Mewn egwyddor mae rhaglen Landmark ar Sky Arts yn ymwneud â cherflunio a chelf yn y parth cyhoeddus, ond yn y bennod hon, daw'n amlwg fod y rhaglen yn ymwneud i'r un graddau â harddwch naturiol a hanes eithriadol y Deyrnas Unedig hefyd. Down i Gymru ar gyfer pennod pedwar o'r gystadleuaeth i weld pa artist fydd yn derbyn comisiwn i greu darn o gelf gyhoeddus ar gyfer Coventry, sy'n Ddinas Diwylliant ar hyn o bryd.

The judges for this episode are Clare Lilley, Hetain Patel and Charlotte Church

Presenter Gemma Cairney and the judges

The judges for this episode are Clare Lilley, Hetain Patel and Charlotte Church

Daw ein tri artist yr wythnos hon o wlad sydd wedi meithrin doniau enfawr yn hanesyddol, fel Richard Burton, Cerys Matthews, Tom Jones, Catherine Zeta-Jones a Dylan Thomas. Wrth gwrs, o ystyried ein ffocws fan hyn, rhaid i ni beidio ag anghofio rhai o'r artistiaid bendigedig a gynhyrchwyd gan Gymru, gan gynnwys Kyffin Williams, Cerith Wyn Evans, Shani Rhys James, Richard Wilson, John Gibson, Laura Ford a Barry Flanagan – pob un wedi'u cynrychioli'n dda yn yr amgueddfeydd a'r casgliadau sy'n cael eu cynrychioli ar Art UK.

Yn y bennod hon, gwelir Nathan Wyburn o Gaerdydd, John Merrill a leolir ger Llangollen, a Candice Bees o gyrion Bannau Brycheiniog, yn mynd benben â'i gilydd er mwyn derbyn coron enillydd rownd Cymru o Landmark, yn seiliedig ar farn ein dau arbenigwr, Clare Lilley a Hetain Patel, sy'n cael cwmni'r canwr-gyfansoddwr Charlotte Church yr wythnos hon.

Guest judge Charlotte Church

Guest judge Charlotte Church

Yn rhyfedd ddigon, mae'r bennod hon yn cyd-daro â'm bywyd innau fel beirniad ar raglen Sky Portrait Artist of the Year (PAOTY). Yn y gyfres gyntaf oll o PAOTY fe deithion ni i Gaerdydd a daeth y chwaraewr rygbi Gavin Henson i eistedd fel model i ni ar y rhaglen. Llwyddodd Gavin i gyfareddu'r holl artistiaid, efallai am ei fod wedi dewis modelu heb ei grys, yn ei drôns (siorts rygbi), yn cydio'n arwrol mewn pêl rygbi – y ffurf athletaidd perffaith. Roedd hynny'n gwrthgyferbynnu'n ddiddorol ag un arall o'n modelau y diwrnod hwnnw, sef Sue Tilley – y goruchwyliwr budd-daliadau, y'i gelwid yn Big Sue, a fu'n fodel cofiadwy i Lucian Freud. Yn yr union bennod honno, roedd Nathan gyda ni'n creu un o'i weithiau celf  bara / Marmite - portread o'n cyflwynydd ar y pryd Frank Skinner (er bod ei gyd-gyflwynydd Joan Bakewell efallai'n fwy enwog am ei chyswllt  â 'crumpets'...)

Artist Nathan Wyburn

Artist Nathan Wyburn

Mae Nathan, a fagwyd yn y cymoedd ac sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, wedi creu enw iddo'i hun am weithio gyda deunyddiau pob dydd (gan gynnwys bara a pizza), gan greu cynrychioliadau o enwogion fel Lorraine Kelly a Harry Styles yn yr hyn y mae'n hoffi ei ystyried fel arddull Celf Bop cyfoes. Mae'r arbenigwr Clare yn croesawu'r modd y mae'n dymchwel cysylltiadau elitaidd â deunyddiau cerflunio traddodiadol, ond gofidiaf a fydd y canlyniad terfynol yn ei bodloni? 

Artist Candice Bees

Artist Candice Bees

Mae Candice, yr oedd ei mam yn filfeddyg, yn amlwg yn dwlu ar anifeiliaid. Er iddi wneud gradd mewn darlunio, cafodd drafferth ar y dechrau i ddod ar ben ei thraed ym myd celf, ac yn hytrach gweithiodd fel plismones. Yn y man, dechreuodd ei gyrfa lwyddo ar ôl iddi ddatblygu'i sgiliau yn cerflunio anifeiliaid â weiren. Swynir Hetain gan y lefel o fanylder a gwead y mae Candice yn llwyddo i'w gynnwys yn ei gwaith, ac mae'n annog pob un o'r artistiaid i fod yn hyderus yn eu cyfrwng, neu fel arall, i fentro gyda rhywbeth newydd. Gyda'r fath gyngor gwrthgyferbyniol, pa lwybr fydd yr artistiaid yn ei ddilyn, ac a fydd yn arwain at ennill ynteu golli'r wobr?

Fel y dywed Hetain a Clare, mae celf gyhoeddus yn rhywbeth sy'n hygyrch i bawb am ei fod yn ein hamgylchedd awyr agored ble rydyn ni'n dod ar ei draws yn ddyddiol. Serch hynny, golyga hyn fod y grym gyda'r gwyliwr - gall bleidleisio â'i draed a dewis cerdded heibio, neu oedi ac ymgysylltu. A fydd ein hartistiaid yn gallu peri fod yr arbenigwyr a'r cyhoedd yn oedi ac ymgysylltu pan fydd y gweithiau'n cael eu harddangos o'r diwedd yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe?

Artist John Merrill

Artist John Merrill

Felly, at John nesaf - ein Dyn Gwyllt o'r Coed, a gysylltir yn gyflawn â natur ei ddeunydd nes eich bod chi'n cael y teimlad ei fod yn byw ac anadlu hyn a dim byd arall. Gan gredu fod ganddo'r swydd orau yn y byd, astudiodd John ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, ac mae'n ymwneud nid yn unig â dylunio'u waith celf ond hefyd â phlymio i ddyfnderoedd materoldeb creu. Mae cynaliadwyedd yn allweddol i'w fethodoleg wrth i ni ei weld yn gweithio ar gangen fawr a gwympodd o dderwen, gan fwriadu'i hongian o fewn i fframwaith bin Ffynidwydden Douglas, a'r cyfan yn deillio o'r rhanbarth.

Bydd y darn yn pwyso tua dwy dunnell fetrig ar ôl ei orffen, felly bydd y gwaith peirianneg yn allweddol. Mae'n eithriadol ddiddorol gwylio John yn dadelfennu ac yna'n ail-lunio'r gangen dderw enfawr y mae'n gweithio arni – y lefel gywrain o fanylder wrth greu uniadau a gosod bolltau yn eu safle, sy'n herio cieidd-dra'r darn. Y cyfuniad hwn o gywreinrwydd a gwytnwch, yr hyn sy'n deillio o law dyn ac o'r byd naturiol, fydd yn rhoi cryfder i'r gwaith.

Sculpture by John Merrill

Tipping Point

Sculpture by John Merrill

Mae Nathan wedi penderfynu mynd i'r afael â phwnc sensitif trychineb glofaol Aberfan 1966, pan gollodd 144 o blant ysgol ac athrawon o Ysgol Gynradd Pant-glas eu bywydau. Cofnodwyd dyfnder y trallod a'r anobaith ar y pryd gan ffotograffau ac mewn papurau dyddiol o'r cyfnod ac at un o'r delweddau hynny y try Nathan, gan ddwyn ei ysbrydoliaeth o lun o'r glöwr Jonny Thomas, un o'r cyntaf ar y safle wedi i domen wastraff y lofa ddymchwel. Mae Hetain yn annog Nathan i gysylltu ag aelodau o deulu Jonny Thomas, yn rhannol i sicrhau ei fod yn trin y deunydd mor gydymdeimladol â phosib, ac yn rhannol ar gyfer gwneud ymchwil a ddylai fod yn sail gadarn i'w waith.  

Sculpture by Nathan Wyburn

21.10.1966 144 9.13AM

Sculpture by Nathan Wyburn

Mae'r llonyddwch sy'n taro Nathan wrth iddo ymweld â'r gofeb yn Aberfan a ble mae'n cwrdd â pherthynas i Jonny Thomas yn rhywbeth mae'n ei adnabod fel peth y dymuna'i fynegi yn ei ddarn. Yn amlwg dyw gwaith bara a Marmite ddim yn mynd i wneud y tro fan hyn, felly penderfyna Nathan greu cerflun, rhywbeth nad yw e wedi gwneud ers iddo adael ysgol, a defnyddio deunyddiau nad yw wedi gweithio gyda nhw o'r blaen, fel sment ac ewyn ymledol.

Mae'r bennod yn ddiddorol wrth ein helpu i ddeall y berthynas gydweddol bwysig rhwng crewyr ac artistiaid sy'n bodoli'n aml wrth greu celf gyhoeddus a cherfluniau. Yn achos Nathan, gwelwn fod eu cyngor o ran y proffil dur corten o Jonny Thomas, a dorrwyd â laser, yn talu ar ei ganfed.

Syniad Candice yw dod â'r gwledig i mewn i'r ddinas, yn yr un modd ag yr aeth hithau o'r cymoedd yn ei bywyd beunyddiol i'r dinesig fel swyddog heddlu. Gyda Candice, mae'r pwysau'n ymwneud yn llwyr ag amser am y byddai fel arfer yn cymryd mis cyfan iddi greu un anifail, ac yma ei nod yw creu tair dafad mewn pythefnos.

Sculpture by Candice Bees

Sheep

Sculpture by Candice Bees

Er mwyn cyflawni hyn, rhaid iddi ddatblygu technegau newydd, yn ogystal â recriwtio'i thad sy'n gerflunydd / cynllunydd. Buan y gwelir pwy sy'n gyfrifol, wrth i chi glywed Candice yn ei gymennu'n dyner am beidio â dilyn ei chyfarwyddiadau ynghylch sut mae tynnu'r gwlân dur drwy'r wifren ieir, i awgrymu cnu'r ddafad. Ond wrth wylio Candice yn gweithio gyda'r graddau gwahanol o weiren ddur y daw natur gyffyrddiadol y cyfrwng i'r amlwg go iawn. Wrth wylio'r broses bron yn hypnotig o ailadroddus o weithio'r weiren, mae'n bur anhygoel gwylio ffigurau'r anifeiliaid yn datblygu'u hystyr gorfforol, gan ddod yn fyw i bob pwrpas gyda'r agwedd eofn a fwriadwyd ganddi.

Pan ddown wyneb yn wyneb â'r cerfluniau terfynol yn oriel fawreddog y Glynn Vivian, y peth sy'n eich taro fwyaf yw'r gwrthgyferbyniad o ran maint. Hynny, a'r ffaith fod John wedi eillio'i farf! Mae'i waeth ef bellach dros bedwar metr o uchder, ac mae'n tra arglwyddiaethu'n rymus dros un pen i'r lle.

John Merrill with his sculpture

John Merrill with his sculpture

I John, roedd y gwaith yn ddibynnol ar gael y pwynt cydbwysedd cywir, gan roi symudiad i'r darn. Wrth i ni ystyried llorwedd-dra gwrthnysig y 'goeden' yn ei fframwaith  sy'n gynwysedig fel cawell, mae sylweddoliad John fod y goeden ei hunan eisoes yn gerflun perffaith, ac nad oes angen cerfio iddi felly, yn teimlo fel y penderfyniad hollol gywir. Ond, wrth wneud sylw ar y gwaith, nododd un aelod o'r cyhoedd fod elfen dywyllach i'r gwaith oherwydd er ei fod yn cael ei hudo gan y gwaith i ddechrau, o graffu'n nes, daw ymdeimlad o'r grocbren lynsio i'r meddwl. Mae Hetain yn y cyfamser yn cael trafferth gyda'r syniad o'r hyn sy'n guddiedig a'r hyn a ddatgelir o ran mecanwaith y darn, ond dyma bos oesol i artistiaid, ac mae John yn amlwg wedi penderfynu ar ba ochr y mae yntau'n sefyll. Ai honno fydd yr ochr gywir ym marn y beirniaid?

Nathan Wyburn with his sculpture

Nathan Wyburn with his sculpture

Mae Nathan wedi rhoi teitl grymus i'r gwaith sy'n adlewyrchu amser y trychineb, a'i effaith, 21.10.1966 144 9.13AM, ond erys gofidiau am sensitifrwydd, neu hyd yn oed chwaeth, y darn. Mae defaid drygionus Candice, yr oedd hi'n bwriadu iddynt godi gwên, yn chwarae triwant o'r wlad wrth iddyn nhw grwydro i ganol golygfa ddinesig, gan chwilmentan mewn bin a drodd ben i waered. Ond i fi, mae rhyw ymdeimlad braidd yn filain, dystopaidd, ôl-apocalyptig amdanynt… ond efallai fod hynny'n dweud mwy amdanaf fi nac amdani hi. 

Candice Bees with her sculpture

Candice Bees with her sculpture

Wrth i ni nesu at y penderfyniad terfynol, mae Charlotte yn ein hatgoffa y gall celf gyhoeddus gael ystyr ddofn a bod yn falm i'r enaid, ond y gall hefyd fod yn chwareus – sydd ond yn awgrymu y bydd hi'n ei chael hi'n anodd dethol enillydd. Mae Hetain yn edrych am rywbeth sy'n creu argraff weledol ac mae gan Clare eu llygad ar y prif gomisiwn celf parhaol, gan ystyried pa un o'r tri artist hyn fyddai'n gallu codi'u golygon a'u galluoedd orau i'r lefel honno. Ond Nathan sy'n crynhoi'r cyfan mor dwt wrth iddo amlygu fod y tri gosodiad hyn yn dod ag anifeiliaid, pobl a thirwedd ynghyd mewn un ystafell, ac mae hynny'n rhywbeth pur rymus.

Kathleen Soriano, curadur annibynnol, hanesydd celf a darlledwr

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darlledwyd Landmark yn wythnosol o ddydd Llun 6ed Medi 2021 ar Sky Arts