Adeilad neo-glasurol sy'n edrych i lawr dros Fae Ceredigion yn Aberystwyth yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r Llyfrgell yn casglu gwaith celf ers dechrau'r ugeinfed ganrif, ac mae'n canolbwyntio ar hanes, pobl a diwylliant Cymru.
Aeth Avril Jones, un o Gyfarwyddwyr y Llyfrgell, ati i ddewis rhai o'i ffefrynnau o'r casgliad.
1.
Dyma un o dirluniau rhamantus enwocaf Cymru. Mae'n dangos yr achlysur dramatig pan aed ag Owain Goch, un o dywysogion Cymru, i Gastell Dolbadarn yn 1255. Bu'n garcharor yno am dros 20 mlynedd. Mae Turner yn tynnu sylw at y clogwyni serth sy'n arwain at y castell. Mae'n gorbwysleisio eu maint heb gyfeirio o gwbl at yr Wyddfa sydd, mewn gwirionedd, gryn dipyn yn uwch na nhw. Mae'r paent yn gyfuniad gwych o olchiadau rhydd, tenau a darnau dwfn o liw tywyll, sy'n symbol o ing yr olygfa. Bu'r darlun hwn ar ymweliad ag Ysgol Trelái yng Nghaerdydd fel rhan o raglen Campweithiau mewn Ysgolion Art UK yn 2013.
2.
Roedd Catherine Jones yn gyfnither i Richard Wilson, artist enwog o Gymru.
Lluniwyd y portread hwn ohoni ar ddechrau gyrfa lwyddiannus yr artist. Mae'n uchafbwynt ymhlith portreadau Wilson mewn arddull glasurol oedd yn cyfuno techneg draddodiadol a dealltwriaeth o bersonoliaeth y model. Mae rhyw dristwch yn perthyn i'r llun: ym mlwyddyn olaf ei oes, dychwelodd Wilson i Gymru a bu Catherine yn gofalu amdano tan iddo farw. Roedd ei thŷ hi'n llawn o baentiadau olaf un o artistiaid gorau a mwyaf arloesol Cymru.
3.
Bu Claudia Williams yng Nghomin Greenham, Berkshire, yn 1984. Sefydlwyd gwersyll heddwch yno yn 1981 gan grŵp o ferched a gerddodd o Gaerdydd i Greenham. Daeth y gwersyll â thon newydd o ymgyrchu penderfynol, egwyddorol i Brydain, heb drais nac arfau.
Mae'r darlun hwn yn cyfleu agwedd a synnodd llawer o bobl. Mae ymdeimlad o heddwch a harmoni uwchlaw'r protestiadau a'r gwrthdystiadau: yma, mae mamau a phlant yn dawnsio mewn gobaith a pharch.
4.
Ganed y pêl-droediwr Ryan Giggs yng Nghaerdydd a symudodd i ogledd Cymru. Cafodd ei arwyddo gan Manchester United yn 1987, ar ei ben-blwydd yn bedair ar ddeg, ac bu gyda nhw tan 2016. Mae'n cael ei ystyried yn un o bêl-droedwyr gorau ei genhedlaeth. Bu ei sgiliau'n ysbrydoliaeth i United ac i dîm cenedlaethol Cymru. Mae'r portread yn pwysleisio sylliad grymus Giggs. Roedd ei allu i ddarllen sefyllfaoedd ar y cae a gweithredu'n ddibetrus yn allweddol i'w lwyddiant.
5.
Yn Sir Benfro y ganed Gwen John, chwaer y cymeriad llachar Augustus, ond ni ymgartrefodd yng Nghymru erioed gan fod Ffrainc yn fwy at ei chwaeth.
Mae'r darlun hwn yn enghraifft wych o'i gwaith, wedi'i baentio yn ei steil nodweddiadol sych, gyda chynfas sydd bron yn foel, a defnydd impasto o baent. Mae ansawdd y lliw yn eithriadol o hardd, a chaiff y palet cyfyngedig iawn o binc a gwyrdd ei drin yn gywrain. Roedd Gwen yn gymeriad trasig, sy'n cynrychioli ochr felancolaidd y Cymry.
6.
Yn y llun hwn mae'r paffiwr Joe Calzaghe yn ei gampfa yng nghymoedd y de, nid nepell o'i gartref yn Nhrecelyn. Ef yw'r bocsiwr mwyaf llwyddiannus erioed o Gymru; perfformiwr carismataidd ac athletwr o'r safon uchaf. Parhaodd gyrfa Calzaghe o 1993 i 2008. Ni chollodd ornest na chael gornest gyfartal erioed, er iddo gael ei fwrw i lawr mewn nifer o'i ymladdfeydd. Yn ei ornest olaf llwyddodd i drechu'r Americanwr Roy Jones Junior, yn arena eiconig Madison Square Garden, Efrog Newydd.
7.
Artist o Wlad Pwyl a ffodd i dde Cymru o Ewrop yn yr 1940au oedd Josef Herman. Llwyddodd i ymgartrefu yn Ystradgynlais, Cwm Tawe, ymhlith y glowyr a'u teuluoedd.
Mae'r darlun hwn yn dangos sut yr oedd 'Jo bach', fel y galwai'r glowyr ef, yn sylwi ar weithwyr yr ardal cyn mynd ati i'w darlunio gan ddathlu eu bywydau bob-dydd.
Ond mae'n fwy na dim ond portread. Mae'r artist yn creu llun yn arddull lluniau traddodiadol o'r Forwyn Fair a'r baban Iesu, sy'n symbol o gariad a gofal.
8.
Un o drysorau mawr y Llyfrgell yw casgliad Syr Kyffin Williams. Yn 1968, teithiodd Williams i'r Wladfa yn yr Ariannin a sefydlwyd yn 1865 gan ymfudwyr o Gymru. Ei fwriad oedd dychwelyd â darlun real o'r wlad, ei phobl a byd natur yno.
Aeth â gwahanol ddeunyddiau arlunio gydag ef, a cheisio caniatáu i'r testun bennu pa rai y dylai eu defnyddio. O ganlyniad, gwnaeth waith mewn sawl arddull wahanol. Bu hyn yn brofiad ffurfiannol yn ei ddatblygiad artistig.
9.
Mae Mary Lloyd Jones yn adnabyddus am ei darluniau eofn, mynegiadol, sy'n nodedig am eu defnydd o liwiau cryf a chyfoethog. Mae Cwm Rheidol yn enghraifft dda o'i gwaith lled-haniaethol. Mae'n cyfuno'i dawn i sylwi ac i fynegi teimladau mewn llawnder o baent, gan gyfleu hanfod y lle. Cafodd y tirlun eithriadol hardd hwn ei baentio o'r tu mewn tuag allan. Fel yr eglura Jones, 'Fy nod yw bod fy ngwaith yn adlewyrchu fy mherthynas â'r tir, ymwybyddiaeth o hanes, a thrysorau ein traddodiadau llenyddol a llafar.'
10.
Ganed Penry Williams ym Merthyr Tudful lle'r oedd ei dad yn saer maen. Symudodd i Rufain lle bu'n cynhyrchu tirluniau a golygfeydd di-ri o'r Eidal ar gyfer pobl oedd yn ymgymryd â'r Daith Fawr.
Yn amlwg, llun o dde Cymru yw hwn ac mae'n debyg iddo gael ei baentio ar un o ymweliadau Williams â'i gartref. Bu cryn drafod ar union leoliad y llun ac efallai ei fod yn gyfuniad o sawl lle.
Cafodd y darn hwn ei gynnwys yn arddangosfa Tirlun Cymru yn y Llyfrgell yn 2014.
Avril Jones, Cyfarwyddwr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Nodyn gan y golygydd: Ymddangosodd y stori hon yn wreiddiol ar wefan BBC Arts, oedd yn bartner ar brosiect Art UK.
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru