Ar gyfer cyfres Art UK 'Bod yn...' ry'n ni'n cymryd cipolwg ar ddiwrnod ym mywyd person proffesiynol neu wirfoddolwr sy'n gweithio yn sector y celfyddydau, treftadaeth neu amgueddfeydd.

Beth yw eich rôl chi?

Fi yw Swyddog Cadwraeth Oriel Glynn Vivian Cyngor Abertawe. Swydd ran amser yw hi, dau ddiwrnod yr wythnos, ac fel rheol rydw i'n gweithio ar ddydd Mercher a dydd Iau. Fy rôl i yw gofalu am gasgliad parhaol y Glynn Vivian, sef tua 12,000 o weithiau celf sy'n cynnwys peintiadau îsl, darluniau, printiau, serameg, gweithiau ar bapur, cerfluniau, tecstiliau a mwy.

Jenny Williamson wrth ei gwaith yn samplo

Image credit: Glynn Vivian Art Gallery

Jenny Williamson wrth ei gwaith yn samplo

Cafodd yr Oriel, a agorwyd yn 1911, ei hadeiladu trwy gymynrodd gan Richard Glynn Vivian i fod yn gartref i'w gasgliad o weithiau celf 'er mwynhad trigolion Abertawe'. Rydw i'n arbenigwr ym maes cadwraeth peintiadau îsl. Byddaf yn cynnal gwiriadau rheolaidd ar gyflwr gweithiau celf, yn ailfowntio a fframio gweithiau, yn monitro'r golau, y tymheredd a'r lleithder yng ngofodau'r Oriel, tra hefyd yn diogelu ac adnewyddu gweithiau celf – tasg sydd weithiau'n cymryd misoedd, neu flynyddoedd hyd yn oed, i'w chwblhau.

Beth yw eich trefn arferol yn y bore?

Rydw i'n codi am 6.30 y bore ac yn cael dishgled gyflym o de, ac erbyn 7 o'r gloch rydw i yn y car yn barod i fynd.

Sut byddwch chi'n teithio i'r gwaith?

Mae gen i daith ddwy awr yn y car o 'nghartref i'r gwaith, drwy gefn gwlad hyfryd canolbarth Cymru – rydw i wrth fy modd gyda Radio 4, ac yn mwynhau gwrando ar y rhaglen Today i ddala lan gyda'r newyddion a materion y dydd.

Beth yw bore nodweddiadol i chi yn y gwaith?

Y dasg gyntaf yw delio gydag ebyst. Fel arfer, maen nhw'n gymysgedd o ebyst cyffredinol, ceisiadau i fenthyca eitemau, diweddariadau oddi wrth y gwyddonwyr, ebyst rhwydweithiau proffesiynol, a gohebiaeth ynghylch cyfarfodydd. Yna rydw i'n cael sgwrs anffurfiol gydag aelodau eraill o'r staff i weld a oes angen rhoi sylw brys i unrhyw beth – gall hynny gynnwys y rheolyddion amgylcheddol, unrhyw broblemau sydd wedi codi, ac ymweliadau gan ymchwilwyr.

Wedyn byddaf yn mynd i'm stiwdio i ddechrau ar waith cadwraeth y dydd. Fy mhrosiect hir-dymor fwyaf ar hyn o bryd yw Gwledd Belshazzar, peintiad a wnaed yn Fenis yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac a briodolir i un o ddilynwyr Paolo Veronese (1528–1588). Cyflwynwyd y peintiad i'r Oriel yn 1920 gan John Dyer, dyn busnes cyfoethog o Abertawe a oedd wedi gwneud ei ffortiwn fel masnachwr blawd, ac mae'n un o'r peintiadau Eidalaidd cynnar pwysicaf yn y casgliad.

Belshazzar's Feast

Image credit: City & County of Swansea: Glynn Vivian Art Gallery Collection

Belshazzar's Feast

Paolo Veronese (1528–1588) (follower of)

Glynn Vivian Art Gallery

Ar hyn o bryd rydw i yn y broses o gynnal atgyweiriad llawn o'r peintiad, ac rydyn ni hefyd yn cynnal archwiliadau gwyddonol a thechnegol i ddarganfod mwy amdano, dulliau'r artist o weithio, a'r deunyddiau a ddefnyddid. Ar gyfer yr archwiliad gwyddonol, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n archwilio samplau pitw bach o baent gan ddefnyddio amryw o dechnegau gwyddonol, gan gynnwys microscopeg electronau, Spectromeg Pelydr-X a microscopeg Raman.

'Belshazzar's Feast' during treatment (detail showing cleaning test)

Image credit: Glynn Vivian Art Gallery

Gwledd Belshazzar (manylyn) yn ystod y driniaeth cadwraeth

16eg ganrif, olew ar gynfas, priodolwyd i un o ddilynwyr Paolo Veronese (1528-1588)

Rydyn ni hefyd yn cydweithio gydag Amgueddfa Cymru lle tynnwyd delwedd pelydr-X o'r peintiad yn ddiweddar, a'i archwilio gydag adlewyrcheg is-goch. Gall adlewyrcheg is-goch ddatguddio tan-luniau yn seiliedig ar garbon, sy'n aml o'r golwg o dan haenau tenau o baent. Gall hyn helpu yn y gwaith o adnabod yr artist, eu techneg, a'r broses a ddefnyddid ganddynt wrth beintio.

'Belshazzar’s Feast' before treatment

Image credit: Glynn Vivian Art Gallery

Gwledd Belshazzar cyn y driniaeth cadwraeth

16eg genrif, olew ar gynfas, priodolwyd i un o ddilynwyr Paolo Veronese (1528-1588)

'Belshazzar's Feast' after varnish removal

Image credit: Glynn Vivian Art Gallery

Gwledd Belshazzar ar ôl cymryd y farnais i ffwrdd

16eg genrif, olew ar gynfas, priodolwyd i un o ddilynwyr Paolo Veronese (1528-1588)

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn rhoi sylw manwl i gofnodi'r broses atgyweirio ar gyfer arddangosfa rydym yn ei chynllunio ar gyfer 2026. Bydd yr arddangosfa'n cynnwys y peintiad, ffotograffau o'r broses adnewyddu, gwybodaeth am y deunyddiau a'r technegau a ddefnyddiwyd i greu'r peintiad, a manylion o ble y daeth y pigmentau, gan ffocysu'n arbennig ar y mwyngloddiau ac amgylchiadau gwaith y mwynwyr.

Beth sydd i ginio?

Fel arfer, rydw i'n cerdded i ganol dinas Abertawe i wneud ychydig o siopa bwyd, ac yn bwyta brechdan wrth fy nesg.

Beth yw prynhawn nodweddiadol i chi?

Ar ôl cinio rydw i'n ôl yn y stiwdio. Fel arfer, dwi'n gweithio ar Gwledd Belshazzar, ond ar hyn o bryd mae gen i beintiad arall yn y stiwdio sydd â mwy o frys amdano, felly dwi'n rhoi blaenoriaeth i hwnnw. Peintiad mawr yw e o'r enw Ceridwen, gan Christopher Williams, a fydd yn cael ei gynnwys yn yr arddangosfa 'Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain' yn Oriel Gelf Glynn Vivian ym mis Mai 2025.

Ceridwen

Image credit: City & County of Swansea: Glynn Vivian Art Gallery Collection

Ceridwen

Christopher Williams (1873–1934)

Glynn Vivian Art Gallery

Rydw i newydd ddechrau ar y gwaith o archwilio, dogfennu, a thynnu ffotograffau o'r peintiad cyn i mi ddechrau ei drin. Caiff yr arddangosfa ei chyd-guradu gyda'r curadur annibynnol Zehra Jumabhoy, ac mae iddi elfennau hanesyddol a chyfoes sy'n archwilio'r gorffennol tra hefyd yn llunio'r dyfodol.

Mae'n rhoi lle amlwg i ymarferwyr sydd wedi eu lleoli yng Nghymru ochr yn ochr â chelf o Dde Asia a'i halltudion. Bydd y sioe yn cyfosod traddodiadau celfyddydau cain hanesyddol De Asia (a gasglwyd o'r cyfarfyddiad Ymerodrol) ochr yn ochr â chelf ac arteffactau o'r cyfnod trefedigaethol, â pheintiadau modern a chyfoes, gosodiadau cerfluniol, a chyfryngau newydd. Daw'r gweithiau celf o ffynonellau megis casgliadau preifat a chenedlaethol, yn ogystal â thrwy gomisiynau arbennig.

Beth fyddwch chi'n ei wneud ar ôl gwaith?

Ar nos Fercher rydw i'n aros gyda ffrind yn Abertawe; byddwn ni'n coginio swper gyda'n gilydd ac ambell waith yn mynd i weld ffilm. Yna ar ddydd Iau rydw i'n gyrru'n ôl i Aberystwyth ac yn mwynhau mynd i Ganolfan y Celfyddydau ar gyfer ffilm, cerddoriaeth neu theatr.

Jenny Williamson in the Glynn Vivian's Indigo display, 2022

Image credit: Glynn Vivian Art Gallery

Jenny Williamson in arddangosfa Indigo y Glynn Vivian, 2022

Jenny Williamson, Swyddog Cadwraeth, Oriel Gelf Glynn Vivian

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Mae 'Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain' yn agor yn Oriel Gelf Glynn Vivian ym mis Mai 2025.

Ydych chi'n gweithio neu'n gwirfoddoli yn sector y celfyddydau, treftadaeth neu amgueddfeydd? A fyddech chi'n fodlon rhannu enghraifft o ddiwrnod gwaith nodweddiadol ar gyfer ein cyfres 'Bod yn...'? Cysylltwch ag Art UK ar pitches@artuk.org – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.