Beth sy'n priodoli artist yn 'naïf'? Mae'n debyg bod gan yr artistiaid gorau i gyd rhywbeth naïf ynddynt; y gallu hwnnw i ymateb yn reddfol i bwnc yn hytrach na dibynnu ar yr hyn y maent wedi ei ddysgu neu'r hyn sy'n cael ei ystyried yn dderbyniol. Mae'r gallu i gadw chwilfrydedd a llygad plentyn wedi'i werthfawrogi gan artistiaid ers Paul Klee a Picasso, oedd yn hoff o ddweud: 'Fe gymerodd bedair blynedd i mi baentio fel Raphael, ond oes gyfan i baentio fel plentyn.'
Ni hyfforddodd Jack Jones erioed fel artist, ac roedd yn ei dridegau cyn mynd ati i baentio. Fe ddethlir ei ganmlwyddiant yn 2022 gydag arddangosfeydd yng Nghaerdydd, Abertawe ac Aberystwyth. Cyfeiriwyd ato weithiau fel 'Lowry Abertawe' disgrifiad a oedd yn rhwystredig iddo gan nad oedd erioed wedi clywed am Lowry pan aeth ati i baentio yn y 1950au cynnar. Roedd tebygrwydd rhwng y ddau, a ddaeth yn fwy amlwg dros y blynyddoedd, ond fe ddarganfyddai Jones ei lwybr ei hun at fynegiant syml, sgematig o'r hyn a welodd. Van Gogh oedd ei ddylanwad mawr cyntaf.
Fe ddaeth Jones yn adnabyddus am baentiadau bywiog, teimladwy o bobl a lleoedd, yn enwedig ei baentiadau o'r cof o'r gymuned dosbarth gweithiol lle y magwyd yn Abertawe cyn y rhyfel. Roedd y lluniau'n swyno'r gynulleidfa gyda'u naws gynnes, a'u hangerdd. Roedd y paentiadau'n amrywio tonau llwyd cynnes a phinc a fflachiadau o liw llachar; gyda phentyrrau du o sorod copr a ffigurau yn tynnu'r cyfan at ei gilydd. Pan fu farw ym 1993, roedd e wedi bod yn baentiwr llawn amser am ugain mlynedd.
O'r 1920au ymlaen roedd sawl artist nodedig yn ceisio creu paentiadau clir, diniwed 'fel plentyn'. Roedd rhai ohonynt, megis Alfred Wallis, wirioneddol o'r cyrion, ond roedd eraill, fel Ben Nicholson, Christopher Wood ac L. S. Lowry yn faux-naïf. O ystyried arddull paentiadau Jones a'i ffocws ar themâu diwydiannol – yn enwedig ei baentiadau diweddarach – nid oedd y gymhariaeth â Lowry yn afresymol. Er i'r gymhariaeth niweidio Jones o bosib ar y pryd – fe ystyrir Lowry yn artist newydd, anarferol – mae'r gymhariaeth yn fwy ffafriol heddiw, gan fod Lowry wedi ennill ei iawn le fel artist o bwys.
Roedd paentiadau cynnar Jones, megis Tirlun gyda Thai a Hen Weithfeydd o'r 1950au, a ddangosai tomennydd sorod ac olion Castell Morys (hen denement gweithwyr o'r ddeunawfed ganrif) yn llawer fwy dyledus i Van Gogh neu hyd yn oed i'r artist Cedric Morris a oedd yn perthyn i Morris, y diwydiannwr. Gallwn ddweud yr un peth am Bortread o Fachgen, gwaith arall cynnar gan Jones, sy'n dwyn i gof tuedd Morris i ddefnyddio 'ystumio emosiynol' i ddatgelu cymeriadau'r bobl yn ei bortreadau.
Fe anwyd Jack Jones ym 1922 yn ardal yr Hafod, Abertawe. Roedd strydoedd cul ei blentyndod, rhwng y gweithfeydd copr a thomennydd gwastraff, yn ysbrydoliaeth iddo ar hyd ei oes. Cafodd ei fagu gan ei nain, ac roedd yn ei arddegau cyn dysgu cyfrinach y teulu – sef ei fod e'n blentyn siawns. Fe bontiodd ei blentyndod flynyddoedd y Dirwasgiad, ond roedd ganddo atgofion melys o'i flynyddoedd cynnar, ac ysgrifennodd, 'er gwaetha'r tlodi a'r salwch, roedd cyffro byrlymus ymhlith bobl yr Hafod. Nid dioddefwyr oeddynt, ond gorchfygwyr.'
Er gwaethaf ei blentyndod heriol ac yn groes i'r rhinweddau diniwed a ddaeth i'r amlwg yn ei gelf, derbyniodd Jack Jones addysg dda. Yn dilyn cyfnod o wasanaeth rhyfel yn yr RAF, fe astudiodd Saesneg a Ffrangeg yng Ngholeg y Normal, Bangor, Prifysgol Paris a Phrifysgol Caen. Yn ddiweddarach fe ddysgodd Saesneg mewn ysgolion yn Llundain, lle y bu'n byw gyda'i wraig Ffrengig, Huguette, a'i fab Shôn.
Dan yr enw Jack Raymond Jones fe aeth ati i ysgrifennu barddoniaeth, cyfweliadau newyddiadurol gydag awduron o fri, canllaw addysg i rieni a sgriptiau radio ar gyfer gwasanaethau Ewropeaidd y BBC. Pan gychwynnodd baentio roedd e newydd gyhoeddi The Man Who Loved the Sun, ei fywgraffiad o Van Gogh.
Fe gyfarfu â nifer o gyfeillion newydd drwy ei gelfyddyd a'i newyddiaduraeth. Ym mhlith ei ffrindiau roedd yr actor Anthony Hopkins, y bardd a'r gwneuthurwr ffilmiau John Ormond a'r artist Kyffin Williams, a ddisgrifiodd Jones fel 'dyn llawen, a fyddai'n llowcio peints yng Nghlwb Rygbi'r London Welsh ac yn rhannu straeon gwyllt.' Jones oedd yr unigolyn a welir yn nau o bortreadau mwyaf craff Kyffin – portreadau a lwyddodd i gyfleu ei natur dywyll a chythryblus.
Dw i'n cofio cael sgyrsiau gyda Jones pan oeddwn i'n llanc ifanc yn Abertawe. Roedd e'n angerddol, yn ddadleugar ac yn wrthdrawiadol: fe ddwedodd wrthyf nad oedd syniad gen i, fel un o drigolion dosbarth canol gorllewin Abertawe, sut beth oedd adnabod pob un o'm cymdogion. Roedd hi'n glir bod celf yn bwysig iawn iddo, ac yn enwedig y gallu sydd gan gelf i gyfleu gwirionedd y gymuned lle y magwyd ef.
Yn Paentio'r Ddraig (2000) – llyfr a chyfres deledu'r BBC ar Gelf Cymru - dwedodd yr Athro Tony Jones o Sefydliad yr Ysgol Gelf Chicago bod Jack Jones, 'yn berwi'r cwm cyfan i lawr i'w hanfodion.'
Fe symleiddiodd y bobl a'i hadeiladau: mae'r capeli yn eu clystyrau (Seion, Ebeneser, Soar, Horeb, Bethania), tafarn y Villiers, y rhesi o dai oll wedi colli ei manylion er mwyn dangos eu hanfodion. Roedd y domen o sorod copr o weithfeydd yr Hafod wirioneddol yn gromlin fawr ddu – fel morfil – dros dai'r gweithwyr. Ond weithiau yn ei baentiadau mi fyddai'n ychwanegu llawr ychwanegol i dafarn er mwyn awgrymu ei statws, yn gwella ar draphont y rheilffordd gyda bwâu crwn yn hytrach na thrawst gwastad, neu'n symud adeiladau i le y mynno.
Weithiau fe adawai strydoedd yr Hafod i baentio pynciau newydd – fe ai i ardaloedd cyfagos, i gapeli mawr y dref a hyd yn oed yn bellach, i felinau Swydd Efrog neu i strydoedd Paris. Ar ôl trawiad ar y galon, fe adawodd ei swydd fel athro ac fe ddychwelodd i Abertawe, lle dreuliodd ei holl amser yn paentio.
Fe symudodd yn ôl i Lundain yn y pen draw, ac bu farw pan oedd arddangosfa fawr o'i waith ar fin agor yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe.
Mae llawer o rinweddau'r gymuned yn yr oes rhwng rhyfeloedd wedi newid tu hwnt i adnabyddiaeth yn y ganrif ers ei enedigaeth: mae rhai o'r rhesi teras bellach wedi'u clirio ar gyfer adnewyddu trefol neu i lydanu'r ffordd; mae tafarndai a chapeli wedi cau; mae ceir yn llenwi'r strydoedd lle yr arferai plant chwarae; a lle y bu tomen mae ysgol yn sefyll bellach. Ond mae paentiadau Jack Jones yn goroesi i rannu'r hyn a fu ac i ddangos ar ffurf paentiad y ddihareb 'mae'n cymryd pentref i fagu plentyn'.
Peter Wakelin, awdur a churadur
Mae paentiadau a phapurau Jack Jones yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac roedd detholiad ohonynt wedi eu harddangos yno drwy gydol gwanwyn 2022. Roedd arddangosfa fechan arall i'w gweld yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe o'r 8fed o Ebrill tan yr 11eg o Fedi 2022, yn ogystal ag arddangosfa canmlwyddiant Jack Jones yn Oriel Martin Tinney, Caerdydd o'r 11eg o Fai tan y 1af o Fehefin 2022.
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru