Wrth i Ionawr y 25ain ddynesu bob blwyddyn, mae toreth o lwyau caru, cardiau bach del, ac arwyddion o gariad i'w gweld ar hyd a lled Cymru. I'r bobl hynny sydd heb brofi'r peth o'r blaen, gallai hyn edrych yn debyg i ddathliadau cynnar Sain Folant, ond mae'n ymwneud â santes gwbl wahanol – Santes Dwynwen.
Santes Dwynwen yw nawddsant cariadon Cymru ac mae ei stori'n cychwyn yn y 5ed ganrif. Yn ôl y chwedl, hi oedd y fwyaf prydferth o ferched y Brenin Brychan Brycheiniog, a syrthiodd mewn cariad gyda thywysog o'r enw Maelon Dafodrill. Yn anffodus, roedd ei thad wedi addo ei rhoi hi'n wraig i ddyn arall. Felly erfyniodd Dwynwen ar Dduw i wneud iddi anghofio ei gwir gariad fel y gallai ddioddef ei bywyd gyda'r dyn yr oedd yn rhaid iddi ei briodi.
Mae'n ymddangos bod ei Duw wedi cymryd ei chais o ddifrif: nid yn unig yr anfonwyd angel i ddod â diod hud iddi a fyddai'n gwneud iddi anghofio, ond hefyd cafodd Maelon druan ei droi'n floc o rew! Cafodd Dwynwen gymaint o sioc nes y gwrthododd y ddiod a gofynnodd yn lle hynny am dri dymuniad: bod Maelon yn dadmer; bod Duw yn edrych ar ôl gwir gariadon y byd; ac na fyddai Dwynwen ei hun byth yn priodi. Cafodd pob un o'r dymuniadau hyn eu gwireddu. I ddiolch iddo, cysegrodd Dwynwen ei hun i Dduw am weddill ei bywyd. Gallwn weld ei heglwys ar Ynys Môn yma mewn dyfrlliw gwych gan Kyffin Williams.
I ddathlu Dydd Santes Dwynwen, roeddwn i eisiau rhannu gwrthrychau serch o gasgliadau yng Nghymru. Rwy'n gweithio fel Cadwraethydd Gwrthrychau felly rwy'n treulio fy mywyd gwaith yn edrych ar ôl gwrthrychau y mae pobl yn teimlo'n emosiynol iawn yn eu cylch: cistiau wedi hen wisgo, hen degannau, tlysau gan bartner gydol oes. Rwy'n eu trwsio neu'n eu glanhau neu'n eu rhoi mewn blychau gwell, cyn rhoi'r gwrthrychau serch hyn yn ôl i'w perchnogion.
Ymunwch â mi i chwilio'n dyner drwy gelfyddyd o Gymru a gyffyrddwyd gan gariad!
1. Priodferch a Phriodfab gydag Anrhegion Priodas, gan Ernest Zobole
Mae'r cwpwl yma mewn llesmair wrth iddyn nhw adael y fan lle cawsent eu priodas, ac mae anrhegion y briodas o'u hamgylch: tostiwr, sosbenni a phadelli, siwtcesys ar gyfer anturiaethau'r dyfodol, crochenwaith, blanced, ac amrywiaeth o lampau. Dyma'r math o fanion domestig sydd yn aml yn amgylchynu'r rheini sydd newydd briodi – a deugain mlynedd yn ddiweddarach hyd yn oed – anrhegion a brynwyd gan berthnasau a chyfeillion brwd.
Er nad yw pobl yn dod â phethau mor gyffredin â thostiwr ataf, byddaf yn aml yn trwsio jygiau tolciog ('Rydw i wedi edrych ar hwnna bob dydd ers i ni briodi'), siwtcesys sydd wedi teithio'n bell ('Roedden ni'n arfer mynd yno bob haf') a blancedi wedi eu tyllu gan wyfynnod ('Roedd hi'n lapio hwn o'm cwmpas i bob nos'). Weithiau y pethau pob dydd yw'r pethau mwyaf rhamantus: gwrthrychau sy'n cael eu bodio gan ddwylo bob bore, yr olion bysedd a adewir ar lwy arian.
Mae gan Ernest Zobole ffordd ychydig yn annaearol o gofnodi golygfeydd o Gwm Rhondda ac mae hyn yn dangos mor hudol yw cyd-destun ein bywydau: yn llawn o ddafnau bach o hud a swyn sydd, heb os, wedi eu gwella gan gariad.
2. Llwy Gariad i Lesbiaid a Phobl Gyfunrywiol, gan Mabel Pakenham-Walsh
Rydyn ni i gyd yn hoff o lwyau caru Cymreig! Mae llwy garu'n llwy bren a roddwn i gariad ac (yn wreiddiol, o leiaf) roedden nhw wedi eu cerfio gan y person oedd yn rhoi'r llwy. Fel arfer, mae'r llwyau hyn yn wrthrychau hynod gywrain – nid pethau i fwyta â nhw – ac yn dangos nifer o symbolau neu batrymau cymhleth wedi'u personoli i blesio'r sawl sy'n eu derbyn. Mae gan adar blu godidog i ddenu eu cariadon, ond mae gan Gymry lwyau a sgiliau llaw gwych!
Mae'r llwy garu hon yn fwy cyfoes. Nid yw'r addurniadau yn rhan o'r carn yn unig, maen nhw i'w cael o amgylch siâp y llwy gyfan: eurgylch o gymuned a pherthynas. Does dim o'r calonnau a'r clychau a'r pelenni mewn cawell oedd yn dangos nifer y plant yr oedd y pâr yn gobeithio eu cael. Yn lle hynny, mae'n edrych fel bwrdd wedi ei amgylchynu â sgwrs ac agosatrwydd. Rydw i'n ddeurywiol ac amlgarwriaethol, a sylwaf nad oes niferoedd cyfartal o westeion wrth y bwrdd hwn: efallai nad ydynt mewn parau, neu efallai fod policiwl yma?
Symudodd Mabel Pakenham-Walsh i Aberystwyth yn yr 1970au felly mae'n debyg mai yn y fan honno y cerfiwyd y darn yma, ac mae'n dangos ei harddull eiconig. Rydw i wrth fy modd gyda'r llwy garu hon – ac rwyf wrth fy modd gyda'r rhai traddodiadol hefyd. Maen nhw'n llythyrau cariad bach: dyma ti, rydw i wedi gwneud ymdrech, dyma fy ngobeithion ar gyfer ein dyfodol.
3. Priodferch a Phriodfab, Dinbych y Pysgod, gan John Uzzell Edwards
Mae'r paentiad hwn yn annwyl ac yn annifyr ar yr un pryd: mae'n edrych fel ffotograff o gwpwl ar ddiwrnod eu priodas, ac eto mae'n ddarniog ac wedi aflunio fel petaem ni'n edrych arno drwy brism neu mewn caleidosgop. Ai atgof yw hwn? Ailddweud stori? Edifeirwch?
Yn aml iawn, ffotograffau yw ein ffordd ni o angori ein hatgofion. Dydy ffotograffau ddim yn bethau y gallaf edrych ar eu holau i bobl – mae'n well i iddyn nhw fynd at warchodwr ffotograffau – ond gallaf cynghori bobl sut i'w storio nhw i'w cadw nhw'n ddiogel. Mae ffotograffau'n gofnodion i'w cadw yn nhirlun mawr bywyd, enydau wedi rhewi y gallwn eu samplu dro ar ôl tro. Yn aml iawn maen nhw'n hanfodol ar gyfer hel atgofion. Mae ffotograffau priodas yn weddol ganolog i hynny: efallai mai dyma'r unig amser y gallwn gael ffotograff ohonom ein hunain, neu o'r teulu cyfan yn dod ynghyd. Yn eu hanfod, maen nhw'n daith drwy amser y gallwch dal yn eich llaw.
Mae'r paentiad yma'n gwneud i mi feddwl am natur y cof: sut mae'n gallu aflunio neu fynd yn ddarniog, mor gymysglyd gydag amser ac oed, ond sut y gall rhywbeth pwysig barhau yn ganolog iddo.
4. Dawns Garu, gan John Robinson
Un peth na allaf ei gadw i bobl yw symudiad. Yn y cerflun hwn, bron y gallwch deimlo'r symudiad, y troi, yr emosiwn rhwng dau ddawnsiwr. Does dim modd cadw hwnnw, ond drwy edrych ar wrthrych fel hyn, gallwch deimlo'r cyffro tanbaid.
Mae gan lawer ohonom atgofion o ddawnsio, yn enwedig pan soniwn am gariadon: dawns gyntaf mewn priodas, rêf gyda'i oleuadau'n fflachio, gwers salsa anhylaw. Efallai fod eich cariad cyntaf wedi dawnsio yn y gegin wrth i chi osod y bwrdd.
Cafodd y gwaith hwn ei ysbrydoli gan arddangosfeydd paru y brolga, sef garan sy'n byw ar dir gwlyb yn Awstralia a Guinea Newydd ac sydd fel arfer yn paru am oes. Maen nhw'n dechrau eu dawns gywrain a defodol drwy daflu glaswellt ac yna maen nhw'n dechrau troi, ymestyn, plymio a thorsythu gyda'i gilydd. Er bod hyn yn ymddangos yn wahanol iawn i symudiad pobl, mae dawnsio yn teimlo'n rhan annatod iawn o'n cysylltiadau ninnau â'n gilydd. Gall dawns fod yn serch, ac mae'r cerflun hwn yn cyfleu hynny'n dda.
5. Drysau Oriel Mission, gan Rob Conybear, Robin Campbell a Martin Bellwood
Efallai fod hwn yn ymddangos yn ddewis rhyfedd: beth sydd mor rhamantus am ddrws? Ond, gall drysau fod yn fannau hynod o ramantus: rhywun diddorol yn pwyso yn erbyn y postyn, cipolwg ar anwylyn yn cerdded heibio, cariad yn curo ar y drws. Yr hyn a gipiodd fy sylw yma yw'r amlinelliad o ddyn ar y wal: cysgod braidd yn drist yr olwg o berson yn sefyllian.
Mae'r amlinelliad yn gyfeiriad at chwedl Roegaidd am gariad: roedd Dibutades, menyw ifanc yn Corinth, yn gwybod bod ei chariad yn ymadael i fynd ar fordaith hir. Mewn ennyd o ysbrydoliaeth, mae hi'n gweld ei gysgod ar y wal, wedi'i daflu gan lamp, ac mae hi'n penderfynu cofnodi amlinelliad ei siâp yno er mwyn ei gofio. Ac, yn ôl y chwedl, dyna sut y ganed y grefft o baentio: fel cysgodion ar waliau. Stori syml sy'n cysylltu dyfeisio paentio gyda menyw – ac mae hynny'n beth braf bob tro!
Mewn cyfnod cyn ffotograffau, efallai mai amlinelliad, braslun, darlun oedd y cwbl oedd gennym i gofio rhywun. Rwyf wrth fy modd gyda llyfrau braslunio, neu ddarlun rhywun o'u hanwylyn wedi'i fframio'n ofalus. Maen nhw'n tueddu i fod yn fwy personol na ffotograffau, yn fwy agos atoch chi. Yn aml iawn, maen nhw'n dweud mwy o stori na 'dyn gwallt golau gyda barf' neu 'fenyw gyda gwên fawr'. Maen nhw'n ymgorffori cariad yn aml iawn.
Os nad ydych wedi ymweld ag Oriel Mission yn Abertawe eto, mae werth mynd i gael sbec: mae gweddill yr adeilad yn adeilad rhestredig Graddfa II, a oedd yn eglwys i forwyr ar un cyfnod – teyrnged fach arall i gariad Dibutades ar ei daith ar draws y môr.
A, gyda'r darnau hyn, rwy'n eich annog chi i edrych ar eich casgliadau eich hunain, eich manion domestig chi, y gwrthrychau diwerth sy'n annwyl i chi: ewch allan i weld cariad ymhobman. Dydd Santes Dwynwen hapus!
Jenny Mathiasson, gwarchodwr gwrthrychau a gweithiwr llawrydd
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru