Yma mae Peter Wakelin yn cyflwyno arddangosfa o weithiau celf cyfoes a gasglwyd yn ystod chwarter canrif cyntaf Gwobr Wakelin yn Abertawe.
Mae Gwobr Turner yn enwocach, Artes Mundi'n talu'n well a llu o wobrau eraill yn cael mwy o sylw, ond mae Gwobr Wakelin yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gasgliad cyhoeddus penodol dros y chwarter canrif diwethaf.
Mae arddangosfa 'Dathlu 25 mlynedd o Wobr Wakelin', sydd yn Oriel Glynn Vivian tan 1af o Fedi, yn cyflwyno gwaith gan yr holl enillwyr hyd yma. O gofio dechreuadau di-nod y Wobr ac nad oes ganddi bwll diwaelod o arian, mae'r hyn a gyflawnwyd yn syfrdanol. Mae'r arddangosfa'n llenwi gofod mwyaf yr oriel ac yn gorlifo i'r landin y tu allan. Mewn cyfnod pan fo pwysau aruthrol ar yr arian sydd gan lawer o orielau cyhoeddus i brynu gweithiau, mae hyn yn dangos sut y gall un prosiect bach helpu oriel i gyflwyno celf gyfoes.
Y cerflunydd Robert Harding oedd yr enillydd cyntaf, yn y flwyddyn 2000, ac fe'i dewiswyd gan yr artist Glenys Cour. Soft Option oedd teitl y darn a brynwyd a bu'n ddigon hael i roi darn arall i fynd gydag ef, Rocking Bowl.
Bu cyfle i weld y gweithiau a brynwyd mewn arddangosfeydd bach a mawr dros y blynyddoedd ond dyma'r tro cyntaf iddynt gael eu dangos gyda'i gilydd. Mae'n rhyfeddol pa mor amrywiol yw'r artistiaid, y themâu a'r cyfryngau a ddefnyddiwyd.
Gair am Wobr Wakelin
Roedd fy rhieni, Richard a Rosemary Wakelin, ill dau'n artistiaid ac yn frwd iawn eu cefnogaeth i orielau a grwpiau artistiaid yn Abertawe. Aethant ati gyda Chymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru i sefydlu yr hyn sydd bellach yn Oriel Mission a stiwdios gerllaw i artistiaid, a buont yn weithgar yng Nghymdeithas Gelf Abertawe, Cyfeillion y Glynn Vivian a grwpiau eraill.
Pan fu fy mam farw yn 1998, roedden ni'n credu y byddai cronfa i gefnogi artistiaid a helpu'r Glynn Vivian i ddal i gasglu trwy brynu gwaith bob blwyddyn yn ffordd dda o'i chofio hi a fy nhad. Mae'r Wobr yn parhau er cof am fy mrawd Martin Wakelin, a fu farw yn 2012.
O dan y cynllun, mae elusen y Cyfeillion, mewn ymgynghoriad â staff yr oriel, yn gwahodd rhywun gwahanol bob blwyddyn i ymchwilio a dewis enillydd. Mae'n rhaid i'r enillwyr fod yn artistiaid neu'n grefftwyr o Gymru nad oes llawer o enghreifftiau o'u gwaith mewn casgliadau cyhoeddus hyd yma. Cafodd artistiaid, darlithwyr, curaduron a beirniaid celf y dasg o ddewis yn y gorffennol.
Enillwyr hyd yma
Cyfosodiad mawr iawn i'w osod ar wal yw Politics Eclipsed by Economics, darn o waith gan David Garner a brynwyd yn 2004. Mae'n fynegiant trawiadol iawn o'i gyfnod, ychydig ar ôl cau'r pyllau glo dwfn olaf yn y de. Fe'i gwnaed o ddarn o darpolin, menig gwaith a siacedi glowyr a gafodd eu bwrw i'r neilltu gan Glo Prydain cyn gynted ag y cawsant eu diosg gan y glowyr. Uwch eu pennau gwelir machlud o gydrannau electronig i gynrychioli'r diwydiannau newydd a addawyd i sicrhau dyfodol y Cymoedd.
Un o'r enillwyr ieuengaf hyd yma yw'r artist tecstiliau Cymreig-Ghanaaidd Anya Paintsil, a enillodd yn 2020, y flwyddyn y graddiodd mewn Celfyddyd Gain ym Manceinion. Daeth y wobr yn gynnar mewn gyrfa sydd wedi mynd o nerth i nerth – mae ei gwaith wedi'i arddangos yn rhyngwladol ac mae bellach i'w weld mewn nifer o gasgliadau ym Mhrydain, Ewrop ac America.
Mae sawl enillydd wedi teimlo bod y Wobr wedi rhoi hwb i'w gyrfa. Mae'r cerflunydd Jonathan Anderson wedi ysgrifennu: 'Newidiodd fy mywyd pan enillais Wobr Wakelin. Ar y pryd, roeddwn i'n ddi-waith mewn gwirionedd ac wedi bod ar y dôl ers tair blynedd… Roedd gwybod bod lle i fy ngwaith [yn yr oriel] yn ddigon i roi'r nerth yr oedd ei angen arnaf i ddod trwyddi. Pan gyhoeddwyd y canlyniad, diolch i dipyn o lwc a phobl garedig, roeddwn yn artist hunangyflogedig o fewn 24 awr a doedd dim rhaid imi fod ar y dôl mwyach.'
Er bod rhai artistiaid wedi ennill eu plwyf, doedd ganddynt ddim gwaith mewn casgliadau yn eu mamwlad cyn ennill y Wobr. Er enghraifft, cyn iddo ennill y Wobr yn 2018, doedd gan y ffotograffydd a'r gwneuthurwr ffilmiau adnabyddus Richard Billingham, sy'n byw yn Abertawe, ddim gwaith mewn unrhyw gasgliad Cymreig. Yr artist Laura Ford oedd y detholydd y flwyddyn honno. Er bod gan y paentiwr Dick Chappell waith yng nghasgliad David Bowie, nid oedd wedi'i gynrychioli yn yr un casgliad cyhoeddus cyn i'r deliwr celf Martin Tinney ei ddewis i ennill Gwobr Wakelin yn 2006.
Mae'r artistiaid buddugol yn gweithio mewn cyfryngau amrywiol iawn. Mae Dick Chappell yn un o nifer o baentwyr, yn eu plith David Tress yn 2001, Brendan Stuart Burns yn 2007, Catrin Webster (pennaeth Ysgol Gelf Aberystwyth erbyn hyn) a Clare Woods.
Ymhlith yr enillwyr eraill mae'r artist fideo Anthony Shapland, a ddewiswyd gan David Alston; y crochenwyr Philip Eglin, David Cushway, Ingrid Murphy a Meri Wells; yr artistiaid cysyniadol Alex Duncan, Tim Davies, Craig Wood a Cinzia Mutigli; a'r ffotograffwyr Pete Davis a Helen Sear.
Mae nifer o enghreifftiau o waith artistig Richard, Rosemary a Martin Wakelin wedi'u cynnwys ar ddiwedd yr arddangosfa. Cafodd Martin ei hyfforddi'n bensaer tirlunio a bu'n gweithio ar gynlluniau ledled Essex, yn cynnwys ail-greu gerddi Tuduraidd yn Cressing Temple.
Daeth Richard a Rosemary o dan ddylanwad Op Art, yn enwedig trwy Kenneth Martin a Jeffrey Steele yn Ysgol Haf y Barri o 1968 ymlaen, ac roeddent yn gwneud gwaith manwl gan ddilyn systemau mathemategol.
Pan wnaethom fraslun o'r cynllun pwrcasu yn 1998, roeddem yn meddwl y gallai'r arian bara am bum neu ddeng mlynedd ond, diolch i ymdrechion y Cyfeillion a'r oriel i ychwanegu at yr adnoddau, a gyda thipyn o arian ychwanegol er cof am Martin, mae Gwobr Wakelin yn dal i ffynnu. Gobeithio y gallwn gyhoeddi gwobr arall cyn i'r arddangosfa ddod i ben.
Peter Wakelin, awdur, curadur a Chynghorydd i Wobr Wakelin
Roedd 'Dathlu 25 mlynedd o Wobr Wakelin', mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian, yn Oriel Gelf Glynn Vivian o 23ain Ebrill tan 1af o Fedi 2024
Cyfiethiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru