Roedd Paul Peter Piech (1928–1996) yn wneuthurwr printiau â gweledigaeth, gyda'i brintiau beiddgar, nodedig ar themâu cydraddoldeb, rhyddid a chyfiawnder yn cyflwyno negeseuon cymdeithasol a gwleidyddol pwerus. Gyda'r cynnydd mewn polareiddio gwleidyddol a'r tueddiad, mewn rhai rhannau o'r byd, at ffurfiau gwleidyddol mwy awdurdodaidd, mae ei ymrwymiad i actifiaeth drwy gelf yn golygu bod ei waith yn dal i atseinio hyd heddiw.

Mae gwaith Piech i'w ganfod yn rhyngwladol ac mewn casgliadau cyhoeddus niferus, gan gynnwys Canolfan Argraffu Cambria, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r V&A. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar weithiau Piech yng nghasgliad Amgueddfa Cwm Cynon.

Americanwr o dras Wcrainaidd oedd Piech, a chyfarfu â'i wraig Irene, oedd yn hanu o Aberdâr, pan gafodd ei leoli yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyma lle y dechreuodd ei gysylltiad cryf â Chymru a'i berthynas â'i phobl, ei diwylliannau a'i thraddodiadau.

Anti Racism – Solweto

Anti Racism – Solweto

Paul Peter Piech (1920–1996)

Cynon Valley Museum

Ganwyd Piech yn 1920 yn Brooklyn, Efrog Newydd, yn fab i fewnfudwyr o Wcráin. Fe'i magwyd yn niwylliant Wcrainaidd ei rieni a'i drwytho yng nghymuned amlddiwylliannol Brooklyn, a bu'r profiadau hyn yn ffurfiannol wrth ddatblygu'r bydolwg moesol a moesegol oedd mor amlwg yn ei waith diweddarach. Fel y noda Theo Inglis, 'ffurfiodd ei fagwraeth, mewn cymdogaeth ddosbarth gweithiol ddiwylliannol amrywiol yn ystod y Dirwasgiad Mawr, fydolwg byd-eang amrywiol diweddarach Piech, ynghyd â'i ddiddordeb mewn cydraddoldeb'.

Heddwch – Blue

Heddwch – Blue

Paul Peter Piech (1920–1996)

Cynon Valley Museum

Daeth gallu artistig Piech i'r amlwg yn gynnar a dechreuodd astudio yn y Cooper Union, Efrog Newydd yn 19 oed. Ar ôl hyfforddi'n ddylunydd graffig gydag Asiantaeth Hysbysebu Dorlands, ymrestrodd yn Awyrlu Wythfed Fyddin yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lle defnyddiwyd ei sgiliau artistig i beintio lluniau merched 'pin-up' ar flaenau awyrennau. Cafodd ei drosglwyddo i Gaerdydd fel rhan o'i wasanaeth ac yno y cyfarfu ag Irene Tompkins, nyrs a bydwraig o Gymru a ddaeth yn wraig iddo.

Ar ôl y rhyfel, parhaodd Piech â'i addysg yng Ngholeg Celf Chelsea a chafodd yrfa hir a llwyddiannus ym maes dylunio graffig a hysbysebu. Bu'n gweithio'n rhyngwladol, gan gynnwys i gylchgrawn Interiors yn America a British Vogue, yn ogystal â threulio 17 o flynyddoedd yn gyfarwyddwr artistig Asiantaeth Hysbysebu W. S. Crawford.

Sunset

Sunset

Paul Peter Piech (1920–1996)

Cynon Valley Museum

Gyda Mynegiadaeth Almaenig, Bauhaus, Picasso a Klee yn ddylanwadau arno, gweithiai Piech mewn arddull feiddgar ac uniongyrchol. Yn aml byddai'r gweithiau'n cynnwys ffigurau graffig mawr a chyferbyniadau dramatig rhwng elfennau golau a thywyll, gyda phalet o liwiau sylfaenol a du. Defnyddiai deipograffeg feiddgar, arddulliedig i fynegi negeseuon syml â'r bwriad o gydio yn sylw'r gwyliwr.

Martin Luther King

Martin Luther King

Paul Peter Piech (1920–1996)

Cynon Valley Museum

Yn 1959, sefydlodd Piech ei wasg argraffu ei hun, y Taurus Press, gan gynhyrchu nifer fawr o brintiau torlun leino a thorlun pren. Mae merch Piech, Olwen Stocker, wedi disgrifio sut y byddai'n gweithio'n ddidostur o gyflym, gan dorri rholiau mawr o leino o'r siop lloriau leol a hongian y gweithiau i sychu ar lein ddillad yn ei ystafell wydr. Roedd 100 o ddarnau yng nghyfres Piech 'Martin Luther King' yn unig, gyda chorff ehangach ei waith yn cynnwys miloedd lawer. Yn ogystal â chanolbwyntio ar ei ymarfer celfyddydol ei hun, roedd hefyd yn athro angerddol, a bu'n dysgu rhan amser mewn colegau ledled y DU gan gynnwys Coleg y Celfyddydau Chelsea, Coleg y Celfyddydau Caerlŷr a Choleg Printio Llundain.

Mae celfyddyd Piech yn adnabyddus am ei ymwneud diysgog â materion cymdeithasol a gwleidyddol. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn cwestiynau ynghylch grym a gormes ac mae ei brintiau'n ymdrin â themâu megis cyfiawnder cymdeithasol, hiliaeth, gwarchod hawliau dynol, gwrthwynebu rhyfel a chyfrifoldeb personol. Mae ei waith celf yn adlewyrchu ei angerdd i ledaenu'r gair am ddiwygio cymdeithasol a'i gred yng ngallu unigolion i greu newid cadarnhaol.

Anti Racism – Solingen

Anti Racism – Solingen

Paul Peter Piech (1920–1996)

Cynon Valley Museum

Caiff yr ymagwedd hon ei chrisialu yng nghyfres 'Racism is Poison' Piech o ddarluniau trawiadol o'r dioddefaint dynol a achosir gan dotalitariaeth, ffasgaeth a hiliaeth.

Mae'r casgliad hwn yn darlunio ac yn cyfeirio at weithredoedd o drais a gormes, gan fynnu bod y gwyliwr yn cofio am erchyllterau ar sail hiliaeth. Yn eu plith mae poster yn cofio marwolaeth 176 o blant a laddwyd yng ngwrthryfel Soweto yn Ne Affrica; yr ymosodiad drwy losgi bwriadol gan oruchafwyr gwyn asgell dde yn Soligen, yr Almaen, yn 1993; a pholisïau didoliadol apartheid yn Ne Affrica.

Fel yr esboniodd merch Piech wrth Amgueddfa Cwm Cynon, 'ei flaenoriaeth oedd trosglwyddo ei neges i bobl, yn uniongyrchol ac ar frys.' Byddai'n gosod ei bosteri mewn mannau cyhoeddus a chabanau aros bysiau er mwyn 'tynnu pobl allan o'u difaterwch i feddwl am y byd.' Roedd posteri Piech ymhell o fod yn 'gelfyddyd fawreddog', roedden nhw'n rhad i'w gwneud ac roedd modd eu masgynhyrchu'n gyflym, sy'n adlewyrchu natur uniongyrchol ei waith a'i awydd i ledaenu ei negeseuon mor eang â phosibl.

Anti Racism – South Africa

Anti Racism – South Africa

Paul Peter Piech (1920–1996)

Cynon Valley Museum

Caiff yr ymdeimlad o frys yn ei bosteri ei atgyfnerthu gan y dewis gofalus o destun i gyfleu negeseuon clir, uniongyrchol. Disgrifiodd Kenneth Hardacre Piech fel 'dyn yr oedd ei angen i gyfleu ei ffydd a'i ofnau mor daer fel yr ymddangosai'n aml yn ddiamynedd gyda'r union ddull yr oedd wedi'i ddewis ar gyfer mynegi'r angen hwnnw'.

Doedd Piech ddim yn un i osgoi dadl, ac aeth i drwbl gyda Llysgenhadaeth America yn 1979 am ei bortread o faner yr UD yn ei waith celf. Roedd y faner wedi'i throi ar ei hochr i efelychu bariau carchar, gyda dau ffigur du y tu ôl i'r bariau, ynghyd â'r testun 'My country 'tis of thee, sweet land of liberty'. Gellir gweld y print yng nghasgliad y V&A.

Roedd dylanwad barddoniaeth, llenyddiaeth a cherddoriaeth, yn enwedig jazz, i'w gweld yng ngwaith Piech hefyd. Fel yr eglurodd Jim Creed mewn cyfweliad gydag Amgueddfa Cwm Cynon: 'Roedd Piech yn sensitif i bopeth o'i gwmpas ac roedd celf, cymdeithas, cerddoriaeth, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a'i brofiadau bywyd ei hun yn y gorffennol a'r presennol i gyd yn dylanwadu arno.'

Idris Davies – Poet of Rhymney

Idris Davies – Poet of Rhymney 1993

Paul Peter Piech (1920–1996)

Cynon Valley Museum

Yn ogystal â phortreadu ffigurau llenyddol adnabyddus fel William Shakespeare, T.S Elliott ac Emily Bronte, roedd yn cael ei ddenu hefyd at y beirdd hynny o Gymru yr oedd eu gweithiau'n cyd-fynd yn agos â' i fydolwg gwleidyddol a moesegol. Roedd y beirdd a'r ffigurau llenyddol Cymreig a ddarlunnir yng ngweithiau Piech yn ymdrin â themâu oedd yn cyfateb yn glir â'r rheini yn ei gelfyddyd ei hun, gan gynnwys cynrychioli pobl a chymunedau dan ormes.

Mae'r bardd Idris Davies, er enghraifft, yn adnabyddus am bortreadu brwydrau bywyd dosbarth gweithiol cymoedd diwydiannol de Cymru. Mae ei gerdd'n aml yn adlewyrchu'r caledi yr oedd cymunedau glofaol yn ei brofi, yr ysbryd cymunedol, a heriau tirwedd economaidd a chymdeithasol yr oes. Yn yr un modd, byddai Piech yn portreadu ffigurau llenyddol Cymraeg fel Waldo Williams, Saunders Lewis a D.J. Williams, oedd yn defnyddio eu gweithiau llenyddol i fynegi eu safbwyntiau yn erbyn rhyfel a thros genedlaetholdeb Cymreig.

Coal

Coal (edition 5/25) 1994

Paul Peter Piech (1920–1996)

Cynon Valley Museum

Datblygodd Piech gysylltiad cryf gyda Chymru a'i phobl, lle'r oedd gwreiddiau teulu ei wraig a lle y dewisodd dreulio deng mlynedd olaf ei oes. Mae nifer o'r gweithiau gan Piech yng nghasgliad Cwm Cynon yn ddarluniau sy'n cyd-fynd â barddoniaeth John Gurney, gyda'r ddau'n cydweithio ar sawl achlysur.

Mae'r casgliad yn Amgueddfa Cwm Cynon yn cynnwys gweithiau gan Piech a ddefnyddiwyd i ddarlunio cyfres o sonedau a gyfansoddwyd gan Gurney am y diwydiant glo (Coal, a Sonnet Sequence) a gyhoeddwyd yn 1994 i nodi cau arfaethedig Glofa'r Tŵr yng Nghwm Cynon, y pwll glo dwfn olaf yng Nghymru. Mae'r farddoniaeth a'r gwaith celf yn darlunio bywydau'r glowyr, yr amodau gwaith ymelwol, cryfder ac arbenigedd diwylliant cymunedau glofaol Cymru ac effaith ddynol cau cynifer o byllau glo ar gymoedd y de.

'Zion Chapel'

'Zion Chapel' 1993

Paul Peter Piech (1920–1996)

Cynon Valley Museum

Yn Zion Chapel mae Piech yn darlunio capel nodweddiadol yn y Cymoedd gyda phwll glo yn y cefndir, dau symbol diwylliannol diffiniol o hunaniaeth ddosbarth gweithiol Cymru. Ceir fflachiadau o olau yn deillio o'r drws blaen: efallai'n cynrychioli sain emynau'r Sul y cyfeirir atynt yn y gerdd, neu'r pregethu 'tân a brwmstan' a gysylltir ag Anghydffurfiaeth yng Nghymru.

'The Infernal Machine'

'The Infernal Machine' 1993

Paul Peter Piech (1920–1996)

Cynon Valley Museum

Yn The Infernal Machine mae celfyddyd Piech yn cynrychioli'r amodau gwaith clawstroffobig yr oedd y glowyr yn gorfod eu goddef, gyda rhesi o lowyr wedi'u gwthio i gawell siafft y pwll. Mae'r gerdd sy'n cyd-fynd â'r llun yn cyffelybu'r gawell i offeryn arteithio, yn cludo'r glowyr dan ddaear i fan myglyd, gormesol, heb olau naturiol nag aer. Mae'r ddelwedd yn adleisio Pit Closure, Miners Coming Up gan Nicholas Evans.

Pit Closure, Miners Coming Up

Pit Closure, Miners Coming Up 1977

Nicholas Evans (1907–2004)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Yn yr un modd, mae ystum annaturiol y glöwr yn Thin Seams yn darlunio'r amodau gwaith arteithiol yr oedd glowyr yn eu goddef. Datgelir ei wewyr yn ei fynegiant poenus a'i osgo cyfyng, onglog, gyda'r pridd uwch ei ben yn rhwystr anhreiddiadwy rhyngddo â goleuni a chynhesrwydd yr haul sy'n tywynnu ar yr wyneb.

'Thin Seams'

'Thin Seams' 1993

Paul Peter Piech (1920–1996)

Cynon Valley Museum

Parhaodd Piech i fyw a gweithio ym Mhorthcawl yn ei flynyddoedd olaf, hyd at ei farwolaeth yn 1996. Mae ei waith yn parhau'n destament pwerus i'r croestoriadedd rhwng celf ac actifiaeth, gyda'i ddefnydd trawiadol o deipograffeg a delweddau'n dal i ysbrydoli dialog ar faterion cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes hyd heddiw.

Michelle Lewis, Swyddog Ymgysylltu â Chasgliadau Art UK

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Cyfieithiad o'r Saesneg

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg


Darllen pellach

Amgueddfa Cwm Cynon,'The Work of Paul Peter Piech'

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 'Dathlu cyfraniad Paul Peter Piech at gelf weledol yng Nghymru', 2020

Lottie Hoare, Obituary: Paul Peter Piech, The Independent, 1996

Theo Inglis, 'The Overlooked Work of Paul Peter Piech', Eye on Design, 2020