Mae Roger Cecil yn esiampl berffaith o 'artist cudd'.
Wrth edrych ar baentiad megis Niwl yr Haf (2001), mae'n hawdd gweld dawn anferthol ar waith.
Dywedodd David Buckman, awdur The Dictionary of Artists in Britain since 1945, 'Mewn dros naw mlynedd o ymchwilio cynnwys ar gyfer geiriadur sy'n cynnwys dros 10,000 o enwau, fe yw'r darganfyddiad mwyaf trawiadol.' Roedd e'n un o artistiaid mwyaf abl a thoreithiog ei oes, ond nid oedd arddangosfeydd, grwpiau na statws o ddiddordeb iddo, ac fe dreuliodd ei fywyd yn y cwm glo lle y magwyd. Yn aml fe weithiodd fel llafurwr ac yn y mwynglawdd brig, er mwyn cynnal ei waith fel artist.
Fe glywais am Roger Cecil am y tro cyntaf dros 20 mlynedd yn ôl. Roedd cyfeillion sy'n artistiaid wedi dod i'w adnabod ac yn sôn bod rhywbeth arbennig amdano – ei fod yn artist 'mawr.' Fe brynais baentiad bychan, yr oeddwn wrth fy modd ag e, ond roedd yr artist ei hun yn ddirgel – ni fyddai'n mynychu nosweithiau agoriadol arddangosfeydd nac unrhyw ddigwyddiadau celfyddydol eraill. Fe ges i ei rif ffôn gyda chyfarwyddiadau arbennig er mwyn sicrhau ei fod yn ateb – canu ddwywaith, rhoi'r ffôn i lawr ac yna canu eto – ond ges i byth reswm i'w ffonio.
Ar ôl i Roger farw yn 2015, fe ysgrifennais deyrnged iddo yn The Guardian ac fe welais arddangosfa fechan er cof iddo yn cynnwys gwaith a roddwyd i'w gyfeillion dros y blynyddoedd. Roedd hi'n arddangosfa drawiadol tu hwnt. Rai misoedd yn ddiweddarach fe'm gwahoddwyd i ysgrifennu bywgraffiad beirniadol, sydd bellach wedi'i gyhoeddi gan Sansom & Company, sef Roger Cecil: A Secret Artist, ac i guradu, ar y cyd â'i ystâd, arddangosfa sylweddol yn MOMA Machynlleth, yr oriel gelf gyhoeddus sydd â'r casgliad fwyaf o'i waith.
Mewn sawl ffordd roedd Roger Cecil ymhell o fod yn 'gudd'. Daeth nifer o ymwelwyr ato i siarad am baentio, gan ei fod yn gwmni difyr. Dangosodd nifer o orielau ei waith ac fe werthwyd y gwaith hwn ar unwaith i gasglwyr a ganddynt lygad craff. Er bod tueddiad i feddwl amdano fel artist sydd wedi'i dangynrychioli, rydw i wedi darganfod bod bron i 20 o'i baentiadau wedi cyrraedd casgliadau cyhoeddus.
Fe'i ganwyd i deulu o lowyr yn Abertyleri, yn nwfn ym maes glo de Cymru, ym 1942. Fel llawer o bobl ddyslecsig heb ddiagnosis, fe gafodd anhawster yn yr ysgol, ac fe benderfynodd mai artist oedd e am fod pan oedd yn 10 mlwydd oed. Aeth ymlaen i Goleg Celf Casnewydd pan yn 15 oed. Pum mlynedd yn ddiweddarach fe lwyddodd i gael marciau gorau'r wlad yn y Diploma Cenedlaethol mewn Dylunio. Ym 1963 fe enillodd ysgoloriaeth fawreddog i astudio yn y Coleg Celf Brenhinol, ond fe adawodd y cwrs. Dywedodd bod ofn ganddo y byddai pob myfyriwr yn cymryd tamaid o ddylanwad o'i gilydd, ac fe aeth adre i Abertyleri, 'fel y gallwn baentio yn y ffordd yr oeddwn i am baentio, ac yn y ffordd yr oeddwn i'n teimlo.'
Fe ddefnyddiodd y deunyddiau y gallai eu fforddio – caledfwrdd, paent tŷ, plastr, cŵyr grât. Datblygodd ei arddull yn gyflym: delweddau haniaethol ar y cyfan, wedi'u seilio mewn tirluniau a'r corff dynol, ac wedi'u dylanwadu'n gynyddol gan gyfriniaeth. Pan fu farw ei rieni fe fu ddymchwel ar waliau o fewn y tŷ i greu un ystafell fawr fel ei stiwdio.
Er iddo osgoi cael ei ddylanwadu yn ormodol gan un peth, roedd e wedi darllen yn eang am gelfyddyd Ewropeaidd, Affricanaidd ac Americanaidd Brodorol ac fe gasglodd syniadau o nifer o ffynonellau. Roedd campweithiau o'i flynyddoedd canol yn syndod o ddirgel ac yn dwyn i gof gwaith artistiaid megis Antoni Tàpies, Alberto Burri a Jean Dubuffet. Yn wir fe allai arddangos ei waith ochr yn ochr â'r artistiaid hyn yn hyderus.
Roedd y gwaith yn gyfuniad o nodau llwyd, pinc, gwyn, brown cyfoethog a du'r glo, yn aml yn cyfuno'n erotig y dirwedd â'r corff dynol. Roedd y gwaith yn gymhleth o ran gwead – yn arw, yn sych, wedi'i sgleinio, yn byllog – ac fe aeth Roger ati i drin arwyneb ei baentiadau gyda brwshys addurno, fflôt, cŷn, papur tywod a theclynnau a wnaed ei hunan. Roedd y marciau yn debyg i'r creithiau a welir ar y dirwedd diwydiannol o'i amgylch ond hefyd yn dwyn i gof wrthrychau siamanaidd ac yn awgrymu ystyron cudd.
Yn Noson Aeaf gydag Angharad (tua 2003–2005), mae'r ffigyrau a'r dirwedd yn un. Mae'r bwrdd wedi'i orchuddio mewn plastr sydd wedi ei baentio a'i sgleinio. Mae'r ffigyrau i'w gweld hanner milimedr islaw'r du, fel petaent yn bodoli tu fewn ac o dan y duwch.
Mae ffurf haniaethol Di-deitl I (tua 1997) yn llwyddo i gyfleu nodweddion ei gynefin. Mae fel petai'n dangos y cystradau glo sydd o dan y dirwedd, lliw coch yr haearn rhychiog a chreithiau'r chwareli, tomennydd glo a'r rheilffyrdd. Mae e wedi talu sylw arbennig i wead – gan lathru rhai rhannau a gadael eraill yn wastad, crychu'r paent, crafu llinellau a chreu tyllau.
Beth ddylai lyfr ac arddangosfa ei ddweud am artist a gadwodd ei feddyliau yn breifat? Ydi'r weithred o brocio meddwl yr artist yn ymwthiad neu hyd yn oed yn fradychiad? Drwy lwc fe ddywedodd Roger rywbeth am hyn mewn cyfweliad gyda'r BBC ym 1964. Pan ofynnwyd iddo sut gallai pobl ddarllen ei baentiadau fe ddywedodd, 'Rydw i'n ei weld e. Dyna'r drafferth, mae e mor bersonol,' ac aeth ymlaen i awgrymu rhoi testun ar y wal wrth bob llun er mwyn ei ddadansoddi.
Mae angen amser ar y rhan fwyaf o ymwelwyr, i edrych yn iawn ar ei baentiadau. Fe roddodd ryddid i ffurfiau ac arwynebau. Ar ôl gweld arddangosfa 'Africa' yr Academi Frenhinol ym 1995, cafodd ei gyfareddu'n llwyr gan gelfyddyd Affricanaidd a'r siaman, a ystyriodd yn ffigwr gyfochrog â'r artist. Gellir mwynhau paentiad megis Cyfrinach Siaman (tua 1997) fel cyfansoddiad haniaethol pur, ond mae'n ddarn sy'n llawn motiffau cyfareddol. Fe ysgrifennodd ym 1997, 'Mae'r artist/siaman yn amlygu cyfrinachau y gellir eu datgelu neu'i dehongli gan y gwyliwr.'
Mae harddwch y paentiadau yn ddigon, ond mae dirgelwch a swyn yr arwynebau diddorol, cain, hudolus hyn yn cynnig mwy. Mae'n gam dewr i greu paentiad sydd bron yn gyfan gwbl ddu – megis Di-deitl II (tua 1997). Awgrym cynnil o goch a brown sydd i'w weld. Mae'r arwyneb yn gynnil, ac yn ddiddorol o ran ei chraterau, llinellau bychain, crafiadau, minion a tholciau.
Mae gwaith llawer o artistiaid yn arwynebol. Nid yw edrych ar y gwaith yn hir yn datgelu unrhyw beth newydd, er bod y profiad o edrych yn un braf. Mae gwaith Roger Cecil yn wahanol. Mae gwythiennau dan yr arwyneb yn datgelu cyfoeth arbennig.
Peter Wakelin, awdur a churadur
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Mae Roger Cecil: A Secret Artist (2017) gan Peter Wakelin ar gael o Sansom & Company
Roedd yr arddangosfa 'Roger Cecil: Inside the Studio' yn MOMA Machynlleth o 8 Ebrill tan 24 Mehefin 2017