddio gan artistiaid gwrywaidd i wneud sylw am harddwch, benyweidd-dra a choegfalchder menywod. Er enghraifft yn Fenws Rokeby Diego Velázquez, mae'r duwies cariad Fenws yn gorwedd yn ôl ac edrych ar ei chorff noeth, synhwyrus mewn drych sy'n cael ei ddal gan ei mab, Ciwpid.
Mae Shani Rhys James yn troi'r traddodiad hwn ben i waered. Defnyddia'r drych i'w chyflwyno'i hunan, nid fel gwrthrych dyhead, ond yn hytrach er mwyn cydnabod ei hunaniaeth fel artist.
A hithau wedi'i gwisgo mewn oferôls a sgeintiwyd gan baent, mae'n sefyll ynghanol broc y stiwdio. Ar y bwrdd saif potel fawr o sbirit gwyn: 'Yn St Martin's, ro'n i'n beryg bywyd o fynd ar dân am 'mod i'n defnyddio cymaint o sbirit gwyn. Yn y diwedd, bu'n rhaid i mi roi'r gorau i'w ddefnyddio am 'mod i'n anadlu cymaint o'r tarth gwenwynig.'
Mae hi'n cyflwyno paentio fel peth corfforol a pheryglus. Ymddengys bron fel gweithred o brotest. Efallai fod hyn yn sylw ar y byd celf patriarchaidd?
'Mae bod yn artist yn ymdrech, a rhaid i chi ddal ati i frwydro. Rhaid i chi fod yn gryf mewn cymdeithas a dra-arglwyddiaethir drosti gan ddynion.' Pan ofynnir iddi a fyddai hi'n ymuniaethu'n ffeminydd, ei hymateb yw: 'Pa fenyw fyddai ddim felly?'
Yn llawer o'i hunan-bortreadau, byddai'n diffinio'i hun yn fwriadol mewn telerau androgynaidd. Mae'n dweud wrthyf ei bod hi'n mynd ati'n fwriadol i beidio â harddu'i hunan, ond yn hytrach mae'n dangos ystyr bod yn fenyw heb fwgwd – 'fel person, fel paentiwr'.
Yn ystod y 2000au, trodd fwyfwy i mewn arni'i hunan, gan baentio hunan-bortreadau beiddgar a fframiwyd yn glos mewn cyfres o'r enw 'Pennau'. Mae'n disgrifio'r paentiadau hyd fel 'archwiliad', ble mae'n 'defnyddio drych sy'n cael ei ddal yn y llaw i rannu'r wyneb fel tirwedd'.
Bydd aelodau o deulu Rhys James yn ymddangos yn ei phaentiadau hefyd. Yn 1984, symudodd gyda'i gŵr, y cyd-artist Stephen West, o Lundain i adfail o dŷ fferm yng Nghymru i fagu'u dau fab yng nghefn gwlad. Disgrifia Rhys James y cyfnod hwn fel 'traed moch', wrth iddi hi a Stephen adnewyddu'r tŷ, gweithio fel artistiaid, addysgu, a magu'r meibion.
Serch hyn oll, fe fu'n gyfnod hefyd a'i galluogodd i edrych ar fywyd o safbwynt gwahanol: 'Ro'n i wedi cael dau o blant, ro'n i gartref, roedd yn doriad diddorol… roedd gen i amser i amgyffred a byw. Ro'n i'n gweld pethau ar lefel ddomestig.'
Mae Cegin y Nos I yn dangos Rhys James a'i mab, Matthew. Wedi dweud hynny, esbonia, yn llawer o'i phaentiadau gallai'r ffigurau fod yn amrywiaeth o bobl: 'weithiau mae'n anodd gwybod ac mae'n agored i ddehongliad. Mae'n ymwneud â pherthynas menywod â phlant.'
Fel llawer o baentiadau'r artist, fe'i dychmygir mewn lliwiau llachar: coch, oren gwyrddlas, du. Mae dwyster ei phalet yn cyfeirio at ei threftadaeth yn Awstralia – roedd ei mam yn dod o Awstralia, a Chymro oedd ei thad – a chafodd hi ei geni a'i magu ym Melbourne.
Mae hi'n dweud wrthyf am 'Argraffiadwr coll' Awstralia, John Peter Russell, a drodd ei gefn ar naturiolaeth o blaid peintio gyda lliwiau llachar, pur. Hwn oedd yr artist a ddysgodd ac a ysbrydolodd eraill fel Henri Matisse a Vincent van Gogh: 'Mae'r tri artist hyn yn defnyddio lliw yn lle realaeth, dyna'u dehongliad nhw eu hunain, dehongliad seicolegol.' Yn yr un modd, mae Shani Rhys James yn ailfeddiannu'r parth domestig oddi wrth liwiau pastel tlws, gan beintio'r lle mewn lliwiau afieithus.
Mae'r ansawdd theatrig a geir ym mhaentiadau naratif Rhys James hefyd yn cyfeirio at ei magwraeth: roedd ei mam hi'n actores ar lwyfan. Mae llawer o'i chynfasau'n ymddangos fel setiau llwyfan, gan gynnwys gwisgoedd, propiau a modelau mannequin o faint dynol. 'Mae Grisiau II yn nodi'r rhan ohonof sy'n cofio bod yn blentyn a fagwyd yn y theatr, gan rieni sy'n ymgolli mewn gwisgoedd a thrawsnewid. Mae'n ymwneud hefyd â'r plentyn sydd â rhieni absennol, am eu bod nhw wedi'u llenwi'n llwyr â'u gweithgareddau'u hunain, gan gynnwys cyflwyno dramâu.'
Actiodd mam Rhys James y brif ran, Nora, yn nrama Henrik Ibsen A Doll's House. Mae'r ddrama o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn adrodd hanes menyw ddosbarth canol sy'n teimlo rhwystredigaeth oherwydd bod ei gŵr yn ei thrin fel dol. Mae'r ddrama'n cyflwyno menywod fel chwareubethau di-rym, wedi'u caethiwo yn y cartref, mewn cymdeithas batriarchaidd.
Yn Yr Estyll (The Boards), mae Rhys James yn cynrychioli'i mam fel Nora. 'Actiodd fy mam ran Nora… dyna fy mam yn edrych ar fy llystad. Mae'n ymwneud â throedio estyll y llwyfan, a theulu theatrig. Mae dau fodel mannequin yn ymddangos… a dyna fi gyda doli fach.' Ar ôl cymryd rôl Nora, datgela Rhys James fod ei mam wedi dilyn yn ôl troed y cymeriad, gan adael ei gŵr a mynd â'i merch o Awstralia i Lundain.
Gellir ymdeimlo'r naws theatrig hwn yn treiddio drwy baentiadau fel Crud Du a Maneg Latecs. Yn y feithrinfa, mae'r gwrthgyfosodiad swrealaidd rhwng y crud a'r un faneg a ollyngwyd yn sinistr. 'Mae'n ymwneud â'r berthynas rhwng y crud a'r babi a'r ystafell; mae'r babi y tu ôl i fariau caets, mewn gwirionedd.' Sonia Rhys James am gael ei hysbrydoli gan gelf osodiadol, gan gynnwys 'crudiau' Mona Hatoum. Bydd Hatoum yn creu cerfluniau o wrthrychau'r cartref, gan drawsnewid pethau cyfarwydd yn rhywbeth rhyfedd. Yn Incommunicado, fe stripiodd hi grud i lawr i'w strwythur hanfodol, di-baent o fetel oer. Mae'r cartref, yng ngosodiadau Hatoum a phaentiadau Rhys James fel ei gilydd, yn safle cythryblus o reolaeth.
Fe wnaeth sioe ddiweddar Rhys James, yn Ymddiriedolaeth Charleston, wynebu agweddau anghynnes y cartref. Fe wnaeth 'Shani Rhys James: tea on the sofa, blood on the carpet' leoli paentiadau'r artist o leoedd domestig wyneb yn wyneb â phaentiadau mwy clyd gan y Grŵp Bloomsbury: 'Roedd teitl yr arddangosfa'n cyfeirio at eu gwaith nhw, fel 'te ar y soffa' – llednais a bonheddig. Fy rhai i oedd y 'gwaed ar y carped', tanseiliol. Ond roedd llawer o gysylltiadau – roedden nhw'n peintio bant o Lundain, yn y wlad, yn peintio'r tu mewn i dai a darluniau o fywyd llonydd, yn diddori yn yr Ôl-Argraffiadwyr ac mewn lliw.' Roedd llawer o baentiadau Rhys James o'r sioe hon yn cynnwys blodau, yn ymladd am le mewn ffiolau, neu'n dod yn fyw mewn papurau wal llethol o flodeuog.
Unwaith eto, gwelir yr artist yn herio motiffau a gysylltir â benyweidd-dra tawel. 'Mae blodau'n bethau grymus,' meddai. 'Edrychwch ar Anselm Kiefer neu Van Gogh.' Fel yr artistiaid hyn, mae Rhys James yn gwneud y fawr o ddelwedd blodau gwyllt er mwyn amlygu'u cymeriad ffres a ffyrnig. Fel ei dehongliadau o fenywod, mae blodau Rhys James yn llawn grym. Gan amlygu gwirionedd benywaidd, mae'i naratifau'n rhyddhau menywod oddi wrth ddehongliadau sy'n eu lleihau, gan gynnig cyfle i fyfyrio'n ddyfnach a mwy cymhleth ar y fenyw fel artist, mam, merch ac unigolyn.
A beth fu ar y gweill ganddi yn ystod y cyfnod clo?
'Mae gen i baentiadau newydd mewn sioe ar lein 'Revisiting The Decameron', ar gyfer Oriel Flowers.' Sioe gymysg yw hi – mae 14 o artistiaid cyfoes wedi ymateb i'r Decameron gan yr awdur Eidalaidd o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, Giovanni Boccaccio, ble adroddir casgliad o nofelas gan grŵp o bobl sy'n hunan-ynysu yn ystod Pla Du 1348.
'Yn Isabella, mae bywyd llonydd ymddangosiadol normal yn cynnwys pen a dorrwyd o gorff ar blât, sy'n ddelwedd o'r niferoedd sy'n marw bob dydd ar hyn o bryd gyda'r pandemig.' Mae hi hefyd yn edrych ymlaen at sioe newydd: 'Dwi'n gweithio ar gyfres o ddarluniau hunan-ynysu, a phaentiadau am bellhau cymdeithasol, ble gwahanir pobl gan flodau.' Cânt eu harddangos yn Connaught Brown yn y gwanwyn 2021.
Mae Rhys James yn dweud ei bod hi wedi bod 'dan warchae yn y tŷ am 30 mlynedd' a bod ei chyfres ddiweddaraf ond yn cynnig parhad ar thema 'defnyddio celf i ddod o hyd i'r hunan'. Trodd y sgwrs yn ôl i ddechrau'r cylch, ac mae'n amser i'r artist adael y gegin a dychwelyd i'w stiwdio.
Ruth Millington, beirniad celf ac awdur
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru