Roedd Rosemary Howard-Jones – neu Ray, ei henw proffesiynol – yn artist creadigol ac ysgogol yr Ail Ryfel Byd a ddaeth o Gymru. Roedd hi hefyd yn baentiwr, yn fosaïgydd, yn arloeswr theatr gymunedol, yn fardd ac yn gyfriniwr Cristnogol.
Ganwyd yn yr un flwyddyn â Graham Sutherland a John Piper, dau artist neo-ramantaidd oedd hefyd wedi'u denu at arfordir dramatig Sir Benfro. Er ei dawn ac er mor benderfynol oedd hi, ni lwyddodd erioed i gyrraedd yr un proffil â'i ddau gyfoed. Dyfrlliwiau a gouache oedd y deunyddiau a ddefnyddiodd gan amlaf, er bod ei gwaith mewn olew sy'n bennaf wedi'i gynrychioli ar Art UK, hefyd yn nodedig.
Yn ddyflwydd oed, ar ôl i'w rhieni wahanu, fe fagwyd Rosemary gan ei thaid, sef tad ei mam, ar aelwyd gefnog a llym Edwardaidd ym Mhenarth. Pan fu farw ei thaid fe ddaeth i ofal gwarcheidwaid mewn tŷ arddull Celf a Chrefft mewn rhan arall o'r dref. Fe gydnabuwyd ac anogwyd ei chreadigrwydd yn Ysgol Ardd Llundain (London Garden School), ysgol flaengar lle y bu'n astudio yn y 1920au cynnar. Yn 17 oed fe lwyddodd i sicrhau lle yn Ysgol Gelfyddyd Gain y Slade. Yn y Slade roedd yr eofn Henry Tonks, yr argraffiadwr Philip Wilson Steer a'r hanesydd celf Ffinnaidd Tancred Borenius ymhlith ei thiwtoriaid.
Cafodd ei gyrfa fel artist ei effeithio'n wael ar ôl dal diciâu nad oedd yn ei hysgyfaint. Fe oddefodd lawdriniaethau a beryglodd ei bywyd, a threuliodd gyfnodau hir yn gwella. Roedd hi'n 1935 pan gychwynnodd ei gyrfa go iawn. Yn yr un flwyddyn fe fabwysiadodd yr enw 'Ray', o bosib fel ffordd o guddio'i rhywedd. Ar y pryd roedd hi'n gweithio yn Amgueddfa Cymru fel darluniwr archeolegol, ac yn ei hamser hamdden yn gyfarwyddwr creadigol a chynlluniwr ar gyfer Theatr East Moor yn Y Sblot, ardal yn nociau Caerdydd a oedd ar y pryd yn ardal ddifreintiedig.
Fel aelod o deulu a chanddynt gysylltiadau milwrol cryf, roedd Ray yn benderfynol o ddod o hyd i rôl ddefnyddiol drwy ddogfennu effaith ac amddiffyniad yr Ail Ryfel Byd. Cafodd Penarth, oherwydd ei leoliad ger dociau strategol, ei fomio'n ddwys. Roedd rhaid iddi weithio'n galed i gael yr hawl angenrheidiol i ddarlunio a phaentio 'gwrthrychau cyfyngedig' ac fe baentiodd nifer o falŵnau morglawdd, gwylfeydd arfordirol, safleoedd gynnau a gwersylloedd milwrol. Fe sefydlodd ohebiaeth fywiog rhyngddi hi a Syr Kenneth Clark, cyfarwyddwr yr Oriel Genedlaethol a chadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Artistiaid Rhyfel (PYARh). Fe brynodd y pwyllgor 15 darn o waith Ray ac fe gomisiynwyd hi i gofnodi gosodiadau a gweithgarwch milwrol Ynys Echni ac Ynys Rhonech – sef Ynysoedd Môr Hafren.
Fe brynodd bwyllgor PYARh hefyd baentiadau Ray o longau masnach yn paratoi ar gyfer D-Day ym mhorthladdoedd de Cymru, a phortread o'i brawd y Brigadydd Leonard Howard-Jones a fu'n ymwneud â chynllunio D-Day. Mae ei phaentiadau adeg y rhyfel, nifer ohonynt mewn gouache, yn cael eu cadw yn yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd yn ogystal â chasgliadau celf cyhoeddus Prydain ledled y wlad.
Ar ôl y rhyfel, fe dreuliodd Ray ran o 1946 yn Hospitalfield, sef plasty barwnol Albanaidd ar gyrion Arbroath. Yma, roedd llond llaw o artistiaid, y rhan helaeth ohonynt wedi mynychu ysgolion celf yn yr Alban, yn gallu gwella'u sgiliau dan y tiwtor a'r paentiwr preswyl, James Cowie. Roedd gan Ray a James nifer o ddiddordebau'n gyffredin, ac roedd atyniad cryf rhyngddynt. Fe gafodd y ddau gryn ddylanwad ar waith ei gilydd ac fe ddatblygodd berthynas rhamantus rhyngddynt. Mae paentiad noeth o Ray gan Cowie a phaentiad diweddarach gan Ray sy'n dathlu ei dyled i Cowie i'w gweld yn Glasgow Life Museums.
Yn dilyn sawl cyfnod yn byw yn Llundain yn ystod y rhyfel, fe ymgartrefodd Ray yno'n barhaol ym 1947, ac roedd ganddi stiwdio ger Parc Ravenscourt, Hammersmith. Y flwyddyn olynol bu gwrdd â Raymond Moore, gŵr graddedig aeddfed o'r Coleg Brenhinol, a dyma fu gychwyn partneriaeth greadigol a barhaodd dau ddegawd. Erbyn 1954 roedd y pâr wedi symud i fila Fictoraidd yn Filas Parc Ashchurch gyfagos. Fe gadwodd Ray y fila nes ei marwolaeth.
Fe atebodd Ray a Raymond hysbyseb i dreulio haf 1949 gyda'r teulu Codd ar eu fferm ar Ynys ddramatig Sgomer, Sir Benfro. Cafodd dirwedd garw a bywyd gwyllt yr ynys – gan gynnwys morloi, palod a phalod Manaw – effaith fawr ar y ddau. Fe ddaeth arfordir Sir Benfro yn ganolbwynt i gelfyddyd a barddoniaeth neo-ramantaidd, ysbrydol Ray, ac yn drobwynt i ddatblygiad Raymond fel ffotograffydd tirwedd blaenllaw. Byddai'r pâr yn treulio naw haf ar Ynys Sgomer yn ystod y 1950au, wedi'i hwyluso'n bennaf gan gefnogaeth y perchennog absennol, y diwydiannwr Leonard Lee.
Yn ystod y 1960au fe arhosodd y ddau yng ngharafán Lee ar dir mawr Marloes, wrth gatiau Parc y Ceirw. Roedd ganddynt fynediad uniongyrchol at olygfeydd arfordirol ysblennydd gan gynnwys Traeth Marloes a Martin's Haven. Daeth gwaith Ray yn fwy mynegiadol, yn fwy arbrofol ac, ar adegau, yn fwy haniaethol, ac fe gynhaliodd bum arddangosfa lwyddiannus yn Orielau Leicester, Llundain. Ar ôl gwahanu â Raymond ym 1971 fe barhaodd i aros ym Marloes am sawl mis bob blwyddyn tan flynyddoedd olaf ei bywyd. Fe ddaeth hi'n gymeriad cyfarwydd yno – yn aml i'w gweld yn darlunio ar y pentir neu'n nofio yn ei hoff fae.
Yn ddigon rhyfeddol, roedd Ray hefyd yn artist mosaig medrus. Fe enillodd ei dyluniad An Eye for People 1958 gystadleuaeth genedlaethol ar gyfer murlun tri llawr ar wâl pencadlys newydd y Western Mail yng Nghaerdydd. Roedd Cymdeithas yr Ugeinfed Ganrif ar fin ei ddatgan yn un o'r murluniau ôl-rhyfel Prydeinig rhagorol pan gafodd ei ddymchwel, heb ei warchod, yn 2008. Yn ffodus, mae allorlun cywrain o 1965 sy'n gofeb i ffrind coleg Ray, Elfrida Tindal, yn dal i oroesi yn eglwys Marchmont St Giles yng Nghaeredin.
Mae'n rhaid i werthfawrogiad o waith Ray Howard-Jones nodi ei ffydd Gristnogol a'i hagwedd sacramentaidd at ei gwaith. Yn hynny o beth roedd ganddi lawer yn gyffredin â'i ffrind, y paentiwr a'r bardd David Jones. Yn ddiweddarach yn ei bywyd, daeth Ray yn oblad yn Abaty Benedictaidd Nashdom yn Swydd Buckingham. Roedd ei hawydd cyson – trwy ddarlunio, paentio a barddoniaeth – i ddeall, a dod yn nes at, y byd naturiol yn annatod i'w ffydd Gristnogol. Bu farw ym 1996 yn 93 oed ac, yn ddiddorol ddigon, mae ei llwch wedi'i gladdu ym Mynwent Penarth gyda'i mam, chwaer a'i modryb warcheidwad.
David Moore, awdur, ymchwilydd a churadur annibynnol
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
David Moore, Ray Howard-Jones: My Hand is the Voice of the Sea, Bird Eye Books, 2023
David Stephenson & Lottie Hoare, 'Obituary: Ray Howard-Jones', The Independent, 1996