Mae arsylwadau oesol yr artist dosbarth gweithiol Leonard McComb o bobl a'r byd naturiol yr un mor bwerus ddegawdau ar ôl eu creu. Wedi'i ysbrydoli gan Van Gogh, Cézanne a William Blake, credai'r artist fod popeth wedi'u cysylltu gan egni a dirgryniad – syniad sy'n dal yn hynod o berthnasol i gynulleidfaoedd heddiw sy'n ymwybodol o'r amgylchedd. Mae'r syniad yn ganolog i'r arddangosfa ôl-syllol newydd hon o weithiau'r artist yn Oriel Môn.

2025

© the artist's estate. Image credit: Oriel Môn Collection

Golwg o'r arddangosfa 'Natur, Egni, Gwefr', Oriel Môn

2025

Mae'r arddangosfa uchelgeisiol hon sy'n cynnwys darluniau a fenthycwyd gan y Tate, Oriel Gelf Manceinion, a'r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn dangos y cysylltiad annatod rhwng gwaith dramatig, hynod sensitif ac arwyddocaol dwys McComb â'r tirwedd yr oedd yn ei hadnabod mor dda: tirwedd Ynys Môn, a ysbrydolodd ei gysylltiad dwfn â natur a rhai o'i weithiau gorau. Natur oedd ei ffydd, ac Ynys Môn ei ysbrydoliaeth.

Er bod stiwdio McComb yn Llundain, byddai'n ymweld ag Ynys Môn yn rheolaidd, gan aros gyda'i fam, Delia, yn ei byngalo ym Menllech. Ar yr arfordir creodd McComb lawer o astudiaethau dyfrlliw a ddatblygwyd yn ddiweddarach i'r lluniadau mawr o graig a môr sydd yn yr arddangosfa. Cyflwynwyd y lluniadau mawr hyn, a llawer o weithiau eraill a ysbrydolwyd gan dirwedd Ynys Môn, yn rhodd gan ei chwaer, Anne Draycott i Oriel Môn yn 2020 ac maent yn gyfraniad sylweddol i'r arddangosfa.

Fel yr esbonia'r curadur, Karl Simmons, mae teitl yr arddangosfa 'Natur, Egni, Gwefr' yn pwysleisio cyfuniad yr artist o arsylwi ar egni natur â'i awydd creadigol ei hun i liwio pob peth ag ysbryd mewnol. Mae'r perthynas yma rhwng natur ac egni – wedi ei ysbrydoli i raddau gan waith William Blake – yn ganolog i waith McComb: 'Mae fy ngwaith i gyd yn deillio o deimladau am harddwch siapiau natur ac egni' meddai. 'Mae darlunio'n broses o chwilio i ddarganfod siâp anghymeur unigryw ac egni mewnol ffurfiau natur.'

Uchafbwynt yr arddangosfa yw'r darlun anhygoel Rock and Sea Anglesey, 1983 – un o'r darluniau mwyaf mewn casgliad cyhoeddus ym Mhrydain – gwaith sy'n 'dirgrynu' oddi ar waliau'r oriel.

'Rock and Sea, Anglesey' on display in 'Energy, Nature, Vibration'

© the artist's estate. Image credit: Oriel Môn Collection

Golwg o'r arddangosfa 'Natur, Egni, Gwefr' gyda Rock and Sea Anglesey ar y wal

'Rock and Sea, Anglesey', 1983, pensil, pin & inc ar bapur gan Leonard McComb (1930–2018)

Artist o gefndir dosbarth gweithiol oedd McComb. Er mwyn dianc rhag tlodi a thrafferthion gwleidyddol Gogledd Iwerddon yn y 1930au, dewisodd tad yr artist, Archie, a'i fam, Delia Bridgit, symud i Fanceinion pan oedd McComb yn blentyn bach. Treuliodd yr artist ei ddyddiau cynnar yn ardaloedd Moss Side a Wythenshawe mewn dinas ddiwydiannol a oedd eisoes yn wynebu dirwasgiad. Roedd ganddo bum brawd a chwaer, a phan fu farw ei dad yn ifanc bu'n rhaid i McComb fod yn gefn i'r teulu o oedran ifanc.

Ar ôl cwblhau cyfnod yn y Gwasanaeth Cenedlaethol, cofrestrodd yn yr ysgol nos yn Ysgol Gelf Manceinion lle cyfarfu ag artistiaid dylanwadol gan gynnwys L. S. Lowry. Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Gelf Slade ym 1956. Yn ystod y ddau ddegawd nesaf cafodd yr artist gydnabyddiaeth gan fyd celf Llundain a oedd yn brin o artistiaid dosbarth gweithiol.

Ochr yn ochr â'i lwyddiant rhyngwladol fel artist annibynnol, daeth McComb yn ffigwr pwysig yn y byd addysgu, gan gyd-sefydlu Ysgol Gelf Sunningwell annibynnol yn 1973 i ddarparu addysg gelfyddydol fforddiadwy, ac aeth ymlaen i arwain Ysgolion yr Academi Frenhinol rhwng 1995 a 1998.

Er mai yn y brifddinas y cafodd yr artist ei lwyddiant i raddau helaeth, Ynys Môn fu'r dylanwad mwyaf ar ei waith. Arferai ymweld yn rheolaidd â'r ynys ar ôl i'w fam symud yno i ddianc rhag helyntion Wythenshawe yn y 1970au.

Ar yr ynys roedd cyfle i'r artist sylwi ar fyd natur ymhell o drafferthion Brixton, lle'r oedd ei gartref a'i stiwdio. Ei arsylwadau o fyd natur, ei astudiaethau amrywiol o Hanes Celf, Athroniaeth y Dwyrain, a diwylliant Celtaidd ei fagwraeth a oedd yn gyfrifol am y ffordd gyfannol yr edrychai ar ddynoliaeth a'r byd naturiol.

Rock and Sea Anglesey, 1983, yw'r gwaith mwyaf a wnaed gan yr artist ac mae'n mesur 10 metr o led a 3 metr o uchder. Bu'n gweithio am naw diwrnod ar y clogwyni ym Mae Benllech, gan sylwi ar gysylltiad y môr, y clogwyni, a'r awyr i greu'r gwaith hwn sy'n cyfleu egni naturiol y creigiau. Fe'i arluniwyd ar 84 o dudalennau papur mawr, ar îsl gyda chreigiau calchfaen yn ei angori, ac er yr oriau a dreuliodd McComb ar y creigiau ni chyfyngwyd ar raddfa ei waith.

Gan ddefnyddio pensil, brwsh ac inc, a dyfrlliw, mae miloedd ar filoedd o linellau yn darlunio cornel ddramatig o Ynys Môn fel delwedd bwerus sydd fel petai'n dirgrynu. Mae'r gwaith yn cyfleu popeth yr oedd McComb yn sefyll drosto: ei athroniaeth am y byd naturiol, arsylwadau o fywyd, a'r sylw amlwg i fanylion. Enillodd Rock and Sea Anglesey Wobr Hugh Casson am Ddarlunio yn 2005 yn Sioe Haf yr Academi Frenhinol, ugain mlynedd ar ôl ei greu.

Ar ôl dinistrio ei holl waith yn gynnar yn y 1970au, ailddyfeisiodd McComb ei arddull gan greu cyfres o ddyfrlliwiau epig a ddiffiniodd ei yrfa yn y 1970au a'r 1980au. Mae'r gweithiau hyn yn dirgrynu gydag egni haniaethol sy'n drosiad o gred gadarn yr artist fod pob peth byw wedi'i gysylltu. Mae Rocks at Anglesey (141 x 115 cm) yn dangos ansawdd tebyg ar raddfa lai.

Mae'r gwaith yn symud tu hwnt i arsylwiad syml o natur: mae'r dull hynod sensitif, lle mae'r cefndir a'r blaendir yn un, bron yn haniaethol. Efallai ei fod yn esbonio dyfyniad mwyaf adnabyddus yr artist: 'Mae pob darn o gelf yn ddehongliad haniaethol o Natur ac o gelf y gorffennol'.

Mae cerflun enwocaf yr artist, Portrait of a Young Man Standing yn gerflun efydd maint llawn o ddyn gyda llaw agored a dwrn caeedig. Creodd McComb – a bryderai'n fawr am y gwrthdaro yn ystod y degawd megis y Rhyfel Oer a Rhyfel Fietnam – y cerflun hwn fel delwedd gadarnhaol o ddynoliaeth.

'Young Man Standing' on display in 'Energy, Nature, Vibration'

© the artist's estate. Image credit: Oriel Môn Collection

Young Man Standing yn yr arddangosfa 'Natur, Egni, Gwefr'

Casliad Oriel Gelf Manceinion

Mae llaw agored y ffigwr a'r dwrn caeedig yn symbol o allu dyn i gyflawni 'gweithredoedd pwerus a thyner, yn gorfforol ac yn ddeallusol'. Yn seiliedig ar astudiaeth bywyd o fodel yn ystod ei gyfnod yn addysgu ym Mryste, mae'r gwaith yn ein hatgoffa o gerfluniau'r Aifft a'r Hen Roeg. Cymerodd ugain mlynedd i'r gwaith (sy'n rhan o gasgliad Oriel Gelf Manceinion) gael ei gwblhau, gyda'r fersiwn derfynol yn cael ei chreu mewn efydd llathredig yn 1983, a hwn sydd i'w weld yn yr arddangosfa. Mae'r cerflun cyntaf sydd wedi'i orchuddio â deilen aur i'w weld yng nghasgliad y Tate.

Yn ystod ei fywyd, pur anaml y gwnâi McComb bortreadau wedi'u comisiynu. Yn hytrach dewisodd baentio ffrindiau, teulu, cydweithwyr, myfyrwyr, ac weithiau pobl y cyfarfu â nhw ar y stryd. Fel ei arsylwadau o'r byd naturiol, roedd McComb eisiau cyfleu egni a bywyd mewnol y bobl yr oedd yn eu harsylwi.

O ddiwedd y 1990au ymlaen canolbwyntiodd ar gyfres o bortreadau sy'n cynrychioli pinacl ei aeddfedrwydd fel artist. Efallai bod portread McComb o'r nofelydd Doris Lessing – ymgyrchydd yn erbyn arfau niwclear, a gwrthwynebydd apartheid, a enillodd y Wobr Nobel – yn enghraifft o McComb yn cysylltu ag enaid hoff cytûn.

Mae portread McComb o Phillipa Cooper, 2002, merch un o'i ffrindiau agosaf, yn dangos merch yn ei harddegau yn erbyn patrwm o garped Persiaidd oedd gan yr artist yn ei stiwdio. Mae naws hyfryd i'r gwaith hwn ac mae'n gosod y ferch ifanc hon, y gwelodd hi'n tyfu i fyny, yn erbyn cefndir o ddelweddau o fyd natur. Mae'r gwaith yn atgyfnerthu'r syniad bod dyn a natur yn un wrth ddarlunio personoliaeth a thalu teyrnged i blentyn a ystyriai fel aelod o'r teulu.

Phillipa Cooper

© the artist's estate. Image credit: Oriel Môn Collection

Phillipa Cooper

2002, olew ar gynfas, gan Leonard McComb (1930–2018), casgliad preifat

Efallai mai portread pwysicaf yr artist yw'r portread o'i fam. Mae'r gwaith hwn, sy'n dangos sensitifrwydd arbennig, yn ganlyniad i oes o arsylwi ac yn mynegi'r cwlwm unigryw rhwng y fam a'r plentyn.

Portrait of the Artist's mother, Delia

© the artist's estate. Image credit: Oriel Môn Collection

Portread o Delia, mam yr artist

olew ar gynfas, gan Leonard McComb (1930–2018), ar fenthyg gan Oriel Gelf Manceinion

Yn y portread mae Delia Bridgit, ym mlynyddoedd olaf ei bywyd, yn eistedd yn dawel gyda phaned o de yn ei llaw yn Ynys Môn, ac yn synfyfyrio. Darlunia McComb wyneb ei fam yn fanwl drwy linellau a marciau tebyg i'r rai sydd i'w gweld yn Rock and Sea. Mewn rhyw ffordd fach, mae'r portread rhyfeddol hwn o'i fam yn cynnwys yr hyn a olygai'r ynys iddo yn ei hanfod, sef man a fu'n ffynhonnell ysbrydoliaeth bwysig i'r artist a lle daeth Delia Bridgit, ar ôl bywyd caled, o hyd i'w chartref a heddwch.

Er bod gwaith McComb wedi'i wreiddio'n gadarn yn nhraddodiadau darlunio arsylwadol, roedd ei athroniaeth yn gwbl fodern, a'i waddol yn parhau. Nodweddir ei waith gan y syniad nad oes rhaniad rhwn dynoliaeth a natur, meddylfryd a rennir ag eco genedlaethau heddiw.

Ffion Griffiths, Swyddog Marchnata Digidol a Chyfathrebu, Oriel Môn

Mae'r arddangosfa Natur, Egni, Gwefr – Leonard McComb RA (1930 – 2018) i'w gweld yn Oriel Môn o'r 15fed Chwefror hyd at y 3ydd Awst 2025

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg