'GWRANDEWCH: Rwyf wedi dod o hyd i'm nghynefin. Ni allwn fwyta: ni allwn feddwl yn glir; felly des i i'r lle unig hwn a gorwedd dan yr haul,' – Brenda Chamberlain, Tide-Race

Pan symudodd Brenda Chamberlain i Ynys Enlli ym 1947, fe wyddai bod hwn yn benderfyniad y byddai'n newid ei bywyd. Roedd yr artist yn hen gyfarwydd â byw bywyd ynysig – bu'n byw ym mhentref bychan Llanllechid yn Eryri ers 1936 – ond byddai Ynys Enlli hyd yn oed yn fwy ynysig. Mae'r ynys allan ym Môr Iwerddon, sawl milltir oddi ar arfordir Llŷn yng Ngwynedd. Roedd y daith i Ennli yn aml yn arw ac yn beryglus, ac roedd colli cysylltiad â'r tir mawr am sawl diwrnod yn beth cyffredin i drigolion yr ynys. Ond fe deimlodd dynfa i'r lle – cafodd ei swyno gan ei harddwch digyfaddawd a'r cyfle am gychwyn newydd. Fe arhosodd yno am 14 blynedd, gan anfarwoli bywyd yr ynys drwy ddarluniau, paentiadau a'i nofel, Tide-Race, a gyhoeddwyd ym 1962. O'r man unig hwn ar ddibyn Cymru daeth hi'n artist adnabyddus.

Self Portrait on Garnedd Dafydd

Self Portrait on Garnedd Dafydd 1938

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Fe anwyd Chamberlain ym Mangor ym 1912, ac fel merch fe ddatblygodd angerdd dros ysgrifennu a chelfyddyd gain. Aeth i Ysgolion Academi Frenhinol Llundain i astudio celf o 1933 i 1936. Ar ôl graddio, fe ddychwelodd i Gymru gyda'i gŵr, John Petts, ac ymgartrefodd y ddau yma gyda'r nod o greu bywyd creadigol, tawel ymhlith y mynyddoedd. Mae ei gwaith trawiadol Hunanbortread ar Garnedd Dafydd (1938) yn dangos ei thalent gynnar. Mae'r artist yn wynebu'r gwyliwr penben, gan ddal ei phen yn uchel, a gyda'i gwallt golau yn chwythu nôl oddi ar ei hwyneb. Mae'n bortread campus, wedi'i fodelu'n ofalus ond yn hyderus, ac yn cyfleu egni llonydd. Mae'r dyffryn i'w weld yn y cefndir, gyda'r afon yn disgleirio yn yr heulwen, ond Chamberlain yw'r ffocws. Roedd lleoedd dramatig yn apelio iddi, ond ei phrofiadau personol hi yn y lleoedd yma sy'n ganolog i'w gwaith.

Brenda Chamberlain by Candlelight

Brenda Chamberlain by Candlelight 1939

John Petts (1914–1991)

Glynn Vivian Art Gallery

Yn Llanllechid, fe sefydlodd Chamberlain a Petts Wasg y Gaseg. Fe gyhoeddodd Chamberlain ei cherddi yn Argrafflenni'r Gaseg, a lansiwyd gyda'r bardd Alun Lewis, ac fe gynhyrchodd dorluniau pren a leino pwerus i gyd-fynd â'i cherddi. Ond prin iawn y bu'n paentio ac fe amharodd gychwyn y rhyfel - a'i hysgariad - ar ei gwaith. Dim ond ar Ynys Enlli aeth ati go iawn i baentio unwaith eto.

Chapel and Ruined Abbey, Bardsey

Chapel and Ruined Abbey, Bardsey 1949

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Bangor University

Mae Capel ac Adfeilion Abaty, Ynys Enlli, o 1949, yn dangos rhai o'r elfennau a ddenodd hi at yr ynys. Yn gyntaf, y lliwiau: y dafnau o las, gwyrdd a melyn, mewn gwrthgyferbyniad â phiwswyn-llwyd tawel y capel a fflachiadau o wyn yr adfeilion, a'r gwythiennau o baent pinc a choch sy'n rhedeg trwy'r cyfansoddiad. Syfrdanwyd Chamberlain yn aml gan liwiau dwys tirwedd yr ynys, a ymddangosai'n foel o bell. Ar ôl cyflwyno'r abaty yn Tide-Race, mae hi'n disgrifio'r olygfa:

'Glannau creigiog; clogwyni glas fel cregyn gleision. Coch fel gwin, pinc oer, gwyn pur, melyn a gwyrdd. Yr ewyn wrth droed y waliau lliwgar. Lliwiau'n cyfleu delweddau, delweddau'n cyfleu geiriau. Wal o feini iasbis, tŵr o gwartsit. Sut gall clogwyn cyffredin fod yn wal o feini iasbis?'

Ynghlwm i werthfawrogiad Chamberlain o'r dirwedd oedd ei diddordeb yn hanes yr ynys. Mae abaty'r Santes Fair yn dyddio nôl i'r chweched ganrif; yn honedig mae esgyrn 20,000 o seintiau wedi'u claddu ar yr ynys ac mae wedi bod yn safle pererindodau am ganrifoedd. Fe deimlodd Chamberlain gysylltiad at yr ymwelwyr hynafol hyn ac fe blethodd ei chwedlau hwy gyda'i mytholeg bersonol ei hun. 'Fe safai cerrig y mynachdy… fel symbol o'r ysbryd dynol, nid yn unig o ffydd grefyddol, ond o ddihangfa hefyd.'

Ond nid oedd bywyd ar Ynys Enlli yn hawdd. Byddai Chamberlain a Jean Van der Bijl (ei phartner yno) yn byw oddi ar y tir, yn pysgota, ffermio ac yn chwilota am wyau ar y clogwyni. Fe baentiodd pan fyddai ychydig o amser rhydd ganddi. Roedd y gymuned leol yn un fechan, clos, yn llawn tensiynau cymdeithasol y byddai Chamberlain yn eu cyfleu'n lliwgar yn Tide-Race (er fawr siom i'w chymdogion; fe wnaed yn glir iddi ar ôl cyhoeddi'r llyfr na fyddai croeso iddi ar yr ynys eto). Ond er gwendidau'r ynys, fe deimlodd yn rhan o fywyd Enlli. Mae ei phaentiadau yn fwy symbolaidd yn eu tôn, yn talu teyrnged i waith ac urddas y cymunedau pysgota.

The Fisherman's Return

The Fisherman's Return 1949

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Yn Dychweliad y Pysgotwr (1949) mae hi'n portreadu dau ddyn yn hamddenol ar fôr tawel, gyda'u dalfa wrth eu traed, a chwch arall yn eu dilyn. Mae Chamberlain yn defnyddio'r lliwiau solet a llinellau tywyll o'i dyddiau o argraffu, ac mae gan y ffigyrau nodweddion clasurol – wynebau hirgrwn a llygaid siâp almon – a ddaeth yn nodweddiadol yn ei gwaith. Mae hi'n gwneud defnydd da o wead: mae'r môr glaslwyd yn effro gyda gwaith brws brith, a'r clogwyn gwyrdd yn olau ac yn wastad ar y gorwel mewn tawch atmosfferig.

Children on the Seashore

Children on the Seashore 1950

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Yn Plant ar Lan y Môr (1950) mae Chamberlain yn paentio pedwar ynyswr ifanc ar draeth o dywod gwyn, a phumed plentyn yn rholio cylch yn y cefndir. Fe ysgrifennodd yr olygfa cyn ei phaentio, gan drawsgrifio'r geiriau ar y cynfas ar linellau fertigol: 'Mae'r plant ifanc yma o stoc Iberaidd tywyll', fe arsylwa. 'Trwy wyntoedd mae eu gwallt du yn sefyll allan yn anystwyth, fel petai ryw fath o wymon dros eu pennau. Y mae ar eu hwynebau olwg caeedig eu hoedolion, gan na wyddant ddim o bleserau a rhyfeddodau plentyndod sydd yn gyffredin yn ardaloedd mwy gwaraidd y ddaear, lle mae mamau'n fwy amddiffynnol.'

Nid oes traeth o dywod ar Ynys Enlli; yn ei phaentiadau a'i gwaith ysgrifenedig byddai Chamberlain yn aml yn cyfuno ffaith a ffantasi er mwyn mynegi'r emosiynau a'r cysylltiadau y byddai digwyddiadau yn ennyn ynddi.

Wrth i hyder Chamberlain gynyddu, felly hefyd wnaeth cydnabyddiaeth y cyhoedd. Ym 1951, fe enillodd y Fedal Aur ar gyfer Celfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer Merch gyda Chath Siamaidd (1951). Byddai hi'n ennill unwaith eto dwy flynedd yn ddiweddarach. Mae'r gwaith enigmatig yn portreadu un o gymdogion Chamberlain wrth fwrdd, yn siglo cath yr artist yn ei breichiau. Mae'r ddau'n edrych allan i bwynt y tu hwnt i'r ffrâm, a'r ddau'n bell eu meddwl, tra bod y ffenest tu cefn iddynt ar agor ac yn dangos tirwedd fryniog werdd ac awyr las. Mae'r paentiad yn llawn lliw, patrwm a gwead, wedi'i amrywio'n ofalus i greu cyfanwaith cydlynol.

Girl with a Siamese Cat

Girl with a Siamese Cat 1951

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Yn annisgwyl, dros amser byddai bywyd ar Ynys Enlli yn ailgysylltu Chamberlain gyda'r byd. Ym 1950 fe gafodd ei sioe unigol gyntaf yn Gimpel Fils yn Llundain, gan ailgynnau ei diddordeb mewn celf avant-garde. Fe dreuliodd cyfnodau oddi ar yr ynys yn aml, ac ym 1951 ymwelodd â Ménerbes, Ffrainc, lle'r oedd wrth ei bodd yn yr amgylchedd heulog. Yno y cyfarfu ei chyd-artist Dora Maar. Pan ddychwelodd i Gymru, fe baentiodd bortread myfyriol: Dora Maar – Interieur Provencal (1952).

Mae ffigwr gwelw Maar fel petai'n cael ei warchod gan ei chadair ac mae'r manylion domestig lliwgar – y dodrefn, y papur wal a'r fowlen o wylysiau sgleiniog – yn bywiogi'r olygfa dawel.

Dora Maar – Intérieur Provençal

Dora Maar – Intérieur Provençal 1952

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Glynn Vivian Art Gallery

Roedd Maar yn byw bywyd meudwyaidd yn Ménerbes ar ôl i'w pherthynas â Picasso chwalu. Efallai deimlodd Chamberlain gysylltiad, gan yr oedd hithau hefyd angen byw ymhell o bawb a phopeth. 'Fe ddychwelais i fy ngharchar ar y graig,' dwedodd ar ôl ei thaith, 'popeth wedi fy ngadael ond am fy uchelgais i lwyddo fel artist. Dim ond mewn carchariad gwirfoddol ydw i'n llwyddo i ymafael â phrofiadau poenus.'

Dora Maar Seated (Dora Maar Assise)

Dora Maar Seated (Dora Maar Assise) 1938

Pablo Picasso (1881–1973)

Tate

Ar ddiwedd y ddegawd, fe drodd ffocws creadigol Chamberlain yn ôl at yr ynys wrth iddi baratoi i gyhoeddi Tide-Race. Yn benodol fe drodd ei sylw at bŵer y môr – ei ddylanwad enfawr ar ei bywyd hi ar yr ynys, a'i allu i ddinistrio. 'Dw i wedi byw am flynyddoedd mewn byd o ogofâu halen, o esgyrn glân a cherrig bychain esmwyth,' cydnabyddai. 'Fe gychwynnais baentio dyn yn boddi mewn dŵr halen, na fyddai fyth yn dianc yn llwyr o'r golwg.'

Mae Craig-Ddyn (1962) yn ymgorffori arddull newydd a phwerus a ddaeth i'r amlwg unwaith iddi ganiatáu i'r môr ddod allan yn ei gwaith celf. Mae'r darn, sydd wedi'i baentio mewn tonau llwyd a brown ac yn dangos marciau bychain, yn awgrymu ar yr un pryd, corff, darn o garreg a map o ynys sydd wedi'i hamgylchynu â chreigiau ac ewyn môr. 'Mae'r rhain ymhell o fod yn baentiadau haniaethol', mynnodd Chamberlain. 'Maent yn ddarnau o graig grawennog, yn goes arfog wedi'i rhwymo mewn silt, yn lwynau corff sydd wedi newid yn raddol i bont garreg, yn gorff clwyfedig, gorllanw sy'n codi i fyny waliau ogof i gorneli pellaf y mae storm wedi gwreiddio esgyrn'.

Man Rock

Man Rock 1962

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Roedd y paentiadau hyn yn benllanw cyfnod Chamberlain ar Ynys Enlli; hyd yn oed wrth iddi weithio arnynt, fe synhwyrai ei bod hi'n amser iddi adael yr ynys. Ym 1962, bu arddangosfa unigol o'i gwaith i gyd-fynd â chyhoeddi Tide-Race, cyn iddi deithio i'r Canoldir, ble y daeth ar draws ynys heulog Hydra. Unwaith eto fe deimlai tynfa i greu cartref ar ynys, ac fe symudodd yno ac arhosodd yno tan i wrthryfel 1967 fynnu ei bod yn dychwelyd, yn ddigalon i Fangor.

'Ym 1962, ges i ddim dewis ond i gydnabod bod fy mywyd ar Ynys Enlli yn dirwyn i ben', dywedodd Chamberlain unwaith, 'ond roedd y rhain yn flynyddoedd ffurfiannol, ac fe wyddwn y byddai'r ynys ynof am byth - a waeth beth fyddai fy ffawd wedyn, ni ddylwn fyth golli cysylltiad â'r realiti ges i o'r ynys.'

Maggie Gray, hanesydd celf ac awdur

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg