James Dickson Innes oedd un o'r artistiaid ifanc fwyaf eithriadol ac unigryw o'r garfan o artistiaid Prydeinig ifanc a ddaeth allan o Ysgol Gelf y Slade yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn anffodus roedd e hefyd yn un o'r artistiaid a'i hesgeuluswyd fwyaf. Gellir cysylltu'r ddwy ffaith yma i farwolaeth gynnar Innes. Bu farw o'r diciâu yn 27 mlwydd oed ym mis Awst 1914, ychydig wythnosau wedi cychwyn y rhyfel. Fe wnaeth salwch ei ysgogi i baentio – yn ei ffordd unigryw ei hun – ond fe wnaeth y rhyfel a'i holl helbul daflu cysgod dros ei lwyddiannau cynnar.
Ganwyd Innes – 'Dick' i'w ffrindiau – yn Llanelli ar y 27ain o Chwefror 1887. Ar ôl astudio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin o 1904 tan 1905, fe aeth i Ysgol Gelfyddyd Gain y Slade yn Llundain ym 1906, ac arhosodd yno tan 1908.
Daw'r disgrifiad gorau ohono o fywgraffiad o 1946 gan ei ffrind a'i gyd-fyfyriwr yn y Slade, y tafarnwr enwog, John Fothergill:
'Roedd e'n olygus tu hwnt, gyda'i wyneb hir gwelw, ei wallt hir dros dalcen uchel, llygaid mawr tywyll a gwefusau llawn. Fe wnaeth yn fawr o'i rinweddau gyda'i ddillad, ei ffon eboni, a'i lais swynol isel na ddefnyddiai'n aml gyda phobl ddiarth gan ei fod yn andros o swil. Roedd e'n berson cariadus ac yn awyddus i helpu eraill drwy eu bywydau. Fe ddywedodd Mrs Derwent Lees bod yna rywbeth santaidd amdano; ac yn wir mi roedd, ond ni fyddai hyn yn rhwystro'r nifer o berthnasau rhamantus, gwyllt a fu'n rhan o'i fywyd byr.'
Dywedodd Fothergill bod Innes wedi ei chael hi'n anodd i arlunio o'r byw – rhywbeth oedd yn rhan bwysig o ddull dysgu'r Slade. 'Fe barhaodd hyn tan y diwedd,' meddai Fothergill, 'roedd yna ddiffyg meistrolaeth wrth ddarlunio ffigyrau a gwrthrychau eraill. Yn debyg i gamgymeriadau plant, roedd rhywbeth apelgar am ei anwybodaeth, ac yn dyst i'w annibyniaeth.'
Ym 1908 fe deithiodd Innes a Fothergill drwy Ffrainc, gan gyrraedd tref fechan Fediteranaidd Collioure, ar yr arfordir ger y ffin â Sbaen a mynyddoedd y Pyreneau. Cafodd Innes ei swyno yno gan y golau a'r lliw – ond dyma hefyd lle'r aeth yn sâl. Ar ôl dychwelyd i Brydain byddai'n derbyn diagnosis o ddiciâu, y salwch a hawliodd ei fywyd yn y pen draw.
Fe gafodd wyliau er mwyn gwella yn St Ives, Cernyw ac yna symudodd i Baris, lle datblygodd ei gyfeillgarwch a chydweithrediad agos gydag artist arall o Gymru Augustus John (1879–1961).
Bu newid mawr yn ystod y cyfnod hwn, fel y dengys yn natblygiad ei waith – symudodd i ffwrdd o olygfeydd o'r cartref, a oedd yn boblogaidd gyda grŵp Camden Town, gan droi tuag at dirluniau.
Aeth Innes â John i weld mynydd Arenig Fawr Eryri, golygfa – yn debyg i arfordir y Canoldir a'r Pyreneau – a fu'n ddylanwad mawr arno. Yno, gyda'r artist o Awstralia, a chyn-fyfyriwr y Slade, Derwent Lees, fe gynhyrchodd yr artistiaid gyfres o dirluniau naïf, lliwgar a ysbrydolwyd gan waith yr Ôl-Argraffiadwyr.
Prif rinweddau tirluniau Innes, fel y nododd Fothergill oedd 'digymhellrwydd, atmosffer, lliw a gwreiddioldeb... ei nod oedd efelychu natur, fel pob artist o bwys. Dw i'n siŵr na sylweddolodd e mor wahanol oedd ei waith i bopeth a ddaeth o'i flaen.'
Fe baentiodd Innes fel 'cychwr soffistigedig, breuddwydiol', ysgrifennodd John, 'ac roeddwn yn genfigennus o'i gynneddf, ond wrth gwrs yn methu'n llwyr a'i efelychu.' Sylweddolodd John er ei fod yn darlunio'n well nag Innes, roedd 'cyfyngiadau' Innes yn gymorth iddo i ddehongli ei weledigaeth o'r tirluniau cyntefig hyn.
Am gyfnod roedd y ddau artist yn agos, a buont yn cydweithio yn ne Ffrainc; ond fe waelodd Innes, yn rhannol yn sgil yfed gormod a diffyg gofalu am ei iechyd. Fel yr ysgrifennodd John ar ôl marwolaeth gynnar Innes ym 1914, 'yn ystod bywyd o salwch ac ymyrraeth fe brofodd ei hun yn fardd-baentiwr go iawn. Mor wahanol i'w gyfoedion... hyd yn oed pan oedd e'n llawn edmygedd tuag atynt.'
David Boyd Haycock, hanesydd celf llawrydd
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru