Rydyn ni'n cyfeirio'n aml at Gymru fel gwlad y gân a'r bardd, ac rydyn ni'n meddwl am Dylan Thomas (neu efallai Gwyneth Lewis a ysgrifennodd y geiriau trawiadol sydd ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru), am Shirley Bassey, Tom Jones, Cerys Matthews a Catatonia, y Manics a Bryn Terfel. Ond beth am gelfyddyd Cymru? Gofynnwch i rywun ar y stryd enwi artist neu ddau o Gymru ac mae'n debyg y byddent yn cael trafferth.
Wales Millennium Centre Façade
2005 or before
Percy Thomas Partnership
Mae hyn yn wir er gwaethaf ymdrechion y cyflwynydd Huw Stephens yng nghyfres y BBC The Story of Welsh Art, a ddarlledwyd ledled Prydain yn 2021. Dyna ddigwyddodd 75 mlynedd ynghynt hefyd i David Bell (1915–1959), oedd yn hanu o Lundain, pan ddaeth yn un o dri aelod allweddol o staff yn swyddfa'r sefydliad newydd, Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr, yng Nghaerdydd. Ei gyfrifoldeb (a'i angerdd mawr) ef oedd meithrin celfyddyd yng Nghymru, ac roedd yn un da i wneud hynny. Roedd wedi hyfforddi yn y Coleg Celf Brenhinol ac roedd yn hynod o falch o'i dras Gymreig.
Er ei fod yn artist, daeth yn fwy adnabyddus yn ystod ei fywyd byr am fod yn drefnydd arloesol arddangosfeydd Cyngor y Celfyddydau oedd yn teithio drwy Gymru, yn guradur llawn amser cyntaf Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, ac am fod yn awdur The Artist in Wales (1957) – llyfr oedd wedi torri tir newydd. Ond, mae ei baentiadau o'i fywyd pob dydd yn rhoi cipolwg ychwanegol i ni ar ei feddwl a'i gymeriad. Yn bennaf, portreadau a thirluniau yr oedd wedi eu profi'n uniongyrchol ac yn ddwys yw'r rhain. Felly, roedden nhw'n rhan o'i 'gysylltiad â'r amgylchedd' yr oedd Bell yn ei deimlo ac yn ei annog yn ddiflino er mwyn diffinio a datblygu peintio Cymreig cyfoes.
Mae ei baentiad olew o'r bardd a'r nofelydd T. Rowland Hughes tua 1947 yn un o'r portreadau gwrywaidd gorau a wnaeth. Mae dwylo a gwyriad pen Hughes yn cyfleu sensitifrwydd a rhyw elfen fregus arbennig. Roedd Bell a Hughes ill dau yn anabl, a bu farw'r ddau yn eu 40au. Gellid teimlo'r affinedd rhwng y ddau a oedd yn rhannol yn codi o gariad dwfn Bell tuag at farddoniaeth. Ei hoff fardd oedd Keats ac roedd ei dad, Syr Idris Bell, ac yntau wedi cydweithio i gyfieithu gwaith Dafydd ap Gwilym yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Efallai mai ei bortread benywaidd gorau yw hwnnw o'r academydd o Rydychen Miss Barbara Flower, a fu hefyd farw yn ei 40au. Roedd y peintiwr a'r eisteddwr yn nabod ei gilydd drwy eu tadau oedd yn gydweithwyr yn y British Museum. Cafodd y portread ei baentio yn yr 1930au, naill ai pan oedd Bell yn fyfyriwr celfyddyd neu'n fuan wedyn. Mae'n darlunio Flower fel rhywun ysgolheigaidd a – diolch i'w ffrog liwgar hyfryd – yn llawn ysbryd. Roedd hi ag Elisabeth Rosenbaum wedi cyfieithu'r llyfr coginio cyntaf, a chafodd y cyfieithiad ei gyhoeddi wedi iddi farw fel Apicius: The Roman Cookery Book (1958). Roedd Barbara ac Elisabeth wedi rhoi cynnig ar y ryseitiau drwy eu bwydo i'w cydweithwyr yn Rhydychen.
Mae'r tirluniau y mae David Bell yn eu cynhyrchu yn ei waith yn rhai o'r Gymru yr oedd ef yn ei hadnabod. Mae Cwm Rheidol, Aberystwyth (1940au) yn cyfuno'r diwydiannol – y gwaith nwy – gyda'r gwledig. Roedd hwn yn fath newydd o harddwch y dysgodd ei werthfawrogi fwy a mwy diolch i'w gysylltiad â Josef Herman – artist a ffoadur a ddaeth yn adnabyddus am ei ddarluniadau Mynegiadol o lowyr Cymreig. Dangosodd Bell waith Herman yng Nghymru ac ysgrifennodd amdano.
Mae estheteg wahanol i'w gweld yn Y Gwanwyn yn West Cross (c.1953), yr olygfa gyferbyn i gartref teulu Bell – oedd wedi ei orchuddio â theils teracota – ar draws Bae Abertawe heulog. Mae ganddo naws Cyfandirol sy'n atgoffa rhywun o'i gariad at waith Cézanne. Mae'n atgoffa rhywun hefyd o'r tirluniau Ffrengig eu naws o Ogledd Cymru gan yr anffodus J. D. Innes a'r mawrdrwst Augustus John, brawd yr artist mwy adnabyddus Gwen John, y dywedodd Bell ei bod yn ffigur allweddol yn The Artist in Wales.
I'r gwrthwyneb, daeth ei olynydd yn y Glynn Vivian, Kathleen Armistead (1902-1971), â'i hydeimledd ei hun i ddylanwadu ar y sîn gelf yng Nghymru yn yr 1960au – degawd mwy rhydd ei natur. Roedd hi'n hanu o Leeds ac roedd hi wedi hyfforddi fel pianydd yn Llundain yn wreiddiol. Hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn guradur llawn amser yng Nghymru ac roedd hi'n lesbiad – tipyn o her mewn proffesiwn oedd yn geidwadol a gwrywaidd i raddau mawr. Ei nod oedd ymestyn y math o gelfyddyd gyfoes oedd yn cael ei gwneud yng Nghymru, neu oedd yn dod i mewn i Gymru.
Roedd hi'n arbennig o sensitif i gyfatebiaethau rhwng cerddoriaeth a haniaeth. Mae hyn i'w weld yn y gwaith a chasglodd i'r oriel. Er enghraifft, yn La cathédrale engloutie III gan Ceri Richards, a hyfforddwyd yn Ysgol Gelf Abertawe a'r Coleg Celf Brenhinol, rydym yn wynebu synthesis wedi'i fodiwleiddio'n gynnil o liwiau glas melfedaidd ac wmber cyfoethog cerddoriaeth Debussy, sy'n adlewyrchu cariad y peintiwr at liw ac arfordir Cymru. Yn debyg i Armistead, roedd Richards yn bianydd dawnus a daeth y ddau o gefndir diwydiannol, dosbarth gweithiol. Erbyn yr 1960au, roedd Richards yn ymddiriedolwr i'r Tate Gallery.
Enghraifft arall yw'r gwaith mewn efydd, Anima — Curved Form with Inner Form (1959) gan fenyw arall o Swydd Efrog, Barbara Hepworth. Mae'r siâp benywaidd (roedd Hepworth yn fam i dripledi) a chysyniadau Jung yn sail i'r gwaith hwn – ac mae'n tynnu ysbrydolaeth o'r môr hefyd, y môr Cernywaidd o amgylch St Ives. Hefyd, cafodd Armistead afael ar gerflun mawreddog, rhyweddhylifol o'r enw Angel Torso gan Jacob Epstein a grëwyd yn 1923 ac a gafodd ei gastio yn 1961.
Fel Bell, roedd gan Armistead gysylltiadau proffesiynol yn Llundain ond roedd yn awyddus i annog artistiaidoedd wedi eu seilio yng Nghymru. Un o'r rhain oedd Colin Jones. Yr oedd hi wedi prynu ei waith Angladd, Merthyr (1965) gan Oriel Dillwyn – oriel fasnachol yn Abertawe, a gafodd ei lansio gan dair menyw leol hynod fentrus yn 1962. Yn y gwaith hwn, gallwn weld dylanwad y lleol (a dylanwad Ceri Richards) ond hefyd ddylanwad gwaith o gyfandir Ewrop (fel paentiadau Nicholas de Staël).
Roedd Armistead yn awyddus i gyflwyno moderniaeth ryngwladol yng Nghymru ac rydym yn gweld hyn, er enghraifft, mewn cerflun gan yr artist o Gymru, Peter Nicholas dan y teitl Torso i Dywysog Marw (caffaelwyd yn 1967) a darluniadau gan Eric Malthouse o'r 1950au ymlaen. Roedd Malthouse yn dod o Birmingham, a chafodd swydd Richards ar ei ôl yn Ysgol Gelf Caerdydd yn 1944. Wedi hynny, amsugnodd elfennau o giwbiaeth a chelf Ysgol St Ives oedd â dylanwad rhyngwladol. Roedd yn un o sylfaenwyr y 56 Group – grŵp avant-garde a arddangosodd yn yr oriel yn 1960. Mae'r dull newydd hwn yn amlwg yn y darnau diweddarach o waith a gaffaelwyd, fel y paentiad egnïol Orion (1966) gan Eric Malthouse.
Yn yr 1950au a'r 1960au – ac er gwaethaf popeth oedd yn sefyll yn eu herbyn – gweddnewidiodd David Bell a Kathleen Armistead gynhyrchiad celf a gwerthfawrogiad o gelf yng Nghymru. Trwy wneud hynny, cyfrannodd y ddau yn sylweddol i'r broses ehangach o feithrin hyder Cymreig newydd. Yn 1955, daeth Caerdydd yn brifddinas Cymru, yn 1964 cafodd y wlad ei Swyddfa Gymreig a, thair blynedd yn ddiweddarach, ganed Cyngor Celfyddydau Cymru.
Ac eto, yn y degawdau dilynol, aeth y ddau guradur arloesol hyn yng Nghymru ar goll am gyfnod yn y dryswch o ehangiad a newid cyflym mewn arferion, defnydd a churadu celfyddydol a ddilynodd. Yn ogystal, nid oedd y pleidio dros foderniaeth a wnaeth Bell ac Armistead yn alinio â'r model o ddiwylliant gweledol gwrth-sefydliadol amgen a ddatblygodd dros y 40 mlynedd diwethaf dan ddylanwad gwaith ysgrifenedig dylanwadol Peter Lord am gelfyddyd Cymreig.
Mae'n bwysig iawn ein bod yn cofio am y pâr eofn yma. Wedi'r cwbl, mae Cymru'n genedl artistig hanesyddol a modern.
Ceri Thomas, artist, hanesydd celf a churadur
Roedd yr arddangosfa, 'Siapio Cymru: Armistead a Bell' yn Oriel Gelf Glynn Vivian o 13eg Mai hyd 12fed Tachwedd 2023
Cyfiethiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Ceri Thomas, Shaping Art in Wales: David Bell, Kathleen Armistead and the Modern Artist, H'mm Foundation, 2023