Dywedodd Gwen John 'Ni allaf ddychmygu pam fydd gan fy ngweledigaeth rhyw werth yn y byd… ond dwi'n gwybod y bydd.' Yn ystod ei hoes roedd artistiaid benywaidd yng nghysgod eu cymheiriaid gwrywaidd yn gyson – yn achos John, ei brawd Augustus a'i chariad, Rodin. Ond heddiw, mae artistiaid benywaidd yn cael eu hailddarganfod a'u hailasesu. Mae llyfrau ac arddangosfeydd newydd yn ymddangos bron yn fisol, gan daflu goleuni newydd ar waith artistiaid y mae cydnabyddiaeth yn ddyledus iddynt ers tro.
Ymhlith yr artistiaid benywaidd sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth o'r newydd yn ddiweddar mae dwy Gymraes. Gwen John, a anwyd yn Hwlffordd, yw testun bywgraffiad newydd gan Dr Alicia Foster. Aeth y llyfr law yn llawn â dwy arddangosfa o waith John yn Oriel Pallant House yn Chichester ac Amgueddfa Holburne yng Nghaerfaddon. Yn y cyfamser, cafodd yr artist Nina Hamnett, a anwyd yn Ninbych-y-pysgod, ei arddangosfa adolygol gyntaf yn Charleston, Sussex.
Ond nid John a Hamnett oedd yr unig fenywod o Gymru i sefydlu gyrfaoedd yn y byd celf o gychwyn i ganol yr ugeinfed ganrif. Mae Gwenny Griffiths, Ruby Levick, a Margaret Lindsay Williams yn dair arall sy'n haeddu cydnabyddiaeth ehangach.
Er mwyn sefydlu eu hunain yn artistiaid proffesiynol ar gychwyn yr ugeinfed ganrif, roedd gofyn i fenywod oresgyn sawl rhwystr. Yn gyntaf, roedd hyfforddi fel artist yn gostus – roedd angen rhywfaint o gyfoeth i dalu am wersi, ac roedd angen dod o gefndir a fyddai'n caniatáu menyw i astudio yn hytrach na gweithio. Mae'n werth nodi bod y tair fenyw yma yn wyn a phob un yn dod o gefndir cyfforddus os nad cefnog.
Yna roedd cwestiwn o arddull. Ystyriwyd celfyddyd amatur yn addas i fenywod ifanc dosbarth canol, gyda bywyd llonydd, tirluniau a chelfyddyd fotanegol yn cael eu hystyried yn themâu delfrydol iddynt. Roedd celfyddyd fwy 'mawreddog' megis paentio hanesyddol a cherflunio yn cael eu hystyried yn feysydd i ddynion yn unig.
Fe wynebai'r menywod hynny a allai fforddio hyfforddiant artistig rwystrau yn yr ystafell ddosbarth hefyd, gan yr ystyrir rhai gwersi – yn benodol darlunio modelau noeth – yn anaddas ar gyfer myfyrwyr benywaidd. Fe gychwynnodd hyn newid o ddechrau'r ganrif.
Fe wynebai fenywod yng Nghymru her arall. Roedd y byd celf yn cylchdroi o amgylch Llundain, a oedd hefyd yn gartref i rai o'r sefydliadau hyfforddi pwysicaf, megis yr Academi Frenhinol a'r Slade. Fe olygai hyn bod nifer o artistiaid yn gadael Cymru er mwyn manteisio ar gyfleoedd hyfforddi a gwaith.
I'r menywod hynny a allai oresgyn y rhwystrau hyn, roedd hwn yn gyfnod o gyfleoedd i artistiaid. Roedd y farchnad celf wedi newid, gyda'r hen system nawdd yn newid i fodel busnes newydd: bellach roedd artistiaid yn gwerthu eu gwaith i farchnad gynyddol o werthfawrogwyr celf y dosbarth canol. Fe agorodd hyn ddrysau i fenywod a fentrai greu gyrfaoedd yn y byd celf. Roedden nhw'n rhan o newid cymdeithasol ehangach o fenywod oedd yn mynnu mynediad i broffesiynau traddodiadol gwrywaidd.
Mae'r tair Gymraes ganlynol ymhlith y rheiny a lwyddodd i sefydlu eu hunain yn artistiaid llwyddiannus o gychwyn i ganol yr ugeinfed ganrif, ac sy'n haeddu cydnabyddiaeth ehangach.
Gwenny Griffiths (1867–1954)
Ganwyd Griffiths yn Abertawe, a bu'n fyfyrwraig yn Ysgol Gelf y ddinas, cyn graddio'n ddiweddarach o'r Slade yn Llundain. Yn fuan roedd hi'n arddangos ei gwaith yn eang, gyda phortreadau wedi'u dethol ar gyfer yr Academi Frenhinol a'r Salon ym Mharis.
Canmolwyd ei phortreadau yn aml am eu defnydd o liw ac ystumiau naturiolaidd – 'Rydw i bob amser yn gadael i fodelau fy mhortreadau ddewis yr ystumiau mwyaf naturiol' eglurodd mewn erthygl yn y South Wales Evening Post (11eg Medi 1922). Am flynyddoedd lawer bu Griffiths yn Llywydd Clwb Celf Rhyngwladol y Merched, yn trefnu arddangosfeydd blynyddol y grŵp.
Roedd Griffiths hefyd yn peintio tirluniau a morluniau, ac ymddangosai'r ddau genre yn ei sioe unigol yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn 1922. Yn Gymraes wladgarol, fe drefnodd arddangosfa o'i gwaith yn Llundain i godi arian i filwyr o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ruby Levick (1871–1940)
Yn enedigol o Landaf, astudiodd Ruby Levick yn yr Ysgol Hyfforddi Celf Genedlaethol (NATS) yn Llundain. Yma, bu'n astudio ochr yn ochr â nifer o gerflunwyr benywaidd nodedig eraill, gan gynnwys Lucy Gwendolen Williams a chanddi hefyd etifeddiaeth Gymreig. Yn NATS, enillodd Levick fedal aur am ei cherflun, Boys Wrestling. Roedd hi'n fyfyrwraig boblogaidd, fel y gwelwyd yn ei hetholiad unfrydol fel cynrychiolydd myfyrwyr.
Fe arddangosodd Levick ei gwaith yn eang, gan ddarganfod sawl prynwr. Ym 1899 fe nododd y Western Mail bod ei gwaith wedi'i 'stampio ar unwaith gyda'r tocyn ffodus "wedi'i werthu"' (17eg Mehefin 1899).
Gan arbenigo mewn efydd, fe ddaeth Levick yn adnabyddus am ei cherfluniau bychain a oedd yn cyfleu symudiad yn arbennig o dda. Roedd ei phynciau'n cynnwys grwpiau o bobl wrth eu gwaith, athletwyr a phlant yn chwarae. Roedd hi'n rhan o'r mudiad Cerfluniaeth Newydd a ganolbwyntiai ar symudiad corfforol a naturioldeb.
Margaret Lindsay Williams (1888–1960)
Daeth Williams, yn enedigol o Gaerdydd, i Ysgol Gelf y ddinas pan oedd ond yn 13 mlwydd oed. 'Yn anochel', dywedodd yn ddiweddarach, 'daeth yr amser pan nad oedd gan Gaerdydd ddim mwy i'w gynnig,' ac felly symudodd i Lundain, gan wireddu ei breuddwyd o astudio yn yr Academi Frenhinol.
Yma, roedd hi'n fyfyrwraig ddisglair. Yn 23 oed fe enillodd fedal aur yr Academi am gelfyddyd – y myfyriwr ieuengaf a'r artist cyntaf o Gymru i'w hennill. Fe enillodd ysgoloriaeth deithio a ganiataodd iddi deithio i Ewrop, gan ddychwelyd i'r DU yn ddiweddarach a chynnal ei harddangosfa fawr gyntaf yng Nghaerdydd.
Yn ddiweddarach fe sefydlodd Griffiths stiwdio yn Llundain, gan ddod yn artist portreadau ffasiynol. Ymhlith ei phynciau adnabyddus roedd aelodau o'r teulu brenhinol, gan gynnwys y Frenhines Alexandra a'r Frenhines Mary. Roedd llawer o'i chleientiaid enwog yn Gymry.
Ailddarganfod gwaith menywod ar Art UK
Tair enghraifft yn unig sydd fan hyn, o restr lawer ehangach o artistiaid benywaidd. Mae gwaith celf sawl menyw 'coll' o'r cyfnod dal yn aros i gael ei ailddarganfod a'i ailasesu. Pa le gwell i gychwyn chwilio na chronfa ddata Art UK?
Dr Anna Maria Barry, awdur a hanesydd
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Cyfieithiad o'r Saesneg
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen rellach
Maria Quirk, Women, Art and Money in Late Victorian and Edwardian England. Bloomsbury, 2019
Joanna Devereux, The Making of Women Artists in Victorian England. McFarland, 2016
Angela Gaffney, Wedded to her art: Margaret Lindsay Williams, 1888-1960. Prifysgol Cymru, 1999
Rozsika Parker a Griselda Pollock Old Mistresses: Women, Art and Ideology, 2020