Yn ystod ei fywyd, sefydlodd Handel Cromwell Evans enw iddo'i hun dramor, yn yr Unol Daleithiau, yn Ewrop ac yn arbennig yn yr Almaen. Mae ei waith yn lled anhysbys ym Mhrydain o hyd. Roedd yn artist rhyngwladol go iawn. Cynrychiolir ei waith mewn casgliadau ledled Ewrop a Gogledd a De America ac mewn sefydliadau mawrion o Oriel Genedlaethol Jamaica i Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen. Yn Amgueddfa ac Orielau'r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth y mae'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o'i baentiadau, darluniadau a phrintiau a deunydd archifol sy'n rhychwantu chwe degawd o'i fywyd.
Ganed Handel ym Mhontypridd yn 1932 a chafodd ei hyfforddi yng Ngholeg Celf Caerdydd o 1949-1954. Yn dilyn hynny, enillodd ei fywoliaeth fel artist proffesiynol am y 40 mlynedd nesaf, yn teithio'n eang ac yn treulio llawer o'i amser yn y Caribî, America a'r Almaen. Ym mlynyddoedd cynnar yr 1960au, treuliodd amser yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain ac astudiodd ysgythru gyda Stanley Hayter yn yr Atelier 27 clodfawr ym Mharis am flwyddyn yn 1975.
Cerddoriaeth, nid celf, oedd y dylanwad mawr ar gefndir teuluol a diwylliannol Handel ym Mhontypridd. Roedd ei dad, Joseph, yn ymwneud yn drwm â cherddoriaeth ac roedd ganddo ddiploma graddedig o Goleg Cerdd Llundain. Rhoddodd yr enw Handel i'w fab ar ôl George Frideric Handel; ganed ei fab ychydig ddyddiau cyn iddo arwain côr o 2,000 o leisiau yn canu'r Meseia. Ddwy flynedd yn ddiweddarach rhoddodd Joseph y gorau i ganu'n gyfan gwbl pan gafodd ei gais am ysgoloriaeth ei wrthod.
Pan oedd yn ei arddegau, dewisodd Handel ddilyn gyrfa mewn celf ond parhaodd ei frwdfrydedd a'i ddiddordeb mewn cerddoriaeth. Dylanwadodd hyn ar ei waith drwy gydol ei fywyd ond nid yn uniongyrchol bob amser. Pan oedd yn ei arddegau, cafodd Handel wersi piano gan Clifford H. Lewis yng Nghaerdydd yn gyfnewid am roi gwersi arlunio i'w fab ifanc. Derbyniodd Handel ddiploma graddedig gan yr Academi Gerdd Frenhinol yn 1958. Mewn nodiadau a wnaeth yn yr 1980au cynnar sydd yn yr archif yn Aberystwyth, mae'n crybwyll dylanwad addysgu Cliffordd Lewis arno ar hyd ei oes:
'Fy hyfforddiant cerddorol, yn drwyadl a radicalaidd ei natur oherwydd gwychder Clifford Lewis, a ddysgodd i mi nid yn unig bopeth rwy'n ei wybod am gelfyddyd y piano, ond roedd yn fentor i mi hefyd ac mae fy nyled yn fawr iddo am lawer o'm datblygiad fel artist.'
Parhaodd i ymarfer a pherfformio ar y piano ac roedd ganddo ddau biano traws, Schiedmayer a Blüthner yn ei dŷ yn Ramsgate. Maen nhw ym Mhrifysgol Aberystwyth erbyn hyn, yn rhodd gan ei fam Marian Evans-Quinn, yn rhan o Gasgliad a Chronfa Ymddiriedolaeth Handel Evans.
Roedd pwysigrwydd cerddoriaeth yn amlwg ym mywyd Handel ond nid yw bob amser yn amlwg ar unwaith yn ei berthynas â'i waith, er bod rhai eithriadau eglur. Yn wir, heblaw am y 'cerddorion' yng Nghyfres y Cyflogeion a rhai gweithiau eraill, yr unig gyfeiriad eglur at gariad Handel at gyfansoddwr penodol yw rhif 48 yng Nghyfres y Cyflogeion, a ymgyflwynodd i J.S. Bach, a'r 48 Preliwd a Ffiwg.
Yn ei nodiadau toreithiog am ei baentiadau yng Nghyfres y Cyflogeion ysgrifennodd:
'Pan fydd dyfeisgarwch yn gwanhau, neu os bydd angen i mi ymbellhau oddi wrth ddarlun anhywaith, nid wyf yn troi at natur, a llai fyth at enghreifftiau gan artistiaid eraill, rwy'n troi at nodau'r piano.'
'Gyda'r meddwl cerddorol/strwythur sain hwnnw'n nofio o gwmpas yn fy mhen, rwy'n teimlo fy hun yn adnewyddu ac yn egnïo i allu mynd i'r afael â'm problemau/her optegol/gweledol.'
Er gwaethaf y berthynas anuniongyrchol hon, unwaith y byddwn yn ymwybodol o gariad Handel at gerddoriaeth, mae'n anodd peidio gweld ei waith yn nhermau strwythurau cerddorol – ffigur a motiff, amrywiadau ar thema, gwaith mewn cyfresi – ac yn rhythm ac egni ei ffurfiau haniaethol mewn lliwiau anghytseiniol. Mae'n demtasiwn i weld hyn fel cais, yn arddull Kandinsky, i sicrhau ymateb emosiynol uniongyrchol drwy ffurf haniaethol a lliw ond daw'n amlwg yn fuan iawn bod dull Handel yn llawer mwy cynnil.
Yn y ddau ddarn o waith Cerddorion ar Blatfform a Chwe Cherddor mewn Ystafell o Gyfres Unlliw y Cyflogeion (canol yr 1980au) mae'n defnyddio palet sydd bron yn unlliw i ddarlunio grwpiau o awtomata diwyneb anrhywiol sy'n edrych fel petaent yn chwarae offerynnau.
Mae'r ffigurau hyn yn ffurfio, ac wedi eu cynnwys gan, eu peiriannau gwneud cerddoriaeth: seinflychau a chyrff, llinynnau a gewynnau, cysylltiadau o flociau pin, bordiau pegfyrddau, bysedd, cymalau ac aelodau. Mewn geiriau eraill, yn y gyfres mae casgliadau o ffigurau lled-ddynol ar lwyfan neu blatfform yn awgrymu corau, perfformwyr neu grwpiau siambr sydd wedi eu caethiwo yn y cyfansoddiadau a'r stwythurau sydd hefyd yn eu diffinio nhw.
Mae'r dehongliad technegol 'grotésg' hyn o fodau dynol a'u byd materol yn ffigur a motiff sy'n digwydd yn aml yng ngwaith hwyrach Handel. Mae egni'r cyfnewidiad parhaus hwn i'w weld yn y rhan fwyaf o'i waith gorffenedig.
Mewn traethawd a ysgrifennodd am ei baentiad eu hun, Dehongliadau, yn 1989 mae Handel yn nodi ei fod yn 'dymuno i'r elfennau dynol ac annynol ymwneud yn annatod â'i gilydd, yn union fel sy'n wir am y meddwl a gwybodaeth.'
Y trosiad gweledol y mae'n ymdrechu i'w gyfleu yw 'natur rhyngddibynnol y berthynas rhwng dyn a'r corff cynyddol o wybodaeth y mae ei feddwl yn ymdrin ag o ac y mae'n dibynnu arno.' Dull sy'n ymddangos yn fwy perthnasol nag erioed y dyddiau hyn i'r ffordd yr ydym yn edrych ar y byd ac yn ei brofi a'i ddehongli.
Neil Holland, Curadur, Prifysgol Aberystwyth
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru